Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Cyflwynwyd a nodwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Euryn Morris ddiddordeb personol ond nid un oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 7 ar y rhaglen fel y pwynt cyswllt ar gyfer darpariaeth TGCh Cyngor Gwynedd i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd fel a ganlyn:-
· Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 8 Mawrth, 2022. · Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 31 Mai, 2022 (Ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Partneriaeth ac Adfywio a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol – 8 Mawrth, 2022 31 Mai, 2022 Penderfynwyd- · Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, 2022 · Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a gynhaliwyd ar 31 Mai, 2022.
|
|
Adroddiad Blynyddol ar Safonau'r Gymraeg 2021/22 PDF 955 KB Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr. Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg er ystyriaeth a sylwadau’r Pwyllgor cyn iddo gael ei gyflwyno i’w gymeradwyo’n gan yr Aelod Portffolio i’w gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn gwerthuso cydymffurfiaeth y Cyngor â Safonau’r Gymraeg yn 2021/22 ac yn dogfennu’r ffyrdd y mae’r Cyngor wedi hyrwyddo a hwyluso cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn gan sicrhau nad yw’r iaith yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Wrth gyflwyno’r adroddiad yn absenoldeb yr Aelod Portffolio, dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor, er gwaethaf yr angen parhaus i ymateb i heriau’r pandemig Covid-19 a oedd yn gorfodi’r Awdurdod i addasu ei arferion gwaith arferol i ymateb yn gyflym i’r heriau eithriadol, ni chafodd safon uchel ei gwasanaethau Cymraeg ei heffeithio diolch i raddau helaeth i swyddogion yr Awdurdod. Siaradodd am ddatblygiad parhaus sgiliau iaith Gymraeg gweithlu’r Cyngor gyda dros 90% o swyddogion yn gallu defnyddio’r Gymraeg a chyfeiriodd hefyd at ddatblygiad a defnydd technoleg i hybu a hwyluso defnydd o’r iaith ar adeg pan fo cyfleoedd i ddosbarthu deunyddiau hyrwyddo yn brin. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, lansiwyd adran newydd o'r wefan yn ymwneud â'r Gymraeg yn ogystal â mabwysiadu enw parth newydd; mae'r meicrowefan hon yn dod â chyfoeth o wybodaeth ac adnoddau am yr iaith at ei gilydd. I gloi, roedd yn bleser gallu adrodd ar faes cyffrous o fusnes y Cyngor lle mae cynnydd yn cael ei yrru gan awydd diffuant i weld y Gymraeg a’i defnydd o fewn y Cyngor yn datblygu ac yn ffynnu.
Dywedodd y Prif Weithredwr er bod dyletswydd ar yr Awdurdod i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’r Awdurdod yn gwneud hynny oherwydd ei fod yn credu bod gwneud hynny'n bwysig ac oherwydd ei fod yn gweld dwyieithrwydd yn rhan annatod o'i waith. Mae hefyd yn bwysig bod y Cyngor yn adlewyrchu’r ffaith bod dros hanner poblogaeth yr Ynys yn siarad Cymraeg. Mae'r Cyngor yn croesawu dwyieithrwydd ac yn ymdrechu i ailadrodd hyn yn ei holl gyfathrebu ysgrifenedig a llafar gyda'r cyhoedd. Mae hefyd yn ystyried dwyieithrwydd yn gryfder arbennig ac yn agwedd ar gyflwyno gwasanaeth y mae'n ceisio ei datblygu. O ran llwyddiannau nodedig, cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y buddsoddiad y mae’r Cyngor wedi’i wneud dros y tair blynedd diwethaf mewn offer ffitrwydd dwyieithog yn ei ganolfannau hamdden a hefyd at rôl Fforwm yr Iaith Gymraeg wrth ddod â phartneriaid ynghyd mewn maes lle mae cydweithio yn hanfodol. Yr her wrth symud ymlaen yw parhau i adeiladu ar y corff hwn o waith cadarnhaol a chadw enw da’r Cyngor fel sefydliad cwbl ddwyieithog. Mae Tîm Arweinyddiaeth Strategol y Cyngor wedi ymrwymo i’r dasg hon ac i gwrdd â dewis iaith y bobl y mae’r Cyngor yn eu gwasanaethu yn ogystal â datblygu sgiliau a hyfedredd Cymraeg y sefydliad ymhellach.
Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad a'i fformat diwygiedig; wrth ystyried y trosolwg o ymdrechion y Cyngor yn ystod y flwyddyn o ran cydymffurfio â safonau’r Gymraeg a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd ynghylch y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Enwebu Aelodau Sgriwtini i Wasanaethu ar Baneli a Byrddau PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Cofnodion: Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a'r Rheolwr Sgriwtini yn gwahodd y Pwyllgor i enwebu cynrychiolwyr o blith ei aelodau i wasanaethu ar Banel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol/Panel Rhiantu Corfforaethol; Cyflwynwyd y Panel Sgriwtini Cyllid a'r Panel Sgriwtini Addysg i'w hystyried. Roedd yr adroddiad yn manylu ar gwmpas, swyddogaeth a chylch gwaith pob panel ac yn nodi eu trefniadau adrodd. Penderfynwyd enwebu’r aelodau canlynol i wasanaethu ar y Paneli fel y nodir isod – · Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol /Panel Rhiantu Corfforaethol (4 aelod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio) Cynghorywyr John I. Jones, Euryn Morris, Pip O’Neill a Jeff Evans (gyda Chynghorydd Trefor Ll. Hughes, MBE fel eilydd) · Panel Sgriwtini Cyllid (3 aelod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio) Cynghorwyr Paul Ellis, Dylan Rees a Ken Taylor
· Panel Sgriwtini Addysg (4 aelod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio) Cynghorwyr Non Dafydd, Gwilym O. Jones, Derek Owen a Margaret M. Roberts
|
|
Cyflwyno y Blaen Raglen Waith. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn nodi Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2022/23 i’w ystyried. Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini fod y Flaen Raglen Waith yn eitem sefydlog ar agenda cyfarfodydd y Pwyllgor a’i bod yn cael ei hadolygu ar y sail honno. Cyfeiriodd at gyfarfod arferol nesaf y Pwyllgor ym mis Medi a chadarnhaodd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod hwnnw.
Penderfynwyd –
· Cytuno ar fersiwn gyfredol y Blaen Raglen Waith ar gyfer 2022/23. · Nodi'r cynnydd hyd yma o ran gweithredu'r Blaen Raglen Waith.
|
|
Adroddiad Cynnydd Chwarter 4 : 2021/22 – Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru Cofnodion: Cyflwynwyd er gwybodaeth i’r Pwyllgor adroddiad y Prif Weithredwr yn cynnwys diweddariad Chwarter 4 2021/22 ar gynnydd rhaglenni a phrosiectau Bargen Twf Gogledd Cymru. Penderfynwyd nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod Chwarter 4, 2021/22.
|