Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni / Zoom
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Medi 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Medi 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Hyfforddiant Adnoddau Dynol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan Reolwr Hyfforddi a Datblygu yr Adran Adnoddau Dynol ar y Rhaglen Hyfforddi a Datblygu i Aelodau ar gyfer 2024/25.
Adroddodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu bod Tîm Hyfforddi’r Adran Adnoddau Dynol wedi bod yn cydweithio â’r Gwasanaethau Democrataidd ar y Rhaglen Hyfforddi a Datblygu, sydd wedi’i rhannu i’r penawdau canlynol: Hyfforddiant Mandadol; Cyffredinol; Iechyd a Lles; Ar Gais a modiwlau E-Ddysgu.
Adroddodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu bod 39 o gyfleoedd wedi cael eu cynnig i aelodau etholedig ers mis Ebrill 2023, 24 yn llai na’r flwyddyn flaenorol. Dywedodd bod mwy o bwyslais wedi bod ar hyfforddiant mandadol, a bod y canlyniadau’n gadarnhaol. Nodwyd bod mwy wedi cymryd mantais o’r hyfforddiant Iechyd a Diogelwch a bod 34 allan o 35 wedi mynychu eleni o gymharu â 26 y llynedd. Cynhelir hyfforddiant pellach ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar 3 Rhagfyr 2024.
Adroddodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu bod TGCh yn dal i fod yn faes blaenoriaeth, a bod y sesiynau hyfforddi 1:1 wedi bod yn hynod effeithiol. Rhannwyd holiadur gyda’r aelodau yn dilyn yr hyfforddiant ond roedd nifer yr ymatebion yn siomedig. Mae’r trafodaethau â Chymunedau Digidol Cymru yn parhau er mwyn darparu cyfleoedd hyfforddi pellach yn y maes hwn. Dywedodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu bod yr aelodau etholedig wedi gofyn am sesiynau wedi’u teilwra, ac y bydd y ceisiadau hynny’n cael eu hystyried. Yn y cyfamser, bydd yr aelodau’n cael cyfle i fynychu cyrsiau hyfforddi ar faterion corfforaethol, sy’n cael eu cynnig i staff.
Nodwyd bod diweddariadau chwarterol ar bresenoldeb yn ystod sesiynau hyfforddi yn cael eu rhannu â’r Gwasanaethau Democrataidd ac yna’r Arweinwyr Grŵp maes o law. Yn ddiweddar, cyflwynwyd sesiynau hyfforddi rhithwir ynghyd â fideo dwyieithog ar Iechyd a Diogelwch, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus. Fe wnaeth y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu annog yr aelodau i gysylltu â hi os oes ganddynt unrhyw bryderon neu adborth i’r Tîm Hyfforddi yn dilyn sesiynau hyfforddi.
Roedd un aelod o’r Pwyllgor yn poeni bod yr hyfforddiant ar gael yn y Gymraeg yn unig. Dywedodd yr aelod y dylai’r Cyngor, fel Cyngor dwyieithog, ddarparu hyfforddiant yn y Saesneg, a bod peidio â gwneud hynny’n mynd yn groes i Hawliau Dynol. Nodwyd bod hyfforddiant ar gael yn ddwyieithog drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod cyfieithiad Saesneg ar gael i’r rhai sy’n gwrando yn Saesneg.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn â darparu hyfforddiant dwyieithog. Dywedodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu bod yr opsiwn i gynnal sesiynau Saesneg yn cael ei ystyried, ond bod hynny’n anodd yn yr hinsawdd bresennol gan y byddai’n arwain at gostau ychwanegol. Ynglŷn â TGCh a thermau cymhleth, dywedodd y byddai’n anfon cais yr aelod ymlaen at y darparwr i ofyn am fwy o hyblygrwydd o ran cyfieithu a defnyddio ieithwedd haws ei deall.
Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth bod sesiynau ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth ar gynigion drafft y Panel ar gyfer 2025/26.
Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth y bydd y Panel yn ymgynghori ar ei gynigion drafft tan 29 Tachwedd 2024 a bod yr ymgynghoriad yn cynnwys dau gwestiwn ychwanegol. Yn dilyn y broses ymgynghori, bydd y fersiwn terfynol o’r Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2025 ac yn cael ei gyflwyno i’w fabwysiadu gan y Cyngor llawn.
Cyfeiriodd y Pennaeth Democratiaeth at y newidiadau arfaethedig i’r cyflog sylfaenol ar gyfer pob aelod ynghyd â’r uwch gyflogau a chyflogau dinesig ar gyfer 2025/26. Dywedodd y byddai’r cynigion drafft yn arwain at gynnydd o £71k (7.8%) yng nghyllideb y Cyngor.
