Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Alun Roberts ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 oherwydd iddo wneud gwaith gwirfoddol yn ystod cyfnod clo’r pandemig Covid-19.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofndion y cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a gynhaliwyd ar 11 Mawrth, 2020. Cofnodion: Cadarnhawyd fel rhai cywir, cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a gynhaliwyd ar 11 Mawrth, 2020.
|
|
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 2019/20 PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn.
Adroddodd y Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn, bod yr adroddiad wedi’i strwythuro i gyfeirio at gynnydd gwaith Is-grwpiau’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus a sefydlwyd. Mae gan y Bwrdd bedwar Is-grŵp fel a ganlyn:-
· Is-grŵp Newid Hinsawdd
Sefydlwyd yr Is-grŵp i annog cydweithio rhwng cyrff cyhoeddus a chymunedau lleol ar sut i ymdrin â bygythiadau i’n cymunedau yn sgil newidiadau hinsawdd yn y dyfodol. Nodwyd fod cyfres o weithdai wedi cael eu trefnu ond, oherwydd y pandemig Covid-19, ni fu modd eu cynnal. Mae’r Is-grŵp wedi nodi bod gwaith rhanbarthol yn cael ei wneud mewn perthynas â newid hinsawdd ac mae’r is-grŵp yn ymwybodol fod angen osgoi dyblygu gwaith a bod cyfle i ddysgu gan y naill a’r llall.
· Is-grŵp yr Iaith Gymraeg
Mae’r Is-grŵp wedi canolbwyntio’n bennaf ar gydweithio i gynyddu’r defnydd o’r Iaith Gymraeg o fewn cyrff cyhoeddus yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Yn benodol, mae hyn yn ymwneud â hyrwyddo’r iaith Gymraeg fel iaith ddewisol ar gyfer cyfathrebu’n fewnol yn y cyrff cyhoeddus, ac ar gyfer cyfathrebu â’r cyhoedd. Mae’r prosiect ‘Arfer’, dan arweinyddiaeth Prifysgol Bangor, yn edrych ar ddeall arferion siaradwyr sydd ddim mor hyderus neu gyfforddus yn defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith. Mae’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws y rhanbarth yn derbyn grant gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch defnyddio’r grant i ariannu astudiaeth a fyddai’n archwilio sut i ddefnyddio derbynfeydd mewn sefydliadau cyhoeddus i annog mwy o bobl i ddefnyddio’r iaith Gymraeg ac i hyrwyddo hynny. Yn anffodus, oherwydd y pandemig Covid-19, mae’r grant wedi cael ei dynnu’n ôl.
· Is-grŵp Cartrefi ar gyfer Pobl Leol
Mae gwaith yr Is-grŵp wedi parhau yn ystod y pandemig Covid-19 a’i gamau nesaf arfaethedig fydd gwerthuso’n llawn hyfywedd ariannol y datblygiadau ynghlwm â’r safleoedd dan sylw, cyn cadarnhau sut orau i ariannu’r datblygiadau a’r amserlen ar gyfer cychwyn y gwaith. Bu’r Is-grŵp yn trafod ei gynlluniau gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer tai arloesol a fforddiadwy. Cyflwynir adroddiad cynnydd yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
· Is-grŵp Iechyd a Gofal
Cyfrifoldeb yr Is-grŵp yw goruchwylio’r ffrydiau gwaith/prosiectau canlynol: Oedolion, Plant, Anableddau Dysgu, Iechyd Meddwl a Thrawsnewid Cymunedol. Mae’r ffrydiau gwaith hyn yn cyd-fynd â meysydd blaenoriaeth y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer integreiddio. Adroddwyd y cynhaliwyd cyfarfod o’r Is-grŵp ar 7 Gorffennaf. Pwrpas y cyfarfod oedd adolygu cylch gorchwyl y grŵp, yn dilyn Covid-19, a chytunwyd bod blaenoriaethau’r is-grŵp wrth adfer yn dilyn y pandemig wedi newid. Cynhaliwyd gweithdy gan yr Is-grŵp Iechyd a Gofal ar 16 Medi i roi sylw i Gynllun Gaeaf Ardal y Gorllewin a’r ffrydiau gwaith sy’n codi o’r Grŵp Iechyd a Gofal rhanbarthol.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y pwyntiau a ganlyn:-
