Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o fuddiant.
|
|
Cyflwyo, i’w cadarnahu, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr, 2024. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr, 2024 yn gywir.
|
|
Adroddiad Cynnydd : Panel Sgriwtini Addysg PDF 309 KB Cyflwyno adroddiad cynnydd gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg.
Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg, y Cynghorydd Gwilym O Jones, bod Addysg yn un o’r chwe amcan strategol yng Nghynllun y Cyngor a bod gan Aelodau Etholedig rôl hanfodol i’w chwarae o ran gwireddu’r amcan hon drwy graffu a galw i gyfrif, ac mae gwaith y Panel Sgriwtini Addysg yn cyfrannu at yr amcan hwn. Fe nododd mai dyma drydydd adroddiad cynnydd y Panel a’i fod yn cwmpasu’r cyfnod Medi 2023 - Ionawr 2024. Mae’r Panel wedi cwrdd ar 4 achlysur yn ystod y cyfnod hwn ac mae wedi ystyried y materion a ganlyn:-
· Y Model Cydweithio Integredig; · Llesiant/Iechyd Meddwl/Diogelu; · Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant; · Ysgolion mewn Categori, Dilyniant Estyn neu’n derbyn Cymorth Ychwanegol; · Rhaglen waith y panel Sgriwtini ar gyfer y cyfnod Mai 2023 – Ebrill 2024.
Wrth ystyried yr adroddiad holwyd sut y caiff iechyd a diogelwch disgyblion ei fonitro. Dywedodd yr Uwch Reolwr (Ysgolion Uwchradd) bod arferion da yn gysylltiedig ag iechyd a diogelwch ar Ynys Môn a bod ysgolion yn rhannu arferion da. Holwyd hefyd a oedd y Panel wedi ystyried, fel rhan o’u blaen raglen waith, yr effaith y gall yr arbedion ariannol ei gael ar gynnydd ysgolion a p’un ai a oedd gan y Panel strategaeth er mwyn monitro’r effaith hwnnw. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr y bydd y Gwasanaeth Dysgu’n monitro effaith yr arbedion ariannol yn barhaus ac y bydd y Panel yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd. Nododd y bydd aelodau’r Panel yn cael cyfle i ymweld ag ysgolion ac y bydd cynrychiolwyr o’r ysgolion yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd o’r Panel. Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd y Panel Sgriwtini Cyllid a’r Panel Sgriwtini Addysg yn cael cyfle i ddod at ei gilydd ddiwedd y mis i ystyried effaith bosib yr arbedion effeithlonrwydd ar y ddarpariaeth addysg. Dywedodd hefyd bod ansicrwydd o ran yr arian grant i ysgolion ac y bydd yr effaith y gall hynny ei gael o’r flwyddyn ariannol nesaf ymlaen yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod o’r ddau Banel.
Cyfeiriwyd at yr awgrymiadau sydd gan y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio er mwyn atgyfnerthu gwaith y Panel Sgriwtini Addysg. Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n fanteisiol pe byddai’r Panel yn derbyn awgrymiadau ynglŷn â meysydd yn ymwneud â’r Gwasanaeth Dysgu gan yr Aelodau o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio sydd ddim yn aelodau o’r Panel. Holwyd a yw ‘llais y disgybl’ a ‘llais rheini/gwarcheidwaid’ yn cael ei ystyried fel rhan o’r broses graffu. Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini y bydd y Panel yn edrych ar ‘lais y dysgwr’ wrth graffu ar ei flaen raglen waith. Holwyd ynglŷn â’r meysydd penodol eraill y dylai’r Panel eu craffu. Dywedodd y Cadeirydd bod y Panel yn cwrdd yn rheolaidd ac yn trafod yr hyn y mae’n dymuno craffu arno gyda Swyddogion perthnasol o’r Gwasanaeth Dysgu. Nododd bod y Gwasanaeth Dysgu wedi darparu adroddiadau i’r Panel Sgriwtini Addysg ar wahanol feysydd gwaith ar gais y Panel. Pwysleisiodd bod y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cynllun Cydraddoldeb Strategol : 2024-2028 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn gyhoeddiad allweddol bwysig sy’n cyd-fynd â Chynllun y Cyngor ac y bydd yn cyfrannu at gyflawni ei amcanion strategol a’i weledigaeth. Dywedodd bod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn gynllun uchelgeisiol er mwyn creu cymdeithas decach i bobl Ynys Môn. Er mwyn creu ynys lle gall pob ffynnu rhaid i ni gydnabod bod anghydraddoldeb yn bodoli ac y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a sicrhau fod pawb yn cael ei drin yn gyfartal. Dywedodd y bydd Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor maes o law.
Wrth ystyried yr adroddiad cyfeiriwyd at yr wyth amdan yn y cynllun. Holwyd a oedd hyn yn rhy uchelgeisiol o ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol. Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod hi’n bwysig bod pobl Ynys Môn yn ganolog i’r gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor. Dywedodd y bydd yn heriol cwrdd â’r amcanion yn y Cynllun, fodd bynnag, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gryfhau cydraddoldeb ac mae enghreifftiau wedi cael eu rhannu yn yr eitem flaenorol mewn perthynas ag addysg. Holwyd sut y bydd yr amcanion yn y Cynllun yn cael eu mesur. Ymatebodd y Pennaeth Democratiaeth y bydd Grŵp Llywio mewnol yn cael ei sefydlu a fydd yn gyfrifol am fonitro’r Cynllun Gweithredu Blynyddol ac mai prif dasg y Grŵp fydd datblygu dangosyddion perfformiad. Dywedodd na fydd aelodaeth y Grŵp yn cael ei gytuno hyd nes y bydd y Cynllun Cydraddoldeb yn cael ei gymeradwyo. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd y Grŵp Llywio yn cadarnhau pwy sydd gan gyfrifoldeb corfforaethol dros bob amcan strategol i sicrhau bod pob adran yn chwarae ei ran er mwyn datblygu’r amcanion.
Codwyd cwestiynau ynglŷn â’r bwriad ar gyfer y pedair blynedd nesaf o ran codi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y Cyngor. Dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg mai’r gobaith yw canolbwyntio mwy ar gydraddoldeb o fewn y Cyngor ac y bydd negeseuon rheolaidd yn cael eu hanfon at staff ac aelodau etholedig, yn debyg i’r hyn sydd eisoes yn digwydd gyda’r Gymraeg. Nododd bod cynnydd wedi’i wneud o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth a’i fod wedi’i gynnwys fel egwyddor gyffredinol yng Nghynllun y Cyngor sy’n amlygu’r disgwyliadau gan eu bod yn berthnasol i’r Cyngor cyfan. Bydd y Grŵp Llywio yn sefydlu cyfeiriad strategol ar gyfer cydraddoldeb o fewn y Cyngor. Dywedodd ei bod hi’n bwysig bod aelodau staff newydd yn ymwybodol o’r disgwyliadau o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth a bod gan reolwyr rôl ganolog i’w chwarae o ran hyrwyddo’r disgwyliadau hynny.
Cyfeiriwyd at Amcan 3: Gofal Cymdeithasol a Llesiant yn y Cynllun Cydraddoldeb. Codwyd cwestiynau ynglŷn â’r heriau y bydd yr Awdurdod yn eu hwynebu wrth geisio cyflawni’r amcan hon yn sgil yr argyfwng costau byw er mwyn i’r Cyngor allu cyflawni ei ddyhead i wneud yn siŵr bod gan bawb ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor - 2023/2024 PDF 427 KB Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn nodi Blaen Raglen Waith Ddangosol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio 2023/24 i’w ystyried.
PENDERFYNWYD :-
· Cytuno ar y fersiwn ddiweddaraf o’r blaen raglen waith ar gyfer 2023/2024; · Nodi’r cynnydd hyd yma o ran gweithredu’r blaen raglen waith.
|