Nodwyd mai’r adroddiad blynyddol hwn fydd yr adroddiad terfynol i gael ei gyflwyno gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Bydd swyddogaethau’r Panel yn cael eu trosglwyddo i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar 1 Ebrill 2025.
Cyfeiriodd y Pennaeth Democratiaeth at y cwestiwn cyntaf yn ymgynghoriad y Panel, sy’n gofyn i’r Pwyllgor ystyried a yw’r Panel wedi taro'r cydbwysedd cywir rhwng fforddiadwyedd a chydnabyddiaeth ariannol ddigonol i gynrychiolwyr? Eglurodd bod y Panel yn seilio’i argymhellion ar yr arolwg blynyddol o enillion cyfartalog yng Nghymru a bod hynny’n cael ei ystyried yn ffordd resymol a thryloyw o bennu’r gydnabyddiaeth.
Mae’r ail gwestiwn yn ymwneud â rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol benderfynu sut i dalu aelodau cyfetholedig. Nodwyd bod awdurdodau lleol wedi cael y dewis i dalu aelodau lleyg fesul awr y llynedd. Ni wnaeth Cyngor Sir Ynys Môn fabwysiadu’r dull hwn ac mae’n dal i ddefnyddio’r gyfradd talu diwrnod neu hanner diwrnod.
Adroddodd y Pennaeth Democratiaeth bod y Pwyllgor Safonau wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor hwn yn mynegi eu siomedigaeth nad yw’r gydnabyddiaeth a delir i aelodau cyfetholedig wedi cynyddu ers pum mlynedd. Dywedodd bod aelodau’r Pwyllgor Safonau’n teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi am eu gwaith. Maent yn credu bod risg o fethu â chadw’r aelodau presennol a denu aelodau newydd. Nodwyd bod y Pwyllgor Safonau’n dymuno cael gwybod pam bod y Cyngor wedi penderfynu peidio â chynyddu’r gydnabyddiaeth i aelodau lleyg.
Dywedodd aelodau’r Pwyllgor eu bod yn poeni nad yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer aelodau lleyg wedi cynyddu yn yr un modd â’r cyflogau a delir i aelodau. Fe wnaeth y Pennaeth Democratiaeth atgoffa’r Pwyllgor bod y mater hwn wedi cael ei drafod y llynedd yn ystod cyfarfod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd mewn ymateb i gynigion y Panel, a bod y Panel wedi cefnogi cynyddu’r gydnabyddiaeth i aelodau lleyg. Mae’r Pwyllgor yn dal i gredu y byddai’n briodol cynyddu’r gydnabyddiaeth i aelodau lleyg sy’n gwasanaethu ar Bwyllgorau.
PENDERFYNWYD: -
• Ystyried penderfyniadau drafft y Panel ar gyfer 2025/26 a’r ddau gwestiwn ychwanegol. • Awdurdodi swyddogion i ymateb i’r ymgynghoriad yn unol â thrafodaethau’r Pwyllgor. |
|
Diweddariad Gwasanaethau Democrataidd Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth democratiaeth ar faterion yn ymwneud â llywodraethu a chefnogaeth i aelodau.
Adroddodd y Pennaeth Democratiaeth bod y Protocol ar gyfer Cyfarfodydd Hybrid wedi cael ei ddiweddaru’r llynedd. Dywedodd bod rhaid atgoffa rhai aelodau o’r disgwyliadau pan fyddant yn ymuno â chyfarfodydd o bell. Bydd y Protocol yn cael ei rhannu eto cyn diwedd y flwyddyn galendr hon er mwyn atgoffa’r aelodau ynglŷn â’r canllawiau a’r gofynion.
Nodwyd bod cyfarfodydd yn cael eu recordio a’u bod ar gael ar wefan y Cyngor am 12 mis yn dilyn pob cyfarfod. Mae’r Cyngor yn monitro gweddarllediadau ac mae gallu gweld faint o bobl sy’n gwylio cyfarfodydd ac unrhyw dueddiadau sy’n dod i’r amlwg.
Wrth gyfeirio at Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau Etholedig, dywedodd bod 26 adroddiad wedi dod i alw ar gyfer 2023/24. Bydd yr aelodau’n cael eu hatgoffa am y broses yn y flwyddyn newydd ac yn derbyn copi o’r templed ar gyfer 2024/25.
Fe wnaeth y Pennaeth Democratiaeth atgoffa’r aelodau bod ganddynt ddyletswydd i gofrestru a datgan unrhyw fuddiant neu newid yn eu hamgylchiadau o fewn 28 diwrnod. Dywedodd bod y cofnodion hyfforddi diweddaraf ar gael ar wefan y Cyngor.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |