Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol Wedi’i Ffrydio’n Fyw (Ar hyn o bryd, nid oes modd i’r cyhoedd fynychu)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un ymddiheuriad.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Trefor Ll Hughes MBE ei fod yn aelod o’r Cyngor Iechyd Cymunedol.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol:-
· Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 11 Mawrth, 2021; · Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 14 Ebrill, 2021; · Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 18 Mai, 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd a ganlyn yn gywir:-
· Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2021; · Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2021; · Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mai 2021.
|
|
Cyflwyniad gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Derbyn cyflwyniad gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Ms Jo Whitehead, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i roi cyflwyniad i’r Pwyllgor.
Diolchodd Ms Whitehead i’r Pwyllgor am ei gwahodd i’r cyfarfod. Rhoddodd grynodeb byr o’r cefndir mewn perthynas â rhoi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru yn 2015, hyd at fis Tachwedd 2020; yn dilyn adolygiad annibynnol gan y rheoleiddwyr, symudwyd y Bwrdd Iechyd i dderbyn ymyriad wedi’i dargedu. Dywedodd bod pedwar thema gyffredinol wedi cael eu nodi i’r Bwrdd Iechyd eu gwella dros gyfnod o amser, sef:-
· Darpariaeth gwasanaeth Iechyd Meddwl (gwasanaethau oedolion a phlant) · Cyfeiriad strategol (cynllunio a pherfformiad) · Arweinyddiaeth (y gallu i drawsnewid gwasanaeth a diwylliant y Bwrdd) · Ymgysylltu (ymgysylltu â phobl Gogledd Cymru, cleifion, staff a sefydliadau partner)
Oherwydd bod gan Lywodraeth Cymru brofiad o ymyriad wedi’i dargedu mewn Byrddau Iechyd, ymgorfforir ‘matrics aeddfedrwydd’ yn y dangosyddion gwella a’r hunanarfarniad. Mae sicrhau ansawdd yn thema ar draws y ‘matrics aeddfedrwydd’ ac mae’n berthnasol i’r pedwar thema gyffredinol a nodwyd uchod. Mae’r ‘matrics aeddfedrwydd’ yn ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd Iechyd benderfynu ar lefel eu perfformiad, ar raddfa o 0 i 5, mewn perthynas â phrofiad y claf, y gallu i ymateb i’r pandemig covid (profi ac olrhain), brechu, gofal i gleifion a chymorth i gleifion sy’n dioddef o covid hir), amseroedd aros am driniaeth, gofal nas cynlluniwyd (apwyntiadau brys), gwasanaethau iechyd meddwl, a chynaliadwyedd gwasanaethau a ddarperir yn y dyfodol. Mae’n bwysig gallu cynnal y tri phrif safle, sef Ysbyty Gwynedd, Glan Clwyd a Wrecsam Maelor, gan fod y Bwrdd yn wynebu problemau o ran recriwtio a chadw staff. Bydd dull ‘Cryfach Gyda’n Gilydd’ yn cael ei fabwysiadu, sy’n golygu ymgysylltu â staff y Bwrdd Iechyd er mwyn canfod pa heriau y mae staff yn eu hwynebu o ddydd i ddydd. Cyfeiriodd Ms Jo Whitehead at y ‘matrics aeddfedrwydd’ eto a sut mae’r Bwrdd Iechyd wedi rhoi sgôr i’w berfformiad ar raddfa o 0 i 5. Nododd fod y Bwrdd wedi rhoi sgôr gwella o 1 oherwydd yr ystyrir ei fod yn perfformio’n ‘dda yn rhannol’ ond bod angen gwneud mwy o waith i wella’r gwasanaethau a gynigir, a bod hynny’n wir am bedwar nod cyffredinol y Bwrdd Iechyd. Ychwanegodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod sefydliadau partner annibynnol o’r farn bod angen gwneud mwy o waith mewn perthynas â sefydlogrwydd Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Bwrdd iechyd, caniatáu i staff godi pryderon mewn modd tryloyw, a bod y Bwrdd yn cael ei arwain yn glinigol.
Cyfeiriodd hefyd at ofal iechyd meddwl ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a phontio o wasanaethau pediatrig i Wasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion ac i Wasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn, ynghyd â gwasanaethau ataliol ym maes Iechyd Meddwl. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi nodi bod angen gwneud gwaith sylweddol i wella perfformiad y gwasanaethau hyn. Mae gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn holl bwysig h.y. Gwasanaethau Cymdeithasol awdurdodau lleol, Addysg a’r trydydd sector.
Rhoddwyd cyfle i’r Pwyllgor ofyn cwestiynau ynghylch yr uchod:-
· Fel Pencampwr Pobl H ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Adroddiad Blynyddol ar Safonau'r Gymraeg 2020/21 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad Blynyddol ar Safonau’r Gymraeg 2020/21. Cofnodion: Cyflwynwyd – yr Adroddiad Blynyddol ar Safonau’r Iaith Gymraeg 2020/21 sydd yn ofyn statudol yn ymwneud â chydymffurfiaeth y Cyngor â’r Safonau Iaith Gymraeg a gyflwynwyd o dan Fesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011.
Yn absenoldeb yr Aelod Portffolio sydd â chyfrifoldeb am yr Iaith Gymraeg, adroddodd Arweinydd y Cyngor y cynhaliwyd ymarfer ‘siopwr cudd’ gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â safonau iaith Gymraeg yr Awdurdod. Roedd y canlyniad yn un cadarnhaol ac nid oedd unrhyw faterion yn codi yr oedd angen rhoi sylw iddynt. Roedd yn dymuno diolch i’r staff a Fforwm Iaith Gymraeg y Cyngor a Chadeirydd Annibynnol y Fforwm am eu hymrwymiad i ddatblygu’r iaith Gymraeg yn yr Awdurdod. Cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at y rhaglen ARFer sydd wedi’i thargedu’n benodol i gynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y gweithle, mewn busnesau ac yn y gymuned. Ychwanegodd bod y pandemig wedi bod yn heriol ac y bu’n rhaid i’r Cyngor newid dulliau gweithio ac addasu’r cyfleoedd a gynigir i staff ddysgu’r iaith Gymraeg.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod 154 o safonau Iaith Gymraeg. Roedd y Cyngor eisoes yn cydymffurfio â nifer sylweddol o’r Safonau a osodwyd arno drwy weithredu ei Gynllun Iaith, ac roedd y cynllun hwn yn mynd tu hwnt i’r Safonau Iaith mewn sawl maes. Mae adran 4 y Safonau Iaith Gymraeg yn cyfeirio at hunanreoleiddio a’r camau gweithredol sydd ar waith gan y Cyngor sy’n sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael lle haeddiannol yn yr Awdurdod. Nododd, er bod yr adroddiad yn un cadarnhaol, y bydd yr Awdurdod yn wynebu heriau yn y dyfodol gan fod mwy o bwyslais ar ddefnyddio technoleg a bydd angen hyfforddi a datblygu staff ymhellach, yn arbennig gan mai ychydig o gyswllt wyneb yn wyneb a geir oherwydd y pandemig. Dywedodd hefyd y bu’r Swyddog Iaith yn cefnogi tri gwasanaeth o fewn y Cyngor i hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg ac y rhoddir pwyslais pellach ar gefnogi gwasanaethau rheng flaen eraill. Bydd gofynion ychwanegol ar y Cyngor mewn perthynas â ffrydio cyfarfodydd yn fyw gan roi pwysau ar y gwasanaeth cyfieithu i ddarparu gwasanaeth mewn cyfarfodydd rhithwir.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad, gan wneud y prif bwyntiau a ganlyn:-
· Gofynnwyd a oes unrhyw ddata ychwanegol a fyddai’n ychwanegu gwerth at yr Adroddiad Blynyddol.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod yr Awdurdod wedi gosod targed mewn perthynas â nifer y siaradwyr Cymraeg ar yr Ynys ac y bydd yn ddiddorol gweld canlyniad cyfrifiad 2021 pan fydd ar gael mewn ychydig o fisoedd. Bydd angen edrych ar ganlyniad y cyfrifiad hefyd o safbwynt gwahanol gymunedau a faint o bobl sy’n siarad Cymraeg ym mhob ardal. Ychwanegodd bod yr Awdurdod wedi mabwysiadu fformiwla lefel sgiliau mewn perthynas â defnyddio’r iaith Gymraeg wrth hysbysebu swyddi gwag; mae angen sgiliau llafar yn hytrach na sgiliau ysgrifenedig ar gyfer rhai swyddi.
· Dywedodd y Pwyllgor ei bod yn bwysig hyrwyddo’r iaith ac amlygu’r llwybrau gyrfa posib yn y dyfodol yn ysgolion yr Ynys a’r coleg; bydd hyrwyddo cyfleoedd gyrfa yn y Cyngor ac ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cyflwyno Rhaglen Waith y Pwyllgor. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.
PENDERFYNWYD:-
· Cytuno ar y fersiwn gyfredol o’r flaen raglen waith ar gyfer 2021/22; · Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r flaen raglen waith.
|