Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 14eg Hydref, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel a nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Sonia Williams ddatgan diddordeb personol sydd ddim yn rhagfarnol gan ei bod yn Rheolwr Busnes ‘Bwyd Da Môn’ sydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Menter Môn (eitem 4).

 

Bu i’r Cynghorydd Euryn Morris ddatgan diddordeb personol ond dim rhagfarnol gan ei fod yn cael ei gyflogi gan Gyngor Gwynedd (eitem 5). 

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 204 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Medi, 2025.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Medi 2025 yn gywir.

 

Camau gweithredu sy'n deillio o gyfarfod 12 Chwefror 2025:-

 

Gweithred: Anfon llythyr at Lywodraeth Cymru i nodi bod angen darparu cyllid ychwanegol i’r gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad.

 

Diweddariad: Derbyniwyd ymateb yn ddiweddar gan ysgrifennydd y cabinet dros addysg yn tynnu sylw at yr ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gefnogi’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) trwy gyllid cynaliadwy, cefnogaeth i’r gweithlu, a digwyddiadau sydd wedi’u hanelu at addysg gynhwysol, gan gynnwys mwy o gyllid ar gyfer Cydlynwyr ADY, cwnsela ysgolion, a mentrau iechyd meddwl. Mae hefyd yn cydnabod heriau cyfredol megis pwysau cyfreithiol, straen ar y gweithlu, a chymhwyso anghyson o’r fframwaith ADY, gyda chamau’n cael eu cymryd i wella eglurder, hyfforddiant, a chapasiti rhanbarthol, gan gynnwys cefnogaeth i raglen seicoleg addysgol newydd ym Mhrifysgol Bangor.

 

CYTUNWYD i atodi’r llythyr i gofnodion cyfarfod heddiw.

 

 

4.

Craffu Partneriaethau Strategol - Menter Môn pdf eicon PDF 2 MB

Derbyn cyflwyniad gan Menter Môn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr ac Elen Hughes, Cyfarwyddwr Prosiect – Menter Môn i'r cyfarfod i gyflwyno trosolwg o'r gwasanaethau a ddarperir gan Fenter Môn.

 

Fel wnaeth Arweinydd y Cyngor, fel y deilydd portffolio perthnasol, gyflwyno’r eitem a throsglwyddo i swyddogion Menter Mon.  Dywedodd Mr Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr fod Menter Môn wedi ei sefydlu gan y Cyngor Sir yn 1995 ac eleni mae’r cwmni yn dathlu ei ben-blwydd yn 30 mlwydd oed. Yn 1996 cafodd penderfyniad ei wneud i’w sefydlu fel cwmni 'nid er elw' i ddarparu rhaglen LEADER yr UE, oedd yn ceisio datblygu atebion i’r heriau’n wynebu ardaloedd gwledig.

 

Mae'r fenter wedi esblygu dros y blynyddoedd, gan gyflawni prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol, ond mae amrywiaeth a phwyslais y gwaith ar Ynys Môn wedi aros yn gyson. Maent erbyn hyn yn cyflogi oddeutu 80 aelod o staff gyda’r oed cyfartalog yn 35. Mae gwerthoedd y cwmni wedi aros ‘run fath. Mae’u blaenoriaeth wedi’i roi i ddatblygu potensial er mwyn cryfhau’r economi a’r diwylliant. Canolbwyntiai’r cwmni ar dri phortffolio penodol, sef Y Gymuned, Yr Economi ac Egni. Maent yn canfod, creu a gweithredu cyfleoedd i gefnogi a datblygu pobl, gryfhau’r economi, wella'r amgylchedd a bywiogi eu diwylliant.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod y berthynas rhwng Menter Môn a Chyngor Sir Ynys Môn wedi cryfhau. Mae cyfarfodydd cyson yn cael eu cynnal gyda Phrif Weithredwr y Cyngor, ac mae Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor yn aelodau ar fwrdd Menter Môn. 

 

Yn dilyn y cyflwyniad, codwyd y pwyntiau trafod a ganlyn gan y Pwyllgor:

 

Gofynnwyd cwestiynau ynghylch effaith ansicrwydd cyllid cyhoeddus (grantiau) ar allu’r sefydliad i gyflawni ei flaenoriaethau/amcanion allweddol.

 

  • Gofynnodd Cynghorydd Margaret Roberts o ystyried yr ansicrwydd ynghylch cyllid cyhoeddus, pa effaith mae hyn yn ei gael ar allu Menter Môn i gyflawni ei phrif flaenoriaethau a’i hamcanion? Atebodd y Rheolwr Gyfarwyddwr wrth ddweud fod llawer o raglenni cynlluniau grantiau mawr ar gael oddeutu 10 mlynedd yn ôl, erbyn hyn mae’r arian mwy ansicr gyda chynlluniau cymunedol. Nid ydynt yn drawsnewidiol i’r gymuned ond yn cadw’r olwyn i droi. Disgwyliai’r fenter i gael gweld be ddigwyddai gyda Balchder Bro. Dywedodd y Prif Weithredwr nid yw’n tanseilio faint o waith sydd yno i’r corff  weithio drwy’r gwahanol weithdrefnau cyllid, mae’n newid yn aml. Mae sefydlogrwydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i allu prosiectau cyfalaf er mwyn eu gwireddu. 5 miliwn oedd dyraniad Gronfa Ffyniant Lleol Ynys Môn dros y 4 mlynedd diwethaf (500 miliwn i Gymru gyfan). Yn anffodus mae’n edrych fel bod llai o gyllid grant am fod ar gael yn y dyfodol sydd yn ei gwneud yn hollbwysig i ganolbwyntio ar iaith, ynni a bywyd gwyllt.
  • Cyfeiriodd Cynghorydd Gwilym Jones at waith aruthrol cyn-gyfarwyddwr Menter Môn, Gerallt Llywelyn. Gofynnodd pa gyfran o’r cyllid sydd yn cael ei wario’n Sir Fôn, a faint sydd yn cael ei wario dros y bont? Atebodd Dafydd Gruffydd fod rhai cynlluniau yn berthnasol i’r ddwy sir, a rhai cynlluniau yn berthnasol i un sir, mae’n rhaid adrodd yn union  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn: 2024/25 pdf eicon PDF 205 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio dros Wasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol bod hi’n statudol fod Partneriaeth Diogelwch yn bodoli o dan Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998. Mae aelodau’r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Sir Ynys Môn, yr Heddlu, Gwasanaeth Prawf, Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae cyfrifoldebau a meysydd arbennig yn cynnwys trosedd ac anrhefn, camddefnyddio sylweddau, lleihau troseddu, trais difrifol ac yn hynod o bwysig comisiynu adolygiadau lladdiadau domestig. Maent yn atebol ac yn cydweithio gyda’r bwrdd rhanbarthol Gogledd Cymru sydd yn cyfarfod yn chwarterol.

 

Cychwynnodd Daron Owens drwy grynhoi’r prif bwyntiau'r adroddiad. Teimlai ei fod yn bwysig nodi eu bod ddim yn derbyn cyllid parhaol i gomisiynu prosiectau na gwasanaethau yn uniongyrchol. Yr unig gomisiynu yw ar gyfer adroddiadau llofruddiaeth ddomestig gan nid oes arian yn cael ei ddyrannu yn barhaol i ddiogelwch cymunedol. Mae yno bwyslais ar beth gaiff ei wneud mewn partneriaeth. Gweithiai’r tîm yn agos gyda bwrdd rhanbarthol Gogledd Cymru gan mai hwythau sydd yn gosod blaenoriaethau ar gyfer atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Llawer o waith wedi mynd mewn i barhau ar y strategaeth trais difrifol Gogledd Cymru. Wedi bod yn rhan o’r bwrdd llywio rhanbarthol dros y 11 mis diwethaf. Derbyniai’r tîm gyllid gan y Swyddfa Gartref yn flynyddol sydd yn eu galluogi i barhau gyda’r gwaith rhanbarthol ataliol.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion canlynol:-

 

Gofynnwyd cwestiynnau ynghylch mesur blaenoriaethau'r Bartneriaeth (sy'n seiliedig ar broses asesu anghenion lleol), a nodi unrhyw anghenion lleol newydd neu ychwanegol.

 

  • Gofynnodd Cynghorydd Euryn Morris ym mha ffyrdd mae blaenoriaethau’r Bartneriaeth ar gyfer 2025/26 yn adlewyrchu anghenion lleol Ynys Môn yn llawn, yn seiliedig ar dystiolaeth a data diweddar? Atebodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn, fel mae’n nodi yn yr adroddiad, mae eu blaenoriaethau wedi’u selio ar Strategaeth y Bwrdd Rhanbarthol Gogledd Cymru Fwy Diogel. Gweledigaeth y bwrdd yma yw bod Gogledd Cymru yn lle diogel a chynhwysol i fyw, gweithio ynddo ac ymweld. Pwrpas y Bwrdd rhanbarthol yw cydweithio i gyflawni’r weledigaeth hon, drwy fynd i’r afael â throseddu ac anhrefn ar draws y rhanbarth. Sail y Strategaeth yw’r asesiad strategol gan yr heddlu, sydd yn adrodd ar risg a bygythiadau gan feysydd trosedd sydd yn effeithio Gogledd Cymru, a prif amcan y ddogfen yw hysbysu'r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau strategol a gosod blaenoriaethau. Mae cynllun Trosedd Comisiynydd yr Heddlu hefyd yn llywio’r meysydd yma, ac mae’n seiliedig ar ymgynghoriaeth fanwl gyda’r cyhoedd. Felly, mae Strategaeth y Bwrdd Rhanbarthol yn gosod fframwaith flaenoriaethu i holl Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol y rhanbarth, ac maent yn adrodd ar eu gwaith bob chwarter i’r Bwrdd. Fodd bynnag, mae’n gyfrifoldeb arnynt i gytuno ar eu camau gweithredu penodol eu hunain mewn ymateb i angen lleol. Gan fod yr holl flaenoriaethau a gweithredoedd yn seiliedig ar dystiolaeth, data ac ymgynghori gyda’r cyhoedd, dywedodd Daron Owens eu bod yn hyderus eu bod yn adlewyrchu anghenion lleol Ynys  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor - 2025/2026 pdf eicon PDF 207 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddiad y Rheolwr Craffu sy'n nodi blaen raglen waith dangosol y Pwyllgor Craffu Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2025/2026, a gyflwynwyd i'w ystyried.

 

Cyfarfod 13 Tachwedd yn canolbwyntio ar faterion Addysg.

 

Cyfarfod 26 Tachwedd yn canolbwyntio ar Iechyd.

 

PENDERFYNWYD cytuno ar y fersiwn gyfredol o'r blaen raglen waith ar gyfer 2025/2026 a nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r blaen raglen waith.

 

Diolchodd y Cadeirydd yn arbennig i’r Rheolwr Sgriwtini, Anwen Davies am ei gwaith rhagorol ar hyd y blynyddoedd a dymunodd yn dda iddi gyda’i ymddeoliad.