Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mercher, 17eg Ebrill, 2024 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes  01248 752518

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 234 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gafwyd ar 13 Mawrth 2024.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2024, yn gywir.

 

4.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn pdf eicon PDF 307 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr, oedd yn amlinellu’r adolygiad ar drefniadau darparu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a monitro cynnydd y Bwrdd wrth weithredu Cynllun Llesiant 2023-2028, i’w ystyried a’i graffu gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Deddf hefyd wedi sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru, gydag aelodau’n amrywio o gyrff cyhoeddus i’r trydydd sector. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio ar y cyd fel sefydliad partner er mwyn sicrhau bod cynlluniau strategol yn cyd-fynd gydag amcanion llesiant lleol, ac yn cynnig cefnogaeth i’w cyflawni.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod diwylliant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cryfhau dros y 12 mis diwethaf ar ôl penodi Cadeirydd newydd, Mr Aled Jones-Griffiths. Roedd hefyd eisiau llongyfarch Mr Jones-Griffith ar gael ei benodi fel Prif Weithredwr newydd Grŵp Llandrillo Menai. Dywedodd bod pwysau ar drigolion cymunedau lleol oherwydd yr argyfwng costau byw, sydd wedi arwain at dlodi a phroblemau llesiant. Un o brif egwyddorion y Cyngor yw cydweithio gyda sefydliadau partner a’r trydydd sector, yn enwedig o ganlyniad i lai o gyllid a thoriadau ar y rheng flaen.

 

Dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn y bydd Cynllun Darparu’r Bwrdd yn destun adolygiad parhaus. Oherwydd y llwyddiant blaenorol, a ffocws parhaol ar Is-grŵp yr Iaith Gymraeg, cytunodd y Bwrdd i barhau yn ei ffurf bresennol. Mae gwaith rhanbarthol wedi’i roi ar waith yn ddiweddar mewn perthynas â recriwtio yn y sector cyhoeddus, ble mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer swyddi gwahanol. Eglurodd, yn dilyn asesiad academaidd annibynnol ar effeithiolrwydd yr Is-grwpiau, penderfynwyd parhau gyda’r argymhelliad i sefydlu mwy o Grwpiau Tasg a Gorffen penodol, gweithredol ar gyfer bob elfen o waith y Bwrdd.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, cododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

 

·         Cyfeiriwyd at y Cynllun Llesiant sydd ar waith, ac i ba raddau mae’r trefniadau presennol yn cefnogi’r ddarpariaeth, a pha gyfleoedd, heriau a risgiau sy’n wynebu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth symud ymlaen. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr fod y Bwrdd wedi datblygu er mwyn cyd-fynd â’r Cynllun Llesiant, ac mae wedi aeddfedu gyda sefydliadau partner wrth rannu arfer da a gwybodaeth. Cyfeiriodd at lwyddiant yr Is-grŵp Iaith Gymraeg, lle rhannwyd arferion da gyda sefydliadau partner eraill i wella’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn eu sefydliad. Dywedodd fod y risg sy’n wynebu’r Bwrdd yn gyffelyb i heriau’r awdurdod lleol, gan fod diffyg adnoddau i fodloni’r galw cynyddol ymhlith trigolion a chymunedau lleol am gymorth. Mae’r strwythurau sydd ar waith yn ogystal â dull gweithio wedi cryfhau gallu’r Bwrdd i ychwanegu gwerth.

·         Gofynnwyd rhai cwestiynau mewn perthynas â pha werth ychwanegol sydd wedi’i amlygu drwy weithio mewn partneriaeth gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ac a yw bob partner yn cyd-fynd â threfniadau gweithio mewn partneriaeth o fewn y Bwrdd. Darparodd y Rheolwr Rhaglen enghreifftiau o waith y Bwrdd a dywedodd mai un o’r amcanion yw alinio  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaen Raglen Waith 2024/2025 pdf eicon PDF 429 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini, a oedd yn gosod Blaen Rhaglen Waith ddangosol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2024/2025, i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYWNYD cytuno gyda’r fersiwn bresennol o’r blaen rhaglen waith ar gyfer 2024/2025.