Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol wedi'i ffrydio'n fyw (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ac unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 9 Tachwedd, 2021. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd, 2021 yn gywir.
|
|
Trefniadau Diogelu Corfforaethol PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â throsolwg o waith y Bwrdd Diogelu Corfforaethol.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor mai cyfrifoldeb holl wasanaethau'r Cyngor yw Diogelu Corfforaethol. Er mwyn cefnogi'r gwaith o weithredu'r Cynllun Gweithredu Diogelu, sefydlwyd Bwrdd Diogelu Corfforaethol Gweithredol gyda phencampwyr diogelu yn dod o’r holl wasanaethau'r Cyngor. Dywedodd hefyd mai adroddiad yw hwn i roi sicrwydd i'r Aelodau Etholedig o effeithiolrwydd trefniadau diogelu'r Cyngor.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr Awdurdod wedi sefydlu Byrddau Diogelu Corfforaethol Strategol a Gweithredol sydd ag agenda cadarn ar waith sy'n cynnwys data pwysig sy'n cael ei rannu â'r Byrddau. Roedd yn derbyn bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth helaeth a bod angen crynhoi'r wybodaeth yn yr adroddiad nesaf i'r Pwyllgor hwn. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ymhellach fod trefniadau partneriaeth a llywodraethu eraill ar waith megis Byrddau Diogelu Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer Plant ac Oedolion, ar gyfer ymdrin â materion diogelu arbenigol. Mae gan y Cyngor ddyletswydd i gyfrannu at weithredu’r Byrddau hyn ar lefel ranbarthol. Mae Bwrdd Herio (CONTEST) Rhanbarthol a'r Dirprwy Brif Weithredwr, Mr Dylan Williams yw cynrychiolydd yr Awdurdod hwn. Partneriaeth Diogelu Cymunedol Gwynedd a Môn sy'n gyfrifol am oruchwylio rhaglenni Atal (PREVENT) o fewn gwasanaethau'r bartneriaeth. Y Bwrdd Rhanbarthol ar gyfer Bregusrwydd a Cham-fanteisio sy’n goruchwylio materion Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ac mae'r Rheolwr Gwasanaeth Diogelu ac Ansawdd yn cynrychioli'r Awdurdod hwn ar y bwrdd hwn.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y prif bwyntiau canlynol:-
· Codwyd cwestiynau ynghylch a yw'r sefydliadau partner yn cytuno ynghylch y blaenoriaethau gyda'r trefniadau diogelu ac a ydynt yn rhannu gwybodaeth. Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol at Gam-drin Domestig a nododd fod Heddlu Gogledd Cymru yn rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau partner ar draws Gogledd Cymru; mae hyn yn caniatáu i wersi gael eu dysgu os bydd meysydd penodol yn gweld cynnydd yn ffigurau Cam-drin Domestig ac i fynd i'r afael â'r mater a rhoi gwasanaethau yn eu lle i ddelio â'r mater. Gwerthusir ar sail amlasiantaethol a chynhelir trafodaethau hefyd o fewn y Bwrdd Bregusrwydd a Cham-fanteisio o ran Cam-drin Domestig. Nododd fod gan yr Awdurdod hwn wasanaeth 'un drws ffrynt' mewn perthynas ag atgyfeiriadau cam-drin domestig sy'n ymdrin ag achosion cam-drin domestig lefel isel hyd at lefel uchel; ymdrinnir ag achosion mewn ymyriad cynnar i atal problemau posibl rhag cyrraedd lefel uchel o gam-drin a hefyd o ran rhoi plant mewn gofal os bydd y sefyllfa'n gwaethygu. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd fod gan yr Awdurdod hwn weithwyr sy'n delio'n benodol â theuluoedd lle mae cam-drin domestig yn digwydd a bod perthynas waith dda hefyd gyda Gorwel sy'n rhoi cymorth i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig neu gymorth i bobl sydd mewn perygl o golli eu cartrefi ac atal digartrefedd; · Codwyd cwestiynau ynghylch a oes angen blaenoriaethu unrhyw wasanaeth o fewn y Cynllun Gweithredu Diogelu Corfforaethol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod gwersi wedi'u dysgu o ran y pandemig a bod angen canolbwyntio a blaenoriaethu'r gwasanaethau sy'n cael ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd a Ynys Môn. Cofnodion: Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn.
Dywedodd Deilydd y Portffolio – Tai a Chefnogi Cymunedau ei fod yn falch bod presenoldeb yn y cyfarfod wedi gwella ers cynnal cyfarfodydd rhithwir a bod trafodaethau manwl wedi'u cynnal o fewn y Pwyllgorau.
Cyfeiriodd y Cadeirydd fod dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, a diwygiadau dilynol yn sgil Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2002 a 2006, i weithio mewn partneriaeth â'r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a'r Gwasanaeth Tân ac Achub, i fynd i'r afael â'r agenda diogelwch cymunedol lleol.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol bellach wedi bod yn eu lle ers 22 mlynedd, yn fwyaf diweddar, fel partneriaeth sirol ar y cyd rhwng Gwynedd ac Ynys Môn. Nododd mai dyma’r meysydd cyfrifoldeb o hyd:-
Mae gweithio rhwng partneriaid yn hanfodol i ddiogelwch cymunedol ac mae wedi galluogi'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i rannu data ac arfer da. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr ymhellach fod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn parhau i ganolbwyntio ar Gam-drin Domestig. Cytunodd partneriaid, yn ogystal â'r cyfarfodydd rhithwir misol MARACs (Cynhadledd Asesu Risg Amlasiantaethol) y byddai cyfarfodydd rhithwir wythnosol hefyd yn cael eu cynnal, er mwyn gallu delio â'r ffactorau risg uwch yn gyflym. Mae'r Bartneriaeth hefyd wedi cyfrannu at y Cynllun Atal sy'n gynllun i atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth. Lansiwyd Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol Gogledd Cymru ym mis Mawrth 2020 ac mae'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi cefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth yn Ynys Môn drwy fynychu'r cyfarfodydd rhanbarthol a diweddaru blaenoriaethau a chamau gweithredu perthnasol wrth iddynt godi. Mae Seiberdroseddu hefyd wedi cynyddu yn sgil gweithgareddau rhithwir a darparwyd hyfforddiant gan Heddlu Gogledd Cymru gan fod twyll wedi'i nodi gan y Bartneriaeth.
Dywedodd Ms Daron Owens, y Swyddog Gweithredu a Phrosiectau fod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi wynebu llawer o newidiadau dros y blynyddoedd a rhai o'r prif newidiadau yw colli grantiau lleol a cholli cydlynwyr lleol; fodd bynnag, mae'r Bartneriaeth yn canolbwyntio ar gynnal aelodaeth agos a phwrpasol o'r grwpiau rhanbarthol, ac y mae'n hyderus fod anghenion lleol yn rhan annatod o'r holl gynlluniau a gweithgarwch rhanbarthol. Dywedodd hefyd fod y Bartneriaeth yn gweithio ar sail Cynllun Blynyddol a bod saith blaenoriaeth wedi'u nodi gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Nodir y rhain yn yr adroddiad. Mae'r blaenoriaethau hyn yn seiliedig ar asesiad strategol rhanbarthol, Cynllun Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a'r Cynllun Cymunedau Diogelach rhanbarthol. Mae'r Heddlu'n edrych ar ffigurau troseddu yn gyson, ac yn adolygu'r holl newidiadau ar sail ranbarthol a lleol. Yna bydd ardaloedd problemus yn cael eu hadolygu gyda chynlluniau Plismona yn cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r materion. Mae'r Bartneriaeth yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cyflwyno y Blaen Raglen Waith. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.
Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini fod y Cadeirydd wedi cytuno y bydd y cyfarfod y bwriedir ei gynnull ar 8 Chwefror, 2022 yn cael ei ganslo oherwydd nad oes eitemau i'w trafod.
PENDERFYNWYD:-
· Cytuno ar y fersiwn gyfredol o'r flaen raglen waith ar gyfer 2021/2022; · Nodi'r cynnydd hyd yma o ran gweithredu'r flaen raglen waith |