Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel a nodir uchod.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Dros Dro. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion.
Dywedodd yr Arweinydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod y cynllun peilot ar gyfer anableddau dysgu yn amlinellu’r flaenoriaeth i'r Cyngor Sir a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am y cyfnod cychwynnol o 12 mis i sefydlu prosiect mewn model arbrofol o gyllidebau cyfun. Nod y cynllun peilot yw sicrhau y gwneir y defnydd gorau o arian ar draws yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd er mwyn gwneud penderfyniadau amserol ar ofal a chymorth o ddydd i ddydd ar gyfer cleientiaid Anableddau Dysgu. Bydd y cynllun peilot o fudd ychwanegol hefyd gan y bydd yn cynorthwyo i gyflawni Cytundeb Integreiddio Cydweithredfa Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Gogledd Cymru o dan Ran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Dywedodd y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion ei bod yn her barhaus i gydbwyso anghenion dinasyddion o fewn y dyraniad ariannol sydd ar gael, ond mae’r cynllun peilot, gyda chefnogaeth Cytundeb Adran 33, yn amlygu cynllunio integredig clir. Nododd fod 36 o becynnau gofal a ariennir ar y cyd ar gyfer unogolion sy’n byw mewn llety â chymorth sydd wedi'u cynnwys yng Ngham 1 y cynllun peilot. Nododd fod hyn yn cysylltu â'r broses dendro ynghylch byw â chymorth. Cytunwyd y bydd y swm llawn ar gyfer y gyllideb gyfun yn cael ei drosglwyddo erbyn Ebrill 2021 ac mai’r Awdurdod fydd yn rheoli a gweinyddu'r gyllideb fel y sefydliad cynnal. Cynhelir gwerthusiad annibynnol o'r cynllun peilot gan yr IPC er mwyn pwyso a mesur a fu'n llwyddiant ai peidio. Cyfanswm gwariant cyfredol y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod Lleol yw: -
· Bwrdd Iechyd - £1,346,723.81 · Yr Awdurdod Lleol - £1,819,478.06
Adroddodd ymhellach mai cynllun peilot Cam 1 yw hwn am 12 mis ac y cynhelir gwerthusiad allanol ohono er mwyn penderfynu sut i symud ymlaen wedyn ar ôl y 12 mis. Bydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn gwerthuso cynnydd y cynllun ac yn cyflwyno adroddiadau chwarterol i'r Bwrdd.
Rhoddodd y Pwyllgor sylw i'r adroddiad a gwnaeth y pwyntiau a ganlyn: -
· Gofynnwyd sut y bydd llofnodi'r Cytundeb Adran 33 yn rheoli unrhyw risgiau posib i'r Cyngor yn sgil cyflwyno cyllideb gyfun. Ymatebodd y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion na fydd y cyllid a roddir gan yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd yn cynyddu ac mae’r Cytundeb Adran 33 yn nodi na all y naill sefydliad na’r llall dynnu ymrwymiad ariannol yn ôl yn ystod cyfnod Cam 1 y cytundeb; · Gofynnwyd a oes cynllun tebyg wedi ei gynnal yn unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru neu Loegr ac a ellir dysgu gwersi o gynlluniau o'r fath. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth - Anabledd Dysgu ac Iechyd Meddwl bod ymweliad wedi'i drefnu i Fanceinion i wrando ar eu bwrdd partneriaeth pan ystyriwyd dechrau trafodaeth am gyllidebau cyfun. Nododd fod y bartneriaeth menter cyllideb gyfun yn ardaloedd Manceinion yn un sylweddol, gyda 10 awdurdod lleol, y bwrdd iechyd a’r CCG sy'n comisiynu'r awdurdod iechyd yn Lloegr oll ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cytundeb Llywodraethu 2 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru PDF 8 MB Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr. Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd groeso i Ms Alwen Williams a Mr Hedd Vaughan Evans - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (y Bwrdd) i'r cyfarfod.
Cyflwynwyd - adroddiad gan yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr.
Dywedodd yr Arweinydd fod y Bwrdd wedi ymrwymo i gyflawni'r Cytundeb Bargen Derfynol gyda Llywodraethau'r DU a Chymru cyn diwedd mis Rhagfyr 2020. Nododd yr ystyrir bod y Bwrdd bellach wedi cyrraedd carreg filltir a bod cynllun clir i'r prosiectau sydd wedi'u cynnwys yn y Fargen Twf.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Bwrdd wedi mabwysiadu Gweledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru yn 2016. Yn seiliedig ar y Strategaeth Gweledigaeth Twf, paratowyd a chytunwyd ar Fargen Twf ym mis Hydref 2018 gan yr holl bartneriaid, gan weithio gyda Llywodraeth y DU a Chymru a'r sector preifat. Ym mis Tachwedd 2019 cytunodd y Bwrdd a Llywodraethau'r DU a Chymru ar y Penawdau Telerau, gyda Chytundeb Bargen Derfynol i'w gwblhau yn 2020. Mynegodd ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn rhan o'r Bwrdd a bod strwythur llywodraethu cryf a gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn hanfodol ar gyfer cyrraedd y garreg filltir o fod yn barod i arwyddo'r Cytundeb Terfynol.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y Cais Twf yn cynnwys nifer o ymyriadau datblygu economaidd strategol ac y gall gweithio mewn partneriaeth ar draws y rhanbarth ddenu'r buddsoddiad hwn; heb y Bwrdd Uchelgais a'r Cais Twf ni fyddai'r adnoddau yn cyrraedd Gogledd Cymru. Mae'r Cais Twf yn cynnig lefel o weithgaredd a buddsoddiadau gan y sector cyhoeddus i gefnogi'r economi na welwyd ers y cyfnod llymder. Mae'r adroddiad ar y Cynllun Busnes yn cydymffurfio'n llawn â disgwyliadau a gofynion Llywodraethau'r DU a Chymru ac mae'n cynnwys mewnbwn gan y sectorau preifat a chyhoeddus. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr ymhellach y bydd y Cais Twf yn cynorthwyo'r sectorau gwerth uchel i ffynnu ac yn mynd i'r afael â rhwystrau strwythurol, hirdymor i dwf economaidd. Fodd bynnag, mae'r Bwrdd yn gwbl ymwybodol y bydd angen cymryd ystod o gamau yn y tymor byr i hwyluso adferiad a bod aliniad rhwng y mesurau tymor byr hynny a'r Fargen Twf yn allweddol. Rhagwelir y bydd y Cais Twf yn denu 4,000 o gyfleoedd cyflogaeth newydd ac yn cynhyrchu rhwng £2 biliwn a £2.4 biliwn GVA y flwyddyn ac yn denu buddsoddiadau posib o dros £1biliwn.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr ymhellach fod y budd uniongyrchol a ragwelir ar gyfer Ynys Môn fel a ganlyn: -
|
|
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r cyfarfod i Ms Bethan Jones Edwards - Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol (Cyngor Sir Ddinbych).
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dywedodd yr Arweinydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod raid i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol gynhyrchu a chyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar ei waith yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a bod raid ei gyflwyno hefyd i Lywodraeth Cymru. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithio â'u partneriaid perthnasol ac eraill, mewn perthynas ag oedolion sydd angen gofal a chymorth, ynghyd â gofalwyr a phlant. Mae'n gosod dyletswydd ar bartneriaid perthnasol i gydweithio â'r awdurdodau lleol, a darparu gwybodaeth iddynt, at ddibenion eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
Rhoddodd y Pwyllgor sylw i'r adroddiad a gwnaeth y pwyntiau a ganlyn: -
· Gofynnwyd i ba raddau y mae'r trefniant cyllideb gyfun yn ddigon cadarn ar gyfer darparu Cartrefi Gofal ledled y rhanbarth, ac a yw'n cael ei reoli'n effeithiol. Ymatebodd y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol fod Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi bod cyllideb gyfun yn ofynnol o ran Cartrefi Gofal. Nodwyd bod trefniant trafodaethol wedi ei roi ar waith ledled y rhanbarth ar gyfer cyllidebau cyfun ac wedi'i lofnodi gan y sefydliadau partneriaeth. Amlygodd yr Arweinydd fod risg sylweddol fel rhan o'r gyllideb gyfun ranbarthol mewn perthynas â'r mater hwn ond mae mesurau wedi'u rhoi ar waith, yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran cyllidebau cyfun ac maent yn diogelu'r Awdurdod a'r rhanbarth yn ei gyfanrwydd; · Gofynnwyd i ba raddau y mae gwaith y bartneriaeth yn cyfrannu'n llwyddiannus at gyflawni egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar yr Ynys. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol at 4 prosiect ar Ynys Môn sydd wedi gweld cynnydd sylweddol h.y. Teuluoedd Gwydn (oherwydd y pandemig rhoddwyd arian i gymunedau lleol i ddarparu gweithgareddau i blant a theuluoedd); Prosiectau Timau Adnoddau Cymunedol (Gwasanaethau Oedolion’) - sefydlwyd cynllun fesul cam o fewn y cymunedau lleol i gydlynu’r gwasanaethau sy'n cynorthjwyo unigolion, ac yn enwedig pan fydd pobl yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty; Anableddau Dysgu (mae gwaith mapio wedi'i wneud ar yr Ynys mewn perthynas â chyfleusterau gofal dydd ar gyfer anableddau dysgu); Iechyd Meddwl (cynhelir trafodaethau ar hyn o bryd gyda sefydliadau partner ynghylch y cyllid 'I Can' a sut y gellir ei roi ar waith yn ehangach i gefnogi materion iechyd meddwl yn yr Ynys); · Holwyd sut y mae aelodaeth y Bwrdd wedi newid ers cyflwyno'r Canllawiau Statudol Rhan 9 diwygiedig ym mis Ionawr 2019, a beth fu'r gwerth ychwanegol yn sgil hynny'n rhanbarthol ac yn lleol. Ymatebodd y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol y daeth y canllawiau i rym ym mis Ionawr 2019 yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y canllawiau drafft a bod aelodaeth ychwanegol ar y Bwrdd wedi cynnwys cynrychiolwyr o blith Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a chynrychiolwyr Gwasanaethau Tai a Gwasanaethau Addysg awdurdodau lleol. Nododd fod trafodaethau yn digwydd i ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - craffu ar y trefniadau llywodraethu PDF 468 KB Cyflwyno adroddiad gan Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwnedd ac Ynys Môn. Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mr Emyr Williams, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn a Ms Nonn Hughes, Rheolwr Rhaglen.
