Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor Llangefni/Zoom, Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Mercher, 18fed Medi, 2024 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Committee Room, Council Offices, Llangefni and virtually via Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 131 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor a gynhaliwyd ar :-

 

·          20 Mawrth 2024

·          21 Mai 2024

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor a chadarnhawyd eu bod yn gywir, fel a ganlyn:-

 

  Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2024

  Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mai 2024

 

3.

Datblygiad Aelodau pdf eicon PDF 6 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu Adnoddau Dynol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu ar y Rhaglen Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Aelodau Etholedig 2024/25.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu a Hyfforddi ar y Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2024/2025 a oedd wedi’i gynnwys fel Atodiad 1 yn yr adroddiad. Dywedodd bod y Cynllun yn parhau i gael ei rannu’n gategorïau, h.y. Hyfforddiant Mandadol; Ychwanegol; Iechyd a Llesiant; Ar gais a Modiwlau E-ddysgu sydd ar gael ar y Llwyfan E-ddysgu, y Gronfa Ddysgu. Dywedodd fod 37 o sesiynau datblygu wedi cael eu cynnig i Aelodau Etholedig hyd yma ers mis Ebrill 2023. Er mwyn lliniaru a blaenoriaethu’r hyn a gynigir i aelodau etholedig mae 22 llai o sesiynau wedi eu cynnig o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

 

Cyfeiriwyd at Atodiad 2 yn yr adroddiad sydd yn amlygu nifer yr aelodau a dderbyniodd wahoddiadau i fynychu hyfforddiant a faint o aelodau a fynychodd y sesiynau mewn gwirionedd. Nododd fod yr angen i fynychu hyfforddiant gorfodol yn cael ei bwysleisio, ond mae presenoldeb yn y sesiynau hyn yn is nag y dymunir. Mae hyn serch bod nifer o ddigwyddiadau sy’n amrywio o ran eu ffurf a’u hamseriad yn cael eu cynnig, h.y., wyneb yn wyneb, rhithwir a sesiynau gyda’r nos. Nid yw’r aelodau hynny sydd heb fynychu hyfforddiant wedi derbyn gwybodaeth sy’n allweddol iddynt er mwyn cyflawni eu rôl ac mae hynny’n creu pryder penodol. Rhaid cydnabod hefyd bod y sefyllfa’n effeithio ar ymdrechion i ddatblygu’r rhaglen ehangach oherwydd yr angen parhaus i drefnu sesiynau ychwanegol ar gyfer cyrsiau a ddarparwyd yn barod.

 

Dywedodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu hefyd fod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda’r Gwasanaethau Democrataidd, ar gais y Pwyllgor Safonau, ynglŷn â llunio Cynllun pwrpasol ar gyfer Arweinyddion Grwpiau ac mae hyn yn cael ei amlygu yn yr adroddiad. Mae’r Tîm Dysgu a Datblygu’n parhau i weithio’n agos â’r Gwasanaethau Democrataidd a Swyddogion perthnasol o fewn yr awdurdod i sicrhau fod y cynllun yn mynd i’r afael ag anghenion yr Aelodau Etholedig a’i fod yn parhau i ddatblygu’n unol â’r galw.

 

Ar ôl cyflwyno’r adroddiad, cododd y Pwyllgor y pwyntiau trafod canlynol ac ymatebodd y Swyddogion i’r cwestiynau a godwyd.

 

