Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mercher, 20fed Tachwedd, 2024 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim wedi’u derbyn.

 

3.

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn - 2023/2024 pdf eicon PDF 441 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol bod dyletswydd statudol ar yr Awdurdodau Lleol yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, a diwygiadau dilynol yn neddf yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2002 a 2006, i weithio mewn partneriaeth â’r Heddlu, y Gwasanaethau Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Tân ag Achub sef y prif awdurdodau sy’n ffurfio’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.  Mae’r adroddiad blynyddol yn gyfle i adolygu’r ystadegau a’r heriau a wynebir, a sicrhau bod gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i ddiogelwch cymunedol.

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn mai meysydd cyfrifoldeb gwreiddiol y Bwrdd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol oedd Troseddu ac Anhrefn, Camddefnyddio Sylweddau a Lleihau Ail-droseddu. Dywedodd bod cyfrifoldeb ychwanegol wedi’i gynnwys mewn perthynas â Throsedd Difrifol ac Adolygiadau Lladdiadau Domestig sy’n cael eu hadrodd i’r Swyddfa Gartref. Amlygodd nad oes gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol gyllidebau penodol ar gyfer prosiectau lleol, a rhaid gwneud cais am grantiau drwy’r Lefel Ranbarthol a Chenedlaethol. Mae blaenoriaethau’r Bwrdd yn seiliedig ar Strategaeth Bwrdd Gogledd Cymru Mwy Diogel, sef: -

 

·         Atal Troseddu ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

·         Mynd i’r afael â Throsedd Dreisgar

·         Mynd i’r afael â Throseddau Difrifol a Threfnedig

·         Diogelu ac adeiladu cymunedau gwydn a chynnal diogelwch y cyhoedd.

 

Aeth ymlaen i nodi bod y Bwrdd Partneriaeth yn derbyn data ar lefelau troseddu gan yr Heddlu bob chwarter, a cafodd hyn ei amlygu yn yr adroddiad. Un o dargedau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw adeiladu cymunedau gwydn, diogel ac iach, sy’n cynnwys gwneud gwelliannau penodol i’r amgylchedd adeiledig a chymryd agwedd arloesol at atal troseddu. Mae’r prosiectau dan y cyllid hwn wedi arwain at ddiweddaru a gosod CCTV newydd yng Nghaergybi a Llangefni, gyda’r nod o wella diogelwch a lleihau trosedd yn y gymuned. Mae £250k wedi’i ddyrannu i Ynys Môn dan y prosiect hwn a bydd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Chwefror 2025. Mae gwaith yn parhau mewn perthynas ag Adolygiadau Lladdiadau Domestig, a chynhaliwyd nifer o sesiynau ymwybyddiaeth i rannu arfer da.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, aeth y Pwyllgor ati i drafod y materion canlynol: -

 

·         Gofynnwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau mae’r Cynllun Gweithredu ddigon grymus i ddelio ag agweddau ar y meysydd blaenoriaeth er budd cymunedau Ynys Môn. Dywedodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol ei bod yn hyderus bod y Cynllun Gweithredu ddigon grymus gan fod yr holl sefydliadau partner atebol yn gweithio mewn partneriaeth o fewn y Bwrdd Partneriaeth, a bod adnoddau ar gael. Er nad oes grantiau lleol ar gael, mae’n rhaid i’r Bwrdd fanteisio ar unrhyw gyllid sydd ar gael drwy’r Gronfa Strydoedd Saffach a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Dywedodd y Prif Weithredwr bod cysylltiadau gwaith wedi gwella ymhlith partneriaid y Bwrdd Partneriaeth yn ddiweddar.

·         Gofynnwyd am y prosesau sydd ar gael er mwyn delio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol cyson, oherwydd gwelwyd bod cynnydd mewn ymddygiad o’r fath yn enwedig yn ardal Caergybi, a gydag adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol Tenantiaid  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Rhaglen Ffyniant Bro Ynys Môn - Mesur Cynnydd pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Dablygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio dros Ddatblygu Economaidd fod Llywodraeth newydd y DU wedi dewis cael gwared ar y term ‘Levelling Up’ gyda’r holl gyllid bellach yn cael ei hyrwyddo fel ‘Ariennir gan Lywodraeth y DU’. Dywedodd fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar y rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU sy’n cael ei darparu gan Esgobaeth Bangor yn Eglwys Sant Cybi yng Nghaergybi. Cyfeiriodd ymhellach at agoriad llwyddiannus y ciosgau sydd wedi'u hadnewyddu ar Draeth Newry, Caergybi gyda phedwar busnes yn gweithredu o'r ciosgau hyn. 

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion a ganlyn:-

 

·       Gofynnwyd a all y rhaglen Ffyniant Bro effeithio ar economi Ynys Môn a chymunedau lleol. Ymatebodd Rheolwr y Rhaglen ei bod yn gynamserol ystyried effaith y newid mewn llywodraeth ar hyn o bryd.  Nododd fod y gwaith o adnewyddu'r ciosgau ar Draeth Newry, Caergybi wedi agor gyda 4½ swydd wedi'u creu a 7 swydd adeiladu wedi'u caniatáu yn ystod y gwaith adnewyddu ar y ciosgau.  Prynwyd deunyddiau adeiladu hefyd yn bennaf gan fasnachwyr adeiladu lleol. 

·       Codwyd cwestiynau ynghylch y mesurau sydd mewn lle ar hyn o bryd i hyrwyddo a chynyddu ymwybyddiaeth o'r gwaith partneriaeth lleol effeithiol y tu ôl i'r rhaglen. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen bod ymgysylltu â'r gymuned yn hollbwysig er mwyn rhoi gwybod i breswylwyr Caergybi am y gwaith a wneir yn yr ardal.  Nododd ymhellach fod cwmni cysylltiadau cyhoeddus, Ateb Cyntaf Cyf, wedi'i benodi i hyrwyddo'r rhaglen a chodi ymwybyddiaeth o gerrig milltir allweddol.  Mae'r Tîm Cyflawni Rhaglen yn gweithio'n agos gyda phob un o'r Partneriaid Darparu i ddatblygu eu prosiectau a chynullir cyfarfod misol i fonitro materion a risgiau allweddol. Roedd o'r farn bod gweithio ar y cyd â'r Partneriaid Darparu wedi gosod sylfaen ar gyfer prosiectau ynys gyfan.

·       Gofynnwyd i ba raddau y mae'r newid diweddar yn Llywodraeth y DU yn effeithio ar y Rhaglen bresennol a'r rhagolygon ar gyfer cyllid/rhaglenni yn y dyfodol mewn cymunedau lleol eraill. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen nad oes unrhyw newid i’r Rhaglen oherwydd y newid diweddar yn y llywodraeth gyda dim ond enw’r rhaglen wedi’i newid i ‘Ariennir gan Lywodraeth y DU’. Nododd fod prosiectau Arfor a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn dal i fynd rhagddynt, fodd bynnag, y tu hwnt i 2026 mae'n ansicr a fydd cyllid ar gael tuag at y prosiectau hyn. Dywedodd y Prif Weithredwr fod cyllid ychwanegol am flwyddyn ychwanegol yn cael ei gyhoeddi yn y Gyllideb ym mis Hydref.  Fodd bynnag, disgwylir i weld pa drefniadau ariannu fydd yn eu lle wedi hynny tuag at raglen o'r fath a'r gobaith yw y bydd cyllid yn cael ei ddyfarnu'n uniongyrchol i'r Cyngor i benderfynu sut i’w wario. 

·       Dywedwyd bod nifer o brosiectau wedi gorfod cael eu hail-dendro gan fod y costau tendro yn llawer uwch na'r gyllideb oedd ar gael. Codwyd cwestiynau ynghylch y risgiau na fydd modd cyflawni'r prosiectau. Ymatebodd Rheolwr y Rhaglen fod cyllid a'r amserlen  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cynllun Strategol Moderneiddio Gwasanaeth Oedolion pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol fod yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i wynebu heriau sylweddol, gyda’r galw’n cynyddu ac adnoddau’n lleihau. Mae Cynllun y Cyngor yn cadarnhau’r ymrwymiad i ofal cymdeithasol a llesiant, ac mae’n amserol cydnabod sut i foderneiddio’r gwasanaeth i gyflawni dyletswyddau’r Cyngor yn effeithiol ac effeithlon.  Nod y Cynllun Strategol yw cadarnhau'r llwybr tuag at ddatblygu elfennau o'r gwasanaeth a sicrhau eu bod yn briodol a fforddiadwy i'r dyfodol, tra'n parhau i ddod yn Ynys Oed Gyfeillgar. Wrth i’r pwysau a’r galw barhau i gynyddu, a phoblogaeth yr Ynys heneiddio ynghyd â phobl ag anableddau dysgu a chorfforol, rhaid ystyried sut y gall yr Awdurdod foderneiddio’r gwasanaethau a ddarperir. Tra bod Strategaeth Moderneiddio’r Gwasanaethau Oedolion yn heriol bydd angen gweithio gyda phartneriaid allweddol, y Bwrdd Iechyd, y trydydd sector a sefydliadau eraill i wireddu’r weledigaeth o fewn y Strategaeth er budd trigolion yr Ynys. 

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion a ganlyn:-

 

·       Gofynnwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau all y Gwasanaeth gyflawni'r holl amcanion o fewn y Strategaeth a beth yw'r risgiau a'r rhwystrau ariannol i'r Gwasanaeth.  Ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol bod rhaid cydnabod nad y genhedlaeth hŷn sydd angen y gwasanaethau a ddarperir yn unig, ond bod pobl ifanc hefyd angen gwasanaethau’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae’n rhan sylweddol o’r galw am y gwasanaetha, a bydd bodloni’r angen yn heriol. Dywedodd y bydd angen ystyried opsiynau i ddarparu'r gwasanaeth am gost is i'r Cyngor gan nad yw'r cyllid yn cynyddu er bod y galw am y gwasanaeth yn cynyddu. Bydd gweithio mewn partneriaeth â’r trydydd sector a sefydliadau eraill yn hollbwysig i lwyddiant y Cynllun Moderneiddio Gwasanaethau Oedolion.

·       Gofynnwyd, oherwydd cynnydd yn y galw am y gwasanaethau a ddarperir gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, pa sicrwydd all y Gwasanaeth ei ddarparu bod cyllid cyfalaf digonol ar gael i fodloni’r galw a sut y bydd y Gwasanaeth yn denu grantiau a chefnogaeth ariannol allanol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol er y derbynnir bod Gwasanaethau Oedolion yn gorwario bod yn rhaid mynd i’r afael â’r galw am y gwasanaethau. Nododd y bydd angen addasu'r gwasanaeth i sicrhau gwell gwasanaeth drwy weithio mewn partneriaeth â'r trydydd sector a sefydliadau eraill.

·       Cyfeiriwyd ei bod yn her cael llety ar gyfer cwpl pan fyddant yn wynebu gorfod cael gofal o fewn cartref preswyl. Derbyniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod her o ran llety i cyplau o fewn sector cartrefi preswyl oherwydd costau sy'n gysylltiedig â'r galw am ystafell ddwbl o'r fath o fewn y cartref preswyl. Dywedodd y Prif Weithredwr, tra bod y cydweithio rhwng y Gwasanaeth Tai a'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn dda, bod angen gwneud rhagor o waith i gryfhau tai fforddiadwy a thai cymdeithasol i fynd i'r afael ag anghenion y boblogaeth sy'n heneiddio. Nododd fod angen i'r ddwy Lywodraeth fynd i'r afael â'r system Iechyd a Gofal Cymdeithasol.   Codwyd cwestiynau pellach ynghylch pryd y bydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2024/2025 pdf eicon PDF 487 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’w ystyried, yn nodi Blaen Rhaglen Waith ddangosol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2024/2025.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·       Cytuno ar fersiwn gyfredol y blaen rhaglen waith ar gyfer 2024/2025;

·       Nodi’r cynnydd hyd yn hyn o ran gweithredu’r blaen rhaglen waith.