Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol wedi'i Ffrydio'n Fyw (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 223 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 18 Ionawr, 2022.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 18fed o Ionawr 2022 fel cofnod cywir.

4.

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb- 2020/21 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2020/21 i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol yn dangos ymrwymiad y Cyngor i sicrhau fod cydraddoldeb yn rhan o brif ffrwd waith yr Awdurdod. Mae hyn yn cynnwys amlinelliad o gynnydd yn erbyn gwaith sy’n ymwneud â blaenoriaeth y Cyngor i sefydlu proses gorfforaethol effeithiol i sicrhau asesiad parhaus o effaith ar draws gwasanaethau.

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus sy’n dod o dan Reoliadau Dyletswyddau Statudol Deddf Cydraddoldeb 2010 (Cymru) 2011 gyhoeddi adroddiad cydraddoldeb blynyddol erbyn 31 Mawrth y flwyddyn ar ôl pob cyfnod adrodd. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddyletswyddau penodol i gynorthwyo cyrff cyhoeddus yng Nghymru i gyflawni’r ddyletswydd gyffredinol hon. Mae'r dyletswyddau penodol hyn yn cynnwys gofyniad i ddatblygu a chyhoeddi amcanion cydraddoldeb a Chynlluniau Cydraddoldeb Strategol o leiaf unwaith bob pedair blynedd. Pwrpas yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol yw dangos sut mae'r Cyngor wedi cyflawni'r dyletswyddau cydraddoldeb cyffredinol a phenodol. Dywedodd ymhellach fod y data cyflogaeth yn yr adroddiad yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill, 2020 a 31 Mawrth, 2021.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y prif bwyntiau a ganlyn: -

 

·      Gofynnwyd a oes modd addasu'r Adroddiad Blynyddol i fod yn hygyrch a'i ysgrifennu mewn ffordd sy'n haws ei ddeall. Ymatebodd y Rheolwr Polisi a'r Gymraeg y gellir addasu'r ddogfennaeth ond bod angen cynnwys y data a'r wybodaeth benodol. Fodd bynnag, pwysleisiodd fod angen mynd i'r afael â'r prif negeseuon mewn perthynas â chydraddoldeb ac y bydd ystyriaeth yn cael ei roi i sut i gyflwyno'r wybodaeth o fewn yr adroddiad er mwyn rhoi sylw i fyfyrio priodol o fewn y fframwaith a osodwyd;

·      Cyfeiriwyd at y graffiau gwybodaeth cyflogaeth yn yr adroddiad a mynegwyd pryderon y gallai unigolion wrthwynebu cael eu labelu gan nodwedd warchodedig. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor er ei bod yn derbyn y sylwadau a wnaed, bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl y data;

·      Holwyd pa gamau sydd wedi eu rhoi ar waith i sicrhau nad yw plant a phobl fregus yn profi anghydraddoldeb o ganlyniad i'r pandemig. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fel y gwelir o fewn yr adroddiad ynglŷn â’r modd y mae’r Adran Addysg wedi ymateb yn ystod y pandemig gyda Chromebooks yn cael eu rhoi i’r plant a mynediad i’r rhyngrwyd wedi ei ddiogelu er mwyn i’r plant allu derbyn addysg gartref. Dywedodd ymhellach fod y Gwasanaeth Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gweithio i adnabod plant bregus gyda chynlluniau ar y cyd a Swyddogion Lles yn cydweithio i gwrdd â’u hanghenion. Pob ysgol wedi derbyn grant ‘Carlam Cymru’ er mwyn hwyluso’r ysgolion i fynd i’r afael â’r heriau yn eu hysgolion;

·      Gofynnwyd a yw'r Cyngor wedi cyflawni'r amcanion cydraddoldeb. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod yr Awdurdod wedi cyflawni ei nodau cydraddoldeb fel oedd yn bosibl, tra bod y pandemig wedi bod yn heriol gyda phobl yn gorfod hunan-ynysu ac yn methu â chymdeithasu. Mae'r amcan cydraddoldeb yn rhan annatod o  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Asesiad Anghenion y Boblogaeth: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 pdf eicon PDF 779 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – cyflwyniad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod trosolwg o Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022 yn cael ei gynhyrchu fel un o ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Dywedodd yr ymgynghorwyd â sefydliadau partner a defnyddwyr gwasanaeth i nodi anghenion strategol ar gyfer gofal a chymorth.

