Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Arbennig, Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mercher, 10fed Rhagfyr, 2025 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad.

 

3.

Ymgynghoriad Casglu Gwastraff ac Ailgylchu pdf eicon PDF 171 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd fod gan y Cyngor rwymedigaeth statudol i gyflawni cyfradd ailgylchu o 70%, ac nad yw’n gwneud hynny ar hyn o bryd.  Er mwyn gwella’r cyfraddau ailgylchu a bodloni’r rhwymedigaeth statudol, mae’n rhaid i’r Cyngor ystyried gwneud newidiadau i drefniadau casglu gwastraff ac ailgylchu.  Mae gofyniad i ymgynghori gyda’r rheiny sy’n debygol o gael eu heffeithio wrth ystyried unrhyw gynnig i wneud newid sylweddol i wasanaeth, yn enwedig os mai cynnig i leihau gwasanaeth ydyw.  Gan y bydd unrhyw newid i’r gwasanaeth casglu yn effeithio ar gartrefi Ynys Môn, bydd angen dilyn proses ymgynghori lawn.  Cyfeiriodd at Atodiad 1 oedd wedi ei atodi i’r adroddiad, a dywedodd fod y Cyngor wedi gosod ymrwymiad clir i warchod yr amgylchedd a lleihau ôl-troed carbon yng Nghynllun y Cyngor 2023-2028, ac mae ailgylchu yn hollbwysig mewn perthynas â’r gwaith hwnnw.  Drwy leihau swm y gwastraff mae’n rhaid cael gwared ag o, gellir lleihau allyriadau, gwarchod adnoddau gwerthfawr a helpu i greu amgylchedd glanach, mwy gwyrdd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  Ar hyn o bryd, mae cyfradd ailgylchu’r Awdurdod yn 65% sy’n is na’r targed o 70%, ac yn seiliedig ar y cyfraddau ailgylchu hyn, gall y Cyngor wynebu dirwy o oddeutu £350k bob blwyddyn.  Dywedodd fod WRAP Cymru yn rhestru’r camau posibl y gellid eu cymryd i wella cyfraddau ailgylchu (roedd dolen ar gyfer y ddogfen ar gael yn Atodiad 1).  Mae WRAP Cymru hefyd yn nodi bod modd ailgylchu 52% o’r gwastraff sy’n cael ei roi mewn biniau du ar Ynys Môn ar hyn o bryd, ac maent wedi ymweld â Safle Gwastraff Penhesgyn i wahanu’r gwastraff yn y biniau du.  Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd mai bwriad yr adroddiad yw cadarnhau a yw’r Pwyllgor Sgriwtini o’r farn fod y cwestiynau yn y ddogfen ymgynghori yn briodol a digonol.  Yn dibynnu ar ganlyniad y broses ymgynghori, mae’n bosibl y bydd binau du yn cael eu casglu bob 4 wythnos yn y dyfodol.  Dywedodd ei bod yn bwysig cael ymateb i’r ymgynghoriad, a all fod yn ddadleuol, er mwyn cael safbwyntiau ar ffyrdd i wella ailgylchu ar yr ynys. Dywedodd y byddai’n rhaid cael buddsoddiad ar gyfer unrhyw newid, o oddeutu £3m i £16m, er mwyn cael cerbydau newydd ac i wneud gwelliannau yn y safleoedd gwastraff ac ailgylchu, ac oherwydd hyn ni fydd unrhyw newid i’r gwasanaeth casglu yn digwydd dan 2029.  Mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru’n darparu grantiau os ystyrir bod yr Awdurdod wedi ymrwymo i leihau gwastraff a gwella cyfraddau ailgylchu.

 

Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y bydd angen gwneud mân newidiadau i’r holiadur i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’r gofyniad rhithiol sydd ar wefan y Cyngor a bydd cwestiwn ychwanegol yn cael ei gynnwys yn ymwneud â’r effaith ar yr iaith Gymraeg er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf Gydraddoldeb. 

 

Wrth ystyried yr adroddiad, cafodd y materion isod eu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cynllun Strategol Addysg Ddigidol 2026-2031 pdf eicon PDF 177 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a'r Iaith Gymraeg fod y Cynllun Strategol Addysg Ddigidol yn cyfrannu at ddatblygu system addysg fodern.  Daeth y cynllun presennol i ben yn 2024 ac felly mae angen sefydlu cynllun newydd ar gyfer y cyfnod nesaf.  Mae'r gofyniad am offer TG mewn ysgolion wedi cynyddu dros y blynyddoedd ac mae'n bwysig eu bod yn bodloni’r gofynion cyfredol.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, cafodd y materion isod eu crybwyll:-

 

·     Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr adroddiadau’n nodi bod y Cyngor wedi clustnodi swm i ariannu’r Cynllun Strategol, ond mae’n annhebygol y bydd y cronfeydd a glustnodwyd ar hyn o bryd yn ddigonol.  Codwyd cwestiynau ynghylch y goblygiadau i'r Cynllun, hynny ydi, nad oes digon o gyllid a beth yw'r diffyg y mae'r Cyngor yn ei wynebu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer rhan o'r Cynllun Strategol, fodd bynnag, mae diffyg cyllid i gyflawni'r Cynllun ar hyn o bryd.  Bydd yn rhaid cynnal trafodaethau i sicrhau y gellir dod o hyd i gyllid ychwanegol a bydd angen defnyddio data i sicrhau y bydd unrhyw gyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer anghenion yr ysgolion. Bydd angen buddsoddi mewn offer a seilwaith.  Nododd fod y Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, a bydd angen ymchwilio i'r bylchau yn y dyfodol.  Dywedodd y Prif Swyddog Digidol fod gwaith wedi'i wneud i fesur y diffyg posibl a'r gofynion seilwaith ynghyd â goblygiadau cost i uwchraddio offer yn barhaus.  Bydd angen ymgysylltu ag ysgolion i fesur eu hanghenion er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei fodloni.

·     Gofynnwyd cwestiynau a fyddai gwybodaeth yn cael ei chasglu ynghylch sgiliau TG staff yr ysgol cyn gweithredu'r Cynllun Strategol.  Dywedodd yr Arweinydd Strategol (Cynradd) fod sgiliau staff yn cael eu monitro, a bod Cydlynwyr Digidol yn casglu'r data mewn perthynas ag anghenion datblygu sgiliau o fewn y dalgylchoedd cynradd a oedd yn rhan o'r Cynllun blaenorol. 

·     Gofynnwyd sut fydd perfformiad y Cynllun Strategol yn cael ei fonitro yn ystod y cyfnod 2026-2031.  Dywedodd yr Arweinydd Strategol (Cynradd) y bydd angen datblygu cefnogaeth yn y sector cynradd mewn perthynas â phynciau STEM gyda rhwydweithiau uwchradd sy'n cefnogi uwchsgilio ac yn rhannu arfer da gyda phob ysgol uwchradd.  Mae hyn yn rhan o ddatblygu system hunan-ddatblygiadol.

·     Gofynnwyd a oedd darpariaeth ddigonol wedi'i rhoi ar waith ar ôl i Gwmni Cynnal ddod i ben yn 2022.   Dywedodd y Prif Swyddog Digidol fod trosglwyddo’r darpariaeth i'r Awdurdod ar ôl i Gwmni Cynnal ddod i ben yn 2022 wedi bod yn newid sylweddol i ysgolion a staff y Cyngor oedd wedi arfer derbyn y gwasanaeth gan Gwmni Cynnal ers blynyddoedd lawer.  Nododd fod ymgynghoriad wedi'i gynnal ag ysgolion i asesu eu gofynion ac i wneud yn siŵr bod darpariaeth TG yr ysgol yn ddigonol.  

·     Gofynnwyd a allai'r platfform digidol gefnogi plant ag anawsterau darllen a rhifedd.  Dywedodd yr Arweinydd Strategol (Cynradd) fod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.