Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 14eg Ionawr, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 275 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol :-

 

·     Cofnodion y cyfarfod arbennnig a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd, 2024;

·     Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd, 2024.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol yn gywir:-

 

·         Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd, 2024.

 

·         Cofnodion  cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd, 2024.

 

Yn codi:-

 

Eitem 3 – Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ynys Môn – 2023/2024

 

Nodwyd bod cynnydd wedi cael ei wneud yn dilyn yr argymhelliad i ofyn i’r Pwyllgor Gwaith ofyn am ddiweddariad gan y Grŵp Rhanbarthol, sy’n cael ei arwain gan y Bwrdd Iechyd, ar y gwaith a’r trafodaethau ynghylch atal hunanladdiadau.

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi 2024 – Eitem 5 – Cymunedau Ymlaen Môn

 

Cyfeiriwyd at y mater a godwyd yn y cyfarfod ar 12 Medi 2024 bod Swyddogion, ar y cyd â Môn CF, yn gwneud gwaith ymchwil i weld a allai unigolion sy’n byw mewn cymunedau lle mae’r gwasanaeth bws wedi cael ei ddileu elwa o raglen yrru Môn CF. Nodwyd bod Medrwn Môn wedi rhoi sylw i’r mater hwn.

 

4.

Partneriaethau Strategol - Medrwn Môn pdf eicon PDF 5 MB

Derbyn cyflwyniad gan Medrwn Môn.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Lyndsey Campbell-Williams, Prif Swyddog Medrwn Môn i’r cyfarfod.

 

Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd bod Medrwn Môn yn un o 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol (CGS) sy’n cael eu hariannu ledled Cymru i gefnogi grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol. Nododd bod Medrwn Môn yn sefydliad trydydd parti strategol gyda’r Awdurdod hwn ac mai prif amcan y sefydliad yw helpu a hybu gwirfoddolwr a chefnogi sefydliadau trydydd parti ledled yr Ynys.  Mae Medrwn Môn hefyd yn cynorthwyo’r Cyngor â ‘Llunio Lleoedd’, ‘Cynghreiriau Lleol’, Cynlluniau Trafnidiaeth mewn Cymunedau ynghyd â’r fenter Ynys ‘Oed-Gyfeillgar’. Aeth ymlaen i nodi bod Medrwn Môn yn arwain y cynllun atal tlodi mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol.

 

Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn bod Medrwn Môn yn asiantaeth annibynnol sy’n darparu cyngor i sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i’w galluogi i weithio’n fwy effeithiol. Dywedodd bod gwaith craidd Medrwn Môn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Bydd y trefniadau ariannu presennol yn dod i ben ar 31 Mawrth, 2025; mae achos busnes wedi cael ei lunio ar draws y 19 CGS i sicrhau cyllid am gyfnod o ddwy flynedd - 2025/2027. Fe amlygodd mai ffocws a phryder y grwpiau cymunedol yw sicrhau cyllid cynaliadwy i’w galluogi i ariannu gweithgareddau yn eu cymunedau. Derbyniodd 11 Grŵp Cymunedol gefnogaeth yn 2023/2024 i ddenu gwerth £353,000 o gyllid gan sefydliadau ariannu h.y. y Loteri Genedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Llywodraeth Cymru. Cefnogodd Medrwn Môn 84 grŵp yn ychwanegol i ddenu cyllid gwerth cyfanswm o  £200,000 yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â’r Cyngor Sir i sicrhau’r Grant Gwirfoddoli Ieuenctid, y Grant Mannau Cynnes, Gweithgareddau’r Hydref a Llunio Lleoedd.  Aeth ymlaen i ddweud bod Medrwn Môn wedi cynnig sesiynau hyfforddi rhad ac am ddim a bod canran uchel o bobl wedi cymryd mantais ohonynt.  Nodwyd bod Grwpiau Cymunedol wedi derbyn £1.9m o gyllid gan sefydliadau ariannu mawr gyda chymorth Menter Môn a bod £313k wedi cael ei ddosbarthu o gronfeydd allweddol h.y. cyllid SPF i gefnogi Cynghreiriau Cymunedol. Dywedodd bod Medrwn Môn wedi ailstrwythuro ei staff craidd i gefnogi Cynghreiriau Cymunedol. Cyfeiriodd at y gwasanaethau gwirfoddol a ddarparwyd gan Medrwn Môn h.y. Carlinc, Cynlluniau Tro Da, Technoleg a Gofal, Linc Cymunedol Môn. Dywedodd bod y berthynas waith rhwng Medrwn Môn a’r Cyngor Sir ymhlith y gorau ar draws y Cynghorau Gwirfoddol Sirol yng Nghymru. 

 

Fe wnaeth y Pwyllgor godi’r pwyntiau a ganlyn –

 

·     Codwyd cwestiynau ynglyn ag elfennau pwysicaf gwaith Medrwn Môn yng nghyd-destun tlodi.  Mewn ymateb dywedodd Prif Weithredwr Medrwn Môn mai’r prif her yw sicrhau cyllid craidd i gefnogi grwpiau cymunedol fel y gallant ddarparu gweithgareddau yn eu cymunedau a bod yn gynaliadwy yn y tymor hir.