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn.
Dywedodd yr Arweinydd fod yr Awdurdod wedi ymrwymo i'r egwyddorion yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r Cyngor yn darparu ystod o wasanaethau a fydd yn cyflawni ei amcanion llesiant unigol, yn ogystal â chyfrannu at gefnogi amcanion llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Adroddodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn ar drefniadau llywodraethu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Nodwyd bod gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus bedwar aelod statudol fel y nodwyd yn y Cylch Gorchwyl sef - Yr Awdurdodau Lleol, Adnoddau Iechyd Cymru a'r Gwasanaeth Tân ynghyd â chyfranogwyr gwadd sy'n cyfrannu at ddyletswyddau'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd wedi sefydlu Is-grwpiau i'w helpu i gyflawni ei waith. Cafodd diweddariad ar waith yr Is-grwpiau ei gynnwys yn yr adroddiad. Mae'r pedwar Is-grŵp yn atebol i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas ag unrhyw waith a gomisiynir. Mae'r Is-grwpiau'n diweddaru'r Bwrdd ar gynnydd bob chwarter, ac yn ystod cyfarfodydd y Bwrdd mae'r adroddiadau diweddaru yn cael eu herio a'u trafod yn fanwl. Dywedodd ymhellach, oherwydd y pandemig Covid-19, fod y Grŵp Cydlynu rhanbarthol wedi cytuno ar feysydd y mae angen canolbwyntio arnynt er mwyn sicrhau adferiad ein cymunedau o'r pandemig. Cynhaliwyd gweithdy ym mis Medi i drafod rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth adfer o'r pandemig, gan ganolbwyntio'n benodol ar wytnwch cymunedol. Yn dilyn y gweithdy cytunwyd mai blaenoriaethau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth symud ymlaen fydd parhau â gwaith craidd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus oherwydd bod amcanion a blaenoriaethau'r Cynllun Llesiant yn parhau i fod yn gyfredol. Bydd cyfle i adolygu ffrydiau gwaith yr is-grwpiau presennol trwy gymryd canfyddiadau'r gweithdy i ystyriaeth. Dros y misoedd nesaf bydd yr holl is-grwpiau'n rhoi ystyriaeth ddyledus i addasu eu rhaglenni gwaith a'u cerrig milltir. Cytunwyd hefyd i gynnal ymchwil bellach mewn rhai meysydd, i ddarganfod y sefyllfa ddiweddaraf o ran materion fel tlodi ariannol a diweithdra.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ei sefydlu yn unol â'r Ddeddf Llesiant ond na roddwyd unrhyw adnoddau ariannol ar ei gyfer ac mae wedi bod yn anodd cyflawni. Pwysleisiwyd hefyd fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gadarn ei farn ei fod eisiau osgoi dyblygu, gan mai pwrpas y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw ychwanegu gwerth at gynlluniau cyfredol.
Rhoddodd y Pwyllgor sylw i'r adroddiad a gwnaeth y pwyntiau a ganlyn: -
· Gofynnwyd i ba raddau y mae'r prosesau adrodd a monitro ynghylch gwaith yr is-grwpiau yn ddigon strwythuredig a chadarn, ac yn sicrhau atebolrwydd yr is-grwpiau ac yn eu dal yn atebol o ran gweithredu'r rhaglenni gwaith. Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen fod yr is-grwpiau'n diweddaru'r Bwrdd ar gynnydd bob chwarter, ac yn ystod cyfarfodydd y Bwrdd mae'r adroddiadau diweddaru yn cael eu herio a'u trafod yn fanwl. Mae arweinwyr is-grwpiau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn aelodau o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a'u ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Rhaglen Waith 2020/21 PDF 418 KB Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Sgriwtini.
PENDERFYNWYD nodi’r Flaenraglen Waith am y cyfnod Medi 2020 hyd at ebrill Ebrill 2021.
|