Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 14eg Gorffennaf, 2026 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Penderfyniad:

Bu i’r Cynghorydd Sonia Williams ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 5 - Cynllun Strategol Taclo Tlodi, gan ei bod yn Aelod o’r Bwrdd Taclo Tlodi.  Fe wnaeth y Cynghorydd Williams adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ddilynol.

 

Bu i’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 4 - Craffu ar Bartneriaeth Strategol - Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ei fod yn aelod o Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 170 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2026.

 

YN CODI

 

Diweddariad ar wireddu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar Ynys Môn 2022/2026

 

·             Llythyr wedi ei anfon gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini at Mr Adam Price AS;

·             Ymateb wedi ei dderbyn gan Mr Adam Price AS;

·             Llythyr wedi ei anfon gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini at Mr Steve Reed AS;

·             Ymateb wedi ei dderbyn ar ran Mr Steve Reed AS.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2026 yn gywir.

 

4.

Craffu Partneriaeth Strategol - Cyfoeth Naturiol Cymru pdf eicon PDF 3 MB

Derbyn cyflwyniad gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniad gan Gyfoeth Naturiol Cymru

 

5.

Cynllun Strategol Taclo Tlodi pdf eicon PDF 183 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

·          derbyn y Cynllun Strategol Taclo Tlodi ar gyfer 2025/26;

·          nodi’r sylwadau ar flaenoriaethau gwaith Taclo Tlodi ar gyfer 2026/27;

·          gofyn i sefydliadau trydydd sector gwblhau asesiad effaith a defnyddio’r canfyddiadau i ysgrifennu ar y cyd ar ran y Pwyllgor at Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, er mwyn tynnu sylw at effaith sylweddol rôl arfaethedig y Cyd-bwyllgor Corfforedig mewn perthynas â Chyllid y Gronfa Twf Lleol ar Ynys Môn, a dadlau dros ddychwelyd at fodel y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) (70% refeniw, 30% cyfalaf) i sicrhau fod gwasanaethau hanfodol yn gallu parhau.

 

6.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor - 2026/2027 pdf eicon PDF 202 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 PENDERFYNWYD:-

 

·         Cytuno’r fersiwn gyfredol o’r flaen raglen waith ar gyfer 2026/2027;

·         Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r flaen raglen waith.