Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2021.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf, 2021 ac fe gadarnhawyd eu bod yn gofnod cywir.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y bydd angen cynnal Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fis nesaf er mwyn trafod ymateb y Cyngor i adroddiad drafft y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRP) cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau ar 26 Tachwedd 2021. |
|
Adolygiad o Etholaethau Seneddol PDF 109 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod y Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi dechrau ar ei adolygiad 2023 o Etholaethau Seneddol yng Nghymru, yn unol â darpariaethau’r Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986. Mae cynigion cychwynnol wedi eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghori, gyda dyddiad cau o 3 Tachwedd wedi ei nodi ar gyfer derbyn sylwadau.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y cynigion yn argymell lleihau nifer yr etholaethau o 40 i 32 yng Nghymru. Nid yw Etholaeth Ynys Môn yn destun unrhyw newidiadau ac nid yw’n cael ei argymell fod unrhyw newid enw chwaith.
Nodwyd y gwnaethpwyd achos i ddiogelu Etholaeth Ynys Môn yn 2017, fel rhan o’r adolygiad diwethaf.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y cynigion yn argymell lleihau nifer yr etholaethau o 40 i 32 yng Nghymru. Codwyd pryderon am yr effaith y byddai’r gostyngiad hwn yn ei gael ar Gymru a llais democrataidd.
PENDERFYNWYD croesawu’r cynigion ar gyfer Etholaeth Seneddol Ynys Môn, fel y nodwyd yn y ddogfen ymgynghori, ac argymell hynny i’r Cyngor Sir.
|