Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem. Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 2 Chwefror, 2016. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror, 2016 yn gywir. |
|
Dogfen Partneriaeth Polisi a Rôl Sgriwtini yn Monitro'r Partneriaethau PDF 659 KB Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Swyddog Effaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Swyddog Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad ar y cyd gan y Swyddog Sgriwtini a’r Swyddog Effaith ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Dywedodd yr Aelod Portffolio (Rheolwr Busnes y Pwyllgor Gwaith, Trawsnewid Perfformiad, Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol) fod yr adroddiad hwn yn nodi pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth gan ei fod yn rhan annatod o arferion gweithio Awdurdodau Lleol; mae'n rhoi gwasanaethau gwell i gymunedau lleol. Nododd bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 14 Mawrth 2016 wedi cymeradwyo’r Ddogfen Bolisi fel sylfaen gadarn ar gyfer gweithio mewn partneriaeth.
Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod gwaith wedi cael ei wneud yn ddiweddar i lunio rhestr o bartneriaethau rhwng y Cyngor a sefydliadau eraill yn y sectorau preifat, cyhoeddus neu wirfoddol. Hyd yma mae dros 200 o bartneriaethau posib wedi cael eu nodi. Bydd gwaith yn awr yn cael ei wneud i egluro rôl a gwerth ychwanegol y partneriaethau posib a nodwyd.
Rhoddodd y Swyddog Sgriwtini a’r Swyddog Effaith ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyflwyniad byr i'r Pwyllgor ar y Polisi Partneriaeth a rôl y Pwyllgor Sgriwtini yn monitro’r Partneriaethau. Dywedodd y Swyddog Effaith ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod y Polisi Partneriaeth yn crynhoi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ac yn ychwanegu at y datganiadau partneriaeth unigol sydd eisoes yn bodoli, er enghraifft Compact Ynys Môn (cytundeb partneriaeth gyda'r Sector Gwirfoddol) a’r Siarter Cymunedol ar y Cyd gyda Chynghorau Tref a Chymuned ar yr Ynys. Mae'r Polisi (ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad) yn canolbwyntio ar bartneriaethau lle mae'r Cyngor yn dewis gweithio gyda sefydliadau eraill yn y sector preifat, cyhoeddus neu wirfoddol. Dywedodd hefyd fod gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu rôl i adolygu trefniadau rheoli risg yr Awdurdod. Bydd y Pwyllgor hwnnw’n canolbwyntio ar gael sicrwydd bod partneriaethau allweddol yn rheoli risg yn ddigonol ond nid yw ei rôl yn cynnwys adolygu cyfraniad a chanlyniadau partneriaethau, am fod hynny’n rhan o gylch gwaith Aelodau Sgriwtini.
Cyfeiriodd y swyddog ymhellach at y rhesymau pam fod gweithio mewn partneriaeth o fudd i'r Cyngor a chymunedau Ynys Môn a hefyd at y meini prawf y mae’r Cyngor yn eu defnyddio i ddewis partneriaethau ac a amlygwyd yn yr adroddiad.
Adroddodd y Swyddog Sgriwtini fod gan y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio rôl bwysig i’w chwarae i sicrhau bod lefel briodol o ymgysylltu democrataidd gyda phartneriaethau ac i sicrhau bod y gwaith a’r perfformiad yn gyson â blaenoriaethau allweddol y Cyngor ac anghenion y cymunedau lleol ac yn ymateb iddynt. Wrth gyflawni ei rôl mae gan y Pwyllgor Sgriwtini nifer o feysydd posib y gallai eu hystyried, gan gynnwys:-
· Sgriwtinieiddio trefniadau llywodraethu; · Sgriwtineiddio cyfraniad y Cyngor; · Gwerthuso effeithiolrwydd cyffredinol y bartneriaeth; · Sicrhau ymgysylltu â'r cyhoedd a strategaethau a phartneriaethau sy'n canolbwyntio ar ddinasyddion
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif faterion a ganlyn:-
· Holwyd ynghylch y perygl y byddai gwasanaethau a gynigir gan y sefydliadau partner a nodwyd yn cael eu dyblygu. Ymatebodd y Swyddogion y bydd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanethau Tai. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf. i'r cyfarfod.
Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai ar gynnydd y Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn 2015/16.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn ffrwd waith allweddol sy’n cyflawni blaenoriaethau strategol y Cyngor fel y cawsant eu nodi yng Nghynllun Corfforaethol 2014/17 ac sy'n canolbwyntio ar adfywio cymunedau a datblygu'r economi, ynghyd â chynyddu opsiynau tai a lleihau tlodi. Nododd mai’r Awdurdod yw'r Corff Cyflawni Arweiniol a bod y ffynonellau cyllido yn cynnwys cyllid craidd, cyllid y Rhaglen Esgyn a chyllid Cymunedau ar gyfer Gwaith. Sefydliad Cyflawni yw Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf.
Mae Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf, fel cwmni cyfyngedig trwy warant ac elusen, yn gallu sicrhau cyllid allanol i gefnogi darparu gwasanaethau Cymunedau’n Gyntaf yn yr ardal, sef cyllid nad yw’r Awdurdod, fel corff cyhoeddus, yn gymwys i wneud cais amdano o bosib. Mae’r Academi Alwedigaethol Gymunedol, sy'n darparu hyfforddiant achrededig i bobl 14-62 oed, yn targedu’r rhai sydd leiaf tebygol o fynychu darpariaethau prif ffrwd mewn colegau ac yn ddiweddar mae wedi ennill y wobr am y Fenter Gymdeithasol Orau yng Ngwobrau’r Sefydliad Tai Siartredig.
Cyflwynwyd adroddiad manwl gan y Rheolwr Clwstwr ar gyfer Cymunedau’n Gyntaf Môn ar weithgareddau’r sefydliad. Bu cynnydd yn nifer y staff a gyflogir ar hyn o bryd gan y sefydliad ac yn yr arian a sicrhawyd ar gyfer y rhaglen. Cyfeiriodd at yr Academi Alwedigaethol Gymunedol a atgyfnerthwyd yn ddiweddar yn sgil derbyn cyllid dan y Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Roedd £90,000 wedi'i ddyfarnu dros 2 flynedd i brynu peiriant torri gwair masnachol mawr a fydd yn golygu y gall CG Môn dendro am gontractau mwy o faint a chynhyrchu ffrwd incwm gynaliadwy. Prynwyd 2 fan hefyd sy'n uwchraddio’r fflyd o gerbydau. Prynwyd cerbyd cloddio bach i’w ddefnyddio gan hyfforddeion a fydd yn cynorthwyo i arwain hyfforddiant yng Ngholeg Menai ar sut i ddefnyddio cerbydau cloddio mawr. Ariannwyd hyn drwy Horizon. Mae Cymunedau’n Gyntaf Môn yn gweithio'n agos iawn gyda chyflogwyr i sicrhau y gellir cyfatebu’r swyddi gwag sydd ganddynt gyda’r bobl sy’n cymryd rhan yn yr Academi. Nododd bod 102 o bobl wedi cael gwaith trwy’r Academi hyd yma.
Amlinellodd y Rheolwr Grant faint o arian a sicrhawyd gan Cymunedau’n Gyntaf Môn a chyfeiriodd at Atodiadau 1 a 5 a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad ac a oedd yn tynnu sylw at y cyllid allanol y llwyddwyd i’w sicrhau.
Roedd Cadeirydd Cymunedau’n Gyntaf Môn, Mr. J. Lee MBE, yn dymuno mynegi ei werthfawrogiad o'r gwaith a wnaed gan staff CG Môn a pha mor falch ydoedd o lwyddiant y sefydliad.
Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chodwyd y prif faterion a ganlyn: -
· Llongyfarchwyd Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf. gan Aelodau'r Pwyllgor am eu gwaith a chanmolwyd y cyfleusterau a gynigir i helpu pobl mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf. Gofynnwyd a oes modd helpu ardaloedd eraill nad ydynt yn rhan o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf Môn. Ymatebodd y Rheolwr ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Diweddariad gan y Cadeirydd/Is-Gadeirydd Derbyn adroddiad llafar gan y Cadeirydd/Is-Gadeirydd. Cofnodion: Ni chafwyd diweddariad gan y Cadeirydd/Is-gadeirydd. |
|
Cyflwyno’r Rhaglen Waith gan y Swyddog Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Mai, 2016.
Roedd rhai Aelodau o'r Pwyllgor yn anfodlon bod trefniadau wedi eu gwneud i alw cyfarfod ar ddydd Gwener, 13 Mai 2016 i drafod yr Ymgynghoriad ynghylch Safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr. Dywedwyd bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi cytuno na ddylid cynnal cyfarfodydd ar ddiwedd yr wythnos.
Yn dilyn trafodaethau CYTUNWYD y gwneir pob ymdrech i aildrefnu’r cyfarfod ar gyfer dechrau'r wythnos ganlynol, ond os nad oes modd cynnal cyfarfod bryd hynny oherwydd nad yw’r Swyddogion perthnasol ar gael, fod y cyfarfod yn dechrau am 3.30pm ar 13 Mai 2016.
PENDERFYNWYD nodi'r Rhaglen Waith hyd at fis Mai, 2016.
GWEITHREDU: Y Swyddog Sgriwtini i gydgysylltu â’r Swyddogion perthnasol mewn perthynas â'r uchod.
|