Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Mercher, 25ain Mehefin, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni / Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 118 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Mawrth a 20 Mai 2025.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft y cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Mawrth a 20 Mai 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

3.

Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 244 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rhelowr Dysgu a Datblygu AD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Rheolwr Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol ar yr hyfforddiant a gynigiwyd i’r aelodau ers y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn ym mis Tachwedd 2024. 

 

Adroddodd y Rheolwr Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol bod 55 o gyfleodd hyfforddi a datblygu wedi cael eu cynnig i aelodau ers mis Ebrill 2023 hyd yma, sy’n dangos ymrwymiad y Tîm Dysgu a Datblygu i gynnig dewis eang o gyfleoedd dysgu gwerthfawr i aelodau.   Pwysleisiodd y Rheolwr Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol bod pwys mawr wedi’i roi ar hyfforddiant mandadol, a bod tueddiadau cadarnhaol wedi cael eu cofnodi.  Mae cynnydd hefyd wedi cael ei gofnodi yn nifer yr aelodau sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant Iechyd a Diogelwch a Seiber Ddiogelwch.

 

Eglurodd y Rheolwr Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol bod disgwyl i bob aelod gwblhau’r sesiynau hyfforddi mandadol o leiaf, a bod hyfforddiant bellach ar gael i gefnogi’r teitlau allweddol hyn.  

 

Bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y teitlau lle mae’r lefelau cwblhau yn isel, yn cynnwys Cydraddoldeb a Diogelu.   Mae’r aelodau sydd heb gwblhau’r teitlau hyn wedi cael eu gwahodd i fynychu hyfforddiant gorfforaethol ar yr 2il a’r 8fed o Orffennaf 2025.

 

Adroddodd y Rheolwr Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol y bydd y Tîm Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol yn gweithio’n agos â’r Gwasanaethau Democratiaeth i gwrdd ag unrhyw anghenion hyfforddi yn sgil y newidiadau i’r trefniadau craffu lleol. 

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y cynnydd a wnaed yng Ngham 1af y Cynllun Datblygu ar gyfer Arweinwyr Grŵp.   Nodwyd bod pob Arweinydd Grŵp wedi cwblhau’r Proffil DiSC (personoliaeth) a, lle bo’n berthnasol, wedi cymryd rhan mewn sesiwn dadansoddi un i un gyda hyfforddwr allanol arbenigol. 

 

Mae trefniadau ar waith i symud ymlaen i Ail Gam y Cynllun, sy’n cynnwys cyfres o sesiynau hyfforddi ffurfiol dwyieithog, a fydd yn cychwyn fis nesaf. 

 

Nodwyd bod diweddariadau chwarterol ar yr aelodau sydd wedi cwblhau hyfforddiant yn cael eu rhannu â’r Gwasanaethau Democrataidd ac arweinwyr grŵp maes o law.

 

Mynegwyd pryder nad oedd rhai aelodau wedi cwblhau’r hyfforddiant mandadol.  Holwyd p’un a oedd yr aelodau hynny wedi cael eu hatgoffa i fynychu.  Dywedodd y Rheolwr Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol bod ffigurau presenoldeb chwarterol yn cael eu rhannu â’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chadeirydd y Pwyllgor Safonau, sy’n trafod materion hyfforddi â’r arweinwyr grŵp perthnasol fel y gallant annog eu haelodau i fynychu.  

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

4.

Amseru Cyfarfodydd y Cyngor pdf eicon PDF 215 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y broses statudol ar gyfer adolygu amseroedd cychwyn cyfarfodydd Pwyllgorau ffurfiol.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ei bod hi’n amserol ymgynghori â’r aelodau etholedig er mwyn cael eu barn ar amseroedd cychwyn cyfarfodydd statudol y Cyngor.   Dywedodd bod yr adolygiad diwethaf wedi cael ei gynnal yn hydref 2022.  Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol i helpu Cynghorau gwrdd â’r gofynion.

 

Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru’n nodi bod angen ystyried y pwyntiau isod: - 

 

a.  A fyddai hi’n well cynnal cyfarfodydd yn ystod y dydd neu gyda’r nos;

b.  A fydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb, yn gyfan gwbl ar

     lein, neu mewn sawl lleoliad;

c.  Yr hyd a ffafrir ar gyfer cyfarfodydd;

d.  A yw adegau penodol yn achosi trafferthion i gynghorwyr â nodweddion

     penodol, fel oedran, rhyw, crefydd, cyfrifoldebau gofalu neu fod mewn

     cyflogaeth.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y bydd ymgynghoriad 6 wythnos o hyd yn cael ei gynnal yn ystod Gorffennaf ac Awst.  Roedd yn croesawu ymateb y Pwyllgor i’r arolwg.

 

Mynegwyd pryder ynglŷn â’r effaith y gallai cyfarfodydd gyda’r nos ei gael ar staff ac aelodau.  Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth y byddai’r staff sy’n mynychu cyfarfodydd yn cael cyfle i roi eu barn unwaith y bydd yr aelodau wedi rhoi adborth drwy gwblhau’r holiadur.   Hefyd, amlygwyd pwysigrwydd cynnal cyfarfodydd ar yr un diwrnod o’r wythnos, er mwyn helpu aelodau sydd gan ymrwymiadau teuluol a gwaith.

 

Nodwyd y bydd adroddiad sy’n crynhoi canfyddiadau’r ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn yr hydref, ac y bydd argymhellion yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor llawn ym mis Rhagfyr.

 

PENDERFYNWYD argymell bod y Pwyllgor yn: -

 

  Cytuno i ymgynghori gydag aelodau ar amseru cyfarfodydd

  Cytuno i’r amserlen a nodir ym mharagraff 12 yn yr adroddiad.

  Ystyried a chymeradwyo’r ddogfen ymgynghori yn atodiad A.

5.

Diogelwch Aelodau pdf eicon PDF 92 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.   

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar yr arweiniad a’r cymorth sydd ar gael i aelodau o safbwynt eu diogelwch personol yn eu rôl fel Cynghorwyr. 

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod cefnogaeth ar gael drwy’r Cynghorydd Swyddogion Etholedig, PC Jaggard o Heddlu Gogledd Cymru drwy’r cynllun ‘Ymgyrch Ford’ sy’n cael ei ariannu gan y Swyddfa Gartref.  Mae’r Cynghorydd wedi bod yn cynnal sesiynau briffio i aelodau awdurdodau lleol, ac mae 14 aelod o Gyngor Sir Ynys Môn wedi mynychu un o’r sesiynau ddechrau mis Mehefin.   Nodwyd y bydd sesiynau pellach yn cael eu cynnal yn ystod ail hanner 2025.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod pryderon ynglŷn â diogelwch ac aflonyddu yn gallu cael effaith andwyol ar les aelodau.  Fe wnaeth atgoffa’r Pwyllgor bod gan y Cyngor wasanaeth cwnsela cyfrinachol i aelodau sy’n cael ei ddarparu gan Medra, yn ôl y gofyn.

 

Nodwyd y bydd y Gwasanaethau Democrataidd yn datblygu canllaw manwl i aelodau dros fisoedd yr haf a bod croeso i’r aelodau gyfrannu at y canllaw hwnnw.  Fe wnaeth y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd annog aelodau sydd heb fynychu un o’r sesiynau briffio ar ddiogelwch i wneud hynny. 

 

Fe wnaeth yr aelodau fynegi pryder ynglyn â sylwadau negyddol yn y wasg a sylwadau maleisus am y Cyngor ac aelodau ar y cyfryngau cymdeithasol.   Mewn ymateb dywedodd y Gwasanaethau Democrataidd bod sylwadau sarhaus ar-lein ar gynnydd, ac fe awgrymodd ei fod holi PC Jaggard i weld a oes sesiynau briffio ar gael i godi ymwybyddiaeth aelodau ynglyn â chadw’n ddiogel ar-lein. 

 

PENDERFYNWYD: -

 

·     Nodi cynnwys yr adroddiad a sylwadau’r aelodau ar faterion

    diogelwch.

·     Cytuno bod y Gwasanaeth Democrataidd annog pob aelod i fynychu

    hyfforddiant diogelwch yr Heddlu.

·     Cytuno bod y Gwasanaethau Democrataidd yn rhannu dogfen ganllaw

    syml gydag aelodau.