Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Iau, 12fed Mehefin, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o fuddiant.

 

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 221 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol:-

 

·         Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ebrill, 2025;

·         Cofnodion Ethol Cadeirydd a Is-gadeirydd a gynhaliwyd ar 20 Mai, 2025.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol yn gofnod cywir:-

 

·         Cofnodion y cyfarfod hybrid a gynhaliwyd ar 9 Ebrill 2025;

·         Cofnodion y cyfarfod i Ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd a gynhaliwyd ar 20 Mai, 2025.

 

Materion yn codi o gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar  12 Chwefror, 2025 - Eitem 4 - Adolygu’r Polisi Iaith Gymraeg

 

Gweithred: Anfon llythyr at Lywodraeth Cymru i ofyn am ddeddfwriaeth newydd i warchod enwau lleoedd Cymraeg hanesyddol, a phwysleisio’r angen am ddeddfwriaeth o’r fath.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod ymateb wedi’i dderbyn gan yr Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg yn cymeradwyo’r camau a gymerwyd gan yr Awdurdod drwy’r Polisi Iaith Gymraeg.   Mae ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau bod enwau lleoedd hanesyddol Cymraeg yn cael eu gwarchod. 

 

3.

Adroddiad Blynyddol y Gymraeg 2024-2025 pdf eicon PDF 702 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol ar yr Iaith Gymraeg er mwyn i’r Pwyllgor  ei ystyried a chyflwyno sylwadau i’r Aelod Portffolio cyn iddo gael ei gymeradwyo ganddo dan bwerau dirprwyedig a’i gyhoeddi. 

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg a’r Gymraeg bod rhaid i’r Cyngor baratoi Adroddiad Blynyddol ar ei gydymffurfiaeth â’r Safonau yn unol â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg 2015.  Dywedodd bod mwy o staff wedi derbyn hyfforddiant iaith Gymraeg yn ystod y flwyddyn a bod y Cyngor wedi derbyn cefnogaeth gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

·         Cyfeiriwyd at y ffaith ei bod hi’n galonogol bod cynnydd o 200% yn nifer y Swyddogion ac Aelodau etholedig sydd wedi derbyn hyfforddiant i wella eu sgiliau iaith Gymraeg.   Yn ddiweddar cafodd sesiwn ymwybyddiaeth newydd ar gyfer dysgwyr a siaradwyr hyfedr ei beilota gan Iaith Cyf. Nodwyd y byddai’n ddefnyddiol cael adborth yn dilyn y sesiynau hyn a holwyd a fyddai sesiynau pellach ar gael maes o law.   Nodwyd hefyd y dylid gwahodd Aelodau Etholedig i’r sesiynau hyn i ddathlu ymdrechion dysgwyr. Mewn ymateb  dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg bod yr adborth yn dilyn y Sesiwn Hyfforddiant hwn wedi bod yn galonogol a bod y rheiny a fynychodd wedi gwerthfawrogi’r cyfle.  Nododd bod Tîm Hyfforddi’r Adran Adnoddau Dynol yn ystyried cynnal sesiwn tebyg yn y dyfodol.   Mae’r sesiynau i ddathlu ymdrechion dysgwyr yn rhoi cyfle i gefnogi dysgwyr i ymarfer a siarad Cymraeg mewn amgylchedd mwy naturiol yn hytrach na lleoliad ffurfiol.  Mae’r Tiwtoriaid yn gosod tasg i’r dysgwyr megis trefnu gweithgareddau ac ymarfer eu sgiliau iaith Gymraeg.   Dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg bod cyfle i Aelodau Etholedig a Staff fynychu sesiynau cyffredinol i wella sgiliau iaith o fewn y Cyngor. 

·         Holwyd i ba raddau mae’r Cyngor yn colli cyfle drwy ganolbwyntio ar recriwtio staff sydd eisoes yn medru’r Gymraeg, yn hytrach nag ystyried ymgeiswyr sydd methu siarad Cymraeg neu ddysgwyr, a allai elwa o’r hyfforddiant iaith sy’n cael ei gynnig gan y Cyngor.  Holwyd hefyd ynglŷn â’r gost ariannol o ail-hysbysebu rolau am y trydydd tro am nad ydi’r gofynion iaith wedi cael eu bodloni.   Mewn ymateb dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg bod y Cyngor yn cynnig cyfleoedd hyfforddi i staff sy’n siaradwyr Cymraeg dihyder.   Mae’r 5 maen prawf sy’n mesur y gofynion iaith ar gyfer ymgeisio am swyddi o fewn y Cyngor yn ddibynnol ar ofynion iaith a chyfrifoldebau’r swydd  ynghyd â’r angen i ymateb i ymholiadau gan y cyhoedd yn eu hiaith ddewisol.   Dywedodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid nad oes costau ychwanegol yn gysylltiedig ag ail-hysbysebu swyddi o fewn yr Awdurdod gan fod swyddi’n cael eu hysbysebu ar wefan y Cyngor.  

·         Holwyd sut mae’r Cyngor yn gwerthuso’r gofynion iaith ar gyfer swyddi a p’un a yw’r cymhwyster TGAU Cymraeg yn cael ei fesur.   Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg bod y lefel iaith yn cael ei asesu ar gyfer y rôl yn seiliedig ar y dyletswyddau.   Mae’r polisi recriwtio’n nodi’r disgwyliadau’n glir ar gyfer pob  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg : 2024/2025 - Mesur Cynnydd pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg mai pwrpas yr adroddiad yw darparu diweddariad blynyddol ar y cynnydd yn gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg.  Nododd bod Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg yn mesur effeithlonrwydd y Cynllun o ran cwrdd â’r 7 Deilliant.   Mae’r adroddiad ar gyfer 2024/2025 yn nodi bod Deilliant 1, 2, 3, 5, a 6 yn sefydlog ond bod Deilliant 4 a 7 wedi dirywio.  

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

·         Cyfeiriwyd at Ddeilliant 4 sy’n nodi bod gostyngiad wedi bod yng nghanran y disgyblion sy’n astudio’r cymhwyster TGAU Cymraeg iaith gyntaf a bod mwy’n cofrestru ar y cwrs ail iaith.  Cyfeiriwyd hefyd at Ddeilliant 7 sy’n nodi bod dirywiad wedi bod yn nifer yr athrawon Cymraeg ac athrawon a all ddysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg.   Holwyd a oes rheswm dros y tueddiadau hyn.  Mewn ymateb dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg mai’r ffocws yw helpu disgyblion i gyrraedd eu potensial.  Nododd bod y cwrs TGAU iaith gyntaf ac ail iaith ar gael i ddisgyblion ar hyn o bryd.   Fodd bynnag, bydd newidiadau’n cael eu cyflwyno yn ystod y ddwy flynedd nesaf a bydd yr arholiadau Iaith a Llenyddiaeth yn cael eu cyfuno i greu un cymhwyster TGAU ar gyfer disgyblion mewn ysgolion Cymraeg a dwyieithog. Bydd y cwrs TGAU ail iaith yn cael ei ddileu a bydd cwrs TGAU newydd yn cael ei greu ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion Saesneg.  Aeth ymlaen i ddweud bod recriwtio staff dysgu yn her genedlaethol a bod camau penodol wedi cael eu cymryd i weithio’n agos â Phrifysgol Bangor i amlygu’r cyfleoedd posib yn y sector addysg.   Dywedodd yr Uwch Reolwr Addysg Gynradd bod cyfarfodydd strategol rheolaidd yn cael eu cynnal gyda swyddogion recriwtio o Brifysgol Bangor a chynrychiolydd o’r Ysgol Addysg a’r Ysgol Seicoleg.  Mae gwaith ar y cyd yn digwydd gyda CaBan, sef partneriaeth rhwng ysgolion a Phrifysgol Bangor.

·         Holwyd pa gefnogaeth ychwanegol fydd ar gael i Ysgol Uwchradd Caergybi i’w helpu i gyrraedd y targed uchelgeisiol o ddod yn Ysgol Categori 3 erbyn mis Medi 2029.   Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Reolwr Addysg Gynradd bod y Gwasanaeth Dysgu’n rhan ganolog o’r gwaith i ddarparu cymorth ehangach i Ysgol Uwchradd Caergybi.   Sefydlwyd Grŵp Prosiect WESP ym mis Mai 2024, sy’n canolbwyntio’n benodol ar sefydlu dosbarth blwyddyn 7 Categori 3, canolfan iaith sydd hefyd yn cefnogi dysgu’r Dyniaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a rhaglen benodol i gefnogi’r staff dysgu.  Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg bod y Panel Sgriwtini Addysg wedi ymweld ag Ysgol Uwchradd Caergybi yn ddiweddar a’u bod wedi gweld pa mor barod yw’r ysgol i hyrwyddo’r Gymraeg.  Roedd siaradwyr Cymraeg hyderus ym mlwyddyn 7 a’r gobaith yw y bydd hynny’n parhau ym Mlwyddyn 8.  

