Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodir uchod.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim i’w hystyried.
|
|
Cyflwyno, i’w gadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol:-
· Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ebrill, 2024. · Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mai, 2024 (Ethol Cadeirydd/Is-gadeirydd) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol yn gywir:-
· Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ebrill, 2024 · Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mai, 2024 (Ethol Cadeirydd/Is-gadeirydd)
|
|
Adroddiad Blynyddol y Gymraeg : 2023/2024 PDF 550 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) /Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg i’w ystyried gan y Pwyllgor, ac i wneud unrhyw sylw arno cyn ei gyflwyno i’w gymerdawyo gan yr Aelod Portffolio i’w gyhoeddi.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg, yn unol â Rheoliadau Safonau’r Iaith Gymraeg 2015, bod rhaid i’r Cyngor baratoi Adroddiad Blynyddol mewn perthynas â chydymffurfiaeth gyda’r safonau. Dywedodd bod cynnydd wedi bod yn nifer y staff sy’n derbyn Hyfforddiant iaith Gymraeg yn ystod y flwyddyn ac mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cefnogi’r Cyngor gyda hyn. Dywedodd ei fod yn falch fod Comisiynydd y Gymraeg ac Arolygiaeth Gofal Cymru wedi canmol yr Awdurdod am fodloni’r holl ofynion mewn perthynas â’r Gymraeg.
Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod yr Adroddiad Blynyddol yn dilyn strwythur sy’n cyd-fynd â gofynion Comisiynydd y Gymraeg, ac er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth, mae’n rhaid adrodd ar y penawdau gofynnol. Dywedodd bod sefyllfa Ynys Môn wedi’i ymgorffori yn yr adroddiad er mwyn tynnu sylw at gyflawniadau ehangach o fewn yr Awdurdod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Wrth ystyried yr adroddiad, codwyd y pwyntiau canlynol ymhlith y Pwyllgor:-
· Cyfeiriwyd at yr effaith ar brosesau recriwtio ar gyfer swyddi sy’n anodd eu llenwi a’r gofyniad, mewn rhaid gwasanaethau, i recriwtio pobl sydd angen Hyfforddiant a chymorth ychwanegol i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, ac i ba raddau mae canolbwyntio ar y Gymraeg yn cyfyngu’r gallu i ddenu unigolion at swyddi sy’n gofyn am set penodol o sgiliau? Codwyd cwestiynau pellach ynghylch y ffaith fod 178 o aelodau staff gyda sgiliau iaith Gymraeg rhwng 0 – 1, gyda dim ond 27 wedi derbyn hyfforddiant. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth ei bod yn hanfodol i’r Cyngor ddarparu hyfforddiant i staff er mwyn cefnogi eu sgiliau ieithyddol. Dywedodd bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yn sgil hanfodol gyda lefelau iaith yn amrywio yn dibynnu ar ofynion y swydd. Os bydd sgiliau ieithyddol swydd yn newid, bydd angen cynnal trafodaeth gyda’r Panel Recriwtio. Dywedodd bod rhai swyddi yn gofyn am sgiliau ieithyddol lefel is, a bydd y lefel honno yn parhau yn rhan o’r swydd. Cydnabyddir bod gofyniad i fuddosddi ymhellach i wella sgiliau ieithyddol staff. Mae recriwtio ar gyfer rhai swyddi arbenigol yn heriol am nifer o resymau, gan gynnwys gofynion ieithyddol. Dywedodd y Prif Weithredwr bod grymuster y Polisi Iaith Gymraeg a’r sgiliau ieithyddol disgwyliedig yn ffordd o fesur cynnydd mewn sgiliau iaith staff a diwylliant Cymraeg yr Awdurdod. Dywedodd, pan fydd unigolyn mewn tîm yn cael effaith ar wasanaethau rheng flaen oherwydd diffyg sgiliau Cymraeg, mae disgwyliad o fewn y contract cyflogaeth i’r unigolyn hwnnw gwblhau hyfforddiant mewn perthynas â’r Gymraeg. · Gofynnwyd cwestiynau ynghylch pa wybodaeth ychwanegol all ychwanegu gwerth i’r Adroddiad Blynyddol? Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod trafodaethau mewnol wedi bod yn mynd rhagddynt mewn perthynas â sut ellir gwella’r Adroddiad Blynyddol yn y dyfodol, yn enwedig o ran defnyddio data yn ymwneud â defnydd o’r Gymraeg mewn gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan y Cyngor, a dewis iaith cwsmeriaid. Dywedodd y byddai astudiaethau achos yn defnyddiol er mwyn gwella’r Adroddiad Blynyddol ac ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg: Adroddiad Cynnydd : 2023/2024 PDF 738 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’w ystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg a’r Iaith Gymraeg mai diben yr adroddiad yw darparu diweddariad blynyddol ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod ysgolion wedi derbyn cefnogaeth gan y Gwasanaeth Dysgu, canolfannau addysg, y Siarter Iaith a GwE yn ystod 2023/24 i sicrhau darpariaeth o safon sy’n adlewyrchu categorïau ysgolion ac anghenion disgyblion mewn ysgolion ar yr Ynys. Nododd bod rhaid cyflwyno’r adroddiad cynnydd ar y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg i Lywodraeth Cymru er mwyn adrodd ar y cynnydd i fodloni blaenoriaethau’r Cyngor a mynd i’r afael ag amcanion y Cynllun. Mae’r adroddiad yn nodi sefydlogrwydd allbynnau 1,2,3, 5 a 6 gyda dirywiad yn allbwn 4 (disgyblion sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac allbwn 7 (nifer y staff sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg). Mae’r categorïau iaith wedi’u trafod gyda’r ysgolion Categori 1 – Cyfrwng Saesneg, Categori 2 – Dwyieithog a Chategori 3 – Cyfrwng Cymraeg. Mae cyfnod trawsnewid ar gyfer gweithio tuag at Gyfrwng Cymraeg (T3). Fel y nodwyd yn yr adroddiad, mae pob ysgol gynradd, oni bai am un, yn Gategori 3 ac mae 4 ysgol uwchradd o fewn Categori 3, gydag un ysgol uwchradd yn T3. Aeth ymlaen i grybwyll ‘Cynllun y Llan’, sy’n arbennig ar gyfer y Canolfannau Iaith Gymraeg a’r 96 o ddisgyblion cynradd sy’n mynychu’r canolfannau hyn, a’r 150 disgybl sy’n derbyn cymorth ieithyddol ôl-ofal. Bydd un aelod o’r ganolfan yn gweithio ar safle Ysgol Uwchradd Caergybi, fel elfen strategol o’r cynllun trawsnewid i gefnogi’r ysgol i symud o Gategori T3 i Gategori 3.
Cafodd y pwyntiau canlynol eu trafod ymhlith y Pwyllgor:-
· Gofynnwyd sut y gellid sicrhau rhieni y bydd eu plant yn derbyn addysg yn Gymraeg ar ôl symud o ysgol gynradd Categori 3 i Ysgol Uwchradd Caergybi. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y bydd cynllun yn cael ei baratoi yn Ysgol Uwchradd Caergybi sy’n cynnwys creu ffrwd Categori 3 ym mlwyddyn 7 o fis Medi 2024. Erbyn 2029, bydd gan bob blwyddyn ffrwd Categori 3 yn yr ysgol. Penodir un dosbarth blwyddyn 7 i dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg o fis Medi 2024, gan gynnal hynny o flwyddyn 8 i 11. Mae staff eisoes wedi cwblhau cyrsiau Cymraeg ac maent yn frwdfrydig y bydd disgyblion o ysgolion cynradd Caergybi yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Caergybi. Codwyd cwestiynau pellach ynghylch a fydd y ddarpariaeth ar gael i rieni gysylltu â’r ysgolion mewn perthynas â phroblemau eraill a all godi sy’n ymwneud ag iaith. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod Swyddog Siarter Iaith wedi cael ei benodi, fydd yn canolbwyntio ar sut i wella’r Gymraeg yn yr ysgol a thu allan i’r ystafell ddosbarth. · Gofynnwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau mae gwasanaeth y Canolfannau Iaith yn ymateb yn llawn i anghenion trochi ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Enwebiad Pwyllgor - Panel Sgriwtini Cyllid PDF 221 KB Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod.
PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Derek Owen i wasanaethau ar y Panel Sgriwtini Cyllid.
|
|
Blaen Raglen Waith - 2024/2025 PDF 230 KB Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini oedd yn amlinellu Blaen Rhaglen Waith mynegol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2024/2025 i’w ystyried.
PENDERFYNWYD:-
· Cytuno ar fersiwn gyfredol y blaen rhaglen waith ar gyfer 2024/2025; · Nodi’r cynnydd hyd yma o ran gweithio’r blaen rhaglen waith.
|