Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni / Zoom
Cyswllt: Shirley Cooke
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad. |
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2025.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod blaenorol y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
|
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar adroddiad blynyddol cyntaf y Comisiwn Ffiniau. Y Comisiwn sy’n gosod y strwythur cyflogau ar gyfer cyflogau a lwfansau aelodau. Nodwyd nad yw’r Cyngor yn gyfrifol am bennu unrhyw gynnydd yng nghyflogau’r Aelodau.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y bydd y Comisiwn yn parhau i ddefnyddio’r fframwaith presennol ar gyfer 2026/27, fel a osodwyd gan y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol diwethaf. Mae’r Comisiwn wedi penderfynu y bydd y strwythur cyflogau aelodau yn gysylltiedig â’r Arolwg Blynyddol Cyflogau ac Enillion (ASHE), sy’n cynrychioli cynnydd o 6.4% mewn cyflogau ar gyfer aelodau, sy’n gynnydd o £63k yng nghyllideb y Cyngor ar gyfer 2026/27.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar nodau’r Llywodraeth ar gyfer y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Nododd fod y gwaith wedi dechrau ar amcanion allweddol y Comisiwn mewn perthynas â Chydnabyddiaeth Ariannol. Nodwyd pan fydd y fframwaith wedi’i adolygu a’i addasu y bydd yn golygu newidiadau sylweddol i’w gynnwys erbyn 2027.
Gofynnwyd am gadarnhad a oedd aelodau etholedig, a oedd hefyd yn cynrychioli Cynghorau Tref / Cymuned, â’r hawl i hawlio lwfansau ar gyfer y ddwy swydd? Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n edrych i mewn i’r mater ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor yn y man.
PENDERFYNWYD: -
· Nodi’r penderfyniadau terfynol sydd yn adroddiad cydnabyddiaeth y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar gyfer 2026-27. · Bod Adroddiad Ariannol Blynyddol y Comisiwn yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ar 12 Mai 2026 i’w gymeradwyo. · Bod y Pennaeth Democrataidd yn edrych a oedd gan aelodau etholedig a Chynghorwyr Tref a Chymuned yr hawl i hawlio lwfans am y ddwy rôl ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor. |
|
|
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol a oedd yn rhoi diweddariad ar yr hyfforddiant a gynigiwyd i’r aelodau ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn ym mis Tachwedd 2025.
Dywedodd y Rheolwr Dysgu a Datblygu Adnoddau Dynol bod 60 o gyfleoedd hyfforddi a datblygu wedi’u cynnig i aelodau ers mis Ebrill 2023. Nododd fod pwyslais wedi’i roi ar gyrsiau mandadol, lle mae presenoldeb wedi cynyddu’n sylweddol dros y cyfnod diwethaf ac mae ffigyrau cadarnhaol wedi eu cofnodi o gymharu ag awdurdodau lleol eraill.
Nodwyd fod sgyrsiau blynyddol aelodau ar y gweill ar hyn o bryd ac y bydd unrhyw feysydd hyfforddiant a amlygir yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae cydweithio agos yn parhau rhwng y tîm adnoddau dynol a staff gwasanaethau democrataidd er mwyn bodloni anghenion aelodau etholedig.
Darparwyd diweddariad ar ddatblygiadau Diogelu a disgwyliadau ar gyfer y dyfodol o ran y fframwaith newydd. Amlygwyd fod hyfforddiant Diogelu wedi ei ddynodi fel hyfforddiant mandadol ar gyfer holl staff y Cyngor (Grŵp A), gyda disgwyliad fod aelodau etholedig (Grŵp F) yn cwblhau’r modiwl e-ddysgu ar y Gronfa ddysgu.
Nodwyd fod y Cynllun Datblygu ar gyfer Arweinyddion Grwpiau wedi ei gwblhau a bod data yn cael ei roi at ei gilydd er mwyn gallu darparu adborth yn y man.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
|
Tîm Polisi a’r Gymraeg: Trosolwg o waith a chyfrifoldebau Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Polisi a’r Iaith Gymraeg. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Polisi ac Iaith Gymraeg gan ddarparu trosolwg o waith y Tîm Polisi ac Iaith Gymraeg a’u cyfrifoldebau. Nododd mai prif rôl y tîm yw sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol ac yn datblygu diwylliant cadarnhaol o ran yr Iaith Gymraeg a chydraddoldeb.
Holwyd am y gefnogaeth y mae’r ddau bencampwr sy’n Aelodau Etholedig yn ei dderbyn gan y tîm Polisi. Ymatebodd y rheolwr Polisi ac Iaith Gymraeg gan ddweud bod cydweithio agos yn bodoli rhwng y tîm a’r Pencampwyr Aelodau wrth baratoi adroddiadau blynyddol a drwy gefnogi Aelodau Portffolio i wneud eu gwaith. Nodwyd fod y ddau bencampwr yn Aelodau o’r Pwyllgor Gwaith a Grŵp Llywio’r Gymraeg a’u bod yn arwain mewn meysydd lle mae ganddynt bwerau cyfansoddiadol i awdurdodi penderfyniadau allweddol sydd wedi eu dirprwyo.
Adroddodd y Rheolwr Polisi ac Iaith Gymraeg fod y tîm Polisi yn cydlynu presenoldeb y Cyngor yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Môn eleni. Mae amserlen o ddigwyddiadau yn cael ei rhoi at ei gilydd gyda thrafodaethau yn parhau o ran y gweithgareddau a fydd ar gael i bobl ifanc gyda’r pwyslais ar gael hwyl. Bydd arddangosfa o’r hyn sydd gan y Cyngor i’w gynnig hefyd ar gael drwy wahanol Wasanaethau. Codwyd cwestiwn am faterion cynllunio a’r Gymraeg. Ymatebodd y Rheolwr Polisi ac Iaith Gymraeg yr ystyrir methodoleg Canllawiau Atodol y Cynllun Datblygu Lleol er mwyn penderfynu a fydd ceisiadau o natur benodol angen datganiad neu asesiad Iaith Gymraeg wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Cafwyd trafodaeth ar a ellir gweithredu ystyriaethau iaith Gymraeg mewn perthynas â cheisiadau cynllunio lle nad yw gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau? Nodwyd nad oes modd i Swyddogion Cynllunio ail ymweld â cheisiadau cynllunio sydd eisoes wedi derbyn caniatâd.
Amlygwyd fod y tîm Polisi ac Iaith Gymraeg yn chwarae rhan hanfodol o ran sicrhau cydymffurfiaeth, atebolrwydd a llywodraethiant cryf o fewn Gwasanaethau Democrataidd.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
|
Diweddariad gan y Gwasanaethau Democrataidd Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth mewn perthynas â materion cefnogi a llywodraethiant.
Nododd y Pennaeth Gwasanaethau democrataidd y bydd aelodau etholedig, dros y dyddiau nesaf, yn cael eu hatgoffa o’r angen iddynt gwblhau eu hadroddiadau blynyddol ar gyfer 2025/26. Bydd templed diwygiedig yn cael ei ddarparu gan y Gwasanaethau Democrataidd gyda chyfarwyddiadau ar sut i lenwi’r adroddiadau, a fydd angen eu cyflwyno i’r Gwasanaethau Democrataidd erbyn diwedd Mai, ar gyfer eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ym mis Mehefin. Nodwyd fod cefnogaeth ar gael i aelodau a allai fod angen cymorth.
Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod gwybodaeth wedi’i rhannu ag Arweinyddion Grwpiau o ran trefniadau sgyrsiau blynyddol. Nododd bod aelodau’n cael eu hannog i rannu eu hanghenion datblygu, llesiant ac hyfforddiant yn gyfrinachol â’r staff perthnasol. Nodwyd y darperir Arweinyddion Grwpiau â diweddariadau rheolaidd am hyfforddiant eu haelodau ar gyfer dibenion monitro.
Mae ymgynghoriad ar y gweill ar hyn o bryd ar drefniadau etholiadol, yn adolygu nifer yr aelodau Cynghorau Tref a Chymuned a’u wardiau. Bydd yn canfod a yw trefniadau’r wardiau etholiadol presennol a nifer y Cynghorau Tref a Chymuned yn briodol ar gyfer yr etholiadau lleol yn 2027, cyflwynir y canlyniadau i’r Cyngor Sir ym mis Medi. Nodwyd mai dim ond 8 neu 9 Cyngor Tref a Chymuned, allan o gyfanswm o 40, sydd wedi ymateb sy’n siomedig. Nodwyd ymhellach fod ychydig ddyddiau ar ôl cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben. Mae nodyn atgoffa wedi’i anfon gan y Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn i’r Cynghorau Tref a Chymuned rheini nad ydynt wedi ymateb i’r ymgynghoriad, i wneud hynny. Cynhelir adolygiad pellach ar y cynigion terfynol ym mis Hydref, a hynny mewn pryd i weithredu unrhyw newidiadau cyn yr etholiadau lleol yn 2027.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y gwasanaeth ar hyn o bryd yn cydweithio â Chyngor Conwy wrth baratoi ar gyfer Etholiadau Senedd Cymru ar 7 Mai. Bydd y cyfnod cyn etholiad yn dod i rym ar 25 Mawrth ac nid 26 Mawrth fel sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad.
Amlygwyd fod codi ymwybyddiaeth o faterion democrataidd a gwahodd ysgolion i fynychu sesiynau cwestiwn ac ateb yn siambr y Cyngor yn cael ei groesawu gan y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |