Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel a nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Gogledd Cymru (Rhan 9) - 2018/19 PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Cymdeithasol. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan Gyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Deilydd Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn ofynnol dan Ran 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol baratoi a chyflwyno adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru (roedd copi o’r adroddiad ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad). Nododd mai pwrpas Rhan 9 y Ddeddf yw gwella canlyniadau a llesiant pobl, yn ogystal â gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y gwasanaethau a ddarperir. Prif amcanion y Bwrdd, sy’n cael eu nodi yn yr adroddiad, yw annog cydweithrediad, partneriaeth ac integreiddio. Ychwanegodd fod y Bwrdd Iechyd, yn ystod 2018/19, wedi adolygu a chryfhau ei gynrychiolaeth ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, gyda saith o gynrychiolwyr ar y Bwrdd. Mae’r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithio gyda’u partneriaid perthnasol ac eraill, mewn perthynas ag oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth, gofalwyr a phlant. Mae’n gosod dyletswydd ar bartneriaid perthnasol i gydweithredu â ac i ddarparu gwybodaeth i awdurdodau lleol at ddibenion eu swyddogaethau yn y maes gwasanaethau cymdeithasol. Dywedodd y Deilydd Portffolio mai’r mater pwysicaf y mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi manteisio arno eleni yw arian Cymru Iachach gan Lywodraeth Cymru er mwyn trawsnewid y ffordd y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu. Nododd fod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi cyflwyno pedwar bid i Lywodraeth Cymru a llwyddodd pob un ohonynt i sicrhau arian.
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor fod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi cymeradwyo Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru ynghyd â strategaeth ar gyfer Gofalwyr mewn partneriaeth â gofalwyr, sefydliadau gofalwyr a phartneriaid.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chodwyd y prif faterion a ganlyn:-
· Gofynnwyd oni fyddai wedi bod yn fwy priodol i sefydlu dau Fwrdd Partneriaeth ar draws Gogledd Cymru gan ei bod yn ymddangos fod gan y bwrdd nifer fawr iawn o aelodau. Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Byrddau Partneriaeth wedi eu sefydlu i gyd-fynd ag ardaloedd y Byrddau Iechyd, yn unol â’r rheoliadau presennol; · Cyfeiriwyd at y modd y mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cyfrannu at waith partneriaeth lleol. Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol fod gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol rôl strategol a’i nod yw llywio cynnydd. Mae arian y grant trawsnewid, h.y. arian y Gronfa Cymorth Canolradd gan Llywodraeth Cymru, yn cael ei ddyrannu drwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac mae Ynys Môn yn derbyn £1.2m o arian refeniw sydd yn ariannu, ymysg pethau eraill, y cynllun Nightowls; Cartrefi Clud Môn; Unedau Mân Anafiadau; Uned Gofal Lliniarol yn Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi; prosiect Llawr y Dref, Llangefni; Unigolion ag Anableddau Dysgu. Ychwanegodd y byddai £13m yn cael ei ddarparu drwy arian yr Adolygiad Seneddol ac mae’n hanfodol bod Cyngor Sir Ynys Môn yn sicrhau’r budd mwyaf o’r adnoddau hyn i breswylwyr lleol; · Gofynnwyd pa gynlluniau sydd yn eu lle i ddatblygu cyllidebau cyfun ar gyfer awdurdodau lleol. Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 36 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
Ail-dentro'r Gwasanaeth Byw â Chymorth (Anableddau Dysgu) Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Cymdeithasol. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan Gyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â phroses ail-dendro’r Gwasanaethau Byw â Chymorth (Anableddau Dysgu).
Cynhaliwyd trafodaeth fanwl ar yr opsiynau a’r effaith ar unigolion o fewn y Gwasanaethau Byw â Chymorth a rhoddwyd ystyriaeth i effeithlonrwydd a gwerth am arian mewn perthynas â’r broses ail-dendro.
PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith fod y ddarpariaeth gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Byw â Chymorth (Anableddau Dysgu) yn cael ei ail-dendro.
GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.
|