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod 3 ysgol yn nalgylch Caergybi wedi gofyn am gymorth ychwanegol yn gysylltiedig â’r Gymraeg.  Holwyd ynglŷn â’r meini prawf ar gyfer ysgolion eraill ar yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Rhaglen Ariannol Llywodraeth Cymru y DU (Cronfa Ffyniant Bro Ynys Môn) pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’r Pwyllgor ei ystyried. 

 

Adroddodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd mai hwn yw’r pumed diweddariad i’r Pwyllgor a’i fod yn amlinellu’r cynnydd o ran cyflawni’r Rhaglen ar gyfer Trawsnewid Caergybi gyda chyllid Llywodraeth y DU.  

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

·         Holwyd ynglyn â’r swyddi a grëwyd gan y rhaglen.  Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd bod 52 swydd lawn amser wedi cael ei chytuno fel rhan o’r rhaglen gyda Llywodraeth y DU ac y bydd nifer y swyddi a grëwyd yn dod yn amlwg  pan fydd y cynllun yn cael ei gwblhau ym mis Mawrth 2026.   Nododd bod y contractwyr a benodwyd i gwblhau’r gwaith wedi cyflogi gweithwyr ychwanegol.  Dywedodd y Rheolwr Rhaglen bod 12 swydd lawn amser wedi cael ei chreu fel rhan o’r Rhaglen.   

·         Holwyd ynglyn â’r costau cynyddol, effaith hynny ar ddeilliannau, p’un a yw’r deilliannau’n dal i fod yn gyraeddadwy a p’un a yw’r risg hwn wedi cael ei godi’n ffurfiol gyda Llywodraeth y DU.   Mewn ymateb dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd bod y risg yn gysylltiedig â chostau cynyddol yn sgil chwyddiant yn effeithio ar bris deunyddiau a bod hynny wedi’i nodi fel risg gan y Bwrdd Rhaglen ar ddechrau’r broses.   Nododd bod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda phartneriaid cyflawni a bod rhai elfennau yn gysylltiedig â’r prosiect wedi cael eu dileu oherwydd costau.  

·         Holwyd p’un a oedd busnesau’n barod i feddiannu’r unedau sydd wedi cael eu hadeiladu fel rhan o’r rhaglen a ariannwyd gyda chyllid Llywodraeth y DU.   Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rhaglen bod busnesau wedi ymgeisio drwy broses agored ac y bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal gyda’r busnesau sydd wedi dangos diddordeb.  Bydd y busnesau llwyddiannus yn cael prydlesu’r unedau am flwyddyn yn fwy na thebyg.   Holwyd p’un a yw blwyddyn o brydles yn ddigonol a p’un a fydd yn rhaid i’r  busnesau ail-dendro am yr unedau a p’un a yw’r brydles tymor byr wedi effeithio ar nifer y busnesau a ymgeisiodd.   Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rhaglen y bydd y busnesau llwyddiannus yn cael eu monitro yn ystod y flwyddyn ac yna’n cael cynnig ymestyn y brydles.   Nododd nad oedd y cynnig o flwyddyn o brydles wedi effeithio ar y diddordeb yn yr unedau hyn a bod nifer o fusnesau wedi dangos diddordeb.    

·         Holwyd pa sicrwydd y gellir ei roi na fydd costau’n effeithio ar ansawdd y ddarpariaeth, a p’un a oes digon o adnoddau ariannol i reoli’r cynnydd mewn costau.   Mewn ymateb dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd ei fod yn Aelod o’r Bwrdd Rhaglen a bod y Bwrdd yn sicrhau bod ansawdd y gwaith yn diwallu gofynion y Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU.

·         Holwyd p’un a yw’r tân diweddar yn Eglwys Cybi Sant yn peri risg ariannol a p’un a fydd yn effeithio ar amserlen y prosiect.   Mewn Ymateb dywedodd y Rheolwr Rhaglen nad yw’r tân diweddar wedi effeithio ar Eglwys Cybi Sant ond bod rhywfaint  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor : 2025/2026 pdf eicon PDF 311 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn manylu ar Flaen Raglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2025/2026.

 

PENDERFYNWYD cytuno’r fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2025/26.