Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni / Zoom
Cyswllt: Shirley Cooke
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2024, a chadarnhawyd eu bod yn gywir, yn amodol ar gywiro enw’r Cynghorydd Carwyn E Jones.
Dywedodd y Pennaeth Democrataidd ei fod wedi trafod yr opsiwn o ddarparu hyfforddiant ar gyfer aelodau yn yr iaith o’u dewis gyda’r Rheolwr Hyfforddiant a Datblygu Adnoddau Dynol. Cytunwyd y bydd aelodau’n cael eu trin yr un fath a staff yn y dyfodol, a bydd sesiynau hyfforddiant Cymraeg a Saesneg yn cael eu cynnig i aelodau. |
|
|
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Adroddiad Blynyddol 2025 i 2026 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Democrataidd ar benderfyniadau terfynol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2025/2026.
Dywedodd y Pennaeth Democrataidd fod cynigion drafft yr IRP wedi’u trafod yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 27 Tachwedd, 2024. Yn ei ymateb i ymgynghoriad yr IRPW, mynegodd y Pwyllgor bryderon nad oedd yr IRPW wedi cynyddu taliadau i aelodau cyfetholedig, a all gael effaith negyddol ar y rôl y dyfodol. Nodwyd na wnaed unrhyw newidiadau i’r penderfyniadau terfynol, fydd yn dod i rym yn ystod mis Ebrill 2025.
Bydd y Cyngor yn cadarnhau adroddiad blynyddol yr IRPW ar 20 Mai 2025, a dyma’r adroddiad olaf fydd yn cael ei gyflwyno gan y Panel. Bydd ei swyddogaethau’n cael ei drosglwyddo i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar 1 Ebrill 2025.
Mynegodd aelodau bryderon ynghylch sylwadau bychanol a beirniadaeth annheg gan y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol am strwythur tâl presennol yr Arweinydd, aelodau etholedig a’r Cyngor yn gyffredinol. Roedd aelodau’n teimlo fod diffyg dealltwriaeth ynghylch rôl Cynghorwyr ymhlith rhai aelodau’r cyhoedd, sy’n cael ei waethygu gan y cyfryngau cymdeithasol.
Gofynnodd y pwyllgor iddo gael ei nodi fod tâl Cynghorwyr yn cael ei osod gan banel annibynnol, yn seiliedig ar gyfartaledd cyflog yn yr ardal, ac nid gan aelodau etholedig Cyngor Sir Ynys Môn. Cadarnhaodd y Pennaeth Democrataidd fod taliad cydnabyddiaeth aelodau’n cael ei osod gan sefydliad annibynnol ar ran Cynghorau ledled Cymru.
Mewn perthynas â chyflog yr Arweinydd, dywedodd fod awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael eu rhannu yn dri grŵp penodol yn seiliedig ar nifer yr aelodau fesul pen poblogaeth. Mae Ynys Môn yn y grŵp isaf; felly, mae uwch gyflogau’n is yn yr awdurdod hwn na mwyafrif yr awdurdodau eraill yng Nghymru. Nodwyd fod gan Ynys Môn ‘gap’ o 17 uwch gyflog, ond dim ond 15 sy’n cael eu defnyddio, sy’n cyfateb i arbed dau uwch gyflog.
PENDERFYNWYD nodi penderfyniadau o fewn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2025/26 (Chwefror 2025). |
|
|
Diweddariad Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad diweddaru gan y Pennaeth Democrataidd ar gefnogaeth i aelodau a materion llywodraeth.
Dywedodd y Pennaeth Democrataidd, yn dilyn yr adolygiad sgriwtini, y bydd paneli sgriwtini’n gwneud mwy o waith maes ac yn cynnal llai o gyfarfodydd. Bydd holl gyfarfodydd y pwyllgor a’r paneli sgriwtini yn gyfarfodydd hybrid, gyda’r disgwyliad y cynhelir cyfarfodydd paratoi a sesiynau briffio aelodau.
Mae gwelliannau diweddar i we-ddarlledu cyfarfodydd wedi cynnwys cysylltu ffrydiad byw gwe-ddarllediadau gydag eitemau penodol ar yr agenda. Mae data am nifer y gwylwyr yn cael ei gasglu a’i ddadansoddi, sy’n arwain at gofnodi niferoedd gwylio cadarnhaol.
Mynegwyd pryderon fod aelodau’n gallu bod yn destun ymddygiad bygythiol difrifol a sylwadau enllibus ar y cyfryngau cymdeithasol. Dywedodd y Pennaeth Democrataidd fod y Cyngor yn darparu gwasanaeth cwnsela, Medra, ar gyfer staff ac aelodau etholedig. Bydd canllawiau ar gyfer diogelwch personol hefyd ar gael ar gyfer aelodau’n fuan iawn. Mae trefniadau ar waith i PC Gareth Jaggard, Swyddog Aelodau Etholedig Heddlu Gogledd Cymru, gynnig hyfforddiant ar ddiogelwch personol i aelodau etholedig. Bydd ‘Operation Ford’, sy’n cael ei ariannu gan y Swyddfa Gartref, hefyd yn darparu cyngor i aelodau lleol yn gyffelyb i’r gefnogaeth sydd ar gael i Aelodau Seneddol yn San Steffan.
Nodwyd fod 26 o Adroddiadau Blynyddol wedi’u derbyn gan Aelodau Etholedig ar gyfer 2023/24, sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Atgoffwyd aelodau i gyflwyno eu hadroddiadau blynyddol ar gyfer 2024/25 erbyn diwedd mis Mai, er mwyn eu cyhoeddi ym mis Mehefin.
Dywedodd y Pennaeth Democrataidd mai prif bwrpas adolygiadau blynyddol aelodau gydag Arweinyddion Grwpiau yw hwyluso anghenion hyfforddi. Bydd angen trafod unrhyw ofynion hyfforddi sy’n deillio o’r sgwrs flynyddol gyda’r Tîm Hyfforddiant cyn diwedd Ebrill, er mwyn gallu ystyried ceisiadau a’u cynnwys yng Nghynllun Datblygu Aelodau ar gyfer 2025/26.
Dywedodd y Pennaeth Democrataidd y bydd rhaid i aelodau gofrestru unrhyw roddion/ lletygarwch neu ddiddordebau/newidiadau mewn amgylchiadau cyn pen 28 diwrnod gwaith. Dywedodd fod cofnodion hyfforddi newydd ar gael ar wefan y Cyngor.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |