Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel a nodir uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 323 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 21 Medi, 2020.

Cofnodion:

 

Cadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a gynhaliwyd ar 21 Medi 2020.

 

4.

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol: Adroddiad Blynyddol 2019/20 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd a Môn

 

 

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai – adroddiad gan yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd ar weithgareddau’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn ystod 2019/20.

 

Adroddodd Arweinydd y Cyngor fod y Bartneriaeth yn bartneriaeth statudol rhwng Ynys Môn a  Gwynedd. Atgoffodd y Pwyllgor am y toriadau ariannol y mae’r Bartneriaeth wedi eu hwynebu. Dywedodd fod y strwythurau diogelwch cymunedol yn cael eu gosod yn rhanbarthol erbyn hyn, ac yr ymdrechir i sicrhau nad oes unrhyw ddyblygu. Cynhaliwyd gweithdai gyda swyddogion tai i roi sylw i’r mater hwn ac i symud ymlaen o fewn y Bartneriaeth.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod partneriaeth statudol wedi bodoli rhwng Ynys Môn a Gwynedd am 22 mlynedd. Mae ymrwymiad ac ymgysylltiad y Bartneriaeth yn amlwg o’r presenoldeb llawn mewn cyfarfodydd. Dywedodd fod y gwaith yn parhau i ddatblygu er bod y Bartneriaeth wedi colli nifer o grantiau a swyddi cydlynwyr lleol.

 

Mae’r Bartneriaeth yn gweithio tuag at y blaenoriaethau a ganlyn:-

 

·         Lleihau troseddau a chanddynt ddioddefwyr;

·         Lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol;

·         Cefnogi pobl fregus i’w hatal rhag dod yn ddioddefwyr trosedd;

·         Codi hyder i adrodd am ddigwyddiadau o gam-drin domestig;

·         Codi hyder i adrodd am gam-drin rhywiol;

·         Mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal;

·         Lleihau aildroseddu.

 

Nodwyd fod y Swyddfa Gartref yn cymharu troseddau ac yn eu mesur yn ôl ardaloedd demograffig, a chyflwynir y canlyniadau i’r Bartneriaeth bob chwarter. Yn ystod y cyfnod clo, cyflwynwyd ffigyrau i’r Bartneriaeth bob 2-3 wythnos i sicrhau fod gwybodaeth gyfredol ar gael.  

 

Nodwyd hefyd fod gostyngiad o 29% yn nifer y troseddau y rhoddwyd gwybod i’r Heddlu amdanynt yng Ngogledd Cymru, a gostyngiad o 24.6% yn Ynys Môn a Gwynedd rhwng mis Mawrth a mis Mai eleni. Gwelwyd cynnydd yn nifer y troseddau y rhoddwyd gwybod amdanynt ym mis Mehefin a Gorffennaf ac erbyn mis Medi roedd nifer y troseddau a gyflawnwyd yn debyg i’r niferoedd a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Cofnodwyd cynnydd mewn troseddau stelcian ac aflonyddu a throseddau casineb, gyda’r olaf yn arwain at gam-drin geiriol.  

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Bartneriaeth yn edrych ar baratoi ymgyrch codi ymwybyddiaeth ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Dywedodd mai’r brif her a wynebwn heddiw yw newidiadau yn y math o droseddau a welir yn ein cymunedau. Erbyn hyn mae troseddu yn llawer mwy pellgyrhaeddol a chymhleth ac mae technoleg yn caniatáu troseddau ymelwa. Gwelwyd cynnydd yn nifer yr achosion o gam-drin domestig a chafwyd dwy lofruddiaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.          

 

Tynnwyd sylw at y ffaith y rhoddwyd blaenoriaeth i ddinasyddion digartref yn ystod y cyfnod clo ac o’r herwydd bu cynnydd yn nifer y cyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng yr Adran Dai a’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol:-

 

·        Gofynnwyd sut mae’r Bartneriaeth Statudol yn cefnogi ac yn cyfrannu at effeithiolrwydd y Bartneriaeth? Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod ymrwymiad y Bartneriaeth yn gadarn a bod cydweithio ardderchog yn digwydd o fewn y Bartneriaeth. Mae hyn yn amlwg o’r ceisiadau ariannol a gyflwynwyd gan y Cyngor yn ddiweddar, yn ogystal  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Cynnydd Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion pdf eicon PDF 446 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar y cynnydd a wnaed hyd yma mewn perthynas â gwaith y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion.

 

Adroddodd y Cadeirydd fod eleni wedi bod yn gyfnod heriol iawn i’r ysgolion, gan y bu’n rhaid iddynt newid eu ffordd o weithio ac addasu i fod yn Ganolfannau Gofal ar gyfer plant bregus. Pwysleisiwyd nad oedd yr un ysgol wedi cau yn ystod y cyfnod clo, a bod y Gwasanaeth Dysgu, Prifathrawon ysgolion Ynys Môn a’r Fforymau Penaethiaid Ysgolion Cynradd ac Uwchradd wedi cyflawni canlyniadau llwyddiannus rhyngddynt.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod gwaith y Panel o fonitro safonau mewn ysgolion unigol a chynnal cyfarfodydd wedi cael ei ohirio yn ystod y cyfnod clo. Nodwyd fod cyfarfodydd y Panel wedi ailddechrau ar 24 Medi 2020.

 

Adroddodd y Cadeirydd ei bod yn amlwg y bu cydweithio rhwng y Gwasanaeth Dysgu, GwE ac ysgolion yn llwyddiannus. Cyfeiriodd at gyflwyniad ardderchog gan Ysgol Gynradd y Fali ar Teams a gafodd dderbyniad da. Defnyddiodd Ysgol Gynradd y Fali dechnoleg Teams i gynnal sesiynau wyneb yn wyneb yn ystod y cyfnod clo, mewn ymgais i ganfod unrhyw bryderon posib neu faterion diogelu, ac fel dull o gadw mewn cysylltiad â disgyblion yn rheolaidd ac i gefnogi eu llesiant yn ystod y cyfnod heriol hwn. Derbyniwyd adborth cadarnhaol gan rieni ac athrawon, ac roedd y sesiynau’n cynnig cyfle i gymdeithasu. Ychwanegwyd y gwelwyd dirywiad cyffredinol mewn sgiliau iaith a rhifedd ers y cyfnod clo, a allai gael effaith ar y plant yn y dyfodol.  

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc at y cydweithio llwyddiannus hwn fel ‘Tîm Môn’, lle mae’r holl grwpiau perthnasol yn tynnu gyda’i gilydd ac yn rhannu arfer da er mwyn darparu addysg o’r safonau orau bosib i’r disgyblion.

 

Mewn ymateb i un o gwestiynau allweddol y panel ar feysydd i graffu arnynt, gofynnodd aelod o’r Pwyllgor sut mae’r fformiwla ariannu ysgolion uwchradd yn cael ei bennu? Dywedodd y Prif Weithredwr fod agweddau allweddol yn penderfynu ar y fformiwla i bob ysgol e.e. mae ysgol yn derbyn oddeutu £3,500 y disgybl yng Nghyfnod Allweddol 3 ac mae’r swm yn cynyddu yng Nghyfnod Allweddol 4. Daw arian ar gyfer y chweched dosbarth gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd fod arian ychwanegol ar gael ar gyfer plant sydd ag anghenion ychwanegol.

           

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod pob ysgol yn derbyn copi o’r fformiwla bob blwyddyn. Dywedodd fod rhaid i’r fformiwla fod yn deg i bob ysgol, er bod rhai Penaethiaid yn dadlau efallai nad yw elfennau o’r fformiwla’n deg i’w hysgolion unigol, os nad yw’r arian yn cwrdd â’u disgwyliadau. Nodwyd nad y fformiwla yw’r broblem ond cyfanswm yr arian sydd ar gael. Yn Ynys Môn, mae’r fformiwla’n rhannu’r arian sydd ar gael rhwng y bum ysgol uwchradd.

           

Codwyd y pwyntiau a ganlyn gan aelodau yn ystod y drafodaeth:-

 

·        Mae Penaethiaid wedi canmol y gefnogaeth a roddwyd i ysgolion gan y Panel yn ystod y pandemig Covid-19.  

·        Mae’r rhan fwyaf o athrawon yn gwneud gwaith ardderchog.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Casglu Gwastraff Gardd Gwyrdd - Methodoleg Codi Tâl a Chynllun Gweithredu pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ar gyflwyno gwasanaeth casglu Gwastraff Gardd Gwyrdd y codir tâl amdano o 1 Ebrill 2021.

 

Gofynnodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo i’r Pwyllgor ystyried yr opsiynau a gyflwynwyd a’r sylwadau ar y bwriad i godi tâl o £35 y flwyddyn am gasglu gwastraff gardd o’r bin olwynion cyntaf, a £30 y flwyddyn am gasglu o finiau olwynion ychwanegol. Dywedodd fod y cynnig yn cyd-fynd â Glasbrint Casglu Gwastraff Llywodraeth Cymru sy’n argymell y dylai awdurdodau lleol yng Nghymru godi tâl am gasglu gwastraff gwyrdd. Nodwyd fod pob Sir arall yng Ngogledd Cymru yn codi am y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd. Mae’r Cyngor wedi penderfynu na chodir tâl ar fynwentydd, mannau addoli na neuaddau pentref/cymunedol. Bydd modd talu am y gwasanaeth dros y ffôn neu ar-lein. Bydd y ffi yn cyfrannu at gost darparu’r gwasanaeth a darperir sticer/label cyfeiriad i roi ar bob bin sy’n dangos y flwyddyn gyfredol arno.

 

Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y Pwyllgor gwaith wedi cytuno ar yr egwyddor o godi tâl am y gwasanaeth bin gwyrdd ar 27 Ionawr 2020. Nodwyd na fydd pob cartref yn dymuno cofrestru ar gyfer y gwasanaeth, a bod y cynllun yn rhoi ystyriaeth i hynny. Mewn perthynas â threfniadau staffio, cyflogir dau aelod ychwanegol o staff i weinyddu’r taliadau.

 

Codwyd y materion a ganlyn gan Aelodau’r Pwyllgor:-

 

·         A yw unrhyw awdurdod arall yng Ngogledd Cymru wedi dod ar draws unrhyw effeithiau negyddol yn sgil codi tâl am gasglu gwastraff gardd ac a fu cynnydd mewn tipio anghyfreithlon ac achosion o bobl yn rhoi gwastraff gwyrdd mewn bagiau bin du oherwydd y taliadau? Dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff nad oes tystiolaeth fod tipio anghyfreithlon wedi cynyddu a bod pobl yn rhoi biniau du mewn biniau gwyrdd ar hyn o bryd. Dywedodd fod y sefyllfa’n anodd ei monitro heb wirio cynnwys pob bin unigol.

·         Gofynnwyd am linell ar wahân i wneud taliadau dros y ffôn ar gyfer y gwasanaeth fel bod modd gwneud y taliadau’n uniongyrchol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yr anogir y cyhoedd i dalu ar-lein, gan fod y dechnoleg i wneud hynny mewn lle a bod y system ar waith yn barod.

·         A fyddai modd seilio’r system dalu am gasglu biniau gwyrdd ar fandiau Treth Gyngor? Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mai’r un fyddai’r gost i’r Cyngor ni waeth a yw’r bin yn llawn neu’n hanner llawn. Pe seiliwyd y taliadau ar fandiau Treth Gyngor, byddai angen system ar-lein i wirio band pob eiddo ac nid yw’r dechnoleg hon ar gael yn y Cyngor.

·         A fyddai’n bosib talu’n fisol am y gwasanaeth drwy ddebyd uniongyrchol er mwyn rhoi llai o faich ariannol ar deuluoedd? Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y byddai hynny’n creu cymhlethdodau gan y gallai’r cyhoedd ddechrau talu am y gwasanaeth ac yna benderfynu peidio parhau i dalu, er y byddent wedi derbyn sticer i’w roi ar y bin yn barod. Byddai’n rhaid i staff  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2020/21 pdf eicon PDF 1004 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

 

PENDERFYNWYD nodi Blaen Raglen Waith y Pwyllgor (Medi 2020 – Ebrill 2021).