Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod new Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd ddatganiad o ddiddordeb yn Eitem 7 ar y rhaglen ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth arni. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 29 Ionawr, 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr, 2015. |
|
Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015/16 PDF 230 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiad Blynyddol y PAGA am 2015/16.
Nododd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r mater yn cael ei drafod gan y Cyngor llawn ym mis Mai 2015 ar gyfer ei gymeradwyo.
Cyfeiriodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democratiadd at y disgresiwn sydd ar gael mewn perthynas â lwfansau’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd ac y byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gydag Arweinyddion y Grwpiau cyn cyflwyno argymhelliad i’r Cyngor Sir.
Yn ogystal, cyfeiriodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd at yr angen i adolygu’r gefnogaeth sydd ar gael i aelodau mewn meysydd penodol megis TG fel y gallant gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi’r penderfyniadau a wnaed gan y PAGA mewn perthynas â chymorth i aelodau yn 2015/16; • Bod Adroddiad Blynyddol y PAGA yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ym mis Mai, 2015; • Rhoi’r awdurdod i Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd mofyn sylwadau’r Aelodau ar ba mor ddigonol yw’r cymorth sydd ar gael i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Adroddir yn ôl i’r pwyllgor ar y mater hwn fel rhan o’i raglen waith am 2015/16. |
|
Cyfarfod Blynyddol Aelodau PDF 143 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau am 2014/15.
Nododd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd fod adroddiad cynnydd wedi cael ei gyflwyno i’r cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn yn gofyn am sylwadau’r Aelodau ar y trefniadau arfaethedig ar gyfer paratoi Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau am 2014/15.
Yn ogystal, dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd y cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor Safonau ar 12 Mawrth 2015 mewn perthynas ag adolygiad o gofrestrau’r Cyngor a bod angen diweddaru’r wybodaeth sydd ar wefan y Cyngor ynghylch aelodaeth o gyrff allanol. Roedd sgôp i gynnwys gwybodaeth am gyrff allanol yn Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac y dylid nodi ym mhob adroddiad blynyddol y rhestr o gyrff allanol sy’n berthnasol i’r aelod dan sylw, ynghyd â nifer y cyfarfodydd a drefnwyd ac a fynychwyd - yr aelodau unigol fydd yn darparu’r wybodaeth hon. |
|
Gwe-ddarlledu Cyfarfodydd PDF 240 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol yn crynhoi gwybodaeth ynghylch gweddarlledu cyfarfodydd. Rhoes ddiweddariad i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ar 2 Rhagfyr, 2014.
Cyflwynodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd ddadansoddiad o’r wybodaeth ystadegol ar y nifer a oedd wedi edrych ar ddarllediadau o gyfarfodydd rhwng Mehefin 2014 a Chwefror 2015 a gwelwyd bod 15,000 o ymweliadau yn ystod cyfnod hwn.
Fel rhan o’i raglen waith ar gyfer 2015/16, dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd y bydd angen i’r Pwyllgor ystyried opsiynau ar gyfer y dyfodol o ran gweddarlledu cyfarfodydd, oherwydd daw’r cynllun peilot 2 flynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ben ym mis Mawrth 2016. Dywedodd y byddai’n adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar opsiynau ar gyfer y dyfodol a dywedodd na fyddai unrhyw gyllid ar gael wedi i’r cyfnod peilot ddod i ben. Dywedodd y byddai costau’n gysylltiedig ag adnoddau a staffio.
Cyfeiriodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd at y Papur Gwyn i ddiwygio Llywodraeth Leol yng Nghymru a’r bwriad i orfodi awdurdodau i ddarlledu cyfarfodydd yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac y bydd adroddiad ar weddarlledu’n cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 53 KB Ystyried mabwysiadu'r isod:-
"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm". Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn unol ag Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Penodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd • I ystyried y dyfyniad a ganlyn o gofnodion y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 2015.
• Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Penodiadau ar 27 Ionawr, 2015. Cofnodion: Cyflwynwyd – dyfyniad o gofnodion y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 2015 ynghyd ag adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro a gyflwynwyd i’r Pwyllgor uchod.
PENDERFYNWYD cadarnhau’n ffurfiol benodi Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd i swydd barhaol Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y cyflog a nodir yn yr adroddiad.
|