Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd a ganlyn:-
· Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 24 Medi, 2018; · Cofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 15 Hydref, 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd fel a ganlyn :-
· Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi, 2018.
Yn codi
Cyfeiriodd y Cadeirydd at argymhelliad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi, 2018 i anfon llythyr ar ran y Pwyllgor at y Swyddfa Gartref yn mynegi pryderon ynglŷn â gostyngiad yn nifer y Swyddogion Heddlu a’r angen i gynyddu cyllidebau Awdurdodau Heddlu er mwyn ei gwneud yn bosib recriwtio mwy o Swyddogion Heddlu. Nododd fel ymateb wedi cael ei dderbyn ar 1 Tachwedd, 2018 gan y Gwir Anrhydeddus Nick Hurd AS, y Gweinidog Gwladol dros Blismona. Darllenodd y Cadeirydd yr ymateb i’r Pwyllgor.
· Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 15 Hydref, 2018. |
|
Enwebu Aelod o'r Pwyllgor i'r Panel Cyllid Sgriwtini PDF 609 KB Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini mewn perthynas ag enwebu Aelod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio i wasanaethu ar y Panel Sgriwtini Cyllid.
PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Alun Roberts fel aelod o’r Panel Sgriwtini Cyllid.
GWEITHRED : Fel yr uchod. |
|
Strategaeth Rhanbarthol Digartrefedd PDF 731 KB Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Strategaeth Dai, Comisiynu a Pholisi. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth (Tai, Strategaeth, Comisiynu a Pholisi) mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd y Swyddog Sgriwtini bod Mrs Wendy Hughes, Prif Weithredwr, Digartref Cyf, wedi derbyn gwahoddiad i’r cyfarfod ond nad oedd yn gallu bod yn bresennol oherwydd salwch.
Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Strategaeth, Comisiynu a Pholisi bod Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i gynnal adolygiad o ddigartrefedd a mabwysiadu strategaeth ddigartrefedd yn 2018. O dan adran 50 y Ddeddf, mae strategaeth ddigartrefedd yn strategaeth ar gyfer cyflawni’r amcanion a ganlyn yn ardal yr awdurdod tai lleol:-
· Atal digartrefedd; · Sicrhau bod llety addas ar gael i bobl sydd yn ddigartref neu a allai fod yn ddigartref; · Sicrhau bod cefnogaeth foddhaol ar gael i bobl sydd yn ddigartref neu a allai fod yn ddigartref;
Ar hyn o bryd mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar y Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol a bydd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ei mabwysiadu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben ar 20 Tachwedd, 2018.
Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Strategaeth, Comisiynu a Pholisi fod y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru wedi cydweithio er mwyn sefydlu Strategaeth Ddigartrefedd ac i rannu gwybodaeth a phrofiadau. Yn ogystal mae’r Sefydliad Tai Siartredig wedi darparu adnoddau a chefnogaeth ychwanegol er mwyn cynorthwyo i lunio’r Strategaeth. Nododd fod Project Development Workshop Ltd (PDW) wedi cael eu comisiynu i gynnal adolygiad lleol ar gyfer Ynys Môn. Roedd data ar gyfer y cyfnod Ebrill i Hydref yn dangos fod 377 o bobl wedi cael cyswllt â’r Gwasanaeth Digartrefedd naill ai drwy apwyntiad wedi ei drefnu neu drwy alw yn Swyddfeydd y Cyngor i ddweud wrth staff eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref neu eu bod yn ddigartref. Y rhesymau dros fod yn ddigartref oedd perthynas yn torri i lawr, teulu neu riant ddim yn gallu cynnig lle i aros neu adael carchar.
Dywedodd y Deilydd Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau ei fod yn fodlon â’r cydweithio oedd wedi digwydd wrth gynhyrchu’r Strategaeth Ddigartrefedd ar draws y rhanbarth a diolchodd i’r staff am eu gwaith.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y materion a ganlyn:-
· Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â sut fydd y Strategaeth Ddigartrefedd yn cael ei monitro. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Strategaeth, Comisiynu a Pholisi fod Grŵp Cyflawni Strategaeth Rhanbarthol wedi cael ei sefydlu sydd yn cynnwys Swyddogion Strategaeth Tai o’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru er mwyn rhannu gwybodaeth a gweithredu’r Strategaeth Ddigartrefedd gyda chefnogaeth y Sefydliad Tai Siartredig. Ar lefel leol, nododd y byddai adroddiadau monitro’n cael eu cyflwyno i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a gellir rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda’r Pwyllgor Sgriwtini; · Cyfeiriwyd at y ffaith fod Cyngor Gwynedd wedi allanoli ei Stoc Dai a gofynnwyd a fyddai hynny’n cael effaith ar gydweithio mewn perthynas â’r Strategaeth Ddigartrefedd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Strategaeth, Comisiynu a Pholisi fod Digartrefedd yn swyddogaeth statudol i bob awdurdod lleol. Mae gan ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Partneriaeth Angenion Addysgol Ychwanegol - Gwynedd a Môn PDF 3 MB Cyflwyno adroddiad gan Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Uwch Reolwr – Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn perthynas â’r uchod.
Cyflwynodd y Deilydd Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid yr adroddiad i’r Pwyllgor a mynegodd ei werthfawrogiad i’r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad am y cynnydd o fewn y gwasanaeth hyd yma.
Adroddodd yr Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol fod y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (ADYaCh) wedi cael ei sefydlu ym mis Medi 2017 a bod yr adroddiad yn amlygu cynnydd disgyblion yn ystod y flwyddyn a aeth heibio ym mhob un o’r gwasanaethau a ddarperir er mwyn sicrhau fod partneriaeth Awdurdod Addysg Gwynedd ac Ynys Môn yn derbyn gwasanaeth effeithiol ac effeithlon. Nododd mai prif wendidau’r gwasanaeth AAA blaenorol oedd diffyg data craidd i ddangos beth oedd y gwasanaeth yn ei gyflawni ac i fonitro cynnydd disgyblion.
Adroddodd yr Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn manylder am y gwasanaethau a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant a’r cynnydd hyd yma, fel y nodwyd yn yr adroddiad, fel a ganlyn :-
· Gwasanaeth Cyfathrebu a Rhyngweithio · Gwasanaeth Synhwyraidd a Meddygol · Gwasanaeth Anghenion Dysgu Penodol · Gwasanaeth Seicolegydd Addysgol · Gwasanaeth Cynnal Ymddygiad · Gwasanaeth Lles · Darpariaeth Hyfforddiant Gwasanaeth ADYaCh Gwynedd a Môn · Datblygu Ysgolion ADP Gyfeillgar
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y materion a ganlyn:-
· Cyfeiriwyd at y tri phrif maes sy’n achosi’r pryder mwyaf mewn ysgolion sef problemau llythrennedd a sillafu, iaith ac awtistiaeth a phroblemau ymddygiad. Dywedodd Aelodau fod y ffigyrau sy’n cael eu hadrodd yn awr ar gyfer y gwasanaethau hyn wedi gostwng yn sylweddol a gofynnwyd pam fod hynny wedi digwydd. Dywedodd yr Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol fod disgyblion yn gallu derbyn cymorth yn gynt erbyn hyn oherwydd bod lefelau staffio uwch yn y Gwasanaeth ADYaCh newydd. Mae atgyfeiriadau gan ysgolion yn cael eu cyfeirio at Fforwm o Arbenigwyr sy’n golygu bod modd rhoi cefnogaeth arbenigol yn gynt i blentyn sydd angen sylw. Gofynnwyd sut oedd y gwasanaeth yn perfformio yn Ynys Môn o gymharu â’r gwasanaeth yng Ngwynedd. Dywedodd yr Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol fod y Gwasanaeth ADYaCh wedi ymateb yn effeithiol i anghenion yn ysgolion Môn a’i fod yn debyg i’r sefyllfa yn ysgolion Gwynedd. Nododd petai’r angen yn codi am fwy o wasanaeth ADY ar Ynys Môn fod y gwasanaeth yn ddigon hyblyg i ddarparu cyfleuster o’r fath; · Cyfeiriwyd at y problemau sy’n wynebu ysgolion wrth benodi Cymorthyddion Dysgu (AAA). Gofynnwyd sut mae’r Gwasanaeth ADYaCh yn gallu cynorthwyo i hyfforddi a recriwtio Cymorthyddion Dysgu (AAA). Dywedodd yr Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol mai mater i ysgolion yw’r Cymorthyddion Dysgu (AAA) a gyflogir gan yr ysgolion a bod Cymorthyddion Dysgu sy’n gysylltiedig â’r Gwasanaeth ADYaCh yn cael eu cyflogi gan y gwasanaeth hwnnw. Mae’r Gwasanaeth ADYaCh yn darparu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer Cymorthyddion Dysgu (ADY) er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cefnogi plant sydd ag anghenion penodol; · Mynegwyd pryderon fod rhai rhieni’n cwyno o hyd fod rhaid disgwyl amser hir i dderbyn adborth ynglŷn â chyflwr eu plentyn a’u ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cyflwyno adroddiad gan Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn.
Adroddodd Arweinydd y Cyngor bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymrwymo i egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r Cyngor yn darparu amrywiaeth o wasanaethau fydd yn cyflawni ei amcanion llesiant unigol, yn ogystal â chefnogi amcanion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Nododd bod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn wedi cael ei sefydlu yn 2016, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Ynys Môn a fyddai’n cydweithio efo Gwynedd. Cyhoeddodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Asesiad o Lesiant ar gyfer Ynys Môn ym mis Mai 2017 ac yn dilyn nifer o sesiynau ymgysylltu ac ymgynghori cyhoeddwyd y Cynllun Llesiant yn 2018. Cytunodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar chwe maes blaenoriaeth i gyflenwi amcanion y Bwrdd sy’n cael eu hamlinellu yn yr adroddiad. Sefydlwyd pum Is-grŵp i roi sylw i’r meysydd blaenoriaeth ac enwebwyd Aelodau o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn Arweinwyr ar yr Is-grwpiau. Yr Is-grwpiau yw :-
· Is-grŵp yr Iaith Gymraeg; · Is-grŵp Cartrefi ar gyfer pobl leol; · Is-grŵp Effaith Tlodi ar lesiant ein Cymunedau; · Is-grŵp Effaith newid hinsawdd ar lesiant ein Cymunedau; · Is-grŵp Iechyd a Gofal Integredig
Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y prif gwestiynau sgriwtini a gynhwyswyd yn yr adroddiad ac adroddodd fel a ganlyn :-
· Sut mae’r Bwrdd yn rheoli ei Flaen Rhaglen Waith? - Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi sefydlu Is-Grwpiau ac mae’n rhaid llunio Cynlluniau Gweithredu cyn bod modd cynhyrchu Blaen Raglen Waith; · A fedrwch amlinellu sut mae’r Bwrdd yn gwneud penderfyniadau fel partneriaeth strategol? – Rhoddwyd enghraifft fod Is Grŵp yr Iaith Gymraeg wedi cyflwyno bid i Lywodraeth Cymru am adnoddau i gyllido prosiect ar y cyd gyda’r nod o ddatblygu sgiliau a hyder siaradwyr Cymraeg yn y gweithle, a newid arferion ieithyddol (defnyddio’r Gymraeg); · Sut mae’r Bwrdd yn rheoli perfformiad blaenoriaethau’r Is-grwpiau cyflawni?- Bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn herio penderfyniadau a wneir gan yr Is-grwpiau yn unol â Chynllun Gweithredu’r Is-grwpiau a Rhaglen Waith y Bwrdd; · A oes yna unrhyw rwystrau neu risgiau penodol wrth gyflawni ei raglen waith yn wyneb yr hinsawdd ariannol? A oes gan yr Aelod sy’n cynrychioli’r Cyngor unrhyw sylwadau ar gyflawni rhaglen waith y Bwrdd? - Mae’r holl sefydliadau partner o fewn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn wynebu toriadau ariannol yn eu gwasanaethau. Mae’r Bwrdd yn ceisio sefydlu ethos gwaith gwell er mwyn cyflawni'r rhaglen waith a chydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y materion a ganlyn:-
· Gofynnwyd a fyddai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn uwchraddio ei wefan; ar hyn o bryd ychydig iawn o wybodaeth a roddir am waith y Bwrdd. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod sefydlu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn her o safbwynt cael yr holl sefydliadau partner mewn lle. Roedd yn falch o adrodd bod y sefydliadau partner sy’n aelodau o’r Bwrdd yn cytuno ag amcanion y Bwrdd erbyn hyn a ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Gorffennaf 2019.
PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith hyd at fis Gorffennaf, 2019.
GWEITHREDU : Fel yr uchod. |