Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Iau, 12fed Medi, 2024 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Roedd yr ymddiheuriadau fel y’u nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sonia Williams fuddiant personol yn unig mewn perthynas ag eitem 6 ar y rhaglen, gan fod ganddi gysylltiad â Chyngor ar Bopeth Ynys Môn trwy ei gwaith gyda Bwyd Da Môn.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 174 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol:-

 

·       Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mehefin, 2024.

·       Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf, 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn a chadarnhawyd eu bod yn gywir –

·      19 Mehefin, 2024.

·      10 Gorffennaf, 2024.

 

4.

Partneriaethau Strategol - Medrwn Môn pdf eicon PDF 5 MB

Derbyn cyflwyniad gan Medrwn Môn.

Cofnodion:

Ni ystyriwyd yr eitem hon oherwydd nad oedd Prif Swyddog Dros Dro Medrwn Môn yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod am resymau personol.

 

5.

Môn CF (Cymunedau Ymlaen) pdf eicon PDF 2 MB

Derbyn cyflwyniad gan Môn CF (Cymunedau Ymlaen).

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol y cyflwyniadau dan yr eitem hon a'r eitem a ganlyn oedd yn gysylltiedig â Chynllun Strategol Trechu Tlodi 2024 i 2029 y Cyngor. Roedd y cynllun wedi’i seilio ar chwe maes blaenoriaeth allweddol ar gyfer gweithredu, gyda’r gwaith hwn yn cael ei gyflawni trwy weithio mewn partneriaeth â Chymunedau’n Gyntaf Môn a Chyngor ar Bopeth, ymhlith eraill, a chydweithio â nhw.

Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai at waith yn y Cyngor oedd yn ymwneud â mynd i’r afael â thlodi, gwaith hanfodol yr oedd helpu trigolion Ynys Môn i gael mynediad at fudd-daliadau a hawliadau yn rhan hanfodol ohono. Roedd gan y Cyngor Dîm Hawliau Lles yng Nghanolfan JE O’Toole yng Nghaergybi a wasanaethai’r Ynys gyfan. Daeth tua 5,400 o drigolion i mewn i’r ganolfan yn y flwyddyn rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024, gyda 1,900 ohonynt yn berchnogion tai, 1,800 yn denantiaid y Cyngor a 780 yn denantiaid preifat. O ran proffil oedran y rhai oedd yn ceisio cymorth a chefnogaeth y gwasanaeth, roedd tua 60% yn 55 oed a throsodd, 10% yn yr ystod oedran 25 i 34, 13% yn yr ystod oedran 35 i 44 ac roedd 14 % yn yr ystod oedran 45 i 54. Roedd y ganolfan yn gwneud llawer o waith yn cynorthwyo unigolion i sicrhau’r budd-daliadau a’r cymorth y gallent fod â hawl iddynt ac, yn 2023/24, llwyddodd y ganolfan i sicrhau enillion ariannol o tua £5.7m i’r rhai oedd yn ceisio ei chymorth a, thrwy hynny, gyfrannu at liniaru caledi ariannol i’r aelwydydd hynny.

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Rita Radcliffe, Prif Weithredwr Cymunedau Ymlaen Môn i’r cyfarfod gan ei gwahodd i roi trosolwg o waith y sefydliad.

Amlinellodd Ms Radclife y cefndir i Môn CF. Roedd yn elusen leol oedd yn eiddo i'r gymuned ac yn gweithredu ar Ynys Môn, gyda 45 o staff ar hyn o bryd a throsiant o £4m y flwyddyn. Roedd gan yr elusen swyddfeydd yn Amlwch, Caergybi a Phorthaethwy a swyddfa newydd yn agor yn Llangefni. Câi Môn CF ei ariannu o sawl ffynhonnell gan gynnwys y Cyngor ac roedd yn helpu dros 600 o unigolion ar yr Ynys ar unrhyw un adeg gyda chymorth cyflogaeth, chymorth busnes a hyfforddiant oedd, ynghyd ag ysgolion a phobl ifanc, ac adfywio trefi trwy berchnogaeth eiddo, yn flaenoriaethau strategol y sefydliad. Roedd y sefydliad yn cydweithio ag ystod o bartneriaid ac roedd ganddo gysylltiadau â nifer, gan gynnwys nifer o adrannau’r Cyngor ac roedd yn agored i weithio gyda holl wasanaethau’r Cyngor ar brosiectau lle ystyriai y gallai mewnbwn Môn CF ychwanegu gwerth. Rhoddodd Ms Radcliffe drosolwg o’r ystod o gymorth cyflogaeth a busnes a roddai Môn CF, ynghyd â’r data o ran ymgysylltiadau a chanlyniadau yn 2023/24 a 2024/25 (Ebrill i Awst). Roedd hyn yn cynnwys cymorth i’r di-waith i’w paratoi ar gyfer y byd gwaith, cymorth i’r rhai oedd eisoes mewn gwaith i wella eu hamgylchiadau, cymorth gyda gwersi gyrru a chostau cludiant a gofal plant, paratoi pobl ar gyfer gwaith  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cyngor ar Bopeth Ynys Môn pdf eicon PDF 1 MB

Derbyn cyflwyniad gan Gyngor ar Bopeth Ynys Môn.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Cara Jones, Rheolwr Prosiect a Goruchwylydd Ynni, a Danielle Owen o Gyngor ar Bopeth, Môn a'u gwahodd i roi trosolwg o'r gwasanaethau a ddarperir gan y sefydliad.

Amlinellodd Cara Jones waith Cyngor ar Bopeth Môn, sef roi cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim i bobl ynghylch eu hawliau. Nod y sefydliad oedd helpu pobl, beth bynnag oedd eu problemau, a gwella polisïau ac arferion a gâi effaith ar fywydau pobl. Rhoddid cyngor ar ystod eang o faterion, gan gynnwys budd-daliadau, dyled, cyllidebu, tai, cyflogaeth, gofal cymunedol a mudo, pynciau yr oedd llawer ohonynt yn gysylltiedig â thlodi, atal tlodi a helpu pobl i wella eu hamgylchiadau. Er bod Cyngor ar Bopeth Môn ar gael i bawb, roedd yn cydnabod bod rhai grwpiau a chymunedau mewn mwy o berygl o dlodi nag eraill a chanolbwyntiai ei ymdrechion yn y meysydd hyn. Roedd grwpiau blaenoriaeth Cyngor ar Bopeth Môn yn cynnwys gofalwyr a phobl ag anabledd tymor hir a phroblemau iechyd gan gynnwys iechyd meddwl, dibyniaeth, anawsterau dysgu ac awtistiaeth. Roedd y sefydliad, hefyd, yn helpu plant a phobl ifanc, cyn-filwyr, pobl ddigartref, pobl hŷn a dioddefwyr cam-drin domestig. Roedd y Cyngor yn cyfrannu at gyllid craidd y sefydliad oedd yn hanfodol i Gyngor ar Bopeth Môn fel elusen. Cyfeiriodd Cara Jones hefyd at gyfraniadau cyllid eraill yr oedd Cyngor ar Bopeth Môn wedi’u derbyn ar gyfer gwaith a phrosiectau penodol. Eglurodd y strwythur staffio a’r trefniadau llywodraethu a oruchwylir gan Fwrdd Ymddiriedolwyr a osodai, hefyd, gyfeiriad strategol y sefydliad. Roedd Cyngor ar Bopeth Môn yn gweithio mewn partneriaeth â llawer o sefydliadau ar nifer o brosiectau gan gynnwys y Cyngor, oedd yn cydweithio â nhw mewn sawl maes, gan gynnwys ar grwpiau amlddisgyblaethol megis y grŵp Trechu Tlodi. Yn 2023/24, helpodd Cyngor ar Bopeth Môn 2,069 o gleientiaid gyda 15,680 o faterion ar draws 19,532 o weithgareddau. Gwireddwyd tua £1.734m o fudd-daliadau a hawliadau i gleientiaid ynghyd â £177k mewn datrys dyledion. Cafodd saith deg saith o gleientiaid ragor o gymorth yn dilyn cau ffatri 2 Sisters yn Llangefni ar ôl i gymorth cychwynnol ar y safle gael ei roi pan gynigiwyd cyfweliad i'r holl weithwyr yr oedd y cau yn cael effaith arnynt.

Roedd y galw am wasanaethau Cyngor ar Bopeth Môn yn parhau i dyfu gan arwain at amseroedd aros a heriau o ran datrys problemau o fewn amser penodol. Golygai costau byw a chostau ynni cynyddol bod mwy o bobl yn ei chael hi’n anodd diwallu anghenion sylfaenol gan eu rhoi mewn mwy o berygl o dlodi a dyled. Defnyddiai mwy o bobl, hefyd, y gwasanaeth am gyngor cyfreithiol oherwydd na allent gael cymorth cyfreithiol na fforddio cynrychiolaeth gyfreithiol. Er gwaethaf yr heriau, byddai Cyngor ar Bopeth Môn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i roi cymorth ac i rannu gwybodaeth am y ffordd orau o helpu’r rhai oedd â’r angen mwyaf.

 

    Cafwyd y pwyntiau trafod a ganlyn gan yr aelodau ––

7.

Blaen Raglen Waith 2024/2025 pdf eicon PDF 365 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y rheolwr Sgriwtini oedd yn cynnwys Blaenraglen Waith y Pwyllgor hyd at Ebrill 2025.

 

Penderfynwyd–

 

·      Cytuno ar fersiwn gyfredol y blaenraglen waith ar gyfer 2024/25.

·      Nodi’r cynnydd hyd yn hyn wrth weithredu ar y blaenraglen waith.