Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel yr uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Dylan Rees ddiddordeb sy’n rhagfarnu yn Eitem 4, Ymgynghoriad Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (Adolygiad o Ddarpariaeth Brys) a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y mater.
Datganodd y Cynghorwyr Jeff Evans a John I. Jones ddiddordeb personol yn Eitem 4 – Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 21 Mehefin, 2023. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2023 yn gywir. |
|
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (Adolygiad Darpariaeth Brys) PDF 169 KB Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (Gan fod Cadeirydd y Pwyllgor wedi datgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon, roedd yr Is-gadeirydd yn y Gadair ar gyfer yr eitem). Etholwyd y Cynghorydd Ken Taylor yn Is-gadeirydd ar gyfer yr eitem hon yn unig).
Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd yr Is-gadeirydd yn y Gadair fod Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi rhoi cyflwyniad i Aelodau mewn Sesiwn Friffio ym mis Gorffennaf. Nododd fod y Prif Swyddog Tân wedi tynnu sylw at y cynigion a’r opsiynau yn y ddogfen ymgynghori mewn perthynas ag Adolygiad o Ddarpariaeth Brys. Nodwyd fod y Prif Swyddog Tân wedi darparu sylwadau ychwanegol yn dilyn cyhoeddi Rhaglen y cyfarfod hwn a bydd cyfle i’r Pwyllgor ymateb i’r sylwadau hynny.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr ymgynghoriad yn cyfeirio at Adolygiad o Ddarpariaeth Brys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a chyflwynwyd 3 Opsiwn i’w trafod ac ymgynghori arnynt, ynghyd â’r oblygiadau ariannol. Mae ymateb drafft ar ran y Cyngor ynghlwm i’r adroddiad. Dywedodd ei bod yn bwysig i’r Pwyllgor Sgriwtini gael cyfle i wneud sylwadau ar yr ymateb drafft. Ychwanegodd fod y mwyafrif o gyllid Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n cael ei dderbyn ar ffurf ardoll gan y chwe Awdurdod unedol yn yr ardal. Mae’r Cyngor yn cyfrannu at y gronfa gyfun hon, gyda’r cyfraniad yn seiliedig ar faint y boblogaeth. Byddai unrhyw newid yng nghyllideb Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n cael effaith ar yr ardoll a byddai’n creu pwysau ychwanegol ar gyllideb y Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Gweithredol (Tîm Arweinyddiaeth) fod y cyfnod ymgynghori ar gyfer ymateb i’r Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dod i ben ddiwedd mis Medi. Nododd mai bwriad yr ymateb drafft i’r ymgynghoriad yw crynhoi’r prif bryderon y dymuna’r Cyngor eu hamlygu.
Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai Opsiwn 3 yn y ddogfen ymgynghori’n cael effaith ar yr Ynys ond ni fyddai’r ddau opsiwn arall yn cael effaith ar y gwasanaeth a ddarperir gan yr Awdurdod Tân ac Achub, ond byddai’n cael effaith ariannol ar yr awdurdodau lleol.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif materion canlynol:-
· Gofynnwyd a yw’r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi ystyried adolygu ei gostau gweinyddu canolog er mwyn achub gwasanaethau rheng flaen. Dywedodd y Prif Weithredwr fod cwestiynau tebyg am dorri costau gweinyddol i achub gwasanaethau rheng flaen wedi’u gofyn y llynedd wrth osod yr ardoll. Nododd fod y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi lleihau costau gweinyddol canolog dros y blynyddoedd, yn debyg iawn i’r Awdurdod hwn. Ychwanegodd fod yr Awdurdod Tân ac Achub wedi gweld yr ymateb drafft, yn dilyn cyhoeddi’r Rhaglen ar gyfer y Pwyllgor hwn, ac maent wedi darparu manylion i ddangos sut y bu iddynt dorri hyd at 10% oddi ar eu costau yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae’n dangos hefyd fod costau canolog Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn is na chostau canolog unrhyw Awdurdod Tân arall yng Nghymru. Serch hynny, roedd y Prif Weithredwr o’r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
· Adroddiad Blynyddol ar Ynys Môn gan GwE : 2022/2023
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.
· Adroddiad Cynnydd Panel Sgriwtini Addysg
Cyflwyno adorddiad gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg.
· Siarter Craffu Addysg
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar Cyfarwyddwr Stategol (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: · Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer Ynys Môn : 2022/2023
Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg a’r Gymraeg ei fod yn croesawu’r adroddiad a bod y cydweithio gyda GwE yn golygu fod y rhan fwyaf o ysgolion ar Ynys Môn yn perfformio’n dda.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yr Awdurdod Lleol yn gweithio mewn partneriaeth agos ac effeithiol gyda GwE. GwE yw’r consortiwm addysg rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Dysgu Ynys Môn er mwyn gwella ysgolion, rhannu arfer dda, gwybodaeth a sgiliau, cynyddu cryfderau lleol ac adeiladu capasiti. Nododd fod yr adroddiad yn cynnwys atodiadau ar Gynnydd ac Effaith mewn Ysgolion Uwchradd ac Ysgolion Arbennig; Cynnydd ac Effaith mewn Clystyrau Cynradd a Data ar Hyfforddiant a Chefnogaeth a ddarparwyd i Ynys Môn. Nodwyd blaenoriaethau i’w datblygu ymhellach yng nghynlluniau gwella ysgolion uwchradd, fel y nodir yn yr adroddiad.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif bwyntiau canlynol:-
|
|
Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn amlinellu Blaen Raglen Waith ddangosol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2023/2024 er ystyriaeth.
PENDERFYNWYD:-
· Cytuno’r fersiwn gyfredol o’r flaen raglen waith ar gyfer 2023/24; · Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r flaen raglen waith.
|