Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mercher, 12fed Mawrth, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.  

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 226 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a gynhaliwyd ar 12 Chwefror, 2025.

Penderfyniad:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2025 fel cofnod cywir.

 

4.

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb:: 2023/2024 pdf eicon PDF 799 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2023/2024.

 

5.

Trosolwg o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU Ynys Môn pdf eicon PDF 296 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Penderfyniad:

 PENDERFYNWYD:-

 

• Nodi cyflawniad llwyddiannus Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Ynys Môn a'r allbynnau cadarnhaol a gyflawnwyd rhwng 2022 a 2025;

• Nodi gweithrediad Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Ynys Môn yn unol â chanllawiau Llywodraeth y DU;

• Yn cydnabod rôl barhaus y Cyngor o ran rheoli'r broses o ddarparu cyllid ar yr Ynys, yn ogystal â chefnogi partneriaid darparu lleol;

• Gofyn am ddiweddariadau pellach gan Swyddogion mewn perthynas â darpariaeth y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ystod 2025/2026.

 

6.

Enwebu Aelod Pwyllgor ar y Panel Sgriwtini Cyllid pdf eicon PDF 449 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gohirio'r eitem hyd nes y cynhelir trafodaeth i adolygu strwythur y Paneli Sgriwtini.

 

7.

Blaen Raglen Waith 2024/2025 pdf eicon PDF 289 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Penderfyniad:

 PENDERFYNWYD:-

 

• Cytuno ar fersiwn gyfredol y blaen rhaglen waith ar gyfer 2024/2025;

 

• Nodi'r cynnydd hyd yma o ran gweithredu'r rhaglen waith i'r dyfodol.