  Fel yr amlygir yn yr adroddiad, mae’n siomedig bod llai nag y dymunir o Aelodau Etholedig yn mynychu sesiynau hyfforddi gorfodol. Awgrymwyd y gallai Aelodau’r Pwyllgor hwn siarad â’r aelodau hynny sydd heb fynychu’r sesiynau hyn. Holwyd a fyddai’n bosib darparu enwau’r Aelodau sydd heb fynychu’r hyfforddiant gorfodol. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth bod dulliau anffurfiol a ffurfiol yn cael eu defnyddio i hyrwyddo hyfforddiant ymysg Aelodau Etholedig. Mae Arweinyddion Grwpiau’n derbyn diweddariad chwarterol sy’n cynnwys gwybodaeth am bob aelod o’r grŵp sydd wedi mynychu hyfforddiant gorfodol a’r aelodau sydd heb fynychu. Nododd y gellid anfon neges at Arweinyddion Grwpiau er mwyn mynegi pryderon y Pwyllgor. Dywedodd aelodau’r Pwyllgor bod angen amlygu pa sesiynau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Adroddiad Atodol: Adolygiad o daliadau i aelodau lleyg cyd-bwyllgorau corfforedig pdf eicon PDF 112 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod yr adroddiad yn cyfeirio at daliadau i aelodau lleyg y Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Deddf 2021) a diwygiwyd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 i gynnwys y Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel awdurdodau perthnasol o fewn swyddogaethau’r Panel. Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru’n cynnwys prif gynghorau Gwynedd, Sir Ddinbych, Ynys Môn, Wrecsam, Conwy, Sir y Fflint ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Ychwanegodd fod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi penderfynu y bydd aelodau lleyg y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cael eu talu ar yr un sail ag aelodau cyfetholedig (lleyg) sydd â hawliau pleidleisio. Bydd y taliad i’r aelodau lleyg hyn yn debyg i’r taliad a wneir i aelodau cyfetholedig (lleyg) eraill pwyllgorau llywodraeth leol a thynnwyd sylw at dabl o daliadau arfaethedig oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD nodi penderfyniad atodol y Panel mewn perthynas â thaliadau i aelodau lleyg Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

5.

Ymateb drafft i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Rannu Swyddi Aelodau Etholedig pdf eicon PDF 135 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth ar yr ymgynghoriad ar Ymestyn Darpariaethau Rhannu Swydd ar gyfer Aelodau Etholedig nad ydynt yn aelodau o’r Weithrediaeth.

 

Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cynnwys darpariaeth i hwyluso trefniadau rhannu swydd mewn rolau sy’n rhan o weithrediaeth (Pwyllgor Gwaith) Cynghorau Sir. Rhoddwyd hynny ar waith ym Môn ym mis Mawrth 2023 pan gytunodd y Cyngor Sir i newid y cyfansoddiad er mwyn caniatáu i un neu fwy o Aelodau rannu swydd Arweinydd, Dirprwy Arweinydd neu fel Aelodau Portffolio o’r Pwyllgor Gwaith. Yn dilyn hynny mae trefniadau rhannu swydd wedi bod yn weithredol gyda dau aelod yn rhannu swydd Dirprwy Arweinydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymgynghori ar gynlluniau i ehangu’r ddarpariaeth rhannu swydd i rolau uwch eraill hefyd, yn cynnwys Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau. Mae’r Llywodraeth o’r farn bod cynnig opsiynau i aelodau rannu swydd yn gallu hybu amrywiaeth, yn gallu sefydlu llwybrau dilyniant gyrfa ac yn gallu helpu’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

 

Ar ôl i’r adroddiad gael ei gyflwyno, codwyd y pwyntiau trafod a ganlyn gan y Pwyllgor.

 

  Er bod y Pwyllgor yn cytuno â’r trefniadau rhannu swydd a gytunwyd gan y Cyngor llawn ym mis Mawrth 2023, gofynnwyd beth fyddai rôl Is-gadeiryddion pe byddai’r ddarpariaeth rhannu swydd yn cael ei gweithredu. Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Democratiaeth y gallai’r rolau fod yn gymhleth i’w gweinyddu ac felly mae canllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r rôl rhannu swydd yn holl bwysig er mwyn cynnig eglurhad. Os daw’r trefniadau hyn i rym, bydd angen diwygio Cyfansoddiad y Cyngor er mwyn sicrhau cysondeb a darparu canllawiau lleol priodol.

  Mynegwyd bod camddealltwriaeth ynglyn â thaliadau i’r ddau Ddirprwy Arweinydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn annerbyniol. Dywedodd y Pennaeth nad yw’r ddarpariaeth ar gyfer dau Ddirprwy Arweinydd yn creu costau ychwanegol gan eu bod yn rhannu lwfans y Dirprwy Arweinydd.

 

Roedd y Pwyllgor o’r farn bod y trefniadau presennol ar gyfer Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau yn gweithio’n dda ac y dylai’r Awdurdod gynnwys hynny yn yr ymateb i’r ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD cytuno â chynnwys yr ymateb drafft i Lywodraeth Cymru, yn ogystal â chynnwys barn y Pwyllgor bod y ddarpariaeth yn gweithio’n dda ar Ynys Môn a’i fod yn pryderu am yr effaith ar rôl yr Is-gadeiryddion, fel y nodir uchod.