Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodir uchod.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad.
|
|
|
Ymgynghoriad Casglu Gwastraff ac Ailgylchu Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo i’w ystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd fod gan y Cyngor rwymedigaeth statudol i gyflawni cyfradd ailgylchu o 70%, ac nad yw’n gwneud hynny ar hyn o bryd. Er mwyn gwella’r cyfraddau ailgylchu a bodloni’r rhwymedigaeth statudol, mae’n rhaid i’r Cyngor ystyried gwneud newidiadau i drefniadau casglu gwastraff ac ailgylchu. Mae gofyniad i ymgynghori gyda’r rheiny sy’n debygol o gael eu heffeithio wrth ystyried unrhyw gynnig i wneud newid sylweddol i wasanaeth, yn enwedig os mai cynnig i leihau gwasanaeth ydyw. Gan y bydd unrhyw newid i’r gwasanaeth casglu yn effeithio ar gartrefi Ynys Môn, bydd angen dilyn proses ymgynghori lawn. Cyfeiriodd at Atodiad 1 oedd wedi ei atodi i’r adroddiad, a dywedodd fod y Cyngor wedi gosod ymrwymiad clir i warchod yr amgylchedd a lleihau ôl-troed carbon yng Nghynllun y Cyngor 2023-2028, ac mae ailgylchu yn hollbwysig mewn perthynas â’r gwaith hwnnw. Drwy leihau swm y gwastraff mae’n rhaid cael gwared ag o, gellir lleihau allyriadau, gwarchod adnoddau gwerthfawr a helpu i greu amgylchedd glanach, mwy gwyrdd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ar hyn o bryd, mae cyfradd ailgylchu’r Awdurdod yn 65% sy’n is na’r targed o 70%, ac yn seiliedig ar y cyfraddau ailgylchu hyn, gall y Cyngor wynebu dirwy o oddeutu £350k bob blwyddyn. Dywedodd fod WRAP Cymru yn rhestru’r camau posibl y gellid eu cymryd i wella cyfraddau ailgylchu (roedd dolen ar gyfer y ddogfen ar gael yn Atodiad 1). Mae WRAP Cymru hefyd yn nodi bod modd ailgylchu 52% o’r gwastraff sy’n cael ei roi mewn biniau du ar Ynys Môn ar hyn o bryd, ac maent wedi ymweld â Safle Gwastraff Penhesgyn i wahanu’r gwastraff yn y biniau du. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd mai bwriad yr adroddiad yw cadarnhau a yw’r Pwyllgor Sgriwtini o’r farn fod y cwestiynau yn y ddogfen ymgynghori yn briodol a digonol. Yn dibynnu ar ganlyniad y broses ymgynghori, mae’n bosibl y bydd binau du yn cael eu casglu bob 4 wythnos yn y dyfodol. Dywedodd ei bod yn bwysig cael ymateb i’r ymgynghoriad, a all fod yn ddadleuol, er mwyn cael safbwyntiau ar ffyrdd i wella ailgylchu ar yr ynys. Dywedodd y byddai’n rhaid cael buddsoddiad ar gyfer unrhyw newid, o oddeutu £3m i £16m, er mwyn cael cerbydau newydd ac i wneud gwelliannau yn y safleoedd gwastraff ac ailgylchu, ac oherwydd hyn ni fydd unrhyw newid i’r gwasanaeth casglu yn digwydd dan 2029. Mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru’n darparu grantiau os ystyrir bod yr Awdurdod wedi ymrwymo i leihau gwastraff a gwella cyfraddau ailgylchu.
Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y bydd angen gwneud mân newidiadau i’r holiadur i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’r gofyniad rhithiol sydd ar wefan y Cyngor a bydd cwestiwn ychwanegol yn cael ei gynnwys yn ymwneud â’r effaith ar yr iaith Gymraeg er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf Gydraddoldeb.
Wrth ystyried yr adroddiad, cafodd y materion isod eu ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
|
Cynllun Strategol Addysg Ddigidol 2026-2031 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a'r Iaith Gymraeg fod y Cynllun Strategol Addysg Ddigidol yn cyfrannu at ddatblygu system addysg fodern. Daeth y cynllun presennol i ben yn 2024 ac felly mae angen sefydlu cynllun newydd ar gyfer y cyfnod nesaf. Mae'r gofyniad am offer TG mewn ysgolion wedi cynyddu dros y blynyddoedd ac mae'n bwysig eu bod yn bodloni’r gofynion cyfredol.
Wrth ystyried yr adroddiad, cafodd y materion isod eu crybwyll:-
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr adroddiadau’n nodi bod y Cyngor wedi clustnodi swm i ariannu’r Cynllun Strategol, ond mae’n annhebygol y bydd y cronfeydd a glustnodwyd ar hyn o bryd yn ddigonol. Codwyd cwestiynau ynghylch y goblygiadau i'r Cynllun, hynny ydi, nad oes digon o gyllid a beth yw'r diffyg y mae'r Cyngor yn ei wynebu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer rhan o'r Cynllun Strategol, fodd bynnag, mae diffyg cyllid i gyflawni'r Cynllun ar hyn o bryd. Bydd yn rhaid cynnal trafodaethau i sicrhau y gellir dod o hyd i gyllid ychwanegol a bydd angen defnyddio data i sicrhau y bydd unrhyw gyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer anghenion yr ysgolion. Bydd angen buddsoddi mewn offer a seilwaith. Nododd fod y Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, a bydd angen ymchwilio i'r bylchau yn y dyfodol. Dywedodd y Prif Swyddog Digidol fod gwaith wedi'i wneud i fesur y diffyg posibl a'r gofynion seilwaith ynghyd â goblygiadau cost i uwchraddio offer yn barhaus. Bydd angen ymgysylltu ag ysgolion i fesur eu hanghenion er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei fodloni. · Gofynnwyd cwestiynau a fyddai gwybodaeth yn cael ei chasglu ynghylch sgiliau TG staff yr ysgol cyn gweithredu'r Cynllun Strategol. Dywedodd yr Arweinydd Strategol (Cynradd) fod sgiliau staff yn cael eu monitro, a bod Cydlynwyr Digidol yn casglu'r data mewn perthynas ag anghenion datblygu sgiliau o fewn y dalgylchoedd cynradd a oedd yn rhan o'r Cynllun blaenorol. · Gofynnwyd sut fydd perfformiad y Cynllun Strategol yn cael ei fonitro yn ystod y cyfnod 2026-2031. Dywedodd yr Arweinydd Strategol (Cynradd) y bydd angen datblygu cefnogaeth yn y sector cynradd mewn perthynas â phynciau STEM gyda rhwydweithiau uwchradd sy'n cefnogi uwchsgilio ac yn rhannu arfer da gyda phob ysgol uwchradd. Mae hyn yn rhan o ddatblygu system hunan-ddatblygiadol. · Gofynnwyd a oedd darpariaeth ddigonol wedi'i rhoi ar waith ar ôl i Gwmni Cynnal ddod i ben yn 2022. Dywedodd y Prif Swyddog Digidol fod trosglwyddo’r darpariaeth i'r Awdurdod ar ôl i Gwmni Cynnal ddod i ben yn 2022 wedi bod yn newid sylweddol i ysgolion a staff y Cyngor oedd wedi arfer derbyn y gwasanaeth gan Gwmni Cynnal ers blynyddoedd lawer. Nododd fod ymgynghoriad wedi'i gynnal ag ysgolion i asesu eu gofynion ac i wneud yn siŵr bod darpariaeth TG yr ysgol yn ddigonol. · Gofynnwyd a allai'r platfform digidol gefnogi plant ag anawsterau darllen a rhifedd. Dywedodd yr Arweinydd Strategol (Cynradd) fod ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |