Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Nodwyd yr ymddiheuriadau fel uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at Eitem 7 ac roedd yn dymuno nodi ei fod yn cynrychioli’r awdurdod fel Llywodraethwr ar Grŵp Defnyddwyr GwE. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 25 Medi, 2014. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi 2014. |
|
Cyflwyno adroddiad gan yr Uwch Reolwr Partneriaethau Gwynedd a Môn. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan Uwch Reolwr Partneriaethau Gwynedd a Môn.
Dywedodd yr Uwch Reolwr Partneriaeth bod Bwrdd Gwasanaeth Gwynedd a Môn wedi gwneud nifer o benderfyniadau arwyddocaol yn ymwneud â’i weledigaeth a’i gyfeiriad strategol i’r dyfodol. Yn y cyfarfod diwethaf o’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol a gynhaliwyd ar 26 Medi 2014 roedd ystyriaeth wedi ei roi i’r canlynol:-
• Cyfres ddrafft o egwyddorion gweithredu i sylfaenu gweithrediad a gwaith y Bwrdd; • Rhai gwerthoedd partneriaeth sylfaenol; • Cylch gorchwyl drafft; • Blaenoriaethau allweddol a rennir ar gyfer eu darparu dros y ddwy flynedd nesaf; • 10 UCHAF o faterion BGLl sydd ar y radar.
Y tair blaenoriaeth allweddol a rennir ac sydd yn dod i’r amlwg i’r BGLl yw :-
• Blaenoriaeth Allweddol 1 – Pobl Hŷn • Blaenoriaeth Allweddol 2 – Teuluoedd sydd mewn anghaffael • Blaenoriaeth Allweddol 3 – Cymunedau Cynaliadwy/Adfywio Cymunedol
gyda thri o Alluogwyr yn eu sylfaenu – Technoleg, Iaith a Diwylliant ac Ymgysylltiad.
Yn amodol ar gael cymeradwyaeth BGLl ar 28 Tachwedd, y cam nesaf fyddai datblygu pob ffrwd waith ymhellach gan roi ystyriaeth arbennig i’r canlynol :-
• Canlyniadau sefydliadol a ddymunir yn ôl pob Blaenoriaeth Allweddol a Galluogwr ar gyfer pob partner BGLl dros y 2 flynedd nesaf; • Sail tystiolaeth ar gyfer pob Blaenoriaeth/Galluogwr; • Cyfraniad partneriaeth BGLl i bob ffrwd waith; • Y strwythur darparu a llywodraethiant o dan y BGLl i wneud cynnydd gyda phob Blaenoriaeth Allweddol a Galluogwr.
Adroddodd y Swyddog ymhellach mai un ffrwd waith gyfredol oedd wedi ei blaenoriaethu oedd datblygu trefniadau sgriwtini aelodau etholedig sy’n sylfaen i waith Bwrdd Gwasanaethau Lleol Gwynedd ac Ynys Môn. Y prif amcan fu ystyried sut i ddatblygu trefniadau sgriwtini cadarn, a darparu lefel briodol o her i’r Bwrdd ar y cyd ar draws y ddwy Sir er mwyn adlewyrchu mandad y BGLl. Yng ngoleuni cefnogaeth Aelodau Etholedig Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn, roedd gwaith wedi ei wneud gyda datblygu trefniadau sgriwtini BGLl ar y cyd :-
• Grŵp Prosiect Tasg a Gorffen Aml-asiantaethol wedi ei sefydlu. Roedd yr aelodaeth yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Tân ac Achub, Heddlu Gogledd Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Awdurdodau Lleol. Roedd y Grŵp ar hyn o bryd yn negodi cynrychiolaeth trydydd sector. • Roedd papur opsiynau cychwynnol wedi ei ddatblygu yn amlinellu’r modelau sgriwtini ar y cyd posib i’w hystyried gan Aelodau Etholedig. • Mewnbwn a mentora wedi’u negodi gan y Ganolfan ar gyfer Sgriwtini Cyhoeddus trwy gydol y broses o ddatblygu’r trefniadau sgriwtini ar y cyd ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd.
Adroddwyd ymhellach y byddai’r camau nesaf yn y ffrwd waith sgriwtini ar y cyd yn canolbwyntio ar:
• Cwblhau’r papur gwerthuso opsiynau yn rhoi ystyriaeth i fanteision ac anfanteision pob model sgriwtini; • Cyflwyno cynigion ar gyfer trefniadau sgriwtini ar y cyd i’w hystyried gan Bwyllgorau Sgriwtini’r ddau Awdurdod Lleol yn gynnar yn y flwyddyn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai - Cytundeb Gwirfoddol PDF 135 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Tai. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai ynglŷn â’r uchod.
Dywedwyd bod Trysorlys Ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb fydd yn caniatáu i’r 11 Awdurdod yng Nghymru sydd wedi cadw eu stoc o dai Cyngor dynnu allan o’r system nawdd Cyfrif Refeniw Tai (CRT) a dod yn hunan- gyllidol o fis Ebrill 2015. Roedd y gwerth setlo hefyd ar gyfer mynd allan wedi ei negodi. Bydd cyfrif CRT yr Awdurdod Lleol yn well allan yn ariannol o tua £765k y flwyddyn, trwy dalu llai o log ar y benthyciadau presennol. Er mwyn i hyn ddigwydd, bydd angen i bob un o’r 11 Awdurdod Lleol arwyddo Cytundeb Gwirfoddol. Yn dilyn dod yn hunan-gyllidol, bydd pob un o’r 11 Awdurdod yn gallu :-
• Cyflymu gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), er mwyn sicrhau cyflawni hynny erbyn 2020, a’i gynnal ymlaen i’r dyfodol. O’r 11, dim ond 4 sydd wedi cyflawni SATC – ac mae Cyngor Sir Ynys Môn yn un ohonynt. • Cynyddu’r buddsoddiad yn y cartrefi presennol ac mewn adfywio cymunedau dros y tymor byr, canolig a hir; • Sicrhau y bydd tenantiaid yn elwa o wasanaethau tai mwy effeithlon ac effeithiol. • Cynyddu’r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy newydd. • Cynyddu buddsoddiad mewn ystod o flaenoriaethau lleol eraill allai gynnwys cynyddu effeithlonrwydd ynni tai’r Cyngor, adfywio stadau, ail-fodelu anghenion cyffredinol neu dai gwarchod, a phrynu cartrefi presennol i gynyddu’r cyflenwad; • Ystyried y stoc dai ac asedau cysylltiedig megis garejys, eiddo masnachol a thir gydag ymagwedd debycach i fusnes yn y tymor hir. • Creu swyddi a chyfleon hyfforddi a chynyddu buddsoddiad yn yr economi leol.
Nodwyd y bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 1 Rhagfyr 2014 ynghyd â’r argymhellion oedd yn yr adroddiad.
Materion a godwyd gan Aelodau :-
• Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â dyfodol y stoc dai os oedd Ad-drefnu Llywodraeth Leol yn digwydd. Roedd yr awdurdod cyfagos wedi rhoi ei stoc dai i Gymdeithas Dai. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai nad oedd y mater hwn wedi ei drafod ar lefel genedlaethol. Dywedodd ymhellach nad oedd yn fater i Lywodraeth Leol ei benderfynu a fyddai’r stoc dai yn cael ei werthu ai peidio, byddai’r tenantiaid yn cael cyfle i bleidleisio ar ddyfodol y stoc dai. Fodd bynnag, mae awdurdodau lleol sydd wedi allanoli eu stoc dai wedi trosglwyddo’r stoc i Gymdeithas Dai am ffi fechan. • Roedd yr Aelodau’n dymuno ymestyn eu gwerthfawrogiad i’r Gwasanaeth Tai am drefnu’r Fforwm diweddar ynglŷn â’r mater hwn.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r argymhellion oedd yno.
GWEITHREDU : Nodi y bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 1 Rhagfyr 2014.
|
|
Newidiadau Arfaethedig i'r Polisi a'r Strategaeth ar gyfer adnewyddu Tai Sector Preifat PDF 259 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasaneth Tai. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.
Adroddwyd bod y Cyngor wedi cynnig grantiau i wella tai sector preifat. Roedd y Gorchymyn Diwygio Rheolaethol (Cymorth Tai) (Lloegr a Chymru) 2002 wedi newid y fframwaith deddfwriaethol oedd yn rheoli gallu Awdurdodau Lleol i ddarparu cymorth ariannol i berchnogion tai ac mae’n caniatáu i awdurdodau gynnig benthyciadau ariannol. Tra’n cydnabod bod benthyca arian drwy ddarparu benthyciadau ad-daladwy yn ddull mwy economaidd o ddefnyddio adnoddau cyfyngedig y Cyngor, y bwriad yw y bydd y Gwasanaethau Tai yn cyflwyno cymorth trwy fenthyciadau arian yn lle rhai o’r grantiau presennol. Yn Ionawr 2015, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lansio Cronfa Gwella Cartrefi Ad-daladwy fel y gall awdurdodau lleol ddarparu cynllun benthyca i wella tai. Er mwyn gallu cymryd rhan yn y cynllun hwn, bydd angen i’r Cyngor fod mewn sefyllfa i gynnig benthyciadau o dan ei Bolisi Adnewyddu Tai Sector Preifat, cyn y gellir sicrhau cronfeydd. Bydd angen gwneud newidiadau felly i’r Polisi Adnewyddu Tai Sector Preifat fel ei fod yn adlewyrchu’r newidiadau a fwriedir. Ni fydd grantiau cyfleusterau mandadol i’r anabl yn cael eu heffeithio a bydd y rhain yn parhau i fod ar gael o dan ddarpariaethau Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
Dywedwyd y bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith nesaf i’w gymeradwyo.
Materion a godwyd gan yr Aelodau :-
• Roedd yr Aelodau yn croesawu’r benthyciadau di-log o £1,000 hyd at uchafswm o £25,000 ar gyfer gwella tai ond roeddent yn bryderus ynglŷn â sut y bydd yr awdurdod yn gweinyddu hyn oll ac yn lliniaru rhag y risg na fyddai’r ymgeiswyr yn talu’r dyledion yn ôl. Dywedodd y Swyddogion y bydd yr ymgeiswyr yn destun asesiad fforddiadwyaeth er mwyn sicrhau y gallant fforddio’r benthyciad ac nad oes ganddynt hanes o gredyd gwal. Bydd yr holl fenthyciadau yn cael eu diogelu fel pridiant yn erbyn yr eiddo. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud fel rhan o waith gweinyddu’r benthyciad gan Street UK Services Limited.
• Dywedodd yr Aelodau eu bod yn dymuno gweld mwy o gartrefi gwag yn cael eu huwchraddio a’u bod ar gael i deuluoedd lleol ac i’r digartref.
• Bydd y gweithwyr fydd yn dod i Ynys Môn i adeiladu’r orsaf Wylfa Newydd arfaethedig yn cael effaith ar y tai fydd ar gael i’w rhentu ym Môn.
PENDERFYNWYD :-
• Cefnogi’r newidiadau i’r strategaeth a’r polisi adnewyddu tai sector preifat (fel yn Atodiad 1) yn amodol ar yr ymgynghori gyda phartneriaid a sefydliadau allanol.
• Cefnogi penodi Street UK Services Limited, sef darparwr trydydd parti, i weinyddu a rheoli cynlluniau benthyciadau ar ran y Cyngor a throsglwyddo i Street UK Services Limited yr arian a ddyrannwyd i’r Cyngor ar gyfer rhoi benthyciadau fel ‘Arian Cyfleuster’ er mwyn gwasanaethu’r benthyciadau, yn amodol ar argymhellion y Swyddog Adran 151.
GWEITHREDU: ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes mewn perthynas â’r uchod.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr Elfyn Jones, Uwch Ymgynghorydd Her o GwE ac i Mr Trebor Roberts, Uwch Reolwr ar gyfer Safonau Ysgol a Chynhwysiad ac fe’u gwahoddodd i annerch y cyfarfod.
Adroddwyd bod y Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion wedi ei sefydlu mewn partneriaeth rhwng 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru i fod yn atebol i’r Cynghorau ac i gyflawni eu dyletswyddau statudol mewn perthynas â gwella ysgolion ac yn benodol i fonitro, herio a darparu gwasanaethau cefnogaeth. Amlygir natur ac ystod y disgwyliadau mewn Cytundeb Lefel Gwasanaeth a lluniwyd y model darparu ar sail nifer penodol o ddyddiau a neilltuir ar gyfer:-
• Cynnal ymweliadau monitro tymhorol; • Cefnogi ysgolion sydd mewn categori risg (ambr/coch); • Cefnogaeth cyn ac ar ôl arolygon.
Yn 2014, trwy gyfrwng y Model Cenedlaethol ar gyfer gweithio’n rhanbarthol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno disgwyliadau cenedlaethol pellach ac ehangach ar gyfer gwaith y consortiwm. Mae’r gwaith cynllunio i ymateb i’r gofynion hyn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.
Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys dadansoddiad o berfformiad ysgolion Ynys Môn yn erbyn y gwahanol ddangosyddion.
Mae GwE wedi derbyn gwybodaeth gan y Rhaglen Gefnogaeth Genedlaethol ynghylch anghenion cefnogaeth yr holl ysgolion yn Ynys Môn o ran rhifedd a llythrennedd. Mae GwE hefyd wedi dadansoddi canlyniadau profion ac wedi nodi’r ysgolion ym mhob awdurdod lleol gyda’r perfformiad gorau a’r perfformiad gwaethaf. Bydd yr ysgolion gwanaf o ran eu perfformiad yn derbyn cymorth wedi ei dargedu a bydd yr ysgolion sy’n perfformio orau yn cael cyfleon i rannu eu harferion effeithiol.
Dywedodd yr Aelod Portffolio (Addysg) ei fod yn bwysig bod aelodau etholedig yn ymwybodol o Fframwaith Estyn, gofynion Swyddfa Archwilio Cymru a disgwyliadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â llywodraethiant a rheolaeth y consortiwm rhanbarthol a’u bod mewn sefyllfa i ateb cwestiynau fel y rheini a restrir yn yr adroddiad fel rhan o hunanasesiad a sicrwydd ansawdd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Dysgu Gydol Oes) mai hwn yw’r Adroddiad Blynyddol ar y Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda’r Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol ers iddo gael ei sefydlu y llynedd. Dywedodd bod y cydweithio rhwng Swyddogion yr Awdurdod Addysg a GwE yn hynod o gadarnhaol.
Roedd Aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini yn falch o weld gwelliant ym mherfformiad Ysgolion Môn fel yr amlygwyd yn yr adroddiad. Awgrymwyd y dylid dosbarthu’r adroddiad i holl Aelodau Etholedig y Cyngor Sir er gwybodaeth.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU: Bod copi o’r adroddiad yn cael ei gylchredeg i Aelodau’r Cyngor Sir.
|
|
Adroddiad Blynyddol 'Gwrando ar Gwynion a Dysgu oddi wrthynt' PDF 215 KB Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd Rheolydd yr Uned Cymorth i Fusnesau fod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithredu Gweithdrefn Sylwadau a Chwynion statudol yng Nghymru. Hyd at Awst 2014 roedd hyn yn unol â’r rheoliadau a’r cyfarwyddyd ‘Gwrando a Dysgu’ a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2006. Mae’n rhaid cynhyrchu Adroddiad Blynyddol ar weithrediad y Weithdrefn Sylwadau a Chwynion a’i gyflwyno i Bwyllgor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol ar gyfer sgriwtini ac i fonitro’r trefniadau ar gyfer delio’n effeithiol â chwynion gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’u cynrychiolwyr.
Materion a godwyd gan yr Aelodau:-
• Nid oedd yr amserlen ar gyfer ymateb i gwynion Cam 2 yn realistig oherwydd gall y drefn fod yn gymhleth. Mae’n rhaid rhoi sicrwydd i’r achwynydd bod y gŵyn yn cael sylw priodol ac nad yw’r gwaith ymchwilio’n cael ei gyfyngu gan ddyddiadau cau. • Roedd yr Aelodau yn falch o nodi bod yr Adran yn adolygu cwynion a gafwyd dros y flwyddyn ac yn cynhyrchu Cynllun Gweithredu ar gyfer y gwasanaeth. • Pan dderbynnir cwyn dylai’r achwynydd fod yn fodlon ei bod yn cael sylw priodol trwy’r system gwynion.
Ymatebodd Rheolydd yr Uned Cymorth i Fusnesau trwy ddweud bod staff yn yr adran wedi cael arweiniad fel rhan o’r Siarter Gofal Cwsmer ar y ffordd orau i ddelio gyda chwynion.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi natur y cwynion a dderbyniwyd yn ystod 2013/14 ynghylch y gwasanaeth a ddarperir gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.
• Nodi perfformiad yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol wrth weithredu'r Weithdrefn Sylwadau a Chwynion a delio â chwynion. • Nodi’r Cynllun Gweithredu ar gyfer datblygu’r trefniadau ar gyfer delio’n effeithiol â sylwadau a chwynion gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’u cynrychiolwyr.
|
|
Trefniadau Diogelu i Oedolion sy'n Agored i Niwed PDF 350 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mewn perthynas â’r uchod.
Adroddwyd mai bwriad Polisi a Gweithdrefnau Cymru Gyfan ar gyfer Diogelu Oedolion Bregus rhag camdriniaeth yw llywio gwaith diogelu pawb sy’n ymwneud â lles oedolion bregus a gyflogir yn y sector statudol, y trydydd sector a’r sector annibynnol yn y meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, yr heddlu a gwasanaethau eraill. Mae cydweithio da rhwng asiantaethau yn sicrhau bod yr holl gyfeiriadau’n cael eu rheoli’n effeithiol ac effeithlon gyda’r nod o wella perfformiad yn barhaus a diogelu dinasyddion mwyaf bregus Ynys Môn.
Mae’r Gwasanaethau Oedolion a phartneriaid allweddol yn cydnabod yr angen i gytuno ar gynllun gweithredu a’i roi ar waith er mwyn paratoi ar gyfer y canllawiau diogelu newydd fel yr amlinellir nhw yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) a Llesiant. Mae Bwrdd Diogelu Gwynedd a Môn yn amlinellu’r gweithdrefnau a’r gyrwyr ar gyfer newid arferion a roddir ar waith gan reolwyr gwasanaeth allweddol ar draws y sectorau.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi’r diweddariad ynghylch diogelu a amlinellir yn yr adroddiad, Ynys Môn – Diogelu Oedolion Bregus, Adroddiad Amlygu 2013/14 (Atodiad 1). • Nodi a chytuno’r datblygiadau a amlinellwyd yn Adran 5 yr Adroddiad Amlygu. • Nodi’r diweddariad ynghylch Trefniadau Lleol a Rhanbarthol y Bwrdd Diogelu Oedolion (Atodiad 2). • Nodi a chytuno’r argymhellion a amlinellir yn Adran 3 yr adroddiad. • Cefnogi bod yr aelodau yn parhau i ymgysylltu â’r Rhaglen Ddiogelu gyffredinol.
GWEITHREDU: Nodi y bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith gyda hyn.
|
|
Diweddariad gan y Cadeirydd neu Is-Gadeirydd Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd fod cyfarfod briffio wedi ei drefnu ar gyfer Cynghorau Tref/Cymuned a’r trydydd sector ar 18 Rhagfyr 2014 ar y Weithdrefn Sgriwitini a Rhaglenni Gwaith y ddau bwyllgor Sgriwtini.
Nododd y Swyddog Sgriwtini fod Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y ddau Bwyllgor Sgriwtini wedi cael gwahoddiad i fynychu.
Dywedodd yr Is-Gadeirydd ei fod wedi mynychu sesiwn o’r enw ‘Added Value of Scrutiny’ a gynhaliwyd gan Mr Rod Alcott o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i baratoi ar gyfer yr Asesiad Llywodraethiant Corfforaethol a gynhelir ym mis Chwefror 2015. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd a nodwyd – y rhaglen waith ddrafft. |