Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Cyfarfod Hybird - Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mercher, 22ain Tachwedd, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Euryn Morris ddatgan diddordeb personol yn Eitem 5 – Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu 2023-2028.

 

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 204 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 17 Hydref, 2023.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Hydref, 2023 yn gywir, yn amodol ar gynnwys y pwyntiau gweithredu a nodwyd yn eitem 4 – Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol – Adroddiad Blynyddol : 2022/2023, bod y Prif Weithredwr yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi bod angen rhoi cynllun penodol ar waith ar gyfer yr Ynys oherwydd ystyriaethau’n ymwneud â chadernid y ddwy bont pe bai digwyddiad mawr yn digwydd.

 

4.

Cynllun Strategol Adnoddau ac Ail-gylchu - 2023-2028 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu 2023-2028 yn cefnogi prif uchelgeisiau’r Cyngor yng Nghynllun y Cyngor.  Mae Cynllun y Cyngor yn nodi bod angen i'r Cyngor gyrraedd cyfradd ailgylchu o 70% erbyn 2028 a chyrraedd y targed o allyriadau carbon sero-net erbyn 2030.  Nododd fod dyletswydd ar bob preswylydd a thwristiaid i leihau gwastraff a chynyddu cyfraddau ailgylchu.  Mae gan y Cyngor berthynas waith dda gyda sefydliadau partner o fewn CLlLC, Llywodraeth Cymru ac WRAP Cymru i helpu i gyrraedd y cyfraddau targed hyn o ailgylchu o 70%. Ar hyn o bryd y cyfraddau ailgylchu presennol ar Ynys Môn yw 64% (gall amrywio yn ystod gwahanol gyfnodau o fewn y flwyddyn).  Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at yr ymgynghoriad cyhoeddus diwethaf a gynhaliwyd am chwe wythnos rhwng 11 Medi a 20 Hydref, 2023.  Cynlluniwyd yr ymgynghoriad i gasglu adborth ar y ffrydiau gwaith allweddol i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mwy o wastraff cartref. Cafwyd ymateb gan bron i 200 i'r broses ymgynghori (tynnwyd sylw at yr ymateb a dderbyniwyd yn y ddogfen ymgynghori sy'n gysylltiedig â'r adroddiad).   Dywedodd ymhellach fod cyfeiriad wedi'i wneud nad yw'r blwch ailgylchu i ddal cardbord yn ddigonol a bod angen ystyried ffyrdd eraill o gasglu cardbord h.y. rhoi sachau ar gyfer cardbord ychwanegol.   Nododd ymhellach fod angen ail-addysgu pobl am bwysigrwydd ailgylchu ac yn enwedig y genhedlaeth iau .

 

Dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff mai'r prif flaenoriaethau strategol yw lleihau gwastraff, cynyddu cyfraddau ailgylchu, lleihau tipio anghyfreithlon, gwella lefel glanhau strydoedd ynghyd â gwella cyfraddau ailgylchu a gwastraff o fewn adeiladau'r Cyngor.  Nododd hefyd, er mwyn darparu gwasanaethau sy'n addas ar gyfer y dyfodol, y bydd angen fflyd effeithlon o gerbydau allyriadau isel iawn - bydd angen eu trosglwyddo o gerbydau disel i gerbydau trydan i gasglu gwastraff ac ailgylchu ynghyd â'r peiriannau o fewn y safle ailgylchu yng Ngwalchmai a Phenhesgyn yn y dyfodol.  Dywedodd ymhellach fod y broses ymgynghori yn cefnogi'r angen i gynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau'r gwastraff bin du.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion canlynol::-

 

·         Cyfeiriwyd at amcanion y Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu gan ddweud ei fod yn uchelgeisiol.  Codwyd cwestiynau ynghylch beth arall y gall y Cyngor ei wneud i gyflawni'r gyfradd ailgylchu statudol o 70% erbyn 2020.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff fod y gyfradd ailgylchu o 70% yng Nghymru yn uchel a bod trigolion yr Ynys eisoes wedi gallu cyflawni lefel ailgylchu o 64%.  Nododd y bydd angen edrych ar ffyrdd eraill o ailgylchu gan godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ailgylchu ac ystyried ffyrdd eraill o sicrhau bod popeth y gellir ei ailgylchu yn cael ei ailgylchu.  Mae dadansoddiad wedi'i wneud o gynnwys gwastraff y bin du ac mae deunyddiau y gellir eu hailgylchu o hyd o fewn y biniau du.