·     Codwyd cwestiynau ynghylch y newid yn y math o gymorth y mae unigolion a sefydliadau gwirfoddol lleol ei angen a p’un a yw’n rhagweld cynnydd yn y galw dros y blynyddoedd nesaf. Mewn ymateb dywedodd y Prif Weithredwr bod Medrwn Môn wedi ailstrwythuro ei staff i fynd i’r afael â’r cynnydd yn y galw am wasanaethau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Diogelu Corfforaethol pdf eicon PDF 518 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd bod Diogelu’n gyfrifoldeb i bawb. Mae gan bob gwasanaeth a phob gweithiwr, waeth be fo’u rôl, gyfrifoldeb dros ddiogelu pobl. Cyfeiriodd at y data yn yr adroddiad sy’n amlygu faint o staff a gwblhaodd yr hyfforddiant mandadol yn ystod 2023/2024.  Aeth ymlaen i ddweud y bydd Cynllun Gweithredu newydd yn cael ei gyflwyno ynghyd ag adolygiad o’r Polisi Diogelu Corfforaethol a’r Cynllun Hyfforddi yn ystod Ch4.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod yr adroddiad yn amlygu cyfrifoldeb y Cyngor Sir i sicrhau bod staff, gwirfoddolwyr a chontractwyr yn ymwybodol o ddiogelu wrth eu gwaith o ddydd i ddydd a’u bod yn gwybod sut i godi pryder. Cynhaliwyd adolygiad o’r Cynllun Diogelu Corfforaethol a fydd yn cael ei gyhoeddi ar 1 Ebrill, 2025.  Bydd y Cyngor yn parhau i sicrhau ymarfer effeithiol, yn cynnwys gosod safonau clir ac effeithiol a gofynion cydymffurfiaeth contractau ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyhoeddus allanol.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, fe wnaeth y Pwyllgor drafod y materion a ganlyn-

·     Codwyd cwestiynau ynghylch rôl y Dirprwy Brif Weithredwr fel pencampwr gwrth gaethwasiaeth. Mewn ymateb dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr ei fod yn aelod o Fwrdd Diogelwch Cymunedol ar y cyd â Chyngor Gwynedd a’i fod yn  mynychu cyfarfodydd diogelu rhanbarthol a bod y Prif Weithredwr yn mynychu cyfarfodydd diogelu cenedlaethol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod diogelu’n cynnwys sawl maes (h.y. caethwasiaeth, prevent, trais yn erbyn menywod a genethod) a bod gwahanol Swyddogion o’r Cyngor yn mynychu gwahanol gyfarfodydd. Nododd bod rhaid sicrhau bod y Swyddogion priodol yn mynychu’r cyfarfodydd a rhannu gwybodaeth.

·     Mae’r adroddiad yn nodi bod y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymweld â phob Gwasanaeth yn y Cyngor yn ddiweddar i hyrwyddo sut mae diogelu’n gyfrifoldeb i bob gwasanaeth yn y Cyngor.   Codwyd cwestiynau ynglŷn â phwy a oedd yn bresennol yn ystod yr ymweliadau hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod ganddo gyfrifoldeb statudol fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o Ddiogelu Corfforaethol ac yn deall beth y mae hynny’n ei olygu.  Dywedodd ei fod wedi bod mewn cyfarfodydd gydag Uwch Reolwyr, gradd 8 ac uwch, i amlygu materion diogelu ac i gael rhyw amcan o anghenion gwasanaethau penodol. Cyfeiriodd at ‘Teulu Môn’ sef y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol, sy’n rhoi dulliau ymyrraeth gynnar ac atal sy’n canolbwyntio ar deuluoedd ar waith. Nododd y gall unrhyw un gysylltu â ‘Teulu Môn’ i roi gwybod am unrhyw broblemau.

·     Codwyd cwestiynau ynglyn â pha sicrwydd y gellir ei roi bod yr Awdurdod Lleol yn cwrdd â’i oblygiadau Diogelu Corfforaethol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod polisïau a gweithdrefnau cadarn ar waith sydd wedi’u sefydlu yng ngwasanaethau’r Cyngor ac fe all staff hefyd gymryd rhan mewn hyfforddiant rheolaidd, fodd bynnag nid yw hyn yn golygu nad oes risg y gallai plentyn neu oedolyn gael ei gam-drin.

·     Cyfeiriwyd at yr adroddiad sy’n nodi bod angen adolygu’r hyfforddiant diogelu ar gyfer  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor 2024/2025 pdf eicon PDF 486 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2024/2025 i’w ystyried.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·       Cytuno ar y fersiwn gyfredol o’r flaen raglen waith ar gyfer 2024/2025.

·       Nodi’r cynnydd hyd yma o ran gweithredu’r flaen raglen waith.