Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 16 Chwefror, 2017. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2017.
|
|
Panel Sgriwtini Cyllid PDF 134 KB Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.
Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro ar fuddion sefydlu Is-Grŵp Cyllid fel is-banel o’r Pwyllgor hwn, gyda dau aelod etholedig o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio. Bwriedir cynnal yr Is-Grŵp ar ffurf cyfarfodydd busnes. Nododd ei bod yn fwriad datblygu model o weithio sy’n canolbwyntio ar grŵp llai er mwyn galluogi Aelodau i graffu ar drafodaethau cyllidol mewn mwy o fanylder yng nghyfarfodydd y ddau Bwyllgor Sgriwtini. Sgôp ac ystod arfaethedig y Panel fydd craffu ar y pynciau a ganlyn:-
· Monitro Chwarterol y Gwariant Refeniw a Chyfalaf · Cyllideb y flwyddyn i ddod · Cynllun Cyllidol Tymor Canol · Rheoli Dyledion · Polisi Rhyddhad Treth ar Fusnesau · Cynllun Busnes y CRT · Balansau a chronfeydd wrth gefn y Cyngor
Ystyriodd y Pwyllgor yr wybodaeth yn yr adroddiad a chodwyd y materion a ganlyn -
· Gofynnwyd a fyddai rôl yr Is-Grŵp Cyllid yn dyblygu neu’n ymyrryd â rôl y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu? Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro mai rôl y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yw monitro risgiau a rheolaeth ariannol y Cyngor a thrwy hynny roi sicrwydd i’r Cyngor; · Gofynnwyd cwestiynau am yr hyfforddiant fydd yn cael ei roi i Aelodau’r Is-Grŵp Cyllid. Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro y disgwylir y bydd Aelodau Etholedig ar yr Is-Grŵp yn cael eu datblygu yn hytrach na darparu sesiwn hyfforddiant ar eu cyfer. Nododd y bydd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’i dîm yn rhoi arweiniad i Aelodau Etholedig ar brosesau/themâu cyllidebol penodol o fewn y Cyngor. Rhagwelir y bydd Aelodau’n gallu craffu ar a chwestiynu’r broses gyllidebol yn drylwyr yng nghyfarfodydd y Pwyllgorau Sgriwtini wedi hynny.
PENDERFYNWYD :-
· nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma wrth sefydlu trefniadau craffu cadarn ar gyfer materion cyllidol; · awdurdodi’r Rheolwr Sgriwtini Dros Dro, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i wneud trefniadau i sefydlu Panel Sgriwtini Cyllid.
|
|
Panel Sgriwtini Plant PDF 146 KB Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.
Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro ar fuddion sefydlu Panel Sgriwtini Plant mewn ymateb i argymhellion a wnaed gan AGGCC yn dilyn yr arolygiad diweddar o Wasanaethau Plant yn Ynys Môn. Mae’r argymhelliad yn canolbwyntio ar bwysigrwydd parhad cefnogaeth wleidyddol a chorfforaethol gref ar gyfer y gwasanaethau plant i sicrhau bod y gwelliannau sydd eu hangen ar wasanaethau yn cael eu blaenoriaethu a bod cyflymder y gwelliannau yn cynyddu ac yn cael ei gynnal. Cyfeiriodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro at y panel traws bleidiol o Aelodau presennol sydd wedi bod yn edrych ar ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a goruchwylio Cynllun Gwella cyntaf y Gwasanaethau Plant. Dywedodd bod yr adroddiad yn ceisio adeiladu ar y sylfaen a osodwyd yn barod gan y panel traws bleidiol, drwy ddwyn y Pwyllgor Gwaith ac Uwch Reolwyr i gyfrif drwy sgriwtini er mwyn rhoi sicrwydd i’r Awdurdod ac AGGCC bod y broses wella yn un cadarn ac yn gynaliadwy.
Adroddodd y Swyddog ar sgôp arfaethedig y Panel a’i nod ac amcanion, sy’n cael eu crynhoir ym mharagraff 5 yr adroddiad. Wrth ystyried aelodaeth y Panel, cyfeiriwyd yn benodol at bwysigrwydd ceisio sicrhau, fel egwyddor allweddol, bod elfen o barhad o ran aelodaeth.
Croesawodd yr Aelodau y syniad o sefydlu Panel Sgriwtini Plant a nodwyd y dylid ystyried cynnwys Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf fel aelod o’r Panel.
PENDERFYNWYD :-
· nodi’r cynnydd wnaed hyd yma wrth sefydlu trefniadau craffu cadarn ar gyfer y Gwasanaethau Plant; · derbyn sgôp ac ystod gwaith y Panel Plant newydd, gyda sicrhau elfen o barhad yn yr aelodaeth yn egwyddor allweddol wrth ystyried aelodaeth y Panel; · nodi mai’r cam nesaf fydd cwblhau’r trefniadau ymarferol i sefydlu’r Panel Plant yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol, gan y Rheolwr Sgriwtini, mewn ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes).
|
|
Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion PDF 47 KB Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod.
Adroddodd y Swyddog Sgriwtini bod y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion wedi ei sefydlu ym mis Tachwedd 2012 a’i bod erbyn hyn yn briodol i ddiweddaru Cylch Gorchwyl y Panel i’w gyflwyno i aelodau newydd y Panel yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd ym mis Mai.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cylch Gorchwyl a nodwyd yn yr adroddiad.
|
|
Adolygu Sgriwtini Partneriaethau PDF 83 KB Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod.
Cyflwynodd y Swyddog Sgriwtini adroddiad cefndir manwl mewn perthynas â phartneriaethau sydd gan y Cyngor ar hyn o bryd â sefydliadau eraill. Nododd bod Uned Archwilio Fewnol y Cyngor wedi cwblhau adroddiad ar drefniadau llywodraethu gwaith partneriaeth ym mis Rhagfyr 2015 a fu’n sbardun i symud ymlaen gyda rhai meysydd datblygu allweddol. Argymhellwyd bod angen creu dogfen bolisi ar gyfer partneriaethau ac ar 14 Mawrth 2015 cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith ddogfen Polisi Partneriaethau Corfforaethol fel sylfaen ar gyfer gwaith partneriaeth a hefyd fel fframwaith i arwain trefniadau monitro partneriaethau.
Nododd bod gan y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio rôl bwysig o ran sicrhau lefel briodol o ymgysylltu gyda sefydliadau eraill sy’n creu unrhyw bartneriaeth. Wrth gyflawni’r rôl mae nifer o feysydd posib y dylid eu hystyried, yn cynnwys y materion canlynol:
· Craffu ar drefniadau llywodraethu; · Craffu ar gyfraniad y Cyngor; · Arfarnu effeithiolrwydd gwaith partneriaeth yn ei gyfanrwydd · Sicrhau ymgysylltiad cyhoeddus a phartneriaethau a strategaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd.
Mae'n briodol bod y Pwyllgor yn canolbwyntio ar bartneriaethau strategol allweddol ond hefyd yn monitro unrhyw bartneriaethau gwasanaeth gweithredol allweddol, fel y cynigiwyd gan naill ai yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth neu’r Penaethiaid Gwasanaeth.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel rhan o drefniadau gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, ei bod yn bwysig fod Aelodau Etholedig sy’n cynrychioli’r Cyngor ar gyrff allanol yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor perthnasol ynglŷn â gwaith y sefydliadau hyn. Nododd bod angen ffurfioli proses yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai.
PENDERFYNWYD nodi’r gwaith a wnaethpwyd gan y Pwyllgor o ran craffu ar effeithiolrwydd partneriaethau dros y 12 mis diweddaf a chytuno i adeiladu ar y trefniadau craffu presennol yn ystod blwyddyn newydd y Cyngor. |
|
Rhaglen Waith 2017/18 PDF 168 KB Cyflwyno drafft o Raglen Waith 2017/18 gan y Swyddog Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Sgriwtini ar y Rhaglen Waith Ddrafft ar gyfer 2017/18.
PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith Ddrafft ar gyfer 2017/18.
|