Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni / Zoom
Cyswllt: Shirley Cooke
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2025.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod blaenorol y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
|
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth mewn perthynas â’r uchod.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth mai hwn yw adroddiad blynyddol drafft cyntaf y Comisiwn a’i fod yn destun ymgynghoriad tan 18 Tachwedd 2025. Bydd fersiwn terfynol yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn galendr.
Nodwyd bod y Comisiwn yn bwriadu cynyddu’r gydnabyddiaeth ariannol i aelodau ond y mae wedi cadw at yr un fframwaith â’r panel annibynnol blaenorol ar gydnabyddiaeth ariannol. Mae’r Comisiwn yn bwriadu blaenoriaethu a diwygio’r fframwaith cyn yr etholiadau llywodraeth leol nesaf, yn barod ar gyfer yr adroddiad blynyddol y flwyddyn nesaf.
Cyfeiriwyd at y newidiadau arfaethedig i’r cyflog sylfaenol a delir i aelodau ar hyn o bryd ynghyd â’r cyflogau uwch a dinesig ar gyfer 2026/27. Bydd y cyflog sylfaenol yn cynyddu 6.4%, yn unol â’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE), ac felly bydd rhaid ymorol am gynnydd o £63,000 yng nghyllideb y Cyngor.
Amlinellodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd flaenoriaethau’r Comisiwn ar gyfer y flwyddyn i ddod. Cyfeiriodd at y taliadau i aelodau cyfetholedig ac aelodau lleyg a dywedodd nad oedd y lwfansau wedi cynyddu ers rhai blynyddoedd. Nodwyd bod Llywodraethu Cymru wrthi’n adolygu’r gydnabyddiaeth ariannol i aelodau cyfetholedig ac aelodau lleyg, ac y bydd y Comisiwn yn ystyried canlyniad yr adolygiad hwnnw.
Cafwyd trafodaeth ar fwriad y Comisiwn i ymgynghori ar p’un a ddylid darparu cydnabyddiaeth ariannol i aelodau’r Cydbwyllgorau Corfforaethol (CJC) i adlewyrchu eu hymrwymiadau a chyfrifoldebau ychwanegol.
Fe wnaeth y Pwyllgor ystyried penderfyniadau drafft y Comisiwn ar gyfer 2026 i 2027 a PHENDERFYNWYD awdurdodi swyddogion i ymateb i’r ymgynghoriad yn unol â thrafodaethau’r Pwyllgor. |
|
|
Amseru Cyfarfodydd y Cyngor - casgliadau Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn dilyn yr ymgynghoriad ar amseru cyfarfodydd y Cyngor, a gynhaliwyd rhwng mis Awst a Medi eleni. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod 26 o aelodau etholedig a lleyg wedi ymateb i’r ymgynghoriad, sy’n ganlyniad positif.
Cafodd aelodau gyfle nodi eu hamseroedd dewisol ar gyfer cynnal cyfarfodydd y Cyngor a darparu adborth. Ar ôl dadansoddi’r ymatebion daethpwyd i’r casgliad bod nifer uchel yn ffafrio newid amser cychwyn cyfarfodydd y Cyngor Sir o 2:00pm i 1:00pm.
O ran cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith, Pwyllgorau Sgriwtini, y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, roedd y mwyafrif o’r aelodau’n ffafrio cadw at yr amseroedd presennol. Roedd mwyafrif bychan o blaid cynnal cyfarfodydd am 2:00pm, tra bo 10:00am hefyd yn dderbyniol.
Atgoffwyd yr aelodau bod modd iddynt hawlio costau gofal ychwanegol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau, yn cynnwys gofal plant neu oedolion dibynnol.
Cafwyd trafodaeth ar yr effaith y gall amseroedd cyfarfodydd ei gael ar ymrwymiadau gwaith aelodau, cyfrifoldebau teuluol a staff y Cyngor. Gofynnwyd pe byddai modd cadw at y trefniant presennol i gynnal cyfarfodydd rhwng Dydd Mawrth a Dydd Iau, a chadw at y calendr Pwyllgorau presennol.
PENDERFYNWYD: -
· rhoi sylw dyledus i ganfyddiadau’r ymgynghoriad. · cefnogi symud amser cychwyn cyfarfodydd y Cyngor Sir o 2pm i 1pm ar gyfer blwyddyn ddinesig 26/27 ymlaen am gyfnod penodol. · cynnal ymgynghoriad pellach ar ddiwedd y cyfnod prawf hwn (bydd angen adolygiad pellach o amseroedd cyfarfodydd yn fuan ar ôl etholiadau Llywodraeth Leol 2027). · argymell bod y Cyngor Sir yn cadarnhau newid amser cychwyn cyfarfodydd y Cyngor Sir i 1:00pm yn 2026/27 yn ei Gyfarfod Blynyddol ym mis Mai 2026. · awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i atgoffa aelodau o’r gallu i hawlio costau gofal. |
|
|
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Dysgu a Datblygu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol a oedd yn rhoi diweddariad ar yr hyfforddiant a gynigiwyd i’r aelodau ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn ym mis Mehefin 2025.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod nifer uchel o aelodau wedi cwblhau’r hyfforddiant mandadol yn Ynys Môn o’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Dywedodd bod gwaith pellach wedi cael ei gyflawni ar y modiwl e-ddysgu Diogelu i gwrdd â gofynion y Safonau Diogelu newydd a gyflwynwyd yn 2024. Eglurodd bod darpariaeth hyfforddiant ar gael i staff ar hyn o bryd a’i fod wrthi’n cael ei addasu i’w rannu ag aelodau ar y Porth Dysgu.
Cyfeiriwyd at y Cynllun Datblygu ar gyfer Arweinwyr Grŵp, a bod gwaith penodol wedi cael ei gwblhau a bod cynnydd da’n cael ei wneud o ran gweithredu’r Cynllun.
Nodwyd bod trafodaethau ar y gweill ar ddarparu hyfforddiant ychwanegol ar Gydraddoldeb a Chraffu i aelodau, yn ogystal â hyfforddiant gan Heddlu Gogledd Cymru ar ddiogelwch personol.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |