Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad. |
|
Cynllun Datblygu Aelodau 2019/20 PDF 192 KB Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol mewn perthynas â’r Cynllun Datblygu Aelodau Etholedig ar gyfer Ebrill 2019 i Mawrth 2020.
Nodwyd bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth, 2019, wedi cymeradwyo adroddiad ar y Strategaeth Datblygu Aelodau am 2019/2022. Roedd yr adroddiad hwn yn manylu ar y Cynllun Datblygu ar gyfer Aelodau Etholedig am 2019/20 sy’n cymryd i ystyriaeth y mewnbwn a gafwyd gan Arweinyddion y Grwpiau yn dilyn yr Adolygiadau Datblygiad Personol ynghyd â mewnbwn gan Uwch Swyddogion.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol fod y rhaglen yn darparu fframwaith amlinellol ar gyfer cyflawni hyfforddiant gyda rhai o’r elfennau’n cario drosodd o’r flwyddyn ariannol flaenorol. Mae’r rhaglen ddatblygu’n berthnasol i Aelodau Etholedig ynghyd ag Aelodau Cyfetholedig ac Aelodau Lleyg ble mae hynny’n briodol. Mae’r Awdurdod eisoes yn darparu cymorth E-ddysgu er mwyn annog hunan-ddatblygiad ond cafwyd rhai problemau gyda’r Porth E-ddysgu cyfredol sy’n cael ei gynnal gan y GIG. Nododd fod cyfleuster llwyfan hyfforddiant y Gronfa Ddysgu wedi cael ei gomisiynu i gefnogi cyfleusterau hyfforddiant ar-lein. Mae’r llwyfan hwn eisoes yn cael ei ddefnyddio gan nifer o Awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru. Gwnaed cais i Aelodau’r Pwyllgor hwn gael eu penodi i arbrofi gyda chyfleuster y Gronfa Ddysgu.
Ystyriodd yr Aelodau’r adroddiad a chodwyd y prif faterion isod:-
• Dywedwyd bod angen i’r holl Aelodau Etholedig dderbyn hyfforddiant ar bolisïau cynllunio oherwydd eu bod yn mynychu’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn eu rôl fel aelodau lleol pan fo ceisiadau cynllunio penodol yn cael eu trafod yn eu ward etholiadol nhw. Nodwyd bod hyfforddiant ar y broses gynllunio yn y gorffennol wedi bod yn sylfaenol a bod angen hyfforddiant gloywi ar yr Aelodau. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod y cynllun yn amlygu’r angen i Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gael hyfforddiant rheolaidd, fodd bynnag, gwneir nodyn ar wahân i’r holl Aelodau Etholedig gael cynnig hyfforddiant ar faterion Cynllunio fel a nodir yn y cynllun; • Cyfeiriwyd at y ffaith fod angen amlygu hyfforddiant mandadol er mwyn sicrhau bod Aelodau Etholedig yn ymwybodol o bwysigrwydd hyfforddiant o’r fath. Dywedwyd hefyd bod angen, ble bynnag y mae hynny’n bosibl, trefnu cyrsiau hyfforddiant naill ai cyn neu ar ôl cyfarfodydd eraill yn y Cyngor;
Nododd yr Aelodau bod angen annog Swyddogion yn y Cyngor i ddarparu sesiynau hyfforddiant i Aelodau Etholedig oherwydd eu bod ag ymwybyddiaeth o gonfensiynau/materion lleol. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol bod Swyddogion ble bynnag y mae hynny’n bosibl yn cael cais i ddarparu sesiynau a’n bod yn ogystal yn ymgynghori gydag awdurdodau cyfagos i ddarparu sesiynau hyfforddi dwyieithog ar gyfer Aelodau Etholedig.
PENDERFYNWYD :-
• Argymell i’r Cyngor llawn ei fod yn mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Aelodau am 2019/20 fel fframwaith ar gyfer Datblygu Aelodau; • Rhoi awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wneud unrhyw newidiadau pellach fel sy’n briodol; • Bod y Cynghorwyr Eric W Jones, J Arwel Roberts a Nicola Roberts yn cael eu penodi i arbrofi gyda chyfleuster hyfforddi’r Gronfa Ddysgu unwaith y bydd ar gael. |