Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodir uchod.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Dyfed W Jones ddatgan diddordeb personol yn eitem 4 – Archwilio Cymru: Adroddiad Gofal Brys ac Argyfwng : Llif allan o'r Ysbyty ac eitem 5 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan ei fod yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn dilyn cyngor cyfreithiol llwyddodd i gymryd rhan yn y drafodaeth.
Bu i Mr Fôn Roberts, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ddatgan diddordeb personol yn eitem 4 – Archwilio Cymru: Adroddiad Gofal Brys ac Argyfwng : Llif allan o'r Ysbyty ac eitem 5 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan ei fod yn Aelod Cyswllt o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn dilyn cyngor cyfreithiol llwyddodd i gymryd rhan yn y drafodaeth.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Hydref, 2024. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Hydref, 2024 yn gywir.
|
|
Cyflwyno adroddiad gan Archwilio Cymru. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Ms Fflur Jones a Mr Alan Hughes o Archwilio Cymru i'r cyfarfod.
Cafodd adroddiad Archwilio Cymru ei gyflwyno i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod Archwilio Cymru wedi cynnal ymchwil i’r Llif Allan o'r Ysbyty - Rhanbarth Gogledd Cymru a'r berthynas rhwng y Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Arweiniodd hwn at sawl argymhelliad ynghylch sut i hwyluso'r llwybr gwella i gleifion er mwyn i'r gwasanaeth allu bod yn fwy effeithiol ac i ystyried profiad yr unigolion.
Dywedodd Ms Fflur Jones, Archwilio Cymru fod yr adroddiad yn crynhoi sut mae Rhanbarth Gogledd Cymru yn mynd i'r afael â'r risg o ganlyniad i’r oedi cyn bod cleifion yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty a'r goblygiadau i'r claf o ran gwella, adsefydlu a bod yn annibynnol a mynd i'r afael â'u hanghenion o fewn y gwasanaethau gofal. At hyn dywedodd fod y sefydliadau partner yn deall ac yn dangos ymrwymiad i wella llif cleifion allan o'r ysbyty. Mae gwella llif cleifion allan o'r ysbyty yn nodwedd allweddol o gynlluniau ar draws y partneriaid, sy'n cyd-fynd â chwe nod Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal brys ac argyfwng. Mae angen i bartneriaid hefyd wneud y defnydd gorau o'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol (RIF), er mwyn gwella'r gwasanaethau a ddarperir. Nododd fod angen i staff Gofal Iechyd gael hyfforddiant cyson. Mae Archwilio Cymru wedi amlinellu 16 o argymhellion o fewn yr adroddiad a chafwyd ymateb cadarnhaol.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion canlynol:
· O ran oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty, sut mae Rhanbarth Gogledd Cymru yn cymharu â rhanbarthau eraill ar lefel Genedlaethol. Mewn ymateb, dywedodd Ms Fflur Jones fod tudalen 11 o'r adroddiad yn tynnu sylw at nifer yr achosion o oedi wrth ryddhau pob 100,000 o'r boblogaeth rhwng Ebrill 2023 a Chwefror 2024 sy'n cymharu â'r cyfartaledd drwy Gymru. Mae atodiadau sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gymariaethau ar draws y rhanbarth. · Cyfeiriwyd at y ffaith fod 10 allan o'r 16 argymhelliad gan Archwilio Cymru yn gofyn am gydweithio rhwng y Bwrdd Iechyd Lleol a'r Awdurdod Lleol. Codwyd cwestiynau ynghylch sut y bydd Archwilio Cymru yn monitro effeithiolrwydd y cydweithio hwn. Dywedodd Ms Fflur Jones mai cyfrifoldeb y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod Lleol fydd monitro a dogfennu effeithiolrwydd y cydweithio mewn ymateb i argymhellion Archwilio Cymru. Nododd fod sefydliadau'n defnyddio gwahanol systemau i olrhain a monitro yn erbyn yr argymhellion a gyflwynwyd gan Archwilio Cymru. Mae angen sicrwydd gan Archwilio Cymru fod y gwaith monitro angenrheidiol yn cael ei wneud ynghyd â chynnydd. · Cyfeiriodd at gyhoeddiad diweddar gan Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru a oedd yn gosod her i Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol i wella llif cleifion allan o’r ysbyty a gofal cymunedol. Nodwyd bod adroddiad Archwilio Cymru yn cyfeirio at ddiffyg rhannu gwybodaeth rhwng y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdodau Lleol. Holwyd a fu gwelliannau o ran rhannu gwybodaeth rhwng y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdodau Lleol. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod angen rhoi trefniadau gwell ar waith ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd Mr Dyfed Edwards, groeso i Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Mrs Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'r cyfarfod.
Nododd y Cadeirydd fod adroddiad wedi ei gyflwyno gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'r Pwyllgor hwn. Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor:
· Codwyd cwestiynau ynghylch sut y bwriedir datblygu cydweithio ymhellach rhwng y Bwrdd Iechyd ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol. · Cyfeiriwyd at y ffaith fod llais y claf yn bwysig wrth ddelio â'i anghenion gofal. · Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr adroddiad yn nodi bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud gan y Bwrdd Iechyd i fynd i'r afael â'r materion hollbwysig a arweiniodd at ymyrraeth drwy fesurau arbennig. Codwyd cwestiynau ynghylch yr heriau a'r risgiau allweddol a sut y bydd y rhain yn effeithio ar allu'r Bwrdd Iechyd i gynnal ei daith barhaus i wella. · Codwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau y mae'r Bwrdd Iechyd yn rhannu a dysgu o enghreifftiau o arfer da mewn meysydd eraill i wella gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig fel Ynys Môn a sut y gall Aelodau Etholedig anfon pryderon eu hetholwyr ymlaen i'r Bwrdd Iechyd. · Yn dilyn trafodaethau yn y Pwyllgor hwn ym mis Tachwedd 2023 nodwyd y cytunwyd y byddai'r Bwrdd Iechyd yn enwi pwynt cyswllt ar gyfer ymateb i brosesau ymgynghori statudol sy'n gysylltiedig â cheisiadau cynllunio sylweddol. Codwyd cwestiynau ynghylch a yw'r Bwrdd Iechyd wedi enwi pwynt cyswllt i ymateb i'r broses ymgynghori statudol ar geisiadau cynllunio. · Cyfeiriwyd at yr oedi hir yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys a chodwyd cwestiynau ynghylch sut y bydd y Bwrdd Iechyd yn mynd i'r afael â'r broblem hon. · Codwyd cwestiynau ynghylch pa enghreifftiau y gall y Bwrdd Iechyd eu darparu i ddangos gwelliant yn niwylliant y sefydliad yn y Bwrdd Iechyd dros y 12 mis diwethaf. · Cyfeiriwyd at y rhestr aros ar gyfer asesiad Anghenion Dysgu Ychwanegol. Codwyd cwestiynau ynghylch sut mae'r Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod Lleol yn cydweithio i leihau'r rhestr aros. · Codwyd cwestiynau ynghylch yr effaith ar y gwasanaeth iechyd pan nad yw pobl yn mynychu apwyntiadau meddyg teulu ac ysbyty. · Codwyd cwestiynau ynghylch trosiant staff o fewn y Bwrdd Iechyd oherwydd pwysau gwaith yn y sector iechyd. · Codwyd cwestiynau ynghylch sut y gellir gwella’r broses gyfathrebu â chleifion sy'n aros am driniaeth. · Codwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau y mae cyllid ar gyfer gofal hosbis diwedd oes yn cael effaith ar ryddhau cleifion yn effeithiol o'r ysbyty.
Dyma ymateb cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Swyddogion i'r cwestiynau a godwyd:
· Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei fod yn gwerthfawrogi'r cydweithio cadarnhaol rhwng y Bwrdd Iechyd a Chyngor Sir Ynys Môn ac ymrwymiad Prif Swyddogion y Cyngor i sicrhau perthynas ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |