Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 16eg Medi, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Douglas M Fowlie ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 5 - Cydweithio â Choleg Menai, gan fod aelod o’i deulu’n cael ei gyflogi gan Grŵp Llandrillo Menai.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 286 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf, 2025.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2025 yn gywir.

 

4.

Cydweithio gyda Phrifysgol Bangor pdf eicon PDF 7 MB

Derbyn cyflwyniad gan Prifysgol Bangor.  

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Is-Ganghellor Edmund Burke, yr Athro Paul Spencer, yr Athro Enlli Thomas a Mr Chris Drew i’r cyfarfod.

 

Rhoddodd gynrychiolwyr o Brifysgol Bangor gyflwyniad cryno i weddill y cyfarfod yn amlinellu gwaith y Brifysgol a’r trefniadau gwaith gyda’r awdurdod lleol i ddarparu prosiectau arloesol ar yr Ynys.  Atodwyd copi o’r cyflwyniad i agenda’r cyfarfod hwn.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, codwyd y pwyntiau trafod a ganlyn gan y Pwyllgor:

 

·         Gofynnwyd cwestiynau ynghylch sut mae’r cyfyngiadau ariannol presennol yn effeithio ar amrywiaeth o gyrsiau’n cael eu cynnig ym Mhrifysgol Bangor, ac i ba raddau mae gostyngiad yn nifer y cyrsiau’n cael eu hystyried, yn enwedig y cyrsiau hynny yn y maes Gwasanaethau Cymdeithasol.  Dywedodd yr Is-ganghellor, er bod arbedion cyllidebol wedi’u gwneud, nid oes unrhyw Ysgol nag Adran wedi cau yn y Brifysgol.  Nid effeithiwyd fawr ddim ar gyrsiau yn yr Ysgolion Meddygaeth ac Iechyd, Gwyddoniaeth a Pheirianneg.  Mae gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y cyrsiau sydd ar gael yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, y Celfyddydau, Dyniaethau ac Ieithoedd Modern (mae gostyngiad yn astudiaethau rhai ieithoedd wedi’u gwneud oherwydd nifer y myfyrwyr sydd eisiau dilyn y cyrsiau hyn).  Rhoddodd yr Athro Enlli Thomas sicrwydd nad oes gostyngiad wedi bod yn nifer y cyrsiau dwyieithog sy’n cael eu cynnig gan y Brifysgol, ac mae ymrwymiad i sicrhau bod cyrsiau dwyieithog yn dal i gael eu cynnig.  

·         Cyfeiriwyd at yr angen am gyrsiau Therapi Galwedigaethol a Seicoleg Addysgol gan fod prinder staff dwyieithog cymwys yn ymgeisio am swyddi gydag awdurdodau lleol. Cyfeiriodd yr Athro Enlli Thomas at y prinder gweithwyr Seicoleg Addysgol a Therapi Galwedigaethol proffesiynol cymwys, dwyieithog, ac er bod angen buddsoddiad ariannol i gynnal y cyrsiau hyn, mae’r Brifysgol yn barod i drafod gydag awdurdodau lleol yn y rhanbarth.

·         Er y croesewir yr Ysgol Feddygol a Hylendid Deintyddol ym Mhrifysgol Bangor, codwyd cwestiynau ynghylch a yw’r myfyrwyr sy’n hyfforddi yn aros yn yr ardal leol.  Dywedodd Mr Chris Drew o hanner y myfyrwyr, sef 20, fod 10 wedi cael gwaith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a bod 10 wedi cael gwaith gyda’r GIG yng Nghymru. Nododd fod Cwrs Sylfaen wedi’i sefydlu er mwyn cyflwyno llwybr i fyfyrwyr o Gymru ymuno â’r rhaglen feddygaeth.  Mae’n fwy heriol cadw myfyrwyr i weithio yn y sector deintyddol o fewn y GIG gan fod y sector preifat yn gallu fforddio buddion ar gyfer deintyddion.  Dywedodd yr Is-ganghellor fod gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno Ysgol Deintyddiaeth yn y rhanbarth. 

·         Holwyd am ganran y myfyrwyr o ogledd Cymru sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor.  Dywedodd yr Is-ganghellor fod cynnydd wedi bod yn nifer y myfyrwyr o ogledd Cymru sy’n dewis astudio ym Mhrifysgol Bangor, o ganlyniad i gynrychiolwyr o’r Brifysgol yn mynychu ysgolion a cholegau lleol i amlygu’r buddion o astudio ym Mhrifysgol Bangor.  Mae bron i 1,500 o fyfyrwyr o ogledd Cymru a 781 o ogledd-ddwyrain Cymru.

·         Gofynnwyd cwestiynau ynghylch sut mae’r Brifysgol yn alinio’r cryfderau ymchwil gyda’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc a chyflogwyr lleol.  Dywedodd Paul Spencer fod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cydweithio gyda Grwp Llandrillo Menai pdf eicon PDF 769 KB

Derbyn cyflwyniad gan Grwp Llandrillo Menai.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai i’r cyfarfod.

 

Cafwyd cyflwyniad yn ystod y cyfarfod gan Mr Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai yn amlinellu gwaith a wnaed gan y coleg drwy drefniadau cydweithio gyda’r awdurdod lleol i ddarparu prosiectau arloesol ar yr Ynys.  Atodwyd copi o’r cyflwyniad i agenda’r cyfarfod hwn.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, codwyd y pwyntiau trafod a ganlyn gan y Pwyllgor:

 

·         Nodwyd bod diffyg crefftwyr yn y diwydiant adeiladu.  Gofynnwyd gwestiynau am gyfanswm y bobl ifanc sy’n mynychu cyrsiau adeiladu yn y Coleg, ac a oes unrhyw enethod yn dangos diddordeb yn y cwrs.  Dywedodd Mr Jones-Griffith fod gostyngiad wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau adeiladu yn y Coleg, gan ei bod yn heriol cael prentisiaethau ar gyfer y bobl ifanc hyn.  Dywedodd fod denu genethod i’r diwydiant yn her. Cynigiwyd cwrs STEM gyfochr â chwrs adeiladu ychydig flynyddoedd yn ôl gyda chefnogaeth yr awdurdod lleol.  Dywedodd y byddai’n rhannu niferoedd y bobl sy’n dilyn cyrsiau adeiladu i aelodau’n fuan.  Gofynnwyd cwestiynau pellach ynghylch a yw Grŵp Llandrillo Menai yn mynychu ysgolion uwchradd i dynnu sylw at y cwrs adeiladu sydd ar gael.  Dywedodd Mr Jones-Griffith fod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda’r awdurdod lleol a Chonsortia Addysgiadol Gwynedd a Môn, mewn perthynas â darpariaeth 14 i 16.  Cyfeiriodd at y Dystysgrif Alwedigaethol fydd ar gael yn 2027, fydd yn galluogi myfyrwyr i astudio pynciau galwedigaethol ynghyd â TGAU.  Nododd fod y cyfleusterau ar gael yn y Coleg heb i ysgolion uwchradd orfod buddsoddi mewn darpariaeth o’r fath. 

·         Gofynnwyd cwestiynau am weledigaeth Grŵp Llandrillo Menai mewn perthynas ag addysg ôl-16 ar Ynys Môn. Dywedodd Mr Jones-Griffith fod trafodaethau’n parhau gyda’r awdurdod lleol i sicrhau fod mynediad at gyrsiau galwedigaethol, lefel A a phrentisiaethau yn y Coleg.   Nododd fod modelau gwahanol mewn perthynas ag addysg ôl-16 ledled y wlad, gyda nifer o opsiynau ar gael.  Mae nifer o gyrsiau lefel A ar gael ar gampws Llangefni ar gyfer myfyrwyr, gyda’r mwyafrif yn cael eu darparu drwy’r Gymraeg.  Gofynnwyd cwestiynau pellach ynghylch canran y bobl ifanc sy’n dilyn cyrsiau lefel ‘A’ yng Ngholeg Menai ac a all y Coleg fod yn gyfrifol am ddarparu addysg ôl-16 ar Ynys Môn.  Dywedodd Mr Jones-Griffith fod 30 myfyriwr yn astudio cyrsiau UG a bod 20 myfyriwr yn astudio cyrsiau lefel A yn Coleg Menai eleni.   Dywedodd bod lle ar gyfer cyfleuster addysg ôl-16 ar gampws Coleg Menai, Llangefni a byddai Grŵp Llandrillo Menai’n barod i drafod unrhyw opsiynau eraill pe byddai darpariaeth bellach yn dod i’r Ynys.  Gall y Coleg gynnig astudiaethau galwedigaethol ynghyd â chyrsiau lefel A i fyfyrwyr.

·         Cyfeiriwyd at safle Wylfa a’r posibilrwydd am gyfleoedd gwaith os gwneir cyhoeddiad y bydd darpariaeth niwclear ar y safle.  Nodwyd bod Rolls-Royce, y partner a ffafrir ar gyfer SMRau posibl ar y safle, wedi dweud y byddant yn hyfforddi gweithwyr posibl yn fewnol yn hytrach na’u hyfforddi mewn Colegau lleol.  Dywedodd Mr Jones-Griffith fod trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Aelodaeth y Panelau Sgriwtini pdf eicon PDF 305 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

 

Dywedodd y Pennaeth Democrataidd fod yr Arweinyddion Grŵp wedi cytuno y dylai’r 3 Panel Sgriwtini fod yn gytbwys yn wleidyddol.   Adolygwyd Cylch Gorchwyl y 3 Panel Sgriwtini ac maent wedi’u hatodi i’r adroddiad.  Dywedodd fod y ddau Bwyllgor Sgriwtini angen enwebu 1 Aelod i wasanaethu ar y Grŵp Llywio Iaith Gymraeg a Chydraddoldeb.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·         Cytuno ar drefn aelodaeth ddiwygiedig ar gyfer y 3 Phanel Sgriwtini yn seiliedig ar gydbwysedd gwleidyddol cyfredol y Cyngor;

·         Cytuno Cylch Gorchwyl ar gyfer y 3 Phanel Sgriwtini;

·         Bod y Cynghorydd Non Dafydd yn cael ei henwebu gan y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio i wasanaethu ar y Grŵp Llywio’r Gymraeg a Chydraddoldeb.

 

 

7.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor 2025/2026 pdf eicon PDF 207 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn manylu ar Flaen Raglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2025/2026.

 

PENDERFYNWYD cytuno’r fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2025/26, gan gynnwys y newidiadau a nodwyd.