Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft y cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-
· 29 Mawrth, 2017 · 31 Mai, 2017 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i'w cadarnhau - cofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-
• 29 Mawrth, 2017 • 31 Mai, 2017
PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion uchod fel rhai cywir. |
|
Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru – Diwygio System Etholiadol Llywodraeth Leol PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar fwriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio system etholiadol llywodraeth leol.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod Llywodraeth Cymru yn gwahodd sylwadau ar ddiwygio etholiadol, sy’n ymwneud yn bennaf â'r ffordd y mae pobl yn cofrestru ac yn bwrw pleidlais. Nodwyd bod y ddogfen ymgynghori yn ceisio moderneiddio system etholiadol llywodraeth leol ac mae'n cynnwys y prif feysydd canlynol: -
• Adeiladu’r etholfraint • Gwella cofrestru • Y system bleidleisio • Y broses bleidleisio • Sefyll am etholiad • Swyddogion Canlyniadau
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion i'r ddogfen ymgynghori yw 10 Hydref, 2017.
Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd at yr ymateb drafft a baratowyd ac a oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad hwn. Mewn ymateb, rhoddodd y Pwyllgor ei farn a nododd y canlynol: -
• dylid gostwng yr oed ar gyfer pleidleisio i 16; • nid yw'n ymarferol cael cofrestrau ar wahân i bleidleisio mewn etholiadau Cyngor Sir ac etholiadau lleol; • llywodraeth ganolog ddylai fynd i'r afael ag ymestyn hawliau pleidleisio; • cefnogir treialu dulliau electronig o bleidleisio, yn y gobaith o annog pobl ifanc i bleidleisio; • dylid rhoi mwy o bwyslais ar bleidleisio drwy'r post yn hytrach na phleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio; • nodwyd bod etholiadau bob amser yn digwydd ar ddydd Iau. Awgrymwyd bod Llywodraeth Cymru yn dilyn enghreifftiau a osodwyd gan wledydd eraill a rhoi'r dewis i ddinasyddion bleidleisio ar benwythnosau.
PENDERFYNWYD: -
• Nodi safbwynt y Pwyllgor ar yr ymateb drafft cychwynnol (Atodiad 2). • Bod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cwblhau’r sylwadau yn derfynol ac yn ymateb i Lywodraeth Cymru cyn 10 Hydref, 2017. |
|
Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Rhelowr Datblygu Adnoddau Dynol ar sesiynau cynefino i Gynghorwyr Sir yn dilyn yr etholiadau a threfniadau ar gyfer hyfforddi Cynghorwyr Tref a Chymuned. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar y trefniadau hyfforddi a chynefino ar ôl yr etholiadau ar gyfer Aelodau Etholedig, fel y cyflwynwyd nhw i'r Pwyllgor Safonau ar 13 Medi 2017.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu fod Rhaglen Sefydlu wedi'i datblygu ers Etholiadau'r Cyngor Sir ym mis Mai i gwrdd ag anghenion hyfforddi Aelodau Etholedig a gofynion newidiol yr Awdurdod hwn. Sefydlwyd y Cynllun Datblygu gyda mewnbwn gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac awdurdodau lleol ledled Cymru. Adolygwyd a theilwriwyd y Cynllun i gwrdd ag anghenion lleol gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth ac Arweinyddion Grwpiau’r Cyngor, ac mae'n esblygu'n barhaus.
Cyflwynwyd y Cynllun Datblygu ar gyfer 2017/18 i’r Cyngor llawn ar 28 Chwefror, 2017 ac fe gafodd ei fabwysiadu. ‘Roedd cyfnod cychwynnol y Cynllun yn canolbwyntio ar sesiynau cynefino i’r Aelodau newydd a chynigiwyd 20 o sesiynau datblygu ffurfiol i'r Aelodau rhwng Mai ac Awst, 2017. Nodwyd y bydd angen i rai Aelodau gael rhagor o hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r IPad. Mae trefniadau wedi eu gwneud i'r tîm TGCh ddarparu sesiynau hyfforddi pellach maes o law.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu fod Aelodau'n cael eu hannog i gwblhau taflenni gwerthuso er mwyn cyflwyno atborth ar ôl mynychu sesiynau hyfforddi. .Nodwyd bod cofnod o bresenoldeb Aelodau ym mhob sesiwn. Nodwyd hefyd fod cyflwyniadau a roddir yn y sesiynau hyfforddi yn cael eu huwchlwytho i MonITor, sef gwefan y Cyngor ar gyfer staff ac Aelodau Etholedig.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu y bydd pedwar Aelod Etholedig yn treialu rhaglenni E-Ddysgu i gynorthwyo datblygiad personol yr Aelodau o fis Medi, 2017. Caiff y rhaglenni eu cynnal trwy Academi Cymru Gyfan.
PENDERFYNWYD: -
• Nodi cynnydd y Rhaglen Datblygu Aelodau. • Bod y Rheolwr Datblygu yn amlygu sesiynau hyfforddi sy'n orfodol ar gyfer Aelodau newydd / Aelodau a ailetholwyd. |
|
Adroddiadau Blynyddol gan Aelodau PDF 649 KB Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y wybodaeth y bwriedir ei chyhoeddi am waith Cynghorwyr Sir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y trefniadau arfaethedig ar gyfer cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol Aelodau ar gyfer 2016/17.
Mae Adran 5 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar y Cyngor i sicrhau bod trefniadau ar waith i Aelodau baratoi adroddiadau blynyddol.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar yr amserlen i’r 21 Aelod a ailetholwyd gyflwyno eu hadroddiadau blynyddol ar gyfer 2016/17 a’u cyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 30 Medi, 2017.
PENDERFYNWYD nodi'r sefyllfa o ran cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau ar gyfer 2016/17. |
|
Rhaglen Waith y Pwyllgor 2017/18 PDF 334 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2017/18.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor wedi nodi'r Isod fel rhan o'i Rhaglen Waith ar gyfer 2017/18: -
• Y Cynllun Datblygu a Hyfforddi Aelodau, gan gynnwys Adolygiadau Datblygiad Personol; • Gweddarlledu cyfarfodydd; • Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau; • Adroddiad Blynyddol y Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol; • Ymgynghoriadau perthnasol Llywodraeth Cymru; • Cyrff allanol a threfniadau adrodd; • Amser cyfarfodydd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |