Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganid o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gafwyd ar 7 Chwefror, 2023. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Chwefror, 2023 yn gywir.
|
|
Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb: 2021/22 PDF 690 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2021/22 i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, o dan Reoliadau Dyletswyddau Statudol Deddf Cydraddoldeb 2010 (Cymru) 2011, fod yn rhaid i'r Cyngor gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb. Prif bwrpas yr adroddiad yw dangos sut mae'r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau cydraddoldeb. Dywedodd fod yr adroddiad yn rhoi enghreifftiau o'r ffordd yr oedd yr Awdurdod yn hyrwyddo cydraddoldeb o fewn y cymunedau a'r gweithlu, gan esbonio sut mae gwybodaeth berthnasol yn cael ei chasglu. Mae’n amlinellu'r trefniadau ar gyfer cynnal asesiadau effaith, yn rhoi amlinelliad o gynnydd o ran cyflawni amcanion cydraddoldeb yn ogystal â nodi'r blaenoriaethau ar gyfer y deuddeg mis nesaf. Cyfeirir hefyd o fewn yr adroddiad at gyrhaeddiad disgyblion mewn ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion oedd yn cael cinio ysgol am ddim.
Wrth ystyried yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb ar gyfer 2021/2022 bu'r Pwyllgor yn trafod y canlynol:-
· Beth yw'r prif heriau a wynebir o ran prif ffrydio cydraddoldeb o fewn y Cyngor a hefyd beth yw'r anawsterau gyda rhagfarn ymwybodol?
Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd fod bylchau data, a bod yr Awdurdod yn awyddus i staff deimlo'n gyfforddus ac yn fodlon rhannu eu gwybodaeth bersonol. Dywedodd fod rhagfarn yn broblem a bod cymdeithas yn ei chael hi'n anodd ymdopi â gwahanol sefyllfaoedd. Dywedodd hefyd y bydd yn yr Adroddiad Blynyddol nesaf yn dangos sut mae'r gynrychiolaeth wleidyddol wedi newid o fewn y Cyngor. Mae'r gwaith sydd wedi ei wneud i annog pobl o gefndiroedd gwahanol i gynnig eu henwau i fod yn Aelodau Etholedig ar y Cyngor wedi bod yn gadarnhaol. Yn dilyn etholiadau llywodraeth leol fis Mai diwethaf mae yna Aelodau Etholedig iau a mwy o ferched. Cyfeiriodd yr Arweinydd ymhellach at y bwlch cyflog rhwng dynion a merched ac nad yw'r Awdurdod hwn yn talu taliadau bonws. Mae'r cap tâl rhwng y rhywiau'n is o lawer na'r cyfartaledd ar draws y DU. Cyfeiriodd y Rheolwr Polisi a'r Gymraeg at ragfarn ddiarwybod ac mae'n cael ei gydnabod fel her. Cynigir hyfforddiant ar ragfarn ddiarwybod i swyddogion y Cyngor yn rheolaidd.
· Bydd angen i Gynllun Cydraddoldeb Strategol newydd gael ei gymeradwyo erbyn 1 Ebrill 2024. Sut mae Swyddogion yn bwriadu mynd ati i gasglu gwybodaeth berthnasol er mwyn llywio ein hamcanion ar gyfer 2024-2028?
Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei gwneud hi'n glir bod yn rhaid i'r Awdurdod ymgysylltu ac ymgynghori'n eang i gasglu gwybodaeth am amcanion cydraddoldeb. Bydd gwaith yn cael ei wneud i gasglu gwybodaeth gan gynrychiolwyr grwpiau gwarchodedig o dan y ddeddf cydraddoldeb. Mae'r Awdurdod yn ffodus fod sefydliadau sy’n bartneriaid iddo, megis Medrwn Môn, y gall y Cyngor eu defnyddio i gael mynediad at grwpiau gwarchodedig. Dywedodd ymhellach y defnyddir arbenigedd a chanllawiau’r Comisiwn Cydraddoldeb hefyd i lywio gweithgareddau ymgysylltu'r Awdurdod.
· Beth fydd rôl y Pwyllgor hwn yn y broses o ddatblygu amcanion cydraddoldeb newydd?
Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi a'r Gymraeg fod gan y Pwyllgor hwn rôl allweddol i gyfrannu at ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Rhaglen Cronfa Ffyniant Bro Ynys Môn PDF 3 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ar Raglen Cronfa Ffyniant Bro Ynys Mȏn i'w hystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod cais a gyflwynwyd gan y Cyngor Sir wedi ei gymeradwyo ym mis Ionawr, 2023 am swm o £17m o fewn Rownd 2 y Gronfa Ffyniant Bro (LUF). O’r 529 o geisiadau a gyflwynwyd yn y DU yn ystod yr ail rownd, dywedodd mai dim ond 111 (20%) oedd yn llwyddiannus. Mae hyn yn dangos bod Ynys Môn wedi cyflwyno cais o safon uchel iawn a’i fod wedi bodloni meini prawf a gofynion manwl Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a mwy. Yn ystod y cyfnod asesu daeth i'r amlwg mai dim ond cais yn canolbwyntio ar fynd i'r afael ag anghenion economaidd-gymdeithasol Caergybi fyddai'n debygol o fodloni gofynion penodol Llywodraeth y DU a chael unrhyw siawns o gael ei gymeradwyo. Cyflwynwyd cyfanswm o 5 prosiect yng Nghaergybi a oedd yn cynnwys Mȏn Cymunedau yn Gyntaf; y Cyngor Tref; yr Eglwys yng Nghymru; Canolfan Ucheldre; a Chyngor Sir Ynys Môn - Adfywio Treftadaeth. Dywedodd fod yr amserlen ar gyfer cyflwyno yn heriol gyda'r £17m i'w wario erbyn Mawrth 2025. Roedd yr Arweinydd yn awyddus i ddiolch i staff y Gwasanaeth Datblygu Economaidd am eu gwaith caled wrth lwyddo i sicrhau'r arian grant i Gaergybi.
Rhoddodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd wybodaeth am y broses o baratoi cais LUF i Lywodraeth y DU. Dywedodd fod y cais yn cynnwys pecyn o brosiectau i gynyddu cyflogaeth, gwella canol y dref a phrofiad ymwelwyr, cynyddu nifer yr ymwelwyr i’r dref a'r gwariant ganddynt, darparu gofod llawr modern i ddiwallu anghenion busnes, a chynyddu mynediad at gelfyddyd, diwylliant a hamdden. Dywedodd ymhellach fod gan Gaergybi nifer o adeiladau masnachol sy'n wag a bod hynny ar gynnydd. Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ymhellach mai dim ond Caergybi oedd â digon o brosiectau parod i'w cyflwyno ar gyfer cyllid LUF o fewn yr amserlen benodol. Dywedodd mai cyfrifoldeb y Cyngor Sir yw datblygu, cyflwyno, rheoli a monitro'r rhaglen ddatblygiadau ac y bydd angen i'r Cyngor a'r Ynys ddangos bodd modd cyflawni'r prosiectau’n amserol, yn gost-effeithiol ac mewn dull sy'n cydymffurfio. Bydd Bwrdd Partneriaeth yn cael ei sefydlu i reoli'r gwaith o ddarparu'r rhaglen a fydd yn cynnwys Uwch Swyddogion y Cyngor ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd.
Wrth ystyried yr adroddiad bu'r Pwyllgor yn trafod y canlynol:-
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod costau deunyddiau adeiladu yn parhau i gynyddu. Codwyd cwestiynau ynghylch beth fyddai'n digwydd pe na bai'r cyllid o £17m yn ddigonol i gwblhau'r 5 cais llwyddiannus yng Nghaergybi? Codwyd cwestiynau hefyd ynglŷn â lle byddai'r arian yn cael ei dargedu pe bai tanwariant o fewn y prosiectau?
Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod y risg o gynnydd yng nghostau deunyddiau adeiladu wedi'i chynnwys wrth ddarparu'r prosiectau yn y rhaglen ynghyd â'r cynnydd mewn chwyddiant. Mae mesurau wrth gefn wedi'u cynnwys o fewn y rhaglen. Bydd unrhyw danwariant o fewn un ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Adroddiad Cynnydd Ch3: 2022/23 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru PDF 7 MB Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru Chwarter 3 : 2022/2023 Adroddiad Cynnydd i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod adroddiadau cynnydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cael eu cyflwyno’n rheolaidd i'r Pwyllgor hwn. Dywedodd, fel yr adroddwyd yn y cyfarfod diwethaf, fod Fferm Sero Net Llysfasi bellach wedi'i thynnu'n ôl o'r Cynllun Twf, a bod y Bwrdd Uchelgais Economaidd wedi gwneud rhai penderfyniadau allweddol ynghylch ail-glustnodi cyllid o fewn y cynllun. Dywedodd nad yw rhai prosiectau wedi symud ymlaen fel y disgwyl a bod rhai cynlluniau busnes wedi eu cyflwyno i'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd wedi cyfarfod gweinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i dynnu sylw at yr heriau sy'n gysylltiedig â chyflawni'r prosiectau o ran rheoleiddio a chynllunio ynghyd â'r heriau sy'n wynebu'r rhanbarth o ran y sector busnes a denu buddsoddiadau preifat.
Adroddodd y Prif Weithredwr ar y prosiectau lle gwnaed cynnydd ers yr adroddiad chwarterol diwethaf, sef:-
· Prifysgol Bangor - Canolfan Ragoriaeth Ynni Carbon Isel (Egni) a fydd yn cael ei lleoli yn ail adeilad MSparc yn y Gaerwen. Y gobaith yw y bydd y prosiect yn symud ymlaen drwy'r prosesau ffurfiol yn yr wythnosau nesaf a dylid sicrhau cyllid, gyda chaniatâd cynllunio amlinellol yn cael ei gytuno; · Ynni Lleol Arloesol - cronfa ar gyfer prosiectau ynni gwyrdd a gymeradwywyd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru; · Y Morglawdd, Caergybi - Mae Llywodraeth Cymru wedi cael £20m o arian ychwanegol yn dilyn cyllideb ddiweddar San Steffan i atgyweirio'r Morglawdd yng Nghaergybi. Deellir y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid ychwanegol, tra bydd Stena Line perchnogion y Morglawdd hefyd yn cyfrannu buddsoddiad sylweddol. Bydd hyn yn caniatáu i Gais Twf Caergybi symud ymlaen.
Dywedodd y Prif Weithredwr ymhellach y bydd buddsoddiadau sylweddol yng Nghaergybi dros y blynyddoedd nesaf yn sgil prosiect Y Morglawdd, Cais Twf, prosiect Porthladd Caergybi, prosiect LUF a'r Cais am Borthladd Rhydd. Gallai'r buddsoddiad ddod i gyfanswm o £150m.
Wrth ystyried yr adroddiad bu'r Pwyllgor yn trafod y canlynol:-
· Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r gallu o fewn yr Adran Datblygu Economaidd i ddelio â'r holl brosiectau ar yr Ynys?
Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr ei bod yn her barhaus gan fod angen adnoddau ychwanegol i gyflawni'r cynlluniau ar yr Ynys. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi cytuno i ddarparu adnoddau ychwanegol o fewn y Gwasanaeth Datblygu Economaidd. Mae gan y Gwasanaeth gytundeb fframwaith hefyd gyda chwmnïau arbenigol allanol h.y. Penseiri, Economegwyr, Rheolwr Prosiect.
· Codwyd cwestiynau ynghylch a fydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn trosglwyddo o dan y Cydbwyllgor Corfforaethol (CJC) a hefyd pwy fydd yn craffu ar waith y Cydbwyllgorau Corfforaethol?
Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor mai'r bwriad yw y bydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn trosglwyddo o dan y Cydbwyllgorau Corfforaethol a bydd y broses graffu bresennol yn parhau o fewn yr awdurdodau lleol. Dywedodd y bydd y broses graffu yn fwy eang yn sgil Strategaeth Trafnidiaeth Gogledd Cymru a'r Cynllun Datblygu Strategol. Ar hyn o ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn amlinellu Blaen Raglen Waith ddangosol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2022/23 i'w hystyried.
PENDERFYNWYD:-
· Cytuno ar fersiwn gyfredol y Blaen Raglen Waith ar gyfer 2022/2023; · Nodi'r cynnydd hyd yma o ran gweithredu'r Blaen Raglen Waith.
|