 

Adroddodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod yr adroddiad asesiad anghenion y boblogaeth wedi’i lywio gan ymgysylltiad fel sydd wedi ei nodi gan Arweinydd y Cyngor. Mae’r adroddiad yn darparu sylfaen dystiolaeth i gefnogi sefydliadau a gwasanaethau ar draws y rhanbarth, yn benodol mae i’w ddefnyddio ar gyfer cylchoedd cynllunio strategol sy’n sail i integreiddio gwasanaethau a chefnogi trefniadau partneriaeth. Bydd cam nesaf y prosiect yn cynnwys defnyddio'r asesiad poblogaeth i ddatblygu Cynllun Ardal ar gyfer y rhanbarth. Gall gwaith ar y cynllun ardal yn y dyfodol gynnwys ymchwil ac ymgynghori pellach i archwilio meysydd blaenoriaeth yn fanylach cyn cytuno pa feysydd i'w blaenoriaethu ar gyfer gwaith rhanbarthol. Mae’r Cynllun Ardal i’w ddatblygu a’i gyhoeddi yn 2023.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y prif bwyntiau canlynol :-

 

·           Holwyd a oedd anghenion Ynys Môn wedi cael sylw o fewn yr asesiad yn benodol o ran y Gymraeg. Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion at yr atodiad ynghlwm i’r adroddiad sy’n cyfeirio at Ynys Môn a’r broses ymgynghori sydd wedi’i chynnal yn ystod cyfnod anodd y pandemig. Nododd fod yr asesiad yn gosod fframwaith o'r cyfeiriad y gall yr Awdurdod ei gymryd ac i rannu arbenigedd gyda sefydliadau eraill. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr asesiad yn rhoi cyfle i'r Awdurdod hwn ddylanwadu ar anghenion y Gymraeg i sefydliadau partner eraill ar draws y rhanbarth lle nad yw'r Gymraeg o bosibl mor gryf ag ydyw ar Ynys Môn;

·           Cyfeiriodd y Cadeirydd at rieni plant awtistig sy’n gorfod aros dros ddwy flynedd i'w plant gael eu hasesu. Dywedodd fod angen mynd i'r afael â'r mater hwn gyda'r asiantaethau perthnasol i wella'r gwasanaeth. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod cyllid rhanbarthol wedi'i ddefnyddio i greu gwasanaeth awtistig rhanbarthol. Nododd fod y Bwrdd Iechyd wedi bod yn cael anawsterau recriwtio i'r gwasanaeth pwysig hwn a'i fod hefyd yn cymryd amser i hyfforddi a datblygu'r gweithlu. Sicrhaodd yr Arweinydd y Pwyllgor fod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'r Bwrdd Iechyd i drafod y capiau a'r gwendidau yn y gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD cefnogi’r Adroddiad ar Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022. 

 

GWEITHRED : Fel y nodwyd uchod.

 

6.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus: craffu cynnydd ar wireddu'r Cynllun Llesiant / Asesiad Llesiant Drafft Ynys M?n pdf eicon PDF 262 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod. 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr adroddiad yn amlygu’r cynnydd ar gwblhau’r Cynllun Llesiant, yr Asesiadau Llesiant a diweddariad ar waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn. Roedd yn dymuno croesawu Mrs Sandra Thomas, Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn i annerch y Pwyllgor.

 

Adroddodd y Rheolwr Rhaglen y bydd yr Asesiadau yn tynnu ynghyd ystod o wybodaeth am gymunedau Ynys Môn a Gwynedd. Ymgymerwyd ag ymchwil, data ac ymgysylltu â thrigolion lleol i ganfod beth yw gofynion cymunedau lleol a pha agweddau sydd angen eu gwella. Mae hefyd yn gyfle i ystyried yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu cymunedau. Dywedodd ymhellach fod yr amserlen ar gyfer cwblhau’r Asesiadau Llesiant wedi’i nodi yn Nhabl 1 o’r adroddiad ac y cynhelir cyfnod ymgynghori 12 wythnos tan 15 Mawrth, 2022.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y prif bwyntiau canlynol:-

 

·           Codwyd cwestiynau, yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus, o ran beth fydd y broses a'r amserlen ar gyfer cwblhau’r asesiad llesiant terfynol ar gyfer y Sir. Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen y bydd yr Asesiadau Llesiant yn cael eu cyhoeddi erbyn diwedd Mai 2022 ac y gwneir addasiadau pan ddaw gwybodaeth ychwanegol i law. Wedi hynny, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini i'w ystyried cyn ei gynnwys yn y Cynllun Llesiant yn 2023;

·           Gofynnwyd i ba raddau y mae'r wybodaeth a gasglwyd hyd yma am y 6 ardal yn adlewyrchiad teg o gyflwr llesiant Ynys Môn. Cyfeiriwyd at Gynghrair Seiriol a'r gwaith a wnaed yn yr ardal dros y ddwy flynedd diwethaf. Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen bod angen gwella'r data ar draws y Cymunedau; gobeithir hefyd fewnbynnu’r data o ran y gwaith a wnaed yn y cymunedau lleol yn ystod y pandemig i’r Cynllun Llesiant;

·           Codwyd cwestiynau ynglŷn â chynnydd y rhaglen ‘siapio lle’ o fewn cymunedau lleol. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod y ‘rhaglen siapio lle’ yn ddibynnol ar yr ymrwymiad a bydd anghenion cymunedau lleol yn wahanol ym mhob ardal. Nododd fod egwyddor ‘siapio lle’ wedi gweithio’n dda gyda Medrwn Môn ac yn enwedig dros ddwy flynedd ddiwethaf y pandemig. Dywedodd y Prif Weithredwr fod nifer o ardaloedd wedi sefydlu’r cynllun ‘Tro Da’ yn ystod y pandemig. Bydd y Rheolwr Gweithredol o fewn Adran y Prif Weithredwr yn arwain ar y rhaglen ‘siapio lle’. Mynegodd yr aelodau bod angen adolygu ardaloedd wardiau'r cymunedau ac yn enwedig yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod angen dysgu gwersi ynglŷn â sut mae’r pandemig wedi effeithio ar y cymunedau lleol ac mae angen gwneud y data a’r mapio, yn y lle cyntaf, er mwyn caniatáu i’r gwirfoddolwyr o fewn y cymunedau ddod ynghyd ac i adnabod y blaenoriaethau fydd yn siapio'r rhaglen waith. Dywedodd ymhellach fod cael canolbwynt/canolfannau cymunedol sefydledig mewn trefi a chymunedau yn fanteisiol i wirfoddolwyr allu cefnogi eu cymunedau lleol.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Derbyn yr amserlen arfaethedig ar gyfer creu'r Cynllun Llesiant newydd sydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol: 2020/21 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod gan y Cyngor ddyletswyddau ar gyfer cynllunio ac ymateb i argyfyngau o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, Rheoliadau Ymbelydredd (Parodrwydd Argyfwng a Gwybodaeth Gyhoeddus) 2001, a Rheoliadau Diogelwch Piblinellau 1996. Mae'r Cyngor yn brif ymatebwr ac yn cwrdd â’i ddyletswyddau drwy gydweithio ag Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru drwy Wasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Cyngor Gogledd Cymru.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr mai Gogledd Cymru yw’r rhanbarth cyntaf yng Nghymru i ffurfio gwasanaeth cwbl integredig i gefnogi’r holl Gynghorau i gyflawni eu dyletswyddau. Fe'i cefnogir gan Fwrdd Gweithredol o bob un o'r chwe Chyngor. Ategir hyn gan Gytundeb Lefel Gwasanaeth a Chytundeb Rhwng Awdurdodau. O fewn y Cyngor, rhennir cyfrifoldebau ar gyfer cynllunio ac ymateb i argyfyngau ar draws gwasanaethau a chaiff cynrychiolwyr gwasanaeth enwebedig eu nodi o fewn strwythur y Tîm Rheoli Ymateb i Argyfwng. Dywedodd ymhellach fod gweithio mewn partneriaeth â’r gwasanaethau brys, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn hanfodol i fynd i’r afael ag unrhyw argyfwng sy’n codi. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr mai’r gobaith yw y bydd mesurau brys yn ymwneud â’r pandemig yn lleddfu a’i bod yn amserol i’r Gwasanaethau Cynllunio at Argyfwng adolygu’r gweithdrefnau a dysgu a gwella unrhyw weithdrefnau brys yn y dyfodol yn dilyn y pandemig.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol – Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Cyngor Gogledd Cymru fod y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol yn gallu cydymffurfio â’i ddyletswyddau statudol yn ystod y pandemig. Roedd y Gwasanaeth yn cefnogi awdurdodau lleol a’r gwasanaethau iechyd i nodi canolfannau brechu, mynychu grŵp gwytnwch lleol a grwpiau cydgysylltu strategol ar ran yr awdurdodau lleol. Parhaodd gwaith aml-asiantaeth a rhoddwyd cynllun profi ymchwydd ar waith oherwydd y lefelau uchel o covid a nodwyd mewn rhai ardaloedd.

 

Dywedodd y Swyddog Rhanbarthol Cynllunio Argyfwng fod y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol wedi gweithio ar y cyd gyda'r awdurdod lleol ac asiantaethau eraill yn ystod y stormydd diweddar. Mae’r Gwasanaeth hefyd wedi cefnogi’r awdurdodau lleol gyda’r streic bysiau a’r argyfwng tanwydd llynedd.

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod:-

 

·      Gofynnodd y Cadeirydd a oedd gan gwmnïau ar yr Ynys eu gweithdrefnau argyfwng eu hunain yn yr un modd ag yng Ngorsaf Ynni Niwclear Wylfa pan gynhaliwyd ymarferion brys. Ymatebodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y cwmnïau ar yr Ynys yn ymwybodol o'u dyletswydd statudol a'u bod yn cynnal ymarferion brys a gweithdrefnau hyfforddi. Mae’r sefydliadau a fyddai’n ymateb i unrhyw ddigwyddiad yn rhan o’r ymarferion hyn ac i wneud yn siŵr bod y broses ymateb mor gadarn â phosibl. Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol fod y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng yn rhan o'r ymarfer brys gyda sefydliadau brys eraill. Mae hyn yn caniatáu i'r asiantaethau ar y cyd adeiladu perthynas waith dda â'i gilydd i fynd i'r afael ag unrhyw argyfwng a all godi;

·      Nodwyd bod y stormydd diweddar wedi effeithio ar lawer o ardaloedd yn y DU gan arwain at golli trydan am nifer o ddyddiau.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Eitem er gwybodaeth pdf eicon PDF 1 MB

Adroddiad Cynnydd Chwarter 3: 2021/22 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Cofnodion:

Roedd yr eitem ganlynol er gwybodaeth yn unig:-

 

Adroddiad Cynnydd Chwarter 3: 2021/22 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru