Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mercher, 26ain Tachwedd, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim un datganiad wedi’i dderbyn.

 

3.

Craffu Partneraethau Strategol- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr pdf eicon PDF 496 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Mr Paul Andrew – Cyfarwyddwr Gweithrediadau IC (Gorllewin) – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'r cyfarfod.

 

Rhoddodd Mr Paul Andrew gyflwyniad byr i'r Pwyllgor ar y bartneriaeth gref rhwng y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod sy’n rhannu’r yn ffocws, sef gwella iechyd, annibyniaeth a lles i drigolion Ynys Môn.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor:-

 

·         Cyfeiriwyd at y siom yn lleol bod uned pedwar gwely Hosbis Dewi Sant yn Ysbyty Penrhos Stanley wedi cau yn ddiweddar.  Codwyd cwestiynau ynghylch a fydd yr uned pedwar gwely yn cael ei throsglwyddo er mwyn darparu gwelyau ychwanegol yn yr ysbyty. Mewn ymateb, dywedodd Mr Andrew fod yr uned pedwar gwely yn darparu therapïau ac adnoddau eraill i gleifion sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd.  Nododd fod adnodd un gwely ar gael yn yr Hosbis yn Llandudno. 

·         Cyfeiriwyd at wydnwch y ddwy bont ar draws Afon Menai.  Codwyd cwestiynau ynghylch a oes gan y Bwrdd Iechyd gynlluniau gweithredu ar waith i fynd i'r afael â senario lle byddai’r ddwy bont yn cael eu cau a bod angen trosglwyddo cleifion, mewn argyfwng, i Ysbyty Gwynedd.  Codwyd cwestiynau pellach gan ofyn a oes darpariaeth ar gael yn Ysbyty Cefni ac Ysbyty Penrhos Stanley ac a oes angen buddsoddi yn y ddau ysbyty hyn i ddelio â sefyllfa fel hon.  Mewn ymateb, dywedodd Mr Dyfed Edwards fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i'r ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru gan dynnu sylw at y pryderon y gallai'r ddwy bont gau oherwydd gwyntoedd cryfion neu unrhyw argyfwng arall.  Dywedodd fod nifer o staff y Bwrdd Iechyd yn byw ar yr Ynys ac yn gorfod croesi'r pontydd yn ôl a blaen i'r gwaith bob dydd.  Nododd fod y buddsoddiad mewn darpariaethau lleol yn bwysig er mwyn i gleifion dderbyn eu triniaeth a chael eu cefnogi.  Dywedodd Mr Andrew fod cynlluniau parhad busnes (Grŵp Rheoli Tactegol) ar waith pe bai'r senario yn digwydd a bod y ddwy bont ar draws Afon Menai yn cau. 

·         Yn ystod y cyflwyniad adroddwyd bod perthynas waith gadarn rhwng y Bwrdd Iechyd a'r Cyngor hwn. Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r ddarpariaeth gan y Gweithwyr Cymdeithasol o'r Awdurdod Lleol wrth ofalu am gleifion yn Ysbyty Gwynedd.  Mewn ymateb, dywedodd Mr Andrew fod newid wedi bod yn y model o weithio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol ers y ddwy flynedd ddiwethaf gyda Gweithwyr Cymdeithasol yn yr ysbyty.  Nododd ei bod yn amlwg nad oedd angen i bob claf gael ei weld gan Weithiwr Cymdeithasol a bod gwelyau’n cael eu blocio wrth i'r claf aros i gael ei weld gan Weithiwr Cymdeithasol.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod darpariaeth AmAdref ar gael gyda Gweithwyr Cymdeithasol yn gofalu am gleifion yn Ysbyty Gwynedd i drefnu’r llwybr gofal sydd ei angen ar unigolyn wrth ddychwelyd adref.  Mae'r Tîm Ailalluogi hefyd yn gofalu am gleifion yn Ysbyty Gwynedd i sicrhau bod cleifion yn derbyn y pecyn gofal cywir.  Dywedodd ei bod yn bwysig  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Craffu Partneraethau Strategol- Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Derbyn cyflwyniad gan Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Ms Emma Wood – Prif Weithredwr a Ms Estelle Hitchon – Cyfarwyddwr Partneriaeth ac Ymgysylltu Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i'r cyfarfod. 

 

Cafwyd cyflwyniad byr gan gynrychiolydd o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a dynnodd sylw at Fframwaith Cam 2 Ambiwlans Cymru diweddar i fynd i'r afael ag anghenion clinigol y cleifion.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor:-

 

·                 Codwyd cwestiynau ynghylch a yw trosglwyddo cleifion mewn Ambiwlans o fewn 15 munud i'r adran achosion brys yn dal i fod yn darged.  Mewn ymateb, dywedodd Ms Emma Wood mai targed y DU ar gyfer trosglwyddo cleifion yw 15 munud.  Nododd fod gwaith wedi'i wneud gan y Gwasanaethau Ambiwlans gyda'r holl Fyrddau Iechyd i ddod â'r cyfnod trosglwyddo presennol i 45 munud.  Yn Adroddiad Argymhelliad y Grŵp Cynghori Gweinidogol pwysleisiwyd mai 45 munud yw’r targed fel cyfnod trosglwyddo.  Dywedodd Ms Estelle Hitchon y byddai trosglwyddo cleifion o 45 munud yn welliant sylweddol i'r cyfnod trosglwyddo presennol a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf. 

·                 Codwyd cwestiynau ynghylch pa gamau penodol sy'n cael eu cymryd i wella'r cyfnodau ymateb ar gyfer argyfyngau categori 1 a chategori 2 ar Ynys Môn ac a oes digon o griwiau Ambiwlans i wasanaethu ardal wledig o'r fath neu a yw'r gwasanaeth yn dibynnu ar griwiau o Fangor a Gwynedd.  Mewn ymateb, dywedodd Ms Emma Wood fod gweithdrefn galw a chapasiti yn cael ei chynnal i sicrhau bod adnoddau ambiwlans priodol yn yr ardal.  Nododd fod y gwasanaeth yn dibynnu ar wirfoddolwyr o fewn ardaloedd gwledig, gydag ymatebwyr cyntaf a cherbydau ymateb cyflym hefyd yn cael eu defnyddio.  Fodd bynnag, po hiraf y mae'r rhain yn sefyll yn llonydd y tu allan i ysbytai, y lleiaf o adnoddau sydd ar gael i ofalu am gleifion.  Nododd fod criwiau o ardaloedd eraill yn cael eu defnyddio pan fo angen,  Gyda’r model ymateb newydd, dywedodd Ms Estelle Hitchon fod mwy o gymorth lles a chymorth clinigol dros y ffôn i gleifion sy'n aros am ambiwlans er mwyn asesu a yw claf yn dirywio/gwella neu a yw'r teulu wedi penderfynu mynd â'r cleifion i'r ysbyty eu hunain.  Mae Ymatebwyr Cymunedol hefyd yn ymateb i gleifion categori is os oes angen er mwyn monitro cyflwr y claf ac i roi gwybod i'r Gwasanaeth Ambiwlans. 

 

  • Codwyd cwestiynau ynglŷn â nifer y galwadau y mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yn eu derbyn mewn perthynas ag argyfyngau Iechyd Meddwl a pha hyfforddiant arbenigol sy'n cael ei ddarparu i'r staff.  Mewn ymateb, dywedodd Ms Emma Wood y bydd angen rhoi'r wybodaeth am nifer y galwadau a dderbynnir mewn perthynas ag argyfyngau Iechyd Meddwl i'r Pwyllgor maes o law.  Nododd fod hyfforddiant ar gyfer argyfyngau Iechyd Meddwl yn rhan o'r Cwrs i Barafeddygon a ddarperir gan y Brifysgol ac mae'r Gwasanaethau Ambiwlans yn ceisio gwella hyfforddiant ar gyfer criwiau ambiwlans.  Dywedodd ymhellach y gall nyrsys hyfforddedig o fewn Canolfan Alwadau Gwasanaethau Ambiwlans hysbysu a chyfeirio'r ymarferwyr sydd â sgiliau uwch ym maes Iechyd Meddwl at y cleifion.