Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Cofnodion: Etholwyd Mr Islwyn Humphreys yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyswllt hyd at ddiwedd Ebrill 2020. |
|
Is-gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Alun Mummery yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Cyswllt hyd at ddiwedd Ebrill 2020. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno cofnodion drafft cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-
• 9 Chwefror 2018 • 27 Gorffennaf 2018 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, cofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cyswllt a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-
• 9 Chwefror 2019 • 27 Gorffennaf 2019 |
|
Derbyn diweddariad ar yr uchod gan y Rheolwr Trawsnewid Strategol a Busnes. Cofnodion: Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Strategol a Busnes fod Compact Ynys Môn wedi cael ei ddiweddaru a’i symleiddio’n ddiweddar a bod ei enw wedi cael ei newid i Gytundeb Partneriaeth Ynys Môn.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yr hoffai weld y Cyngor yn ymrwymo i 5 neu 6 o amcanion er mwyn cryfhau’r Cytundeb Partneriaeth. Dywedodd fod angen i bwrpas y Cytundeb fod yn fwy positif gyda’r Cyngor yn mabwysiadu ymagwedd fwy cadarn gan ddefnyddio datganiadau fel “byddwn”, “byddwch”, “gyda’n gilydd, byddwn”.
Gofynnodd y Sector Gwirfoddol am eglurder mewn perthynas â’i rôl o ran y Cyngor ac fel arall. Nodwyd y byddai’r Sector Gwirfoddol yn cefnogi’r Cyngor i drosglwyddo ei negeseuon i’r gymuned.
Nodwyd ymhellach fod Medrwn Môn wedi trafod perthynas y Pwyllgor Cyswllt gyda’r Bwrdd Ymgynghori ac Ymgysylltu a sefydlwyd gan y Cyngor. Mae Medrwn Môn wedi cytuno i gyflwyno ei gynigion i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol sydd, yn ei dro, wedi cytuno i rannu amcanion y Cyngor gyda’r Pwyllgor ymhen 3 neu 4 wythnos.
Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn bod y Sector Gwirfoddol yn teimlo’n analluog i ddylanwadu ar gyllidebau mewn perthynas â’r ymagwedd bartneriaethol, yn enwedig o ran y Bwrdd Iechyd.
Cafwyd trafodaeth ynghylch arfer dda er mwyn sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cyflawni ei rôl yn y Cytundeb Partneriaeth. Awgrymwyd y dylid sefydlu cynllun cydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn.
PENDERFYNWYD:-
• Bod Medrwn Môn yn anfon ei gynigion mewn perthynas â’r Cytundeb Partneriaeth ymlaen i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. • Bod y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol:- • yn gweithredu ar adborth gan Medrwn Môn; ac, • yn paratoi amcanion y Cyngor mewn perthynas â’r Cytundeb Partneriaeth; ac • yn anfon y Cytundeb drafft i’r Pwyllgor ymhen 3-4 wythnos ar gyfer ei gymeradwyo. • Bod y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno fersiwn derfynol Cytundeb Partneriaeth Ynys Môn i’r Sector Gwirfoddol yn ei gyfarfod nesaf ym mis Mawrth 2020. |
|
Derbyn diweddariad ar yr uchod gan y Rheolwr Trawsnewid Strategol a Busnes.
Cofnodion: Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Strategol a Busnes fod Polisi Gwirfoddoli’r Cyngor wedi cael ei ddiweddaru mewn perthynas â diogelu a hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr. Bydd angen diweddaru’r Polisi ymhellach i gynnwys sylwadau a wnaed gan Adran Adnoddau Dynol y Cyngor yn y man.
Bydd Polisi Gwirfoddoli’r Cyngor yn cael ei adolygu’n flynyddol gan y Pwyllgor Cyswllt fel rhan o’i gylch gorchwyl i weithredu’r egwyddorion yn y Cytundeb Partneriaeth.
PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd. |
|
Cod Ymarfer Ynys Môn ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector PDF 1 MB Derbyn diweddariad ar yr uchod gan y Rheolwr Trawsnewid Strategol a Busnes. Cofnodion: Dywedoddy Rheolwr Trawsnewid Strategol a Busnes bod y Côd Ymarfer a fabwysiadwyd gan y Cyngor wedi cael ei ddiweddaru’n ddiweddar gan yr AdranGyllid. Awgrymwyd y dylai’r Cytundeb Partneriaeth a’r Côd Ymarfer gael eu cyfuno’n un ddogfen.
Codwydpryderon ynghylch amseriad cyllid grant allanol ar gyfer y Sector Gwirfoddol. DywedoddPrif Swyddog Medrwn Môn ei bod yn ofynnol dan y Côd i’r Cyngor roi tri mis o rybudd ynghylch unrhyw grantiau sydd ar gael. Fodd bynnag, nid yw’r polisi hwn yn ymwneud ag unrhyw grantiau sydd y tu allan i reolaeth y Cyngor.
PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd. |
|
Cylch Gorchwyl y Pwyllgor PDF 295 KB I adolygu’r Pwyllgor. Cofnodion:
Eglurodd Prif Swyddog Medrwn Môn nad yw aelodaeth y Pwyllgor Cyswllt ond yn cael ei adnewyddu pan ddaw seddi’n wag. Trafododd y Pwyllgor a ddylai newid ei aelodaeth yn fwy rheolaidd a pha mor aml y dylid cynnal cyfarfodydd. Cytunwyd parhau â’r system bresennol o benodi aelodau newydd pan ddaw seddi’n wag, a chynnal cyfarfodydd ‘hyd at 3 gwaith y flwyddyn’.
Nodwyd bod dau gynrychiolydd newydd wedi cael eu penodi i wasanaethu ar y Pwyllgor Cyswllt, sef Mr Aled Evans o Age Cymru - Gwynedd a Môn, a Mr Iwan Jones, Swyddog Corfforaethol o BIPBC.
Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch diffyg presenoldeb y Bwrdd Iechyd mewn cyfarfodydd. Cytunodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fynd ar ôl mater ei swyddogaeth yn y Cytundeb Partneriaeth gyda’r Bwrdd Iechyd. Awgrymodd fod y Pwyllgor yn ystyried enwebu ail aelod o’r Bwrdd Iechyd i wasanaethu ar y Pwyllgor, o dîm sy’n cael ei arwain gan Ffion Johnstone, ac sy’n gweithio’n lleol ar Ynys Môn.
Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn fod Ann Griffith, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru sydd wedi ei nodi fel sylwedydd yn y Pwyllgor hwn, wedi mynegi awydd i fynychu cyfarfodydd.
PENDERFYNWYD:-
• Gweithredu ar y newidiadau a nodir uchod o ran Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Cyswllt. • Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i ymgynghori gyda BIPBC o ran ei rôl yn y Cytundeb Partneriaeth a’r Pwyllgor Cyswllt. • Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn enwebu ail aelod o BIPBC i wasanaethu ar y Pwyllgor Cyswllt. • Bod pwynt 1.7 y Cylch Gorchwyl yn cael ei ddiwygio i ddarllen ‘bod cofnodion Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith yn y man. • Ymestyn gwahoddiad i Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Cyswllt. |
|
Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 801 KB Cyflwyno er gwybodaeth, adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 28 Hydref 2019.
Cofnodion: Cyflwynwyd er gwybodaeth – Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Tachwedd 2019 i Fehefin 2020.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y Rhaglen Waith yn cael ei hadolygu a’i chyflwyno’n fisol i’r Pwyllgor Gwaith.
PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith. |
|
Cyfarfod Nesaf Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor am 2.00 o’r gloch y prynhawn, dydd Mercher, 22 Ebrill 2020 yn Ystafell Bwyllog 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Cofnodion: Cytunwyd y bydd y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Cyswllt yn cael ei gynnal am 2.00pm ar ddydd Mawrth, 3 Mawrth 2020.
|