Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Jeff Evans ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 3 – Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Datganodd y Cynghorydd Euryn Morris ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 – Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn – 2023/2024, gan ei fod yn cael ei gyflogi gan Gyngor Gwynedd.
Datganodd y Cynghorydd Dylan Rees ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 3 – Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, gan ei fod yn Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Rees, er ei fod yn datgan diddordeb personol, roedd yn credu y byddai’n briodol iddo adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon.
|
|
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru PDF 833 KB Derbyn cyflwyniad gan Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
· Darpariaeth gwasanaeth presennol ar Ynys Môn;
· Gwytnwch, heriau a fforddiadwyedd y model darparu gwasanaeth presennol ar yr Ynys;
· Cydweithio rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn Cofnodion: Gan fod y Cadeirydd wedi datgan diddordeb a gadael y cyfarfod, camodd yr Is-gadeirydd i’r Gadair ar gyfer yr eitem hon yn unig.
Etholwyd y Cynghorydd Margaret M Roberts i wasanaethu fel Is-gadeirydd ar gyfer yr eitem hon yn unig.
Croesawodd yr Is-gadeirydd yn y Gadair Mr Stewart Forshaw, Dirprwy Brif Swyddog Tân, Mr Anthony Jones, Pennaeth Cynllunio, Perfformiad a Thrawsnewid a Mr Eilian Roberts, Rheolwr Ardal ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i’r cyfarfod.
Cafwyd cyflwyniad gan y Dirprwy Brif Swyddog Tân ar broffil Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gorsafoedd Tân Ynys Môn, Cyllid Awdurdod Lleol, Gwaith Partneriaeth, Diogelwch Tân i Fusnesau ac Ymgysylltu Cymunedol.
Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-
· Roedd yr Is-gadeirydd eisiau cael gwybod pa heriau allai wynebu’r Gwasanaeth Tân ac Achub pe byddai argyfwng yn digwydd ar yr Ynys a’r ddwy bont dros y Fenai ar gau. Dywedodd y Rheolwr Ardal bod y pontydd wedi gorfod cau oherwydd gwyntoedd cryfion yn y gorffennol ac mae pryder y gallai hyn ddigwydd yn fwy aml wrth i batrymau tywydd newid yn sgil newid yn yr hinsawdd. Nododd fod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn credu ei bod yn bwysig pwyso am drydedd bont dros y Fenai. Roedd y Prif Weithredwr yn gwerthfawrogi cefnogaeth y Gwasanaeth Tân ac Achub i ymgyrch yr awdurdod am drydedd bont gan fod pryder am wytnwch y pontydd. Mae poblogaeth yr ynys yn codi’n aruthrol yn ystod y cyfnod gwyliau prysur a Phorthladd Caergybi yw’r porthladd prysuraf yng Nghymru. Nododd y byddai unrhyw ddata ac enghreifftiau y gallai’r Gwasanaeth Tân ac Achub eu rhannu yn cefnogi ac yn cryfhau’r ymgyrch am drydedd bont. · Nodwyd bod y rhan fwyaf o Orsafoedd Tân ar Ynys Môn wedi’u rhestru fel rhai ‘ar alw’ yn unig ac mae cyfraddau argaeledd yn ystod y dydd yn isel. Gofynnwyd i ba raddau mae hyn yn creu risg i drigolion a pha gynlluniau sydd ar waith i wella argaeledd ledled yr Ynys yn y dyfodol. Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân fod argaeledd Swyddogion Tân yn ystod y dydd yn gallu bod yn heriol, ond mae’n cymryd 13 munud ar gyfartaledd i ymateb i dân ar Ynys Môn. Mae Gorsaf Dân Caergybi ar gael bob dydd ac mae’n bosib cael cefnogaeth gan ail injan dân o’r tir mawr. Nododd bod y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi Adolygu’r Ddarpariaeth Frys yn ddiweddar ac un o’r opsiynau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Tân oedd gwneud Gorsaf Dân Llangefni yn orsaf ddydd yn unig, ond gwrthodwyd y cynnig. Er hynny, mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ystyried y 3 lleoliad mwyaf addas ar gyfer gwasanaeth amser cyflawn ar hyd a lled Gogledd Cymru. Holwyd hefyd am anawsterau recriwtio gweithwyr mewn ardaloedd gwledig. Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân fod recriwtio mewn ardaloedd gwledig yn gallu bod yn heriol, yn enwedig o ran argaeledd yn ystod y dydd. Roedd yr Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys wedi ystyried darparu gorsafoedd tân amser cyflawn mewn ardaloedd gwledig er mwyn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Derbyn cyflwyniad llafar gan Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru :-
· Darpariaeth gwasanaeth presennol ar Ynys Môn;
· Gwytnwch, heriau a fforddiadwyedd y model darparu gwasanaeth presennol ar yr Ynys;
· Cydweithio rhwng Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Mr Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a Ms Estelle Hitchon, Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu, i’r cyfarfod.
Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor:-
· Gofynnwyd pa mor hir mae cleifion o Fôn yn gorfod disgwyl am ambiwlans yn dilyn galwad frys a pha gynlluniau sydd ar waith i wella amseroedd ymateb. Dywedodd Prif Weithredwr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fod hyn yn dibynnu ar gategori’r alwad frys ac o ble mae’r ambiwlans yn ymateb i’r alwad. Nododd na fydd yr ambiwlans yn cychwyn o’r Orsaf Ambiwlans fel arfer, ond yn hytrach o Adran Frys ar ôl i’r criw orffen yr alwad frys ar gyfer y claf blaenorol. Yr amser ymateb ar gyfer cleifion y bernir bod angen cymorth brys arnynt (categori coch), h.y., trawiad ar y galon, strôc a chleifion sy’n anymwybodol, yw 8 munud mewn 65% o alwadau. Nid yw’r targed yn cael ei gyrraedd ar hyn o bryd, yn genedlaethol nac yn lleol, a’r amser ymateb yw 10 munud, er bod yr amser yn amrywio yn ystod y dydd a’r nos. Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod y Gwasanaethau Ambiwlans wedi buddsoddi’n sylweddol yn ystod y 4 blynedd diwethaf, ar ôl derbyn arian gan Lywodraeth Cymru, er mwyn recriwtio dros 400 o glinigwyr rheng flaen i’r gwasanaeth. Er hynny, mae galwadau brys sy’n cael eu categoreiddio fel rhai lle mae bywyd yn y fantol wedi dyblu, a bu oedi sylweddol wrth drosglwyddo cleifion i Adrannau Brys ar hyd a lled ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Er bod y Gwasanaethau Ambiwlans wedi buddsoddi i wella’r gwasanaeth a gwella effeithlonrwydd, gyda pharafeddygon a chlinigwyr wedi’u lleoli mewn cymunedau i drin cleifion nad oes angen mynd â nhw i’r ysbyty mewn ambiwlans, mae pwysau o hyd ar y Gwasanaeth Ambiwlans. Dywedodd y Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu fod staff yn cael eu datblygu ar yr Ynys, gyda Thechnegwyr Meddygol Brys yn hyfforddi i fod yn Barafeddygon. Mae 2 Barafeddyg wedi ymuno â’r tîm ar Ynys Môn a bydd hynny’n caniatáu i gleifion gael eu trin gan staff sydd wedi cymhwyso’n llawn ac efallai na fydd angen eu cludo i’r ysbyty. Gofynnwyd cwestiynau pellach am gleifion sy’n gorfod aros oriau i ambiwlans gyrraedd. Roedd y Prif Weithredwr yn cytuno bod rhai cleifion, nad yw eu bywyd mewn perygl, yn gorfod aros am amser hir i’r ambiwlans gyrraedd a’u bod yn gorfod aros yn yr ambiwlans tu allan i adrannau brys am gryn amser. Er hynny, mae’n adlewyrchu’r sefyllfa sydd ohoni o ran gofal brys a gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion. · Gofynnwyd beth yw’r trefniadau ar gyfer blaenoriaethu galwadau pan fydd galw sylweddol am y Gwasanaeth Ambiwlans. Dywedodd y Prif Weithredwr bod yr holl alwadau 999 yn cael eu categoreiddio yn ôl faint o amser a gymer y gwasanaeth brys i ymateb. Mae oedi hir wrth drosglwyddo cleifion i adrannau brys ac mae ambiwlansys yn ciwio tu allan i’r adrannau brys, ac mae hynny’n creu rhagor o oedi wrth ymateb i alwadau brys eraill. Llif cleifion trwy’r ysbytai sydd i gyfrif ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn: 2023/24 PDF 660 KB Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.
Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r Aelod Portffolio Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer yn cyflwyno’r adroddiad gan fod y Cynghorydd Llinos Medi wedi ymddiswyddo fel Arweinydd y Cyngor ar ôl iddi gael ei hethol yn Aelod Seneddol ar gyfer Ynys Môn. Llongyfarchodd y Pwyllgor y Cynghorydd Llinos Medi ar gael ei hethol a thalwyd teyrnged iddi am ei gwaith er budd trigolion Môn.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer ei fod yn dymuno diolch i’r Cynghorydd Llinos Medi am ei gwaith ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Nododd fod yr adroddiad yn adlewyrchu’r hyn a gyflawnwyd gan y Bwrdd er mwyn gwella llesiant cymunedau yn ystod 2023/2024. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Roedd y Ddeddf hefyd yn sefydlu’r Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus sy’n cynnwys cynrychiolwyr o gyrff cyhoeddus a’r trydydd sector. Cyfeiriodd at amcanion llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn, sef lliniaru effaith tlodi; gwella cyflawniad plant a phobl ifanc a chefnogi cymunedau i symud tuag at sero net. Ychwanegodd yr Aelod Portffolio Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer fod y blaenoriaethau’n cyd-fynd â Chynllun Llesiant ac amcanion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas â’r Cynllun Pwysau Iach a’r Iaith Gymraeg. Cyfeiriodd at esiamplau o’r gwaith a gyflawnwyd gan y Bwrdd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-
· Nodwyd bod yr Adroddiad Blynyddol yn trafod blwyddyn gyntaf y Cynllun Llesiant : 2023-2028. Holwyd pa werth ychwanegol mae gwaith partneriaeth wedi’i greu. Dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn bod holl aelodau’r Bwrdd wedi dangos parodrwydd i weithio mewn partneriaeth gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn gwella’r blaenoriaethau a llesiant trigolion Gwynedd ac Ynys Môn. Mae’r sefydliadau partner yn gallu rhannu profiadau ac enghreifftiau o waith sydd wedi arwain at welliant sylweddol dros y blynyddoedd. Rhannodd esiamplau o’r gwaith a gyflawnwyd gan y Bwrdd o ran mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu sefydliadau wrth recriwtio a chadw staff sy’n siarad Cymraeg ac mae 17 o sefydliadau wedi rhannu eu harfer dda o ran recriwtio staff. Gofynnwyd tybed ai’r strwythur cyflog yw’r rheswm bod pobl ifanc yn gadael yr Ynys. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen nad graddfeydd cyflog swyddi yw’r prif reswm sy’n atal pobl rhag ymgeisio am swyddi yn yr 17 sefydliad y bu’r Bwrdd yn trafod â nhw. Mae nifer o’r problemau recriwtio’n rhai ymarferol, h.y., efallai bod y swydd ddisgrifiad yn arwain pobl i feddwl nad yw eu sgiliau iaith yn ddigon da. Cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglen hefyd at y Cynllun Teithio Llesol y bu’r Bwrdd yn ei drafod. Cyngor Sir Ynys Môn sydd wedi arwain y gwaith hwn ac mae wedi rhannu arfer dda gyda sefydliadau eraill sy’n aelodau o’r Bwrdd. · Holwyd beth yw lle’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o fewn y strwythurau partneriaeth rhanbarthol cymhleth sy’n bodoli a sut mae gwneud y gorau o gydweithio ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor - 2024/2025 PDF 434 KB Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn amlinellu Blaen Raglen Waith ddangosol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2024/2025.
PENDERFYNWYD:-
· Cytuno ar fersiwn gyfredol y flaen raglen waith ar gyfer 2024/2025; · Nodi cynnydd hyd yma wrth weithredu’r flaen raglen waith.
|