Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mercher, 12fed Mawrth, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.  

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 226 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a gynhaliwyd ar 12 Chwefror, 2025.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2025 yn gywir.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:-

 

Eitem 4 - Adolygu’r Polisi Iaith Gymraeg

 

Gweithred 2 - Anfon llythyr at Lywodraeth Cymru i ofyn am ddeddfwriaeth newydd i warchod enwau lleoedd Cymraeg hanesyddol, a phwysleisio’r angen am ddeddfwriaeth o’r fath;

 

Rydym yn disgwyl am ymateb i’r ohebiaeth.

 

Gweithred 3 - Gofyn i Arweinydd y Cyngor godi’r mater gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

Rydym yn disgwyl am ymateb i’r materion a godwyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

Eitem 5 - Adroddiad Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad - Crynodeb o sefyllfa gyfredol ADY a Ch

 

Gweithred 2 - Anfon llythyr at Lywodraeth Cymru i nodi bod angen darparu cyllid ychwanegol i’r gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad.

 

Rydym yn disgwyl am ymateb i’r ohebiaeth.

 

Gweithred 3 - Bod angen sicrhau cefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru, ar ran y 22 awdurdod lleol, i ddarparu rhagor o arian tuag at Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad.

 

Rydym yn disgwyl am ymateb i’r materion a godwyd.

 

4.

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb:: 2023/2024 pdf eicon PDF 799 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol fod yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys amlinelliad o’r gwaith a wnaethpwyd yn ystod 2024 er mwyn cyflawni amcanion y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 ac mae cysylltiad â Chynllun y Cyngor ar gyfer 2023-2028 hefyd. Yn unol â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, mae’n rhaid i’r Cyngor gyhoeddi Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol erbyn 31 Mawrth yn y flwyddyn yn dilyn y cyfnod adrodd. Mae gofynion penodol ynglŷn â’r hyn y mae’n rhaid adrodd arno yn flynyddol. Yn unol â’r gofynion hyn, mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am gyflogaeth ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024; trosolwg o’r camau a gymerwyd yn 2024 i nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol, a sut mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio mewn perthynas â’r ddyletswydd cydraddoldeb cyffredinol i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon, a hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda gyda gwahanol grwpiau.

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

·     Gofynnwyd sut y gellir mynd i’r afael â’r bwlch yn y data o ran nodweddion gwarchodedig staff presennol, wrth barchu hawl unigolion i beidio â datgelu gwybodaeth bersonol. Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol bod hawl gan unrhyw un i beidio â datgelu gwybodaeth bersonol. Mae’r Cyngor yn annog staff i ailymweld â’u data personol, gan sicrhau fod y wybodaeth yn gwbl gyfrinachol. Dywedodd bod y Cyngor yn dymuno creu diwylliant o ymddiriedaeth a pharch er mwyn i staff fod â’r hyder i rannu gwybodaeth bersonol. Dywedodd y Prif Weithredwr fod data yn bwysig a sefydlwyd grŵp llywio newydd - Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg a Chydraddoldeb - i sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â’r gofynion, yn ogystal â monitro gweithgareddau er mwyn sicrhau fod pob aelod o staff yn cael ei drin yn gyfartal. Bydd y Grŵp yn ystyried sut y gellir lleihau’r bylchau yn y data.

·     Nodwyd bod ffigwr y Cyngor ar gyfer y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, sef 9.7% ar 31 Mawrth 2024, yn gadarnhaol. Gofynnwyd pa gamau y gellir eu cymryd i ddileu’r bwlch yn gyfan gwbl. Sicrhaodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol y Pwyllgor nad oes gwahaniaeth o gwbl yn y raddfa gyflog i weithwyr ar gyfer unrhyw swyddi cyfatebol o fewn y Cyngor.  Nododd ei bod yn amlwg fod merched yn tueddu i weithio mewn swyddi sydd â chyflog is, ac mae hyn yn gyffredin hefyd mewn awdurdodau lleol a sefydliadau sector cyhoeddus eraill. Mae’r Cyngor yn dymuno hyrwyddo cyfleoedd i ferched ymgeisio am swyddi lefel uwch.

·     Gofynnwyd a oes proses ar waith i ymdrin â gwahaniaethu a bwlio staff oherwydd eu hunaniaeth rhywedd. Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol nad yw’r Cyngor yn goddef unrhyw fath o fwlio ymysg staff nac aelodau etholedig. Dywedodd y Prif Weithredwr fod polisïau a phrosesau cadarn ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw wahaniaethu ac  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Trosolwg o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU Ynys Môn pdf eicon PDF 296 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod Llywodraeth y DU wedi lansio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU i gymryd lle rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Roedd Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn ffynhonnell gyllido sylweddol yng Nghymru am ddegawdau ac arferai Ynys Môn dderbyn arian sylweddol o’r cronfeydd hyn er mwyn cefnogi busnesau, datblygu sgiliau, gwella cyflogadwyedd, yn ogystal ag ariannu rhaglenni cyfalaf seilwaith. Arian, gwerth £2.6 biliwn, a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i’w fuddsoddi’n lleol ledled y DU rhwng Rhagfyr 2022 a Mawrth 2025 yw Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  Roedd dyraniad Ynys Môn trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn £16,081,937 (gyda £2.78M yn cael ei neilltuo ar gyfer y cynllun Lluosi). Roedd y cyllid yn cael ei gymeradwyo a’i ryddhau gan Lywodraeth y DU yn flynyddol. Y flaenoriaeth oedd sicrhau fod holl wariant y prosiect a ddyrannwyd yn cael ei ddefnyddio, a bod buddion ystyrlon yn cael eu cyflawni, er budd trigolion a busnesau ar Ynys Môn. Darparwyd cymorth ariannol i 496 o fusnesau, mentrau a sefydliadau, cynorthwywyd 913 o breswylwyr i wella eu sgiliau rhifedd, cafodd 80 o swyddi eu creu neu eu diogelu ar yr ynys, a chefnogwyd 361 o bobl i ennill cymhwyster. 

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

·     Gofynnwyd beth yw’r camau nesaf ar ôl cwblhau’r rhaglen bresennol ym mis Mawrth 2025 ac a oes unrhyw brosiectau, nad oeddent wedi llwyddo i dderbyn arian o dan y cynllun presennol, yn barod i fanteisio ar y cyllid sydd ar gael.  Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod yr amserlenni gwreiddiol ar gyfer y Rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin wedi cael eu hymestyn i 2025/2026, ond mae’r cyllid sydd ar gael y flwyddyn nesaf yn sylweddol is o gymharu â’r cynllun gwreiddiol. Dywedodd y Prif Reolwr Datblygu Economaidd fod £5m o gyllid ar gael ar gyfer 2025/2026, a bydd rhaid ei wario yn ystod y flwyddyn honno. Nid oes sicrwydd faint o gyllid fydd ar gael wedi hynny, ond mae trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau fod Ynys Môn yn derbyn cyfran o’r arian fydd ar gael. 

·     Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â’r 80 o swyddi a grëwyd neu a ddiogelwyd gan ddefnyddio arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod yr Awdurdod hwn wedi manteisio ar y Cynllun Lluosi. Roedd hyn yn gam cadarnhaol a oedd yn dangos gallu’r Partneriaid Cyflawni perthnasol i wario arian ychwanegol a gwireddu buddion ychwanegol ar gyfer yr Ynys. 

·     Nodwyd fod disgwyl i 76 o bobl dderbyn cefnogaeth iechyd meddwl ac iechyd corfforol fyddai’n arwain at gyflogaeth, ond y nifer gwirioneddol a gofnodwyd oedd 0. Gofynnwyd beth yw’r rhesymau am y bwlch sylweddol hwn. Dywedodd y Prif Reolwr Datblygu Economaidd fod 46 o bobl yn derbyn cefnogaeth ar hyn o bryd. Bydd gwaith yn cael ei wneud gyda sefydliadau partner i ddarganfod pa rwystrau sy’n wynebu pobl ifanc wrth geisio symud o addysg  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Enwebu Aelod Pwyllgor ar y Panel Sgriwtini Cyllid pdf eicon PDF 449 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD gohirio’r eitem nes bydd trafodaethau wedi’u cynnal mewn perthynas ag adolygu strwythur y Paneli Sgriwtini.

 

7.

Blaen Raglen Waith 2024/2025 pdf eicon PDF 289 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn manylu ar Flaen Raglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2024/25.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         Cytuno ar fersiwn gyfredol y Flaen Raglen Waith ar gyfer 2024/25.

·         Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r Flaen Raglen Waith.