Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 17eg Mawrth, 2026 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.  

Penderfyniad:

Gwnaeth y Cynghorydd Sonia Williams ddatgan diddordeb personol yn Eitem 5 - Cyllid Llywodraeth y DU - Caergybi: Trawsnewid yn seiliedig ar ddiwylliant a threftadaeth, ond yn dilyn cyngor cyfreithiol roedd yn gallu cymryd rhan a phleidleisio ar yr eitem hon.

 

Gwnaeth Mrs Christina Williams, Aelod Cyfetholedig, Rhiant Lywodraethwr - Sector Ysgolion Uwchradd ac ADY, ddatgan diddordeb personol yn Eitem 8 - Mewnoli’r Gwasanaeth ADY a Chynhwysiant ar Ynys Môn, ond yn dilyn cyngor cyfreithiol, roedd yn gallu cymryd rhan a phleidleisio ar yr eitem hon.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 196 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 20 Ionawr, 2026.

Penderfyniad:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2026 yn gywir.

 

4.

Porthladd Rhydd Ynys Môn - diweddariad ar gynnydd pdf eicon PDF 234 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD :-

 

·         Cydnabod rôl y Cyngor o ran datblygu Porthladd Rhydd Ynys Môn, gan gynnwys cyflwyno’r Achos Busnes;

·         Cydnabod cadernid y trefniadau llywodraethu a throsglwyddo o’r Bwrdd Cysgodol i’r Bwrdd Llawn;

·         Nodi’r camau nesaf o ran sefydlu a chadarnhau’r Porthladd Rhydd.

 

5.

Diweddariad ar Gronfeydd Datblygu Economaidd Llywodraeth Prydain pdf eicon PDF 378 KB

 

  Diweddariad ar gyflawni y Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU – 2022/2026

 

    Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

 Cyllid Llywodraeth y DU – Caergybi : Trawsnewid yn seiliedig ar Ddiwylliant    a Threftadaeth

 

    Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·       Darparu diweddariad ar gyflawni Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar Ynys Môn 2022/2026

 

PENDERFYNWYD:-

 

·     Nodi cyflawniad llwyddiannus Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Ynys Môn a’r canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd rhwng 2022 a 2026;

·     Nodi bod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Ynys Môn wedi’i gweithredu’n unol â chanllawiau Llywodraeth y DU;

·     Cydnabod rôl barhaus y Cyngor o ran rheoli’r cyllid ar yr Ynys, yn ogystal â chefnogi partneriaid cyflawni lleol;

·     Bod llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth y DU ar ran y Cyngor yn amlinellu ei bryderon ac i ofyn iddynt ailystyried y newidiadau diweddar i Gyllid Ffyniant Lleol mewn perthynas â fformiwla cyllid grant cyfalaf a refeniw yng Nghymru fydd yn cael effaith ar swyddi a gwasanaethu a ariennir drwy refeniw ar Ynys Môn.

·      Bod llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru ar ran y Pwyllgor yn amlygu pryderon mewn perthynas ag eglurder a’r goblygiadau o roi’r gallu i’r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol wneud penderfyniadau am Gyllid Ffyniant Lleol.

 

 

·       Cyllid Llywodraeth y DU - Caergybi: Trawsnewid yn Seiliedig ar Ddiwylliant a Threftadaeth

 

PENDERFYNWYD:-

 

·     Nodi cynnydd o ran gwireddu’r Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU ar gyfer Caergybi;

·     Nodi rôl y Cyngor o ran cefnogi Partneriaid Cyflawni’r Rhaglen a llwyddiannau hyd yma;

·     Nodi’r canlyniadau a’r allbynnau y cytunwyd arnynt gyda Llywodraeth y DU;

·     Nodi’r prosiectau a gwblhawyd hyd yma a’r dyddiadau cwblhau ar gyfer y prosiectau sy’n weddill.

 

6.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor 2025/26 pdf eicon PDF 206 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cytuno’r fersiwn gyfredol o’r Blaen Raglen Waith ar gyfer 2026/27.

 

7.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 94 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Penderfynu o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

8.

Mewnoli'r Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad ar Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith fod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn cytuno gyda’r argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad, a bod y Cyngor yn parhau gyda’r strwythur staffio i fewnoli’r Gwasanaeth ADY a Chynhwysiant ar Ynys Môn.