Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 62 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol:-

 

·        Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 13 Mehefin, 2019

·        Cofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 11 Gorffennaf, 2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd a ganlyn yn gywir:-

 

·      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mehefin, 2019

·      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf, 2019

4.

Monitro Contractau Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar Drefniadau Monitro’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyniad i’r Pwyllgor a thynnodd sylw at rôl y Tîm Contractau, sy’n cynnwys 3 o Swyddogion ar hyn o bryd, sy’n gwneud gwaith er mwyn:-

 

·           Sicrhau bod contractau’n cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a statudol;

·           Gweithredu fframwaith cadarn ar gyfer monitro contractau, gan sicrhau fod perfformiad contractau’n cael ei fonitro yn erbyn y manylebau;

·           Sicrhau fod gwaith monitro ac adolygu systematig yn digwydd mewn perthynas â gwasanaethau cartrefi preswyl a nyrsio, gwasanaethau byw yn y gymuned, gwasanaethau gofal cartref a gwasanaethau dydd ar Ynys Môn a darparwyr tu allan i’r sir.

 

Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol at weithdrefnau monitro’r Tîm Contractau fel a ganlyn:-

 

Gofal Cartref – Ymweliadau safle blynyddol lle rhoddwyd rhybudd (edrych ar ffeiliau Defnyddwyr Gwasanaeth a ffeiliau staff, polisïau, llyfr damweiniau a digwyddiadau, cofnod o gwynion a ffurflenni MAR);

 

Gofal Preswyl/Nyrsio – Ymweliad safle ar y cyd gyda BIPBC lle rhoddwyd (edrych ar ffeiliau Defnyddwyr Gwasanaeth a ffeiliau staff, polisïau, llyfr damweiniau a digwyddiadau, cofnod o gwynion a ffurflenni MAR). Rhyngweithio gyda phreswylwyr ac arsylwi arferion yn y cartref;

 

Maethu – Consortiwm Comisiynu Cymru, sydd â thîm monitro yn gweithio fel rhan o’r consortiwm hwn;

 

Gofal Preswyl plant – gwaith monitro yn y swyddfa, Consortiwm Comisiynu Cymru.

 

Byw â Chymorth – Ymweliad safle blynyddol lle rhoddwyd rhybudd – edrych ar ffeiliau Defnyddwyr Gwasanaeth a ffeiliau staff, polisïau, llyfr damweiniau a digwyddiadau, cofnod o gwynion a ffurflenni MAR;

 

Gwasanaethau Dydd – ar hyn o bryd, ymweliad safle llawn ac archwiliad o’r holl bolisïau ac asesiadau risg perthnasol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod gwelliannau sylweddol wedi cael eu gwneud mewn Cartrefi Gofal Preswyl mewn perthynas â chyflawni a darparu tystiolaeth o’r 9 amcan penodol yn y fframwaith monitro. Mewn perthynas â Gofal Cartref, mae model contract yn galluogi darparwyr i reoli eu costau’n well drwy wneud arbedion, gan ddarparu gwasanaeth mwy lleol a gwella lefelau recriwtio a chadw staff.

Maethu Plant/Lleoliadau Preswyl - proses fyw ar gyfer atgyfeiriadau lleoliadau a thendro, gan ddefnyddio CCSR i lunio rhestr fer o ddarparwyr sy’n berthnasol i anghenion y plentyn. Mae darparwyr yn amlygu'r hyn y gallent ei gynnig bob tro y bydd plentyn angen lleoliad.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chodwyd y materion a ganlyn:-

 

·           Gofynnwyd a yw cartrefi gofal yr Awdurdod Lleol yn cael eu monitro yn yr un ffordd â chartrefi gofal preifat. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol bod union yr un trefniadau monitro yn bodoli ar gyfer cartrefi gofal yr Awdurdod hefyd;

·           Gofynnwyd a oes digon o staff i fonitro’r gwasanaeth i’r safonau gorau posib. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Tîm Contractau wedi cynyddu i 3 yn ystod y flwyddyn a’i fod yn ystyried fod y tîm yn monitro’r gwasanaethau i lefel dderbyniol. Cyfeiriodd at fonitro risgiau a nododd y bydd y gwasanaeth yn ystyried a oes angen cynnal ymweliadau mor aml os yw’r Awdurdod Lleol yn hyderus bod y darparwyr gwasanaeth yn perfformio i lefel uchel. Fodd bynnag,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Diogelu Corfforaethol pdf eicon PDF 503 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

 Cyflwynwyd – adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi trosolwg o waith y Bwrdd Diogelu Corfforaethol a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymdrin â materion Diogelu yn ddyddiol yn ymwneud ag atgyfeiriadau ynghylch unigolion a all fod mewn perygl. Fodd bynnag, mae Diogelu yn gyfrifoldeb i bob un o Wasanaethau’r Cyngor ac mae pob aelod o staff yn derbyn hyfforddiant ac yn ymwybodol o’u rôl mewn perthynas â diogelu.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Diogelu a Gwella Ansawdd gyflwyniad i’r Pwyllgor a dywedodd y dylai pob sefydliad sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc, ac oedolion ymrwymo i’w diogelu a gwella eu lles. Mae dyletswydd ar y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei swyddogaethau mewn modd sy’n diogelu ac yn hyrwyddo lles plant ac oedolion a all fod mewn perygl. Nododd fod y Polisi Diogelu Corfforaethol yn darparu canllawiau clir ynglŷn â’r disgwyliadau i bob swyddog. Mae bob Pennaeth Gwasanaeth yn gyfrifol am y trefniadau diogelu o fewn eu gwasanaeth. Sefydlwyd Bwrdd Diogelu Corfforaethol Strategol gan y Cyngor i ddarparu sicrwydd ynghylch effeithiolrwydd trefniadau diogelu’r Cyngor. Sefydlwyd Bwrdd Diogelu Corfforaethol Gweithredol hefyd ac mae aelodau’r bwrdd yn cynnwys pencampwyr diogelu o bob un o wasanaethau’r Cyngor. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth - Diogelu a Gwella Ansawdd fod rhaid i bob Pennaeth Gwasanaeth gynnwys eu blaenoriaethau diogelu yng Nghynllun Busnes Blynyddol eu gwasanaeth a’u bod wedyn yn cael eu monitro yn unol â gweithdrefnau monitro’r Cyngor. Dywedodd ei bod yn credu bod y mater hwn yn datblygu i orgyffwrdd yn naturiol â’r agenda diogelu cymunedol h.y. Prevent a Chaethwasiaeth Fodern. Delio gydag achosion ble’r ystyrir bod unigolion mewn perygl a materion diogelu corfforaethol.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth - Diogelu a Gwella Ansawdd fod gan yr Awdurdod Gynllun Gweithredu Diogelu Corfforaethol (Atodiad 1 yn yr adroddiad) sy’n canolbwyntio’n bennaf ar weithredoedd trawsbynciol ar draws yr Awdurdod cyfan, yn hytrach nag ar faterion sy’n berthnasol i un gwasanaeth yn unig. Dywedodd fod cyfrifoldeb corfforaethol am y maes hwn yn cryfhau o fewn y Cyngor a bod sefydlu’r Bwrdd Diogelu Corfforaethol Strategol wedi cynyddu’r proffil ar draws yr Awdurdod cyfan. Mae adroddiad archwilio mewnol diweddar wedi amlygu risg mewn perthynas â llywodraethiant gan nad yw cyfarfodydd y Bwrdd Diogelu Corfforaethol Strategol yn cael eu cofnodi felly nid oes gan y Bwrdd dystiolaeth o’i drafodaethau/penderfyniadau. Nodwyd fod y mater hwn yn cael sylw ac y bydd cyfarfodydd y Bwrdd yn cael eu cofnodi. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth ei bod yn ystyried bod risg i enw da’r Cyngor petai unigolion yn cael eu niweidio o ganlyniad i gamgymeriad diogelu. Cyfeiriodd at enghreifftiau o sefydliad lle’r oedd materion yn ymwneud â diogelwch y gweithlu wedi arwain at niweidio enw da. Roedd yr Adroddiad Archwilio hefyd wedi amlygu’r angen i gryfhau rôl y Bwrdd Strategol i sicrhau bod y gwasanaethau mewnol yn gweithredu’r fframwaith a’r polisïau a roddwyd mewn lle gan yr Awdurdod. Nododd fod Diogelu Corfforaethol wedi ei gynnwys yn yr Hunan Asesiadau newydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion : Adroddiad Cynnydd pdf eicon PDF 770 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad diweddaru ar gynnydd gwaith y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion.

 

Dywedodd y Cadeirydd, sydd hefyd yn Gadeirydd y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion, fod y Panel wedi cyfarfod ar dri achlysur rhwng mis Mai a Gorffennaf 2019. Derbyniodd y Panel adborth llafar ac argraffiadau’r Aelodau yn dilyn y cyntaf o’r gweithgareddau cysgodi GwE. Roedd yr argraffiadau cychwynnol hyn wedi caniatáu i’r Panel fireinio trefniadau gyda GwE ar gyfer y cyfnod nesaf, gan gynnwys cyflwyno profforma adborth i’r Aelodau ei gwblhau ar ddiwedd pob ymweliad cysgodi. Bydd y broses hon yn cryfhau ymhellach y trefniadau llywodraethiant sy’n sylfaen i’r ffrwd waith hon, gan ddarparu tystiolaeth ar y cyd o argraffiadau a myfyrdodau Aelodau, yn ogystal â gweithredu fel mecanwaith i uwchgyfeirio negeseuon allweddol i’r Panel roi ystyriaeth bellach iddynt. Dywedodd y Cadeirydd fod y Panel wedi cael cyfle i weld gwaith disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen ym mis Mehefin 2019 a’u bod wedi craffu ar effaith y prosiect cydweithio ar safonau. Nodwyd y bydd y Panel yn ailgydio yn ei raglen o herio perfformiad ysgolion gan adeiladu ar ei waith yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dywedodd y Cadeirydd bod angen ystyried cylch gorchwyl y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â blaenoriaethau corfforaethol. Cynhaliwyd cyfarfod yn ddiweddar rhwng Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Panel, y Rheolwr Sgriwtini a’r Dirprwy Brif Weithredwr a chytunwyd i gynnal gweithdy ar gyfer Aelodau Etholedig ar 27 Medi, 2019.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y Pwyllgor hwn wedi gofyn am adroddiad ar gynnydd y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion hyd yma o ran cyflawni ei raglen waith bresennol, sy’n cynnwys herio perfformiad ysgolion unigol yn gadarn; meysydd gwaith a gwblhawyd hyd yma mewn perthynas â’r trefniadau newydd i gysgodi GwE a gyflwynwyd yn ddiweddar; canlyniad yr hunan arfarniad diweddar i fesur effaith gwaith y Panel a’r gwerth ychwanegol a’r angen i adolygu cylch gorchwyl y Panel i sicrhau ei fod yn parhau i gyd-fynd â blaenoriaethau corfforaethol. Dywedodd fod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Panel wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Estyn ym mis Mehefin a bod canlyniad y cyfarfod hwnnw wedi’i gynnwys yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chodwyd y materion canlynol:-

 

·                     Nodwyd bod yr holl Aelodau Etholedig yn Llywodraethwyr mewn ysgolion ar yr Ynys ac y byddai’n fuddiol iddynt fod yn ymwybodol o waith y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion â’r rôl y dylent ei chyflawni o ran gwella a herio safonau mewn ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y meysydd datblygu wedi cael eu nodi gan y Panel fel rhan o’r hunan arfarniad a’u bod yn cael eu crynhoi o dan y 7 thema allweddol yn adran 3.5 yr adroddiad. Nododd fod angen i Lywodraethwyr fod yn ymwybodol o’r Cwricwlwm Newydd i Gymru ac i herio rolau arweinyddiaeth ysgolion;

·                     Nodwyd fod Estyn wedi dweud fod angen rhoi mwy o sylw i gefnogi’r Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG). Mynegwyd pryder bod cefnogaeth yr Ymgynghorydd Her GwE wedi cael ei dynnu’n  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 301 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Ebrill 2020.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd at gyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio fydd yn cael ei gynnal ar 24 Hydref, 2019 a nododd fod yr eitem yn ymwneud â’r Adroddiad Blynyddol: Galw Gofal yn cael ei haildrefnu. Ychwanegodd fod eitem ychwanegol ar Medrwn Môn i’w chynnwys ar y rhaglen waith ar gyfer y cyfarfod ar 24 Hydref.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith hyd at fis Ebrill, 2020.