Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Neuadd Goffa, Llanfairpwll
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Cofnodion: Etholwyd Alun Mummery yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Cyswllt hyd at ddiwedd Mawrth 2017. |
|
Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Cofnodion: Etholwyd Mr Islwyn Humphreys yn Is-gadeirydd ar y Pwyllgor. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
· Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, 2016.
· Cyflwyno cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a drefnwyd ar gyfer 13 Hydref, 2016.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2016, a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
Materion yn codi:-
Eitem 1 - Cadeirydd
Mewn perthynas â rôl cynrychiolydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ar y pwyllgor, penderfynwyd y byddai’r Dirprwy Brif Weithredwr yn gofyn am gadarnhad gan yr Ymddiriedolaeth.
Gweithredu: Fel y nodwyd uchod.
Eitem 3 – Cofnodion 14 Hydref 2016
Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol ei bod wedi rhannu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani mewn perthynas â buddsoddiad yr Awdurdod yn y Trydydd Sector gyda Phrif Swyddog Medrwn Môn.
Eitem 5 – Adolygu’r Cod Ymarfer Cyllido a Dyraniad y Sector Gwirfoddol 2015/16
Adroddodd y Prif Swyddog, Medrwn Môn bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi gofyn am gyfarfod gyda’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i drafod y posibilrwydd o dderbyn cyllid gan yr Ymddiriedolaeth.
Eitem 6 – Strategaeth y Sector Gwirfoddol a Rôl y Pwyllgor Cyswllt
Adroddodd y Prif Swyddog, Medrwn Môn bod Bwrdd Medrwn Môn wedi trafod opsiynau pellach i gryfhau’r trefniadau partneriaeth presennol mewn perthynas â drafftio strategaeth ar gyfer gweithio ar y cyd.
Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol bod y data a gasglwyd o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei ddadansoddi.
Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol y byddai Llio Johnson, yr Uwch Reolwr Partneriaeth, yn rhoi diweddariad yng nghyfarfod nesaf Bwrdd Medrwn Môn.
Nododd y Pwyllgor nad oedd cworwm yng nghyfarfod Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a drefnwyd ar gyfer 13 Hydref 2016, ac o ganlyniad ni chynhaliwyd y cyfarfod. |
|
Gweithio mewn Partneriaeth Derbyn adroddiad gan y Prif Swyddog, Medrwn Môn. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog, Medrwn Môn bapur trafod ar y weledigaeth a’r strategaeth ar gyfer gweithio mewn partneriaeth gyda’r Trydydd Sector ar Ynys Môn, a’r angen i gael cynllun gweithredu i wireddu gweledigaeth a nodau’r dogfennau strategol a gynhyrchwyd h.y. Compact, Cod Cyllido, Polisi Gwirfoddol, Polisi Partneriaeth.
Roedd y Prif Swyddog, Medrwn Môn yn cydnabod, er gwaetha’r ffaith bod y sector wedi wynebu nifer o heriau yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda chyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r bartneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), bod cyfraniad y Sector yn cael effaith gadarnhaol ar y defnyddwyr gwasanaeth. Nodwyd bod angen gwneud gwaith pellach i gynnwys Medrwn Môn yn y trafodaethau, i wella cyfathrebu, ac i ymateb yn fwy effeithiol i aelodau’r cyhoedd.
Cyfeiriwyd at lwyddiant hybiau cymunedol ym Miwmares, Porthaethwy ayb o ran dod â phobl ynghyd a rhannu syniadau ac adnoddau. Nodwyd fod y model hybiau cymunedol yn caniatáu i unigolion wneud penderfyniadau am weithgareddau yn eu cymunedau.
Gweithredu:
Medrwn Môn, mewn ymgynghoriad â Chyngor Sir Ynys Môn i ddrafftio cynllun gweithredu i’w gyflwyno yn y cyfarfod nesaf. |
|
Lleisiau Lleol Derbyn diweddariad gan Medrwn Môn. Cofnodion: Cyfeiriodd y Prif Swyddog, Medrwn Môn at eitem 8 yng nghofnodion cyfarfod 8 Gorffennaf 2016, sy’n nodi y byddai’r prosiect Lleisiau Lleol yn dod i ben ddiwedd Mawrth 2017.
Nodwyd fod trafodaethau wedi eu cynnal â’r Loteri Genedlaethol am drefniadau cyllido’r Trydydd Sector yn y dyfodol. Cyflwynir cais am grant ddiwedd mis Mawrth 2017, a phetai’r cais yn llwyddiannus byddai’n sicrhau dyfodol y prosiectau canlynol:
• Panel Dinasyddion; • Ymgysylltu ac Ymgynghori â’r Cyngor Sir; • Fframwaith Plant a Phobl Ifanc ar gyfer gweithio gyda’r Cyngor Sir; • Model ar gyfer Adeiladu Cymunedau.
Nodwyd hefyd bod Medrwn Môn wedi gwneud cais am gyllid i’r Ymddiriedolaeth Elusennol.
Mewn perthynas â’r ymgynghoriad ar Gyllideb 2017/18, gofynnodd Medrwn Môn am eglurhad ynglŷn ag effaith toriadau yn y gyllideb ar drefniadau ariannu’r Trydydd Sector yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Yn codi o’r drafodaeth, amlygwyd bod diffyg gwirfoddolwyr yn y Trydydd Sector, a bod angen datblygu sgiliau gwirfoddoli. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar ffyrdd o annog pobl i wirfoddoli, a’r posibilrwydd o ddefnyddio sgiliau’r nifer fawr o wirfoddolwyr sy’n gysylltiedig ag Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.
Gweithredu:
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i drafod yr agwedd hon gyda swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol. |
|
Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 506 KB Cyflwyno er gwybodaeth, adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Rhagfyr, 2016. Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Flaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Ionawr i Awst 2017, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Rhagfyr 2016.
Anfonir y Rhaglen Waith i Medrwn Môn yn fisol er mwyn rhoi diweddariad i’r Sector ar faterion sydd wedi eu hamserlennu i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgorau Sgriwtini.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
Cyfarfod Nesaf Cytuno ar leoliad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor sydd wedi’i drefnu ar gyfer dydd Iau, 13 Gorffennaf, 2017. Cofnodion: Yn dilyn trafodaeth am gynnal cyfarfodydd yn ganolog yn y dyfodol, cytunodd y Pwyllgor i gynnal y cyfarfod nesaf, sydd wedi ei drefnu ar gyfer dydd Iau, 13 Gorffennaf 2016, yn Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.
Penderfynwyd cynnal bob 2 gyfarfod allan o dri yn fewnol ac 1 yn allanol. Cytunwyd i adolygu’r trefniant hwn yn y dyfodol. |