Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 20fed Ionawr, 2026 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Euryn Morris ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5, gan ei fod yn cael ei gyflogi gan Gyngor Gwynedd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 193 KB

Cyflwno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol :-

 

·       Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd, 2025;

·       Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd, 2025;

·       Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr, 2025.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol yn gofnod cywir:-

 

·             Cofnodion y cyfarfod hybrid a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd, 2025.

·             Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26, Tachwedd, 2025, yn amodol ar gynnwys enw’r cynghorydd Sonia Williams i’r rhestr o ymddiheuriadau.

 

Camau gweithredu’n codi o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd, 2025:-

 

·       CAM 1 - Data am nifer y galwadau mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yng Ngogledd Orllewin Cymru yn eu derbyn mewn perthynas ag argyfyngau iechyd meddwl.

 

Darparwyd data gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i Aelodau’r Pwyllgor dros neges e-bost cyn y Nadolig.

 

·       CAM 2 - Bydd trafodaethau’n digwydd rhwng Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Phrif Swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ynghyd â’r Grŵp Gwasanaethau Brys ar y Cyd i ailasesu ac ailystyried y cymorth ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub o ran cwympiadau.

 

Sicrhawyd fod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cysylltu â Phrif Swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a bod trafodaethau cychwynnol wedi dechrau.  Bydd y mater hefyd yn cael ei godi yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Gwasanaethau Brys ar y Cyd.

 

·     CAM 3 - Codwyd materion am y mesurau y’u cymerir mewn perthynas â therapi ac asesiadau ar gyfer plant gydag anghenion dysgu ychwanegol ar Ynys Môn, a pha ddarpariaeth sydd ar waith i leihau amseroedd aros. 

·     CAM 4 - Codwyd materion am y gwaith a wnaed gan y Bwrdd Iechyd ac asiantaethau eraill er mwyn mynd i’r afael â’r defnydd o cetamin. 

 

Derbyniodd aelodau’r Pwyllgor fanylion ar ffurf neges e-bost am Gam 3 a 4 uchod.

 

·             Cofnodion y cyfarfod hybrid a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr, 2025.

 

 

4.

Diogelu Corfforaethol pdf eicon PDF 182 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd fod diogelu yn gyfrifoldeb i bawb o fewn gwasanaethau’r Cyngor, ac mae gan staff, contractwyr, gwirfoddolwyr ac Aelodau Etholedig rôl i’w chwarae o ran diogelu plant ac oedolion bregus rhag niwed, boed hynny y tu allan neu y tu mewn i’w cartrefi.   Dywedodd mai un o’r prif weithredoedd yn dilyn cyfarfod y pwyllgor sgriwtini ym mis Ionawr 2025 oedd adolygu Cylch Gorchwyl y Bwrdd Cyflawni Diogelu Corfforaethol a’r Bwrdd Diogelu Corfforaethol.  Mae’r gwaith hwn bellach wedi’i gwblhau, ac mae’r Cylch Gorchwyl diwygiedig wedi’i gymeradwyo’n ffurfiol gan y Bwrdd Diogelu Corfforaethol.  Mae’r newidiadau hyn yn cryfhau trefniadau llywodraethu, egluro atebolrwydd ac yn sicrhau bod cyfrifoldebau diogelu’n cael eu gwreiddio’n gyson o fewn y Cyngor.  Mae’r Bwrdd Cyflawni Diogelu Corfforaethol wedi ehangu ei aelodaeth dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae hyn wedi gwella ymgysylltiad ar draws adrannau ac wedi creu brwdfrydedd wrth yrru cyfrifoldebau diogelu ymlaen ar draws y Cyngor.  Dywedodd fod diogelu’n parhau i gael ei adnabod fel y trydydd risg mwyaf i’r Cyngor.  Ers cyhoeddi Cyfiawnder trwy ein Dewrder, mae’r Cyngor, a’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg yn arbennig, wedi bod yn gweithio’n agos â Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru er mwyn dangos sut mae’r Awdurdod wedi ymateb i argymhellion yr Adolygiad Ymarfer Plant.  Archwiliwyd y gwaith hwn yn fanwl mewn trafodaethau yng nghyd gyfarfod y Panel Sgriwtini Addysg a’r Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Rhagfyr 2025.  Mae’r Bwrdd Cyflawni Diogelu Corfforaethol yn craffu ar y broses gaffael sy’n ymwneud â chludo plant i’r ysgol ac oddi yno, fel y nodir yn yr adroddiad, ac mae’r gwaith hwn yn ffurfio rhan o waith penodol ehangach i gryfhau prosesau comisiynu diogelu ar draws y Cyngor. 

 

Roedd yr Aelod Portffolio yn croesawu nad oedd rhaid i Gyngor Sir Ynys Môn gyfeirio unrhyw achosion at Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru ar gyfer Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yn ystod y 12 mis diwethaf.   Cyfeiriodd at ddatblygiad y gweithlu a hyfforddiant, fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan gyfeirio at feysydd sydd angen eu datblygu.  Mae’r prif flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn y ddod yn cynnwys lansio’r Strategaeth Bwrdd Diogelu Corfforaethol pum mlynedd ym mis Ebrill 2026; cryfhau’r gofynion diogelu ar gontractwyr; parhau i ymgorffori diogelu ar draws yr holl gyfundrefnau; gwella cydweithio ar draws asiantaethau ac ymgysylltiad â’r gymuned; gweithredu newyddlen diogelu chwarterol a datblygu a darparu cynllun cyfathrebu newydd ar ddiogelu.  Dywedodd fod y gwaith sydd wedi mynd rhagddo yn ystod y 12 mis diwethaf yn dangos fod cynnydd cryf wedi’i wneud o ran cryfhau trefniadau diogelu o fewn y Cyngor.  Bydd y Bwrdd Cyflawni Diogelu Corfforaethol yn parhau i yrru gwelliannau, sicrhau cydymffurfiaeth â dyletswyddau statudol a hyrwyddo diwylliant lle mae diogelu’n cael ei gydnabod fel cyfrifoldeb i bawb.  Bydd y mater o ran cofnodion hyfforddiant ysgolion yn cael ei drosglwyddo i gyfarfod y Bwrdd Diogelu Corfforaethol ym mis Chwefror. 

 

Wrth ystyried yr adroddiad, aeth y Pwyllgor ati i drafod y prif faterion canlynol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn pdf eicon PDF 577 KB

·       Adroddiad Blynyddol 2024/2025

·       Trefniadau llywodraethiant/craffu cynnydd ar wireddu’r Cynllun Llesiant

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol 2024/2025, oedd yn ymgorffori trefniadau llywodraethu/craffu er mwyn darparu’r Cynllun Llesiant, i’w Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cyrraedd y drydedd flwyddyn o’r Cynllun Llesiant 5 mlynedd, ac mae mwyafrif yr amcanion un ai wedi’u cwblhau, neu mae cynllun gweithredu ar waith gydag amserlen arfaethedig ar gyfer eu cwblhau.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen - Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn fod y Bwrdd wedi datblygu dros y blynyddoedd, ac mae cyfarfodydd yn canolbwyntio mwy ar wneud penderfyniadau a blaenoriaethu gwaith yn hytrach na bod yn fforwm rhannu gwybodaeth, ac mae gan y Bwrdd safbwynt gweithredol gyda sawl enghraifft o bartneriaid yn cydweithio, yn rhannu arfer da, yn dysgu gweri ac yn symud ymlaen gyda’i gilydd.  Sefydlwyd Is-grwpiau gyda Swyddogion yn cydweithio, ac mae hynny wedi ei adnabod fel arfer da ledled Cymru.  Cynhaliwyd gweithdy Gwybodus o Drawma ar gyfer holl aelodau’r Bwrdd, a gafodd ei ddarparu gan arbenigwyr yng Nghyngor Sir Ynys Môn.  Mae’r Is-grŵp Iaith wedi cwblhau’r Prosiect Arferion Recriwtio Da, ac mae’n gweithio gyda phartneriaid ar y ‘Prosiect Chwalu Mythau am Weithio’n Gymraeg’ fydd yn cael ei lansio yn Eisteddfod yr Urdd yn Ynys Môn fis Mai. Mae Comisiynydd Plant Cymru, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, wedi cynnig peilota sesiynau penodol ar gyfer partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus am Siarter Hawliau Plant y Cenhedloedd Unedig.  Dyma gyfle unigryw i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn arwain y ffordd yn ngogledd Cymru, ar y cyd â Chomisiynydd Plant Cymru, er mwyn cynnig y gweithdy hwn. 

 

Wrth ystyried yr adroddiad, aeth y Pwyllgor ati i drafod y prif faterion canlynol -

 

·     Cyfeiriwyd at ymgysylltiad y Byrddau gyda ‘Llais y Dysgwr’ a chafwyd trafodaethau gyda Choleg Llandrillo Menai a Choleg Meirion Dwyfor mewn perthynas â materion cludiant i fyfyrwyr allu mynychu’r colegau hyn.  Gofynnwyd sut mae’r Bwrdd yn delio gyda’r mater hwn, ac a fydd yn berthnasol i ysgolion cynradd ac uwchradd.  Dywedodd y Rheolwr Rhaglen - Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn fod y mater wedi ei godi yn ystod cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fis Medi 2025, ac roedd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw.  Nododd fod y Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi herio’r Bwrdd er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed, a sut fydd eu lleisiau yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith fydd y Bwrdd yn ei gwblhau.  Bu i Goleg Llandrillo Menai wahodd cynrychiolwyr o’r Bwrdd i siarad gyda myfyrwyr yn y Coleg.  Aeth ymlaen i ddweud y bydd Cyngor Gwynedd yn ymgynghori ar faterion cludiant, a bydd yn adrodd yn ôl i Bwrdd yn fuan.  Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer ei fod yn bwysig fod aelodau’r Bwrdd yn cael gwybodaeth am yr herio mae myfyrwyr Coleg Llandrillo Menai yn eu hwynebu gyda llwybrau bws a chysylltiadau cludiant. Dywedodd fod y ddolen at rybuddion o dywydd garw wedi ei  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Raglen Waith 2025/2026 pdf eicon PDF 208 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Sgriwtini, oedd yn gosod allan Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2025/2026, i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·       Cytuno ar fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2025/26;

·       Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r Blaen Raglen Waith.