Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mercher, 9fed Ebrill, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Euryn Morris ddatgan diddordeb personol yn Eitem 4 - Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ynys Môn a Gwynedd - Trefniadau Llywodraethu a chraffu cynnydd yn erbyn Cynllun Llesiant 2023-2028, gan ei fod yn cael ei gyflogi gan Gyngor Gwynedd ac ar secondiad gyda’r Bwrdd Uchelgais.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 222 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 12 Mawrth, 2025.  

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2025 yn gywir.

 

Materion yn codi o gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2025 :-

Eitem 4 - Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2024

 

Gweithred 1 - Bod y Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg a Chydraddoldeb yn ystyried cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a chryfhau’r data sylfaenol am staff, gan ddefnyddio gwybodaeth o’r Sgwrs Flynyddol er mwyn monitro tueddiadau.

 

Bydd y Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg a Chydraddoldeb yn cyfarfod yn ystod mis Ebrill/Mai 2025.

 

Gweithred 2 - Ailystyried cyflwyno hyfforddiant Cydraddoldeb newydd ar gyfer staff ac Aelodau Etholedig, yn dilyn cymeradwyo’r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2024.

 

Cwblhawyd y weithred - bydd hyfforddiant gorfodol yn cael ei ddarparu i Aelodau Etholedig a bydd modiwlau e-ddysgu ar gael i staff.

 

Gweithred 3 - Archwilio ffyrdd o wella dealltwriaeth Aelodau Etholedig o’r broses gynefino gorfforaethol ar gyfer staff newydd, ar y cyd ag Adnoddau Dynol.

 

Camau ar y gweill - trefnwyd cyfarfod rhwng Swyddogion y Tîm Polisi a’r Gymraeg a’r Tîm Hyfforddiant.

 

Gweithred 4 - Ailystyried teitl a chwmpas y Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg a Chydraddoldeb.

 

Camau ar y gweill - Bydd y Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg a Chydraddoldeb yn cyfarfod yn ystod mis Ebrill/Mai 2025.

 

4.

Bwrdd Gwasanaethau Gwynedd ac Ynys Môn - trefniadau llywodraethiant a chraffu cynnydd ar wireddu'r Cynllun Lleisiant 2023-2028 pdf eicon PDF 608 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Roedd y Ddeddf hefyd yn sefydlu’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, gyda chynrychiolaeth gan gyrff cyhoeddus a’r trydydd sector. Mae sefydliadau cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn wedi dod ynghyd i gydweithio fel un Bwrdd. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cydweithio fel sefydliadau partner er mwyn sicrhau fod cynlluniau strategol yn cyd-fynd ag amcanion llesiant lleol ac yn cefnogi’r dasg o’u gwireddu. Nododd mai’r brif her i’r Bwrdd yw sefydlu ymhle y gall ychwanegu’r gwerth mwyaf a gwneud gwahaniaeth gyda’r adnoddau a’r capasiti cyfyngedig sydd ar gael. Cyhoeddwyd Cynllun Llesiant Gwynedd ac Ynys Môn 2023-2028 ym mis Mai 2023 ac roedd yn amlygu tri amcan Llesiant penodol, fel y nodir yn yr adroddiad. Mae’r Iaith Gymraeg yn flaenoriaeth barhaol i’r Bwrdd ac mae’n cael ei hyrwyddo ym mhob agwedd o waith y Bwrdd.  Ychwanegodd fod seremoni wedi’i chynnal ym mis Mawrth 2025 er mwyn i’r ddau Gyngor lofnodi’r Siarter Teithio Llesol ac roedd Mr Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, yn bresennol.   

 

Yn dilyn sylwadau a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor, dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn fod manylion ychwanegol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ynglŷn â’r prosiectau sydd ar y gweill gan y Bwrdd a’r sefydliadau sy’n eu rhoi ar waith, ynghyd â’r canlyniadau a chynlluniau pellach i’w cyflawni yn y dyfodol. Mae methodoleg System Gyfan Pwysau Iach wedi ei fabwysiadu fel ffordd o weithio drwy waith y Bwrdd, a gallai ddylanwadu ar y dewis o fwydydd iach a fforddiadwy sydd ar gael a chreu cyfleoedd i bobl ymarfer a chadw’n heini. Ychwanegodd bod yr Iaith Gymraeg yn flaenoriaeth barhaol i’r Bwrdd, fel y nododd y Dirprwy Arweinydd. 

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

·     Gofynnwyd sut mae’r Bwrdd wedi blaenoriaethu meysydd lle gall ychwanegu’r gwerth mwyaf o ystyried yr adnoddau a’r capasiti cyfyngedig sydd ar gael iddo.  Mewn ymateb, dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai fod y diffyg adnoddau a chapasiti yn her i bob sefydliad partner ac i’r ddau Gyngor Sir. Nododd fod y Bwrdd yn dymuno cyflawni’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd. Dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn mai hwn yw ail Gynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae gwersi wedi’u dysgu er mwyn caniatáu i sefydliadau partner weithio’n fwy effeithlon a rhannu adnoddau.  Nododd fod gwaith rhanbarthol ychwanegol yn cael ei wneud bellach er mwyn elwa ar yr adnoddau sydd ar gael.

·     Nodwyd bod Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru’n ymgynghori ar y Siarter Teithio Llesol ar hyn o bryd. Gofynnwyd a ddylai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus weithio’n agos â’r Bwrdd Uchelgais gan fod ganddynt fwy o adnoddau i gwblhau’r gwaith. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr, fod y Siarter Teithio Llesol wedi cael ei hystyried a’i llofnodi er  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Porthladd Rhydd Ynys Môn - Diweddariad pdf eicon PDF 296 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.  

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod Llywodraethau’r DU a Llywodraeth Cymru wedi gwahodd bidwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn 2022. Ardaloedd dynodedig yw Porthladdoedd Rhydd lle mae nifer o gymhellion economaidd ar gael i ysgogi’r economi leol ac annog twf a buddsoddiad. Datblygwyd Porthladd Rhydd Ynys Môn i gyd-fynd yn llawn â gweledigaeth, amcanion a gwerthoedd Cynllun y Cyngor 2023-2028, gan ganolbwyntio’n benodol ar gydweithio, yr iaith Gymraeg, hyrwyddo’r ynys a hyrwyddo cyfleoedd fydd yn creu swyddi a thwf yn yr economi. Mae’r Porthladd Rhydd yn gyfle i ddenu buddsoddiad newydd sylweddol gan y sector preifat ac mae hyn yn hynod o bwysig o ystyried y cyd-destun, gan fod nifer sylweddol o swyddi wedi eu colli yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf, gan effeithio ar yr ynys. Dywedodd bod safleoedd dynodedig eraill ar yr Ynys a allai fanteisio ar statws y Porthladd Rhydd.

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

·      Gofynnwyd pa gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant allai ddeillio o’r Porthladd Rhydd a holwyd a fyddai isadeiledd yr Ynys yn gallu cynnal mewnlifiad o weithwyr? Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod rhaid i’r Awdurdod fod yn realistig ac ni ddylid codi disgwyliadau ynglŷn â chyfleoedd cyflogaeth a allai ddeillio o’r Porthladd Rhydd ar gychwyn y broses; rhagwelir y bydd y prosiect Porthladd Rhydd yn creu rhwng 3,000 a 4,000 mewn blynyddoedd i ddod. Nododd y byddai’r cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant yn ddibynnol ar y cwmnïau sy’n dewis lleoli eu busnesau yn yr ardaloedd dynodedig ar yr Ynys. Mae Grŵp Llandrillo Menai, M-Sparc a Phrifysgol Bangor, y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a’r Bwrdd Uchelgais yn rhan o drafodaethau ynglŷn â photensial y Porthladd Rhydd a byddant yn barod i ddarparu cyfleoedd hyfforddi pan fydd gwybodaeth ar gael ynghylch pa fusnesau fydd yn sefydlu yn yr ardaloedd dynodedig. 

·      Gofynnwyd a fyddai’r gyllideb flynyddol o £600k yn ddigon i gwrdd ag anghenion gweithredol Porthladd Rhydd Ynys Môn. Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd y credir bod y gyllideb flynyddol o £600k yn ddigonol gan fod y Porthladd Rhydd yn gymharol fychan o gymharu â Phorthladdoedd Rhydd eraill, a bydd cwmnïau sy’n sefydlu yn yr ardaloedd dynodedig yn cyfrannu arian. 

·      Nodwyd y gallai denu mewnlifiad o weithwyr i ardal wledig Gymraeg ei hiaith gael effaith ar yr iaith Gymraeg. Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd y byddai sicrhau cyfleoedd cyflogaeth yn sicrhau dyfodol yr Ynys gan y byddai darparu gwaith i bobl ifanc yn gwarchod yr iaith Gymraeg.  Bydd plant teuluoedd sy’n adleoli i’r Ynys yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion lleol a bydd yn diogelu’r iaith Gymraeg mewn cymunedau lleol. Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mai un o dri amcan strategol y prosiect Porthladd Rhydd yw’r ymrwymiad i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig ac mae’r ddwy Lywodraeth, yn ogystal â’r sefydliadau partner, wedi cydnabod yr iaith  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor 2025/2026 pdf eicon PDF 501 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn manylu ar Flaen Raglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2025/2026.

 

PENDERFYNWYD cytuno’r fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2025/26.