· Gofynnwyd i ba raddau y mae ffrydiau gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cyfrannu at lesiant trigolion ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Ymateb y Cyngor i'r Argyfwng Covid-19 PDF 476 KB Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas ag ymateb y Cyngor i’r pandemig Covid-19 hyd yn hyn, yn unol â’i gyfrifoldebau dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posib 2004, o ran paratoi ar gyfer argyfwng a chydlynu’r ymateb ar lefel leol.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr ymateb i’r pandemig yn parhau ac y bydd pawb yn wynebu cyfnod ansicr a heriol. Er bod y Cyngor wedi canolbwyntio’n bennaf ar ymateb i’r argyfwng Covid-19, yn ystod yr wythnosau diwethaf bu’n cynllunio rhaglen adfer ac yn gwneud cynlluniau i ailagor gwasanaethau cyhoeddus yn raddol. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y gwaith ardderchog a wnaed gan staff, aelodau etholedig a sefydliadau partner yn y cymunedau. Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weithredwr adroddiad manwl mewn perthynas ag ymateb y Cyngor i’r pandemig a gwaith ar y cyd â’r trydydd sector. Cyfeiriodd yn benodol at:- · Trefniadau Llywodraethu - rhoddwyd trefniadau llywodraethu ar gyfer y cynlluniau argyfwng ar waith yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol i arwain yr ymateb i’r pandemig. Ar lefel ranbarthol, mae hyn wedi’i arwain a’i gydlynu gan y Fforwm Gwytnwch Lleol (lle mae’r sector cyhoeddus yn cydweithio) trwy’r Grŵp Cydlynu Strategol (GCS). Mae’r Cyngor wedi cyfrannu’n llawn at waith is-grwpiau thematig penodol sy’n adrodd i’r GCS ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Marwolaethau ychwanegol, y Cyfryngau a Chyfarpar Diogelu Personol (PPE). · Meysydd Risg Allweddol – crëwyd cofrestr risg benodol o’r cychwyn cyntaf ac mae’n cael ei hadolygu a’i diweddaru bob wythnos. Mae’r risgiau allweddol wedi’u blaenoriaethu o ran amser ac ymdrech ac roedd y risgiau hyn yn cynnwys cartrefi gofal, profi ac olrhain cysylltiadau, cyfarpar diogelu personol, delio ag achosion, cefnogi teuluoedd bregus, yr effaith ar sefyllfa ariannol y Cyngor a’r effaith ar weithlu’r Cyngor. · Allbynnau'r Llif Gwaith Cymunedol (gan gynnwys mewnbwn Medrwn Môn a Menter Môn)
Mae’r holl wasanaethau o fewn y Cyngor Sir wedi gweithio’n dda gyda’i gilydd er mwyn bodloni anghenion preswylwyr Ynys Môn yn ystod y pandemig, ac mae anghenion preswylwyr wedi amrywio’n sylweddol drwy gydol y pandemig. Mae’r cydweithio rhwng meysydd gwasanaeth allweddol wedi bod yn rhagorol yn ystod y cyfnod hwn, ac mae hyn wedi cynnwys darpariaeth gwasanaeth creadigol a gwahanol iawn. Yn Ynys Môn, sefydlwyd partneriaeth i ddarparu cymorth i bobl fregus yn ein cymunedau yn ystod wythnosau cyntaf y pandemig.
Sefydlodd y Cyngor linell ffôn ymateb brys benodol a oedd ar agor 7 diwrnod yr wythnos. Roedd gwybodaeth, cyngor a chymorth yn y cymunedau lleol ar gael drwy Bwynt Mynediad Sengl yn y gymuned a hwyluswyd gan Medrwn Môn a gyda chefnogaeth y Cydlynwyr Asedau Lleol (asiantiaid cymunedol sy’n cysylltu unigolion ag asedau a gwasanaethau cymunedol). Yn ystod y cyfnod clo, sefydlwyd dau fanc bwyd dros dro ar yr Ynys, un yn Llangefni a’r llall ym Mhorthaethwy trwy’r llif gwaith bwyd a oedd yn cynnwys y Gwasanaethau Tai, Banc Bwyd Ynys Môn a’r CAB. Roedd y banciau bwyd ychwanegol hyn yn gweithio ar y cyd â’r banciau bwyd sydd eisoes wedi hen sefydlu ac sy’n gweithredu yng Nghaergybi ac Amlwch. Yn ystod ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2020/21 PDF 1001 KB Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Sgriwtini.
PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith o fis Hydref i fis Rhagfyr, 2020.
|