·         Codwyd cwestiynau ynghylch sut y bydd y Cynllun Strategol Adnoddau ac Ailgylchu yn helpu'r Cyngor i gyflawni ei ymrwymiad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn: 2022/23 pdf eicon PDF 559 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, yn absenoldeb yr Aelod Portffolio fod yr Adroddiad Blynyddol yn rhoi cyfle i weld yr ystadegau a'r heriau gan fod gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i ddiogelwch cymunedol. 

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion canlynol::-

 

·         Codwyd cwestiynau i ba raddau y mae'r Pwyllgor yn cytuno â blaenoriaethau'r Bartneriaeth, sy'n seiliedig ar broses asesu anghenion lleol, ac a oes materion eraill y mae angen eu blaenoriaethu.  Codwyd cwestiynau pellach wrth i'r adroddiad gyfeirio at y newidiadau mewn adrodd ac o ran sut mae'n bosibl cael darlun cywir o unrhyw welliant neu ddirywiad mewn cymunedau unigol. Mewn ymateb, dywedodd Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn fod blaenoriaethau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn o fewn y Cynllun Gweithredu yn seiliedig ar strategaeth ranbarthol gan Fwrdd Gogledd Cymru Mwy Diogel. Ffocws y Bwrdd yw sicrhau bod Gwynedd a Môn yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef .  Mae Strategaeth y Bartneriaeth hefyd yn cael ei dylanwadu gan Asesiad Strategol yr Heddlu ac mae’n adrodd ar y materion troseddol yn yr ardal. Mae'r Strategaeth yn gosod fframwaith o flaenoriaethau ar gyfer yr holl sefydliadau sy’n rhan o’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.  Nododd fod y newidiadau i'r broses gofnodi wedi eu hamlygu yn yr adroddiad a bydd gan yr Heddlu gyfnod estynedig i flaenoriaethu dioddefwyr troseddau heb orfod dyblygu cofnodion.  Bydd hyn yn sicrhau dull cyson o gofnodi ar draws y DU sy'n fwy cywir na'r system flaenorol.  Nododd ymhellach fod Gogledd Cymru mewn lle cadarnhaol o ran lleihau troseddau.

·         Codwyd cwestiynau ynghylch pa ffyrdd y mae'r bartneriaeth statudol yn ychwanegu gwerth ac yn gweithio mewn modd effeithiol ac effeithlon yn unol â disgwyliadau Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998.  Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol o dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 fod dyletswydd ar y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i weithio'n agos gyda'i sefydliadau partner i sicrhau mwy o gydweithio a rhannu gwybodaeth.  Nododd fod gwahanol feysydd gwaith yn cael eu gwneud gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ac mae'r awdurdodau lleol mewn gwell sefyllfa i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a allai godi.  Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr, fel Cadeirydd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, fod gwaith yn cael ei wneud ar broses strategol i godi ymwybyddiaeth o wahanol faterion pryder na fyddent fel arall wedi bod yn ymwybodol ohonynt, a bod modd gweithredu’n bwrpasol a gwella’r modd yr ymdrinnir â materion trosedd a allai godi. Cyfeiriwyd ymhellach gan y Pwyllgor ei fod yn nodi yn yr adroddiad nad yw'r Swyddfa Gartref yn cydnabod ymddygiad gwrthgymdeithasol fel trosedd, ond mae Awdurdod yr Heddlu yn cydnabod bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn drosedd.  Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol ei bod yn deall nad yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei gofnodi fesul achos ond ei fod yn cael ei gofnodi ar sail faint o alwadau sy'n cael eu derbyn gan Ystafell Reoli'r Heddlu.  Dywedodd y Dirprwy Brif  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Rhaglen Ffyniant Bro Ynys Môn - Adroddiad Cynnydd pdf eicon PDF 224 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod penderfyniad wedi'i wneud i beidio â chyflwyno cais yn y Rhaglen Ffyniant Bro gyntaf oherwydd bod yr amserlen i ddatblygu cais manwl digonol yn afrealistig.  Yn hytrach, penderfynwyd canolbwyntio ar wahodd datganiadau o ddiddordeb gan bartneriaid allanol ar gynlluniau y gellid eu cyflawni mewn cydweithrediad â'r Cyngor Sir i baratoi ar gyfer ail gylch y Gronfa Ffyniant Bro.  Yn ystod yr asesiad, daeth i'r amlwg mai dim ond cais yn canolbwyntio ar fynd i'r afael ag anghenion economaidd-gymdeithasol Caergybi fyddai'n debygol o fodloni gofynion penodol Llywodraeth y DU a chael unrhyw siawns o fod yn llwyddiannus.  Cyflwynwyd cyfanswm o 5 datganiad o ddiddordeb o Gaergybi a oedd yn cynnwys Cymunedau Môn yn Gyntaf a'r Cyngor Tref; Yr Eglwys yng Nghymru; Canolfan Ucheldre; Amgueddfa Forwrol a Chyngor Sir Ynys Môn – Adfywio Treftadaeth. Nododd fod adroddiad cynnydd wedi'i baratoi sy'n cynnwys y trefniadau llywodraethu ar gyfer y rhaglen gyda threfniadau rheoli llym ar waith i sicrhau rheolaeth ariannol, cydymffurfiaeth a rheoli risg.   Dymunai'r Arweinydd ddiolch i'r staff a fu'n rhan o'r prosiect am y gwaith o gyflawni'r cais llwyddiannus hwn.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion canlynol:-

 

·         Codwyd cwestiynau ynghylch sut y caiff prosiectau’r Gronfa Ffyniant Bro eu mesur o ran allbynnau uniongyrchol ac anuniongyrchol.  Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Rhaglen Ffyniant Bro fod trefniadau llywodraethu cadarn yn cael eu cyflwyno ar ddechrau'r broses gais i Lywodraeth y DU a oedd hefyd yn cynnwys sefydlu Bwrdd Rhaglen mewn partneriaeth â'r sefydliadau partner.  Nododd fod y Bwrdd yn cyfarfod yn rheolaidd bob chwe wythnos i sicrhau bod adroddiadau monitro a chynnydd yn cael eu trafod yn enwedig mewn meysydd fel caffael er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn â rheoliadau.  O ran manteision uniongyrchol i ardal Caergybi, ystyrir diwylliant y dref h.y. Eglwys Sant Cybi; ailddatblygu adeiladau gwag i’w defnyddio unwaith eto; uwchraddio'r siopau yng nghanol y dref; cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol yn yr ardal.  Nododd mai'r manteision anuniongyrchol yw'r defnydd ychwanegol o fuddion cymunedol yng nghanol y dref; llongau mordeithio yn ymweld â'r dref; cynyddu awyrgylch cyffredinol y dref i ddenu ymwelwyr.

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod 5 prif risg sy'n gysylltiedig â'r rhaglen yn cael eu trafod yn yr adroddiad.  Codwyd cwestiynau ynghylch pa gamau sydd yn eu lle i reoli a lliniaru'r risgiau hyn?  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr y Rhaglen Ffyniant Bro fod camau llywodraethu cynhwysfawr wedi'u rhoi ar waith o fewn y broses graffu.  Mae cofrestr risg gorfforaethol wedi'i sefydlu sy'n cael ei monitro'n rheolaidd gan Fwrdd y Rhaglen.  Dywedodd y Prif Weithredwr fel Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen, mai'r prif risg yw caffael, a bod y rhaglen yn cael ei monitro i sicrhau bod modd ei chyflawni o ran costau ac yn unol ag amserlen benodol cyllid y Gronfa Ffyniant Bro.  Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor ei bod yn anodd craffu ar raglen y Gronfa Ffyniant  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 423 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn nodi’r Blaen Raglen Waith ddangosol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2023/2024 i'w ystyried.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         Cytuno ar y fersiwn bresennol o’r flaen raglen waith ar gyfer 2023/2024;

·         Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r flaen raglen waith.