Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau |
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Penderfyniad: Fe wnaeth y Cynghorydd Euryn Morris ddatgan buddiant personol yn gysylltiedig ag Eitem 5 - Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn gan ei fod yn cael ei gyflogi gan Gyngor Gwynedd.
|
|
|
Cyflwno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol :-
· Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd, 2025; · Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd, 2025; · Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr, 2025. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol yn gofnod cywir:-
· Cofnodion y cyfarfod hybrid a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd, 2025. · Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26, Tachwedd, 2025, yn amodol ar gynnwys enw’r cynghorydd Sonia Williams i’r rhestr o ymddiheuriadau. · Cofnodion y cyfarfod hybrid a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr, 2025
|
|
|
Diogelu Corfforaethol Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ar ôl archwilio’r wybodaeth a gyflwynwyd ac adolygu’r datblygiadau dros y 12 mis nesaf, PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau Diogelu Corfforaethol yn llawn.
|
|
|
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn · Adroddiad Blynyddol 2024/2025 · Trefniadau llywodraethiant/craffu cynnydd ar wireddu’r Cynllun Llesiant
Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi trefniadau llywodraethiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Llesiant ar gyfer 2023-2028 a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023.
|
|
|
Blaen Raglen Waith 2025/2026 Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:-
· Cytuno ar fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2025/26; · Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r Blaen Raglen Waith.
|