Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 284 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2022 ac fe gadarnhawyd eu bod yn gofnod cywir.

 

3.

Hyfforddiant Aelodau Etholedig pdf eicon PDF 907 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Rheolwr Hyfforddi Adnoddau Dynol ar y cyfleoedd hyfforddi a datblygu a gynigiwyd i aelodau etholedig ers mis Mai 2022.

 

Adroddodd y Rheolwr Hyfforddi AD bod 59 diwrnod o hyfforddiant wedi cael ei gynnig i aelodau etholedig ar bob math o bynciau yn cynnwys hyfforddiant penodol i aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Llywodraethu a’r Pwyllgor Archwilio. Mae sesiynau hyfforddi generig amrywiol e.e. sgiliau Cadeirio, TGCh hefyd wedi cael eu cynnig yn ychwanegol i’r cyrsiau gorfodol sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Fodd bynnag, dywedodd y Rheolwr Hyfforddi mai arfer gorau yn hytrach na gorfodol yw’r hyfforddiant ar Gyfansoddiad y Cyngor.  Amlygwyd bod hyfforddiant ychwanegol hefyd wedi cael ei drefnu cyn diwedd y flwyddyn ariannol e.e. Cyfryngau Cymdeithasol; Iechyd, Diogelwch a Lles. Yn achos yr hyfforddiant gorfodol, mae’r lefelau presenoled yn gymysg iawn.

 

Adroddodd y Rheolwr Hyfforddi AD y bydd pob aelod etholedig, yn unol â’r Strategaeth Datblygu Aelodau, yn cael cynnig Cyfweliad Datblygu Blynyddol gyda’u Harweinydd Grŵp cyn diwedd mis Ebrill 2023 i drafod eu hanghenion hyfforddi unigol.  Bydd cynnwys y trafodaethau hyn, ynghyd â chyfraniad y Tîm Arweinyddiaeth a Phenaethiaid Gwasanaeth, yn cael ei ddefnyddio fel sail i gynllun hyfforddi 2023/24.  Bydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a’r Pennaeth Democratiaeth.

 

Pwysleisiodd y Pennaeth Democratiaeth ei bod hi’n bwysig bod yr aelodau’n cyfrannu er mwyn gallu cynhyrchu Rhaglen Hyfforddi sy’n addas i’r diben.  Fe wnaeth atgoffa’r aelodau bod eu Cyfweliadau Datblygu’n rhan allweddol o’r broses, a dywedodd ei fod ar gael i gynnig cymorth pe bai angen.

 

Adroddodd y Rheolwr Hyfforddi AD eu bod yn adolygu amser y sesiynau hyfforddi yn barhaus, er mwyn ymateb i  ymrwymiadau gwaith/gofal yr aelodau.  Nodwyd bod rhai aelodau o’r Pwyllgor wedi croesawu cynnal cyfarfodydd yn ystod y dydd ac yn gynnar yn y nos. 

 

Amlygodd un aelod ei bod hi’n anodd darparu adborth ar y sesiynau hyfforddi ar hyn o bryd. Roedd y rheolwr Hyfforddi AD yn cydnabod hynny ac adroddodd ei bod wrthi’n trafod y mater gyda’r adran TGCh er mwyn dod o hyd i ffordd addas o gyflwyno ffurflenni’n rhwydd ar ffurf electronig. 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

4.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023 i 2024 pdf eicon PDF 124 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth ar benderfyniadau terfynol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2023/24, a oedd yn nodi’r lefelau a’r math o daliadau sydd ar gael i aelodau’r awdurdod lleol a sefydliadau eraill.

 

Adroddodd y Pennaeth Democratiaeth bod yr adroddiad blynyddol drafft wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar 30 Tachwedd 2022, a’i dderbyn ganddo. Dywedodd bod Adroddiad Blynyddol terfynol y Panel Dyfarnu wedi cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2023, ac y bydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2023.

 

Adroddodd y Pennaeth Democratiaeth bod yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cefnogi cynigion y Panel ar y cyfan ac mai dim ond mân newidiadau a gafodd eu gwneud i’r penderfyniadau terfynol. Dywedodd y bydd y Panel yn llunio rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, a fydd yn cael ei chyhoeddi maes o law.

 

Nodwyd bod nifer yr uwch gyflogau y gellir eu talu yn Ynys Môn wedi eu cyfyngu i 17 ar gyfer 2023/24 a bod yr Awdurdod yn talu 15 uwch gyflog ar hyn o bryd.  Eglurwyd bod hwn yn benderfyniad i’r Cyngor llawn ac y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno ar y mater yng nghyfarfod nesaf y Cyngor llawn ym mis Mai 2023.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r penderfyniadau o fewn adroddiad blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2023 i 2024 (Chwefror 2023)

  Nodi bwriad y Panel i gyhoeddi blaen raglen waith ar gyfer y flwyddyn hon ddiwedd mis Mawrth 2023.

 

5.

Rôl y Pwyllgor Democrataidd a Rhaglen Waith pdf eicon PDF 294 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth ar ddyletswyddau statudol a phwerau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth a’r rhaglen waith ddrafft ar gyfer 2023/24.

 

Adroddodd y Pennaeth Democratiaeth ei bod hi’n amserol i’r aelodau ystyried rôl a chyfrifoldebau’r Pwyllgor ac ystyried materion i’w cynnwys ar y rhaglen waith ar gyfer 2023/24. Dywedodd bod pedwar cyfarfod o’r pwyllgor wedi cael eu trefnu ar gyfer y flwyddyn, a fydd yn ymdrin â materion sy’n berthnasol i’r aelodau. Bydd adroddiad blynyddol hefyd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ym mis Medi 2023 ar weithgarwch y Pwyllgor yn ystod y flwyddyn.

 

Cyfeiriwyd at baragraff 2.2.2 yn yr adroddiad, sy’n sôn am gynnwysunrhyw eitem arallyn nisgrifiad rôl y Pwyllgor. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth nad oedd y rhestr o eitemau busnes yn cynnwys popeth a rhoddodd sicrwydd  i’r aelodau y bydd unrhyw faterion eraill yr hoffent eu codi dros y misoedd nesaf yn cael eu hystyried.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi dyletswyddau'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, fel y’u cyflwynwyd yn yr adroddiad

  Nodi rhaglen cyfarfodydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a’r rhaglen waith ar gyfer